Annwyl breswylydd,
Dyma fy nghylchlythyr misol unwaith eto. Rydw i’n ddiolchgar i drigolion ledled Sir Drefaldwyn a roddodd o’u hamser i lenwi fy arolwg ar ailgylchu. Mae’r canlyniadau’n dal i gyrraedd felly byddaf yn rhoi dadansoddiad manwl o’r canlyniadau i bawb a ymatebodd i’r arolwg yn y man.
Gobeithio eich bod yn mwynhau darllen fy nghylchlythyr sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o’r Cynulliad Cenedlaethol ac o Sir Drefaldwyn. Yn ôl yr arfer, os ydych chi’n teimlo y gallaf helpu mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â mi: [email protected] neu 01686 610887.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Adrodd yn Ôl – Canlyniadau’r Arolwg Ailgylchu
Dros y mis diwethaf, mae cannoedd o drigolion ledled Sir Drefaldwyn wedi cwblhau arolwg byr ar gyfleusterau ailgylchu Sir Drefaldwyn. Mae’r arolygon yn dal i gyrraedd ond mae’r canlyniadau’n awgrymu bod yna deimladau cymysg ymysg trigolion am gasgliad ailgylchu gwastraff y cartref sydd ar waith ar hyn o bryd.
Mae canlyniadau cynnar yn awgrymu y byddai’n well gan dros hanner y trigolion gael casgliad pob pythefnos a bod yna gefnogaeth frwd o blaid cadw canolfannau ailgylchu Powys yn agored gydol yr wythnos, ac na ddylid cau rhagor o ganolfannau ailgylchu.
Dydw i ddim yn credu ei bod hi’n dderbyniol bod safleoedd yn y Drenewydd a’r Trallwng yn gweithredu am dridiau’r wythnos yn unig a dwi’n anghytuno’n bendant â’r cynnig i leihau’r oriau agor. Caiff y ddau safle eu defnyddio’n helaeth ac mae’r penderfyniad hwn yn gam yn ôl. Rydw i’n bryderus am yr effaith hirdymor y bydd hyn yn ei chael ar ein hamgylchedd a’n cyfraddau ailgylchu.
Bydd canlyniadau terfynol yr arolwg cynhwysfawr hwn yn sicrhau y gallaf gyflwyno darlun cywir o safbwyntiau’r trigolion, gyda thystiolaeth ategol, a bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â Chyngor Sir Powys fel y gallan nhw lunio polisïau rheoli gwastraff sy’n cael cymeradwyaeth y rhan fwyaf o drigolion Sir Drefaldwyn.
Ardrethi Busnes
Mae gan Lywodraeth Cymru yr ysgogiadau datganoledig i ddiwygio ardrethi busnes a rhoi diwedd ar y pryder affwysol sy’n wynebu perchnogion busnes - ond yn anffodus maen nhw wedi dewis peidio â dilyn arweiniad Llywodraeth y DU.
Mae ardrethi busnes wedi’u datganoli’n rhannol ers mis Ebrill 2013, a chawsant eu datganoli’n llwyr i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2015. O fis Ebrill, bydd Rhyddhad ar Drethi Busnes - ad-daliad llawn mewn gwirionedd - ar gael i fusnesau yn Lloegr gyda gwerth ardrethol o hyd at £12,000 (sy’n lleihau’n raddol wedi hynny), tra yng Nghymru bydd yn parhau i fod ond ar gael i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000, gan beri anfantais niweidiol i fusnesau Cymru. Yn yr Alban, bydd y trothwy rhyddhad ardrethi yn cynyddu fwy byth; bydd busnesau yno sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000 yn gymwys am ryddhad o 100%.
Ers fy etholiad yn 2011, rydw i wedi ymgyrchu o blaid cael trothwy rhyddhad o 100% i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, er mwyn gwneud yn siŵr bod gan fentrau bach a chanolig arian dros ben i dyfu. Busnesau bach yw calon ac enaid economi’r Canolbarth – dyma yw 99% o bob busnes cofrestredig. Hoffwn weld busnesau Cymru yn cael yr un cymorth â busnesau mewn rhannau eraill o’r DU.
