Annwyl Breswylydd,
Dyma fy newyddion misol diweddaraf am fy ngweithgareddau yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Sir Drefaldwyn.
Y mis hwn, gwelsom gryn newidiadau ar lawr gwlad wrth i garfan newydd o Gynghorwyr gael eu hethol i’n cynrychioli yn Neuadd y Sir.
Ar ben hynny, mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi galw Etholiad Cyffredinol – gobeithio y bydd pawb yn lleisio barn trwy bleidleisio dros yr ymgeisydd o’ch dewis ddydd Iau 8 Mehefin.
Yn naturiol, rwy’n gobeithio mai fy ffrind a’m cydweithiwr Glyn Davies fydd eich dewis chi. Credaf ei fod wedi gwasanaethu pobl Maldwyn yn ddiflino ers iddo gael ei ethol yn AS yn 2010. Os hoffech gyfarfod ag e, bydd yn Neuadd y Dref y Trallwng nos Fercher 7 Mehefin (7.30 ar gyfer 8pm). Mae croeso i bawb - bydd y bar ar agor a chroeso i unrhyw un ofyn cwestiwn i Glyn mewn awyrgylch anffurfiol.
Fel arfer, os gallaf eich helpu chi mewn unrhyw ffordd, cofiwch gysylltu â mi trwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01686 610887.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Cyngor Sir Powys
Yn dilyn yr etholiadau lleol ar y 4ydd o Fai, cafodd y Cynghorydd Rosemarie Harris ei hethol yn Arweinydd Gweithredol y weinyddiaeth newydd mewn partneriaeth â grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ar y cyngor.
Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Harris ar ddod yn Arweinydd Cyngor Powys, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’i gweinyddiaeth a’r holl gynghorwyr lleol er mwyn gwella’r cymunedau a gynrychiolir ganddynt.
Hefyd, hoffwn longyfarch y Cynghorydd Dai Davies o Aberriw ar gael ei benodi’n Gadeirydd y Cyngor, a’r Cynghorydd Joy Jones sy’n cynrychioli ward Dwyrain y Drenewydd, a gafodd ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Sir Drefaldwyn.
Rwyf hefyd yn gwybod y bydd y grŵp o Gynghorwyr Ceidwadol dan arweiniad y Cynghorydd Aled Davies, yn gwneud cyfraniad adeiladol fel rhan o’r weinyddiaeth newydd ac y byddant yn defnyddio eu dylanwad i gyflwyno cynigion cadarnhaol yn unol â’u cynllun dros Bowys yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Mae’r Cynghorwyr Ceidwadol wedi ymgyrchu dros wyrdroi’r toriadau i wasanaethau ailgylchu ac rwy’n gwybod y bydd presenoldeb cryfach y Ceidwadwyr ar Gyngor Sir Powys yn golygu y bydd polisïau allweddol eraill ar frig agenda’r cyngor, gan gynnwys gwella gwasanaethau gofal dydd yr henoed; ac integreiddio’r ddarpariaeth gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
O’m rhan i, fel Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn, byddaf yn gwneud popeth posib i gefnogi’r weinyddiaeth newydd yng Nghyngor Sir Powys ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm y Cynghorydd Harris i lywio drwy’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau, er budd pobl a chymunedau Powys.
Adolygiad o Ganolfannau Ailgylchu
Rwy’n falch y bydd adolygiad brys yn cael ei gynnal ar amseroedd agor a’r cyfyngiadau ar fynediad i ganolfannau ailgylchu Powys.
Mae’r adolygiad, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Phyl Davies sydd newydd ei benodi’n Aelod o’r Cabinet dros Faterion Gwastraff, yn dilyn pryderon diweddar dros gwtogi’r amseroedd agor o saith awr yr wythnos i ddim ond tair awr, ac mai dim ond un o’r rheiny sydd ar benwythnos.
Bydd yr adolygiad, a fydd hefyd yn ystyried y cyfyngiadau ar faniau a threlars ar y safleoedd, yn cynnwys canolfannau ailgylchu’r Drenewydd, y Trallwng a safleoedd eraill Powys.
