Annwyl breswylydd,
Gweler isod fy niweddariad misol.
Mae’r Cynulliad ar ei doriad ar hyn o bryd, felly rwyf wedi bod yn mwynhau ymweld â’r holl wahanol sioeau yn Sir Drefaldwyn ac yn treulio amser yn ymweld â gwahanol sefydliadau.
Fodd bynnag, yr hyn sydd wedi taflu cysgod mawr drosom ni y mis hwn yw marwolaeth drist James Corfield o Drefaldwyn. Mae’r newyddion trist hwn wedi siglo’r gymuned leol yn Nhrefaldwyn, a’r gymuned ffermio yn enwedig. Er nad oeddwn i’n adnabod James yn bersonol, rwy’n adnabod ei deulu a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i’w ffrindiau a’i deulu ar yr amser anodd hwn.
Dymuniadau gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn
Canlyniadau’r Arolwg Ailgylchu
Cefais ymateb anhygoel i’m harolwg ailgylchu diweddar, gyda thros 5,600 o ymatebion. Gydag ymateb cystal, mae hi wedi cymryd tipyn o amser i ddadansoddi’r canfyddiadau, felly rwy’n ddiolchgar am eich amynedd. Fodd bynnag, rwyf bellach yn barod i rannu’r canlyniadau cynhwysfawr gyda chi.
Ym mis Chwefror, penderfynodd Cyngor Sir Powys leihau’r diwrnodau mae canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn y Drenewydd a’r Trallwng ar agor o 7 diwrnod i 3 diwrnod yr wythnos. Credaf mai’r penderfyniad anghywir oedd hyn gan fod defnydd da yn cael ei wneud o’r ddau safle; roedd hwn yn gam yn ôl sydd wedi cael effaith andwyol ar ein hamgylchedd a’n cyfraddau ailgylchu.
Y canfyddiad allweddol o’m harolwg oedd bod 99% o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu cau mwy o ganolfannau ailgylchu ac yn credu y dylid torri gwasanaethau mewn meysydd eraill.
Ym mis Mehefin, anfonais ganfyddiadau fy arolwg at y Cynghorydd Phyl Davies, sef Aelod y Cabinet sy’n gyfrifol am ailgylchu yng Nghyngor Sir Powys. Cafodd y Cynghorydd Davies ei ethol i’r Cyngor ym mis Mai, ac mae’n newydd i’r swydd hon; roedd hefyd yn rhan o dîm o ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig a safodd ar yr ymrwymiad yn y maniffesto i gynyddu oriau agor y safleoedd ‘Potters’.
Fis diwethaf, cynhaliodd y Cynghorydd Davies a’r Cabinet newydd adolygiad brys o benderfyniadau’r Cyngor blaenorol mewn perthynas â gwasanaethau ailgylchu, ac roeddwn i’n falch bod Cabinet newydd y Cyngor wedi cytuno i gynyddu oriau agor safleoedd y Drenewydd a’r Trallwng i 5 diwrnod yr wythnos (gan gynnwys dydd Sadwrn a dydd Sul) ac i ddileu rheolau a oedd yn gwahardd gwastraff cartref rhag cael ei hebrwng i Ganolfannau Ailgylchu gan gerbydau masnachol a chyflwyno dull sy’n defnyddio mwy o synnwyr cyffredin. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 1 Medi 2017.
Mae meysydd eraill o bryder yn ymwneud â gwasanaethau ailgylchu y mae angen mynd i’r afael â nhw. Mae’r materion hyn yn dal i fod yn faterion blaenoriaeth uchel i mi. Rwy’n hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth gyda’r mater hwn ac am y cyfle i gyflwyno adroddiad ar y cam cadarnhaol hwn.
I weld y dadansoddiad llawn o’r canlyniadau o’r arolwg ailgylchu, cliciwch yma: www.russellgeorge.com/campaigns/recycling-survey-results
Uwchgynhadledd Band Eang
Fis diwethaf, cynhaliais "Uwchgynhadledd Band Eang" yng Ngwesty’r Elephant & Castle yn y Drenewydd, lle daeth arweinwyr a chynrychiolwyr cymunedau o bob cwr o Sir Drefaldwyn ynghyd i glywed gan Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Julie James AC, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros gynllun band eang ffeibr Cyflymu Cymru. Yn dilyn Mrs James, daeth Cyfarwyddwr cynllun Cyflymu Cymru BT, Ed Hunt, a aeth ati i ateb cwestiynau am gynllun Cyflymu Cymru a thrafod cynlluniau i wella’r ddarpariaeth band eang ar ôl i’r cynllun presennol ddod i ben ar ddiwedd 2017.
