Cylchlythyr Tachwedd
Diweddariad misol Russell George AC ar ei waith yn Sir Drefaldwyn a’r Cynulliad
Annwyl Breswylydd,
Mae’n bleser gen i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am nifer o faterion gwahanol. Efallai yr hoffech ddarllen fy erthygl ddiweddar am setliad cyllid Llywodraeth Cymru i Gyngor Sir Powys yma hefyd.
Darpariaeth ffonau symudol a band eang
Ffôn symudol – Yn gynharach yn y mis, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu gorfodi cwmnïau ffonau symudol i wella eu darpariaeth trawsrwydweithio gorfodol ar gyfer ffonau symudol. Mae hyn yn newyddion da i ganolbarth Cymru. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y stori hon.
Band eang cyflym iawn – Gall y cartrefi a’r busnesau cyntaf yn y Drenewydd, y Trallwng a Machynlleth gael gafael ar gysylltiad band eang cyflym iawn erbyn hyn diolch i brosiect Cyflymu Cymru.
Mae hwn yn newydd i’w groesawu ac yn ddatblygiad pwysig i’r trefi. Dylai cartrefi a busnesau sydd â diddordeb mewn gwasanaethau band eang cyflym iawn gysylltu â darparwr gwasanaeth rhyngrwyd o’u dewis i archebu.
Mae gwybodaeth am amserlen cyflwyno prosiect Cyflymu Cymru ar y wefan (http://www.superfast-cymru.com/home?lang=_alt) yn cynnwys map darpariaeth sy’n rhoi manylion y cynlluniau cyflwyno.
Mae’r map isod yn dangos bod y gwaith o gyflwyno band eang cyflym iawn wedi cychwyn eisoes mewn rhai ardaloedd (gwyrdd) gyda’r gweddill i ddechrau yng Ngaeaf/Gwanwyn 2015 (pinc) Haf/Hydref 2015 (piws).
Trafnidiaeth y Canolbarth
Ffordd osgoi'r Drenewydd - Mae disgwyl i’r Gorchmynion Drafft ar gyfer cynllun y ffordd osgoi gael eu cyhoeddi tua diwedd mis Tachwedd. Bydd y rhain yn cadarnhau llwybr y ffordd osgoi a’r tir sydd ei angen ar gyfer adeiladu’r ffordd. Bydd pawb sy’n byw ar hyd y llwybr a’r rhai o fewn 100 metr i’r llwybr yn derbyn pecyn gwybodaeth a fydd yn cynnwys gwybodaeth am sut i fynegi pryderon, neu gefnogi’r ffordd osgoi, gyda manylion sut i gysylltu â Llywodraeth Cymru ac Alun Griffiths Contractors Ltd. Disgwylir y bydd y Gorchmynion Prynu Gorfodol yn cael eu cyhoeddi ganol mis Rhagfyr. Bydd unrhyw faterion na all Llywodraeth Cymru neu Alun Griffiths eu datrys yn gorfod mynd i Ymchwiliad Cyhoeddus. Os bydd hyn yn digwydd, disgwylir iddo gael ei gynnal yn ystod y Gwanwyn flwyddyn nesaf. Bwriedir dechrau ar y gwaith o adeiladu’r ffordd osgoi yn ystod haf 2015 ac mae disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd 2017.
Cynhelir Arddangosfa Gyhoeddus arall am ddeuddydd yn y Drenewydd ddechrau mis Rhagfyr. Nid oes dyddiadau wedi’u cadarnhau eto ond cadwch olwg am hysbysiad yn y wasg leol. Bydd yr arddangosfa’n gyfle i drigolion lleol fynegi unrhyw bryderon ynghylch y manylion a geir yn y pecyn gwybodaeth neu’n gyfle i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun.
Rwy’n cefnogi nifer o drigolion sy’n cael eu heffeithio gan y ffordd osgoi. Croeso i chi gysylltu â mi os gallaf fod o gymorth. Rwy’n barod i gyfarfod â’r contractwyr gyda chi a’ch cynorthwyo fel y gallaf.
Iechyd
Angen Canolfan Gofal Brys yn y Canolbarth – Fis diwethaf, cefais gyfle i holi’r Prif Weinidog ar yr angen i gael canolfan gofal brys yn Sir Drefaldwyn. Gallwch ddarllen y drafodaeth yma.
Rwy’n falch fod y Prif Weinidog wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno gwelliannau i’r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Powys.