Uwchgynhadledd Band Eang y Canolbarth
Fel y gwyddoch, rydw i wedi ymgyrchu’n hir dros wella’r signal band eang yng ngogledd Powys. Yn y dyfodol agos, rydw i’n bwriadu cynnal Uwchgynhadledd Band Eang y Canolbarth lle bydd arweinwyr y gymuned a chynrychiolwyr ledled Sir Drefaldwyn yn gallu holi Julie James AC Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros gynllun band eang ffeibr Cyflymu Cymru, sy’n dod i ben ddiwedd 2017.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae llawer o ardaloedd wedi’u cysylltu, ac erbyn hyn gallan nhw gael mynediad i fand eang cyflym iawn. Fodd bynnag, mae’n parhau’n gryn bryder i mi bod llawer o gymunedau gwledig ar hyd a lled Sir Drefaldwyn yn cael eu hallgau mae’n debyg o’r rhaglen uwchraddio band eang ffeibr, neu o leiaf, ar waelod y rhestr o ran derbyn cyflymder cyflym iawn. Mae’r gofynion wedi cael eu newid yn barhaus a doedd busnesau ddim yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol, felly bydd yr Uwchgynhadledd hon yn gyfle i ni bwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’n gynt amserlen gadarn ar gyfer ymestyn band eang cyflym iawn i bob eiddo yn y Canolbarth.
Cynigion Parod at y Dyfodol y GIG ar gyfer Swydd Amwythig a’r Canolbarth
Fis diwethaf, cytunodd rheolwyr y GIG yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru i gomisiynu rhagor o waith ar y cynigion gan Fwrdd y Rhaglen Parod at y Dyfodol (Future Fit), nad oedd wedi’u derbyn cyn y Nadolig. Mewn cyfarfod yn Swydd Amwythig ar 7 Chwefror, roedd pawb yn gytûn bod yn rhaid i’r gwaith ar gynigion Parod at y Dyfodol barhau. Bydd adroddiad annibynnol yn cael ei baratoi gan arbenigwyr iechyd, er mwyn adolygu’r gwaith gwblhawyd hyd yma o ran datblygu dewisiadau tymor hir ar gyfer gwasanaethau’r GIG yn Swydd Amwythig a’r Canolbarth. Bydd adolygiad hefyd am effaith cynigion Parod at y Dyfodol ar Wasanaethau Menywod a Phlant. Bydd hyn yn sicrhau pobl mai’r cynigion, a oedd yn cynnwys 300 o glinigwyr, yw’r ateb gorau i gleifion.
Yn gynharach eleni, mynychais fforwm Iechyd Rhieni y Drenewydd, a mis diwethaf mynychais Fforymau Iechyd Cleifion yn Llanidloes a Threfaldwyn. Cysylltwch â mi os hoffech i mi ymweld ag unrhyw grŵp rydych chi’n rhan ohono er mwyn trafod gwasanaethau iechyd lleol.
Cymhorthdal Bws
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymhorthdal ar gyfer y cysylltiad bws rhwng Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd sy’n werth bron i filiwn o bunnoedd y flwyddyn.
Mae’r gwasanaeth T9, sy’n rhedeg rhwng Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd 34 gwaith y dydd, yn denu mwy o deithwyr erbyn hyn. O ganlyniad, credaf y dylai’r gwasanaeth dalu amdano’i hun ac y dylai Llywodraeth Cymru ystyried dargyfeirio’r cymhorthdal y mae’r gwasanaeth T9 yn ei gael ar hyn o bryd i’r gwasanaethau bws lleol yn y Canolbarth sy’n cael trafferth parhau’n ariannol hyfyw.
Mae teithiau lleol wedi’u cwtogi oherwydd toriadau Llywodraeth Cymru i Grant Gweithredwyr y Gwasanaeth Bws, gyda thua £1.3 miliwn yn cael ei wario ar gyswllt bws T9 rhwng Caerdydd a maes awyr Caerdydd dros y tair blynedd diwethaf. Mae’n rhaid i chi gwestiynu cost y gwasanaeth hwn pan nad oes gan rai trigolion lleol yn Sir Drefaldwyn unrhyw wasanaeth bws o gwbl.
Codais y mater hwn yr wythnos ddiwethaf yn uniongyrchol gyda Carwyn Jones, y Prif Weinidog yn ystod sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog. Dyma fy nghwestiwn a’r ateb: LINK
Materion trawsffiniol Cross Border
Ym mis Ionawr, sefydlais y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Trawsffiniol, grŵp hollbleidiol o Aelodau Cynulliad sy’n cyfarfod bob chwarter i ddeall mwy am heriau’r gwahaniaethau mewn polisi rhwng Cymru a Lloegr. Ym mis Ionawr, trafodwyd Materion Trafnidiaeth Trawsffiniol. Bydd y cyfarfod nesaf, yn hwyrach y mis hwn, yn trafod Goal Iechyd Trawsffiniol, gan gynnwys pwysigrwydd darparwyr gofal iechyd yng Nghymru a Lloegr yn gweithio ar y cyd a’r heriau sy’n gysylltiedig â chynyddu dargyfeiredd yn systemau iechyd Cymru a Lloegr. Ym mis Mehefin, bydd pwyslais y grŵp yn troi at faterion amaethyddiaeth er mwyn ymchwilio i’r rhesymau dros yr oedi y mae ffermwyr ar y ffin wedi’i brofi gyda’u Taliadau Sengl.