Roeddwn i’n falch bod y Gweinidog wedi rhoi o’i hamser i ddod i’r cyfarfod pwysig hwn a oedd yn gyfle gwych i arweinwyr cymunedau o bob cwr o Sir Drefaldwyn gyfleu eu rhwystredigaeth ynglŷn â’r ffordd mae’r prosiect Cyflymu Cymru wedi’i gyflwyno yng ngogledd Powys. Mae’n dal i beri pryder mawr i mi ei bod hi’n ymddangos nad yw llawer o gymunedau gwledig ar draws Sir Drefaldwyn wedi’u cynnwys yn y trefniadau uwchraddio band eang ffeibr neu, o leiaf, eu bod yng nghefn y ciw o ran derbyn cyflymderau cyflym iawn.
Mewn gwirionedd, rydym ni yng ngogledd Powys ymhell o fod yn derbyn mynediad hollgynhwysol at fand eang y genhedlaeth nesaf. Mae’r meini prawf wedi newid sawl gwaith ac nid yw busnesau wedi gallu cynllunio i’r dyfodol o ganlyniad i’r un hen esgusodion, gan gynnwys "pellter o’r cabinet", "problemau technegol a pheirianneg nad oedd modd eu rhagweld" neu "yr angen i ddarparu capasiti ychwanegol yn y gyfnewidfa". Mae hyn wedi arwain at amheuaeth sylfaenol ynglŷn â llwyddiant cyffredinol y prosiect i gyflawni ei addewid gwreiddiol.
Ni all Sir Drefaldwyn fforddio bod yn berthynas tlawd o ran band eang ffeibr, ac roedd yr Uwchgynhadledd hon yn gyfle i ni bwyso ar Lywodraeth Cymru a BT i gyflwyno cynllun olynol a fydd yn ymestyn band eang cyflym iawn i bob eiddo a busnes yn y Canolbarth ac yn dysgu o’r camgymeriadau sydd wedi bod yn nodweddiadol o gysylltiadau cyhoeddus cynllun Cyflymu Cymru. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn parhau i bwyso i wneud yn siŵr bod pawb yn elwa ar well cysylltedd digidol cyn gynted â phosibl.
Ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - "Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol"
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sef y sefydliad sy’n gyfrifol am Ysbyty Bronglais, wrthi’n gweithio ar raglen ymgysylltu o’r enw “Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol”.
Nod y rhaglen hon yw rhoi cyfle i bobl fynegi eu barn ar sut yr hoffent i wasanaethau wella ar draws yr ardal gyfan. Mae’r cyfnod cyntaf ar waith tan 15 Medi 2017.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gweler y dogfennau yn: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/tcs
Gall pobl Powys sydd â phryderon penodol ynghylch ‘Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol’ gysylltu â Chyngor Iechyd Cymuned Powys, sef corff statudol annibynnol sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd yn y GIG. Gallwch gysylltu â Chyngor Iechyd Cymuned Powys trwy anfon e-bost i: [email protected]
Gwobrau Dewi Sant
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru. Mae yna 8 categori a enwebir gan y cyhoedd, sy’n rhoi cyfle i ni gydnabod a dathlu pobl o bob cefndir yng Nghymru.
Efallai yr hoffech chi ystyried enwebu pobl neu grwpiau yn eich cymuned y credwch eu bod yn haeddu canmoliaeth genedlaethol.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma: http://stdavidawards.org.uk
Cymorthfeydd Cyngor
Byddaf yn y sioeau canlynol dros yr wythnosau nesaf. Os hoffech gyfarfod â mi, ffoniwch 01686 610887 neu anfonwch e-bost at [email protected]
Sioe Dolfor – Dydd Sadwrn 5 Awst
Sioe Trefeglwys - Dydd Sadwrn 5 Awst
Sioe Llanfyllin – Dydd Sadwrn 12 Awst
Sioe Llangurig – Dydd Sadwrn 12 Awst