Mae’r cyfyngiadau ar fynediad i ganolfannau ailgylchu’r Trallwng a’r Drenewydd yn anghywir ac annheg. Rwyf wastad wedi teimlo ei bod hi’n anghywir mai dim ond am ychydig ddyddiau’r wythnos y mae’r ddau safle ar agor - safleoedd poblogaidd iawn, ac roedd y penderfyniad yn gam mawr yn ôl a allai gael effaith andwyol ar ein hamgylchedd a’n cyfraddau ailgylchu os na chaiff ei ddadwneud.
Cyfrannodd dros 5,000 o drigolion at fy arolwg ailgylchu yn gynharach eleni, a’r farn unfrydol oedd y dylid dadwneud y penderfyniad i gyfyngu ar ba ddyddiau mae safleoedd ailgylchu Potters ar agor.
Felly, rwyf wrth fy modd bod y Cynghorydd Phyl Davies am fynd ati i gynnal adolygiad brys fel un o’i benderfyniadau cyntaf yn rhinwedd ei gyfrifoldebau Cabinet newydd.
Cau banc y NatWest yn y Trallwng a Machynlleth
Roeddwn am rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi yn sgil y cyfarfodydd a gefais gyda swyddogion y banc. Ym mis Ebrill, trefnais gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref y Trallwng a mynychais gyfarfod cyhoeddus gyda Chyngor Tref Machynlleth. Roeddwn i’n siomedig bod rheolwyr NatWest wedi gwrthod mynychu’r cyfarfod cyhoeddus, a dim ond wedi cytuno i ’nghyfarfod i ac arweinwyr cymunedol.
Mae’n amlwg na fydd rheolwyr NatWest yn newid eu meddyliau, ac y bydd y ddau fanc yn cau yn ddiweddarach eleni.
Cyfeiriodd rheolwyr y banc at y dewisiadau eraill fydd ar gael i gwsmeriaid dan yr hyn a alwyd yn ‘gynlluniau ôl-gau’. Mae’r rhain yn amrywio o wasanaethau ar gael yng nghanghennau’r swyddfa bost a banc symudol yn ymweld â phob cymuned bob wythnos.
Hefyd, soniais am faterion a godwyd gan aelodau’r cyhoedd yn y cyfarfod cyhoeddus gan gynnwys pryderon am ddiogelwch a phreifatrwydd yn ogystal â diffyg pob gwasanaeth bancio yn y Swyddfa Bost a chiwiau hir posib yn y swyddfeydd post hefyd.
Er i’r swyddogion banc wrthod adolygu eu cynlluniau cau, fe wnaethon nhw gytuno i adolygu eu ‘cynlluniau ôl-gau’ arfaethedig, dri mis ar ôl cau’r banciau, a byddaf yn cyfarfod â nhw eto bryd hynny.
Unwaith eto, codais y mater gyda’r Prif Weinidog gan ategu fy ngalwadau am fanc cymunedol newydd a fyddai’n cadw presenoldeb banciau’r stryd fawr ym Mhowys. Roedd y Prif Weinidog yn cydnabod y sefyllfa ddifrifol sy’n wynebu cymunedau wrth golli eu gwasanaethau bancio, ac mae wedi cytuno i ateb fy ngalwadau i hwyluso’r trafodaethau â’r banciau, yn rheoleiddwyr a phartneriaid eraill er mwyn ystyried model bancio cymunedol newydd a fyddai’n gweld banciau’n rhannu safleoedd a gwasanaethau. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi rhywfaint o bwysau er mwyn sicrhau bod atebion digonol ar gael.
Mae swyddogion banc NatWest hefyd wedi cytuno i archwilio’r model cymunedol rwy’n ei argymell.
Cefnogi Wythnos Dwristiaeth Cymru
Ddydd Gwener 12 Mai, roeddwn i’n falch o gefnogi cangen y Canolbarth o’r British Holiday and Home Park Association (BH&HPA) mewn diwrnod o ddigwyddiadau i gefnogi twristiaeth canolbarth Cymru.