Twristiaeth
Un o’n diwydiannau mwyaf yn y Canolbarth yw Twristiaeth, ac mae cefnogi’r sector hwn yn fater pwysig i mi. Felly, rydw i wedi mynychu nifer o gyfarfodydd trawsbleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Roeddwn yn falch o gael mynychu grŵp Twristiaeth Llyn Efyrnwy bythefnos yn ôl, a gynhaliwyd yng Ngwesty Llyn Efyrnwy. Trafodwyd amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar y diwydiant, ac rydw i wedi cael cadarnhad yn ddiweddar bod Ken Skates, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, wedi cytuno i fynychu cyfarfod gyda mi yn y dyfodol o fusnesau’r sector twristiaeth yn Sir Drefaldwyn.
Cynlluniau Trafnidiaeth
Fis nesaf, byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ffordd osgoi y Drenewydd, a fydd yn cael ei chwblhau diwedd y flwyddyn nesaf, yn ôl y cynllun.
Y r wythnos ddiwethaf, cefais gyfarfod â John Hayes AS, Gweinidog Gwladol y Llywodraeth yn yr Adran Drafnidiaeth, yn Llanymynech. Trefnwyd y cyfarfod gan Owen Paterson, AS Swydd Amwythig. Roeddwn yn falch bod y Gweinidog wedi cytuno i ystyried o’r newydd cychwyn y gwaith arfaethedig ar ffordd osgoi Llanymynech/Pant yn gynharach. Bydd angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar hyn, a chan fod hwn yn brosiect sydd angen cefnogaeth gan y naill lywodraeth a’r llall, cafwyd problemau wrth i’r prosiect arfaethedig hwn gael ei symud ymlaen sawl blwyddyn.
Etholiadau Cyngor Sir Powys
Fis Mai eleni, cynhelir etholiadau ar draws y sir, a bydd y cyhoedd ym Mhowys yn penderfynu pwy hoffen nhw eu cael i’w cynrychioli dros y 5 mlynedd nesaf. Mae’n gyfnod heriol i’r Cyngor Sir, gan fod Llywodraeth Cymru wedi gostwng y grant bloc a ddyfernir i Bowys lawer mwy nag i’r cynghorau trefol ar hyd a lled Cymru dros y degawd diwethaf.
Mae nifer o Gynghorwyr Sir sydd wedi bod yn gwasanaethu ers amser maith wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n sefyll ym mis Mai. Hoffwn ddiolch i’r Cyng Barry Thomas, Arweinydd Cyngor Sir Powys, am ei flynyddoedd o waith i Lywodraeth Leol ym Mhowys. Mae’r Cyng Barry yn rhoi’r gorau iddi ym mis Mai a gydol ei gyfnod fel Cynghorydd, bu’n was ffyddlon i Bowys. Rydw i wedi cael perthynas waith dda ag ef ac roedd yn hawdd iawn mynd ato ac yn fodlon trafod materion y Cyngor â mi mewn modd adeiladol. Hyd yn oed pan nad ydw i wedi cytuno â’i farn, gwn ei fod bob amser wedi gweithredu mewn ffordd y tybiai oedd er y budd pennaf i Bowys.
Dyw bod yn gynrychiolydd etholedig dros Bowys ddim wedi bod yn swydd hawdd yn ddiweddar, a hoffwn ddiolch i’r holl gynghorwyr sy’n rhoi’r gorau iddi ym mis Mai am eu gwasanaeth cyhoeddus, a dymunaf yn dda iddynt i’r dyfodol.
Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn
Roedd Gŵyl Ddrama Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn yn llwyddiannus iawn, gan ddenu tyrfa fawr dros 5 noson yn Theatr Hafren, gyda dros 400 o aelodau’n cymryd rhan o 17 o glybiau gwahanol. Arth enillwyr y sir ymlaen i gystadlu yng Ngŵyl Cymru Gyfan gan ennill 4 o’r 10 gwobr oedd ar gael fel a ganