Wrth i ni nesu at ddiwedd blwyddyn brysur arall, gallwn fyfyrio ar nifer o ddatblygiadau cadarnhaol yn Sir Drefaldwyn. Er enghraifft, rwy’n falch o allu adrodd bod derbyniad band eang a ffonau symudol yn gwella’n raddol ledled y Canolbarth gyda chyflwyno Prosiect Cyflymu Cymru a Phrosiect Seilwaith Telathrebu Symudol. Rwyf hefyd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y gwaith o adeiladu ffordd osgoi’r Drenewydd yn dechrau’r flwyddyn nesaf – datblygiad pwysig i drigolion, busnesau ac ymwelwyr yn y Canolbarth.
Fodd bynnag, ni allwn laesu dwylo ac mae nifer o faterion sy’n parhau’n destun pryder, yn cynnwys: setliad ariannol anodd llywodraeth leol ar gyfer Cyngor Sir Powys sy’n sicr o gael effaith ar wasanaethau rheng flaen; y problemau parhaus o ran cael mynediad i ofal iechyd dros y ffin; a chanlyniad Prosiect Cysylltu Canolbarth Cymru. Byddaf yn parhau i ymgyrchu ar y materion hyn.
Rwy’n gobeithio y bydd llawer o gynnydd wedi’i wneud ar yr holl faterion hyn erbyn yr amser yma'r flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, mae wedi bod yn fraint cynrychioli pobl Sir Drefaldwyn. Ar ran fy hun a fy nhîm, a gaf i ddymuno Nadolig dedwydd iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Amaethyddiaeth a Materion Gwledig
Yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ymwelais â’r 25ain Ffair Aeaf flynyddol yn Llanelwedd yn ddiweddar i gyfarfod cynrychiolwyr o’r diwydiant ffermio. Roedd yn llwyddiant mawr ac mae bellach yn cael ei ystyried fel y prif ddigwyddiad o’i fath yn y DU. Mae gan ddiwydiant ffermio Cymru gymaint i’w gynnig yn cynnwys enw da sy’n cael ei edmygu am fod â’r cig eidion a’r cig oen gorau yn y byd. Felly, rwy’n siomedig iawn nad yw Llywodraeth Cymru’n cefnogi ein diwydiant ffermio fel y dylai. Gydag amodau’r farchnad ym mhob sector ffermio yn anodd yn barod, mae ffermwyr nawr yn wynebu gostyngiad o 18% mewn termau real i’r gyllideb amaethyddiaeth a bwyd. Rwy’n credu hefyd bod Llywodraeth Cymru’n parhau i roi ein ffermwyr o dan anfantais annheg. Os ydym am i’n ffermwyr lwyddo mewn marchnad agored, ni allwn barhau i osod baich cost ychwanegol ar y diwydiant o gymharu â’u cystadleuwyr. Eleni, fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Amaethyddiaeth, lansiais gynigion Ceidwadwyr Cymru i weithredu siarter Cig Coch Cymru er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y diwydiant cig coch yng Nghymru, a’n cynllun gweithredu strategol ar gyfer y diwydiant llaeth. Rwy’n credu hefyd y dylid cael swydd lefel Cabinet ar gyfer Amaethyddiaeth a Materion Gwledig - llais penodol wrth fwrdd y Cabinet sy’n canolbwyntio ar ffermio a’n cymunedau gwledig yn unig. Mae’r diwydiant yn wynebu sawl her ar hyn o bryd, mae’n gyfnod ansicr i’r diwydiant ffermio yng Nghymru, ac rwy’n bwriadu adrodd mwy am hyn yn y flwyddyn newydd.
Prosiect Cysylltu Canolbarth Cymru
Mae’r Grid Cenedlaethol wrthi’n cynnal ymgynghoriad pellach ar hyn o bryd ar y llwybr manwl ar gyfer Prosiect Cysylltu Canolbarth Cymru, a fydd yn cysylltu ffermydd gwynt arfaethedig yn y Canolbarth i’r rhwydwaith trydan cenedlaethol yn Swydd Amwythig.
Yn fy marn i, dylent atal y gwaith, a pheidio ymgynghori ymhellach nes y gwyddom beth fydd canlyniad Ymchwiliad Ffermydd Gwynt Cyfunol Canolbarth Cymru. Nid ydynt yn debygol o wneud hyn, gan eu bod yn gweithio i amserlen a bennwyd gan y datblygwyr. Fodd bynnag, byddwn yn annog pobl yn daer i fynychu digwyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus i roi eich barn. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 9 Chwefror 2015. Gweler lleoliadau a dyddiadau’r ymgynghoriad isod.
Mae’n dal i fod yn aneglur a fydd penderfyniad terfynol wedi’i wneud cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai. Rwy’n llwyr werthfawrogi bod yna wahaniaeth barn ar y cynlluniau i godi rhagor o dyrbinau ar draws y Canolbarth ond mae’n safbwynt i’n glir – byddaf yn parhau i wrthwynebu Prosiect Cysylltu Canolbarth Cymru yn llwyr ac yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddylanwadu ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni, Ed Davey, i wrthod y ceisiadau a gyflwynwyd gerbron yr ymchwiliad.
Credaf hefyd bod rhaid i Lywodraeth Cymru, fel ymgynghorai allweddol ar brosiectau seilwaith ynni sylweddol cenedlaethol, sefyll dros fuddiannau’r Canolbarth ac adlewyrchu’r gwrthwynebiad a’r pryderon dwfn sy’n bodoli yn y Canolbarth.