Ymunodd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth â chynrychiolwyr o sefydliadau twristiaeth y Canolbarth yng Nghanolfan y Gweilch, parc gwyliau Morben Isaf a gwesty Dolguog er mwyn deall pwysigrwydd twristiaeth a chadwraeth i’r Canolbarth.
Mae mwy o ymwelwyr nag erioed yn ymweld â’r Canolbarth i weld beth sydd gan ein rhanbarth godidog i’w gynnig, o safleoedd treftadaeth byd-enwog, bwyd a diod campus, trefi marchnad hyfryd a chadwyn o fynyddoedd ysblennydd.
Mae twristiaeth yn sbardun allweddol o ran datblygiad economaidd a chreu swyddi ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i feithrin yr amodau cywir ar gyfer twf yn y sector hollbwysig hwn yn economi’r Canolbarth.
Y llynedd, datgelais nad yw Llywodraeth Cymru yn gwario’r un geiniog o’i chyllideb £8.3 miliwn ar hyrwyddo’r Canolbarth fel cyrchfan wyliau. Mae hyn yn warthus, ac yn hytrach na’r Llywodraeth yn arwain y blaen, y diwydiant ei hun ddylai fod yn hyrwyddo cynnig twristiaeth unigryw’r Canolbarth.
Mae arferion gwyliau yn newid - ac mae’r Canolbarth mewn lle da i elwa ar hyn, ond dim ond gyda’r cynllun gweithredu cywir a fydd yn caniatáu i ddiwydiant ymwelwyr y Canolbarth ffynnu a chyflawni ei lawn botensial.
Ymwybyddiaeth o ddementia
Ganol Mai, roedd hi’n braf cwrdd â chynrychiolwyr Cymdeithas Alzheimer Cymru yn y Senedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r rhai sy’n byw gyda dementia. Hefyd, roeddwn i’n falch o fynychu dau fore coffi yn y Trallwng a’r Drenewydd er mwyn tynnu sylw at yr achos a gweld tystysgrifau’n cael eu cyflwyno i fusnesau’r Drenewydd sy’n cefnogi’r rhaglen Cymunedau Dementia Gyfeillgar.
Gyda mwy a mwy o bobl yn byw gyda’r cyflwr, mae’n bwysicach fyth ein bod ni’n chwilio am ffyrdd i gydweithio er mwyn ymateb i’r her sy’n codi yn sgil dementia ar hyn o bryd. Mae rhaglen Cymunedau Dementia Gyfeillgar yn hwyluso’r dasg o greu’r cymunedau hyn er mwyn sicrhau bod pawb yn deall ac yn gwerthfawrogi pobl â dementia, a’u bod yn gallu cyfrannu at eu cymunedau. Mae fy staff a minnau eisoes wedi cofrestru fel “Ffrindiau Dementia” ac mae’n wych gweld bod busnesau’r Trallwng yn cofleidio’r prosiect hwn hefyd.
Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy uchelgeisiol wrth godi eu targedau i wella gwasanaethau diagnostig i gleifion sydd mewn perygl o ddatblygu dementia. Dyna pam, felly, fy mod i wedi galw’n gyson am Gynllun Dementia Cenedlaethol i Gymru a fyddai’n gwella’r cyfraddau diagnosis, gwella ymwybyddiaeth o ddementia ac ymroi i ddatblygu triniaethau newydd a chwilio am wellhad. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i sicrhau bod Cymru yn arwain y blaen ac yn datblygu’n Genedl Dementia Gyfeillgar cynta’r byd.
Cyflymu Cymru
Lai nag wyth mis tan y daw cynllun uwchraddio band-eang ffeibr Cyflymu Cymru i ben, rwyf wedi codi pryderon gyda’r Prif Weinidog am y gwallau cyfathrebu sy’n dal i blagio’r rhaglen.
Er enghraifft, ym mis Mawrth, cefais lythyr gan Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn cadarnhau y byddai trigolion Adfa yn elwa ar dechnoleg cysylltiad ffeibr i’r adeilad, ond ym mis Ebrill wedyn, cefais lythyr arall i ddweud bod Adfa wedi’i hisraddio i dechnoleg cysylltiad ffeibr i’r cabinet a olygai y byddai’r rhai sy’n rhy bell o’r cabinet yn colli’r cysylltiad band-eang cyflym iawn yn gyfan gwbl.