I ddarllen mwy am y stori hon, cliciwch yma.
Gofal iechyd ar draws y ffin – Mae Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn cynnal ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar y trefniadau trawsffiniol rhwng systemau gofal iechyd Cymru a Lloegr. Mae’r Pwyllgor am glywed gan drigolion sy’n dibynnu ar wasanaethau ar ochr arall y ffin.
Gallwch chi lywio a dylanwadu ar yr ymchwiliad hwn drwy rannu eich sylwadau drwy fforwm ar-lein. Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i’r fforwm a dweud eich dweud:
Gofal iechyd ar draws y ffin fforwm ar-lein
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Llun 1 Rhagfyr 2014.
Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru – Fis diwethaf, cyhoeddwyd adroddiad Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru , astudiaeth annibynnol gan Athro Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru. Cyflwynwyd canfyddiadau’r adroddiad gan yr Athro Marcus Longley. Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn disgwyl am ei hymateb. Croesawyd yr adroddiad ac mae’n datgan llawer o’r hyn y mae llawer ohonom yn ymwybodol iawn ohono. Roedd yr adroddiad yn 200 tudalen i gyd, ond dyma grynodeb o’r prif ganfyddiadau:
- Dylai Bwrdd Iechyd Hywel Dda gyhoeddi ei weledigaeth ar gyfer rôl strategol Ysbyty Bronglais yn y dyfodol gyda chefnogaeth gan Fyrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Phowys
- Mae’n rhaid cadw Ysbyty Bronglais fel ‘canolfan acìwt’ sy’n darparu gwasanaethau brys a gwasanaethau eraill
- Ni ddylid canoli gwasanaethau cardioleg yn rhywle heblaw Ysbyty Bronglais
- Mae angen rhagor o waith i ddiogelu gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol a mamolaeth ac obstetrig yn Ysbyty Bronglais
- Dylai teithiau ‘diangen’ am driniaeth ddod i ben
- Mae’n rhaid gwella’r ffordd o ymwneud â’r cyhoedd
- Dylai Byrddau Iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys ffurfio corff newydd i gynllunio gwasanaethau ar sail ranbarthol i’r canolbarth.
Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru - Y mis hwn cefais sicrwydd cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru y bydd meddygon arbenigol yn ymuno â chriw Ambiwlans Awyr y Trallwng ym mis Ebrill 2015.
Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad cadarnhaol fis diwethaf y bydd £3 miliwn y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi fel rhan o wasanaeth newydd lle bydd meddygon ymgynghorol yn ymuno â chriwiau Ambiwlans Awyr y Trallwng.
Cliciwch yma i ddarllen y stori’n llawn.
Gwasanaethau lleol
Bancio cymunedol – Eleni, rydym wedi gweld banciau’n cau yn Llanidloes a Llanfair Caereinion. Mae Nat West newydd gadarnhau y bydd yn cau ei gangen yn Nhrefaldwyn ym mis Ionawr 2015. Mae hyn yn destun pryder mawr i lawer o drigolion a busnesau sy’n dibynnu ar wasanaethau bancio “dros y cownter”.
Cefais gyfle i godi’r broblem o ddirywiad banciau cymunedol gyda’r Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths AC, mewn trafodaeth ar Adfywio Canol Trefi. Mewn llythyr dilynol ataf, rwy’n falch fod y Gweinidog wedi ymrwymo i edrych ar fy awgrym o fodel bancio cymunedol a rennir drwy greu Banc Datblygu i Gymru o bosibl.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y stori hon.
Cymorthfeydd
Rwy’n falch o gyfarfod fy etholwyr yn fy swyddfa yn y Drenewydd neu’r Trallwng. Os credwch y gallaf fod o gymorth i chi mewn unrhyw fodd, cysylltwch â mi i drefnu amser addas.
- Y Trallwng – dydd Gwener 28 Tachwedd
- Y Drenewydd – dydd Gwener 12 Rhagfyr
- Llanidloes – dydd Llun 15 Rhagfyr
- Y Drenewydd – dydd Mawrth 16 Rhagfyr
- Llanfyllin – dydd Mercher 17 Rhagfyr
- Machynlleth – dydd Gwener 5 Rhagfyr
Ffoniwch swyddfa’r etholaeth ar 01686 610887 i drefnu apwyntiad neu i drafod unrhyw fater rydych am ei godi gyda mi.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Cymru dros Sir Drefaldwyn