Digwyddiadau Ymgynghori’r Grid Cenedlaethol:
- Canolfan Gymunedol Cwm Llanllugan – Dydd Mawrth 6 Ion 2015, 1.30pm – 7.30pm
- Neuadd Bentref West Felton – Dydd Mercher 7 Ion 2015, 1.30pm – 7.30pm
- Institiwt Cyhoeddus Llanfair Caereinion – Dydd Iau 8 Ion 2015, 1.30pm – 7.30pm
- Neuadd Bentref Maesbrook – Dydd Gwener 9 Ion 2015, 1.30pm – 7.30pm
- Neuadd Bentref Meifod – Dydd Sadwrn 10 Ion 2015, 10am – 4pm
- Canolfan Bentref Four Crosses – Dydd Llun 12 Ion 2015, 5pm – 8pm
- Canolfan Gymunedol Llansanffraid – Dydd Mawrth 13 Ion 2015, 1.30pm – 7.30pm
- Neuadd Bentref Llanymynech – Dydd Sadwrn 17 Ion 2015, 10am – 4pm
- Navigation Inn, Maesbury Marsh – Dydd Mercher 21 Ion 2015, 1.30pm – 7.30pm
Cynnig Fferm Wynt Dyfnant a dynnwyd yn ôl – Cyhoeddwyd heddiw (19 Rhagfyr) bod Scottish Power Renewables wedi penderfynu tynnu'n ôl ei Fferm Wynt yng Nghoedwig Dyfnant. Rwy'n falch â'r penderfyniad hwn. Mae Goedwig Dyfnant yn ardal brydferth, a byddai'r cynlluniau yn fy marn i wedi bod yn hynod niweidiol, yn economaidd ac yn amgylcheddol. Nid oedd gan y prosiect cymorth lleol, a bydd penderfyniad heddiw yn hwb go iawn ac yn rhyddhad enfawr i ymgyrchwyr lleol. Mae nifer o gwestiynau sydd yn codi o'r penderfyniad y datblygwyr a gyhoeddwyd heddiw, yr wyf yn sicr yn gobeithio cael eglurhad pellach yn y flwyddyn newydd.
Absenoldeb mewn ysgolion
Yn ddiweddar, anogais Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau pendant ar absenoldeb yn ystod tymor yr ysgol i gymryd gwyliau teuluol ar ôl i rieni ac ysgolion dderbyn cyngor gwahanol ar y mater. Rwy’n falch felly bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i gyhoeddi canllawiau i sicrhau bod ysgolion a rhieni yn gwybod beth yw’r sefyllfa.
Mae amser gyda’r teulu yn gallu bod lawn mor bwysig ag addysg ffurfiol i berson ifanc wrth iddo dyfu ac ni ddylid diystyru gwyliau teuluol yn awtomatig fel amser heb unrhyw ddysgu.
Fodd bynnag, mae cwestiynau’n parhau ynghylch sut y bydd penaethiaid ysgolion yn ymdrin ag amcanion sy’n gwrthdaro, sef cymeradwyo gwyliau teuluol a bod o dan bwysau parhaus i wella presenoldeb.
Byddaf yn gofyn barn penaethiaid, gan y byddant yn ymwybodol o’r pwysau i wella presenoldeb wrth ystyried a ddylid cymeradwyo gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol ai peidio.
Rhoi’r grym yn nwylo athrawon sy’n gwybod beth yw anghenion dysgu eu disgyblion yw’r ffordd ymlaen ond mae’n rhaid rhoi rhyddid i benaethiaid wneud penderfyniadau heb fod ofn cael eu beirniadu gan eraill am ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
Cymorth i Fusnesau Lleol
Roeddwn yn awyddus iawn i gefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach ar 6 Rhagfyr drwy ymweld â busnesau yn Llanidloes a’r Drenewydd. Roeddwn yn falch o weld cymaint o bobl yn siopa’n lleol ac yn cefnogi siopau a busnesau lleol.
Mae prosiect ardal twf lleol Powys, EFFECT (Enterprise Facilitation For Effective Community Transformation) Dyffryn Hafren ar waith. Mae’r prosiect yn seiliedig ar egwyddor Dr Ernesto Sirolli o rwydweithio a hwyluso’r gwahanol fathau o gymorth a allai fod ei angen ar fusnes i wireddu syniad busnes neu i helpu i ddatblygu’r busnes. Bydd yr Hwylusydd Menter a benodwyd yn ddiweddar, Phil Wilson, yn darparu hyfforddiant rheoli un-i-un dwys i gysylltu cleientiaid â rhaglenni ac adnoddau a gynigir gan sefydliadau, gweithwyr proffesiynol ac adnoddau a rennir gan aelodau Bwrdd Adnoddau gwirfoddol ehangach y prosiect. Mae’r gwasanaeth Hwyluso Menter ar gael i ddarparu cyngor cyfrinachol am ddim (wedi’i ariannu gan y llywodraeth) i unrhyw unigolyn sydd â syniad am fusnes newydd neu fusnes cyfredol sydd am newid ei fodel busnes.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ffonio Phil Wilson ar 07985 260278 neu anfon e-bost at [email protected] i gael cymorth cyfrinachol, hyfforddiant busnes neu help i ddatblygu tîm.
Cymorthfeydd Cyngor i ddod
Ionawr 2015:
- Dydd Iau 15 Ionawr - Meifod (Ffoniwch i gael y lleoliad)
- Dydd Gwener 16 Ionawr – Llansanffraid (Ffoniwch i gael y lleoliad)
- Dydd Gwener 16 Ionawr – Y Trallwng (20 Y Stryd Fawr)
- Dydd Gwener 23 Ionawr – Y Drenewydd (13 Parker’s Lane)