Roedd adroddiad y llynedd, Gwerthusiad Rhaglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru, hefyd yn galw am ddulliau cyfathrebu mwy cydlynus a strategol ar ôl canfod bod y negeseuon ynghylch amser cyflwyno’r rhaglen yn anghyson.
Roeddwn i’n falch bod y Prif Weinidog wedi cytuno i archwilio’r mater hwn ar frys, ond rhaid dweud, mae’n siom enbyd i’r trigolion bod y rhaglen wedi addo un peth iddyn nhw cyn deall na fyddant yn elwa ar uwchraddio i fand-eang ffeibr wedi’r cwbl.
Bydd prosiect Cyflymu Cymru yn gorffen mewn ychydig fisoedd, ac erbyn hyn, dylem wir fod mewn sefyllfa lle mae gan bawb ateb pendant o ran a fyddan nhw’n cael eu huwchraddio fel rhan o gynllun Cyflymu Cymru ai peidio. Does dim esgus am y camgymeriadau cyfathrebu hyn mwyach.
Signal ffôn symudol a ffordd osgoi’r Drenewydd
Bydd cysylltiad ffôn symudol yn hanfodol i ddefnyddwyr a busnesau sy’n defnyddio ffordd osgoi newydd y Drenewydd pan gaiff ei hadeiladu, ac rwyf wedi ysgrifennu at yr holl rwydweithiau ffôn i sicrhau bod ganddynt gynlluniau i ofalu bod gwasanaeth ffôn llais a symudol di-dor ar gael ar hyd y ffordd osgoi. Hefyd, rwyf wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru godi ymwybyddiaeth y diwydiant ffonau symudol o’r ffordd osgoi ac yn gobeithio y gwnaiff Cyngor Sir Powys yr un peth hefyd.
Economi’r Canolbarth
Pleser oedd arwain trafodaeth yn y Senedd ychydig wythnosau’n ôl yn gofyn ar Lywodraeth Cymru i gydnabod yr angen i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau rhanbarthol mewn ffyniant economaidd sy’n dal i fodoli yn ein gwlad, trwy Fargen Dwf y Canolbarth.
Credaf y byddai Bargen Dwf y Canolbarth yn helpu i lywio a chynyddu cynhyrchiant a symudedd cymdeithasol yn y Canolbarth. Pan ymwelais â gwesty Llyn Efyrnwy yn ddiweddar i drafod eu cynlluniau at y dyfodol, roedd hi’n amlwg bod angen mwy o fuddsoddiad er mwyn marchnata’r Canolbarth fel cyrchfan ymwelwyr, a buddsoddi mewn rhwydweithiau trafnidiaeth a chreu seilwaith telathrebu o’r radd flaenaf sydd eu hangen yn enbyd er mwyn creu economi lewyrchus yn y Canolbarth – rhywle ymarferol a hyfyw i wneud busnes, gan sicrhau bod sectorau pwysig fel twristiaeth ac amaethyddiaeth yn gysylltiedig ag injan ehangach canolbarth Lloegr.
Gwaith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Mae’n fraint cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a hoffwn rannu rhywfaint o’r gwaith y buom yn canolbwyntio arno’n ddiweddar.
Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i weithgareddau’r fargen ddinesig a thwf sy’n cael eu cynnal ym mhob un o bedwar rhanbarth economaidd Cymru, a sut maen nhw’n cyd-fynd â strategaethau economaidd Cymru a’r DU; ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru a fydd yn adeiladu ar y gwaith a wnaethom ar yr ardoll brentisiaethau yn gynharach eleni; ac ymchwiliad i effaith tagfeydd ar y diwydiant bysiau. Cafwyd trafodaeth helaeth am y broblem hon yn uwchgynhadledd fysiau cyntaf Cymru ac mae’n peri pryder i’r cwmnïau bysus. I gael rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor a sut i gyflwyno tystiolaeth i un o’n hymchwiliadau, cliciwch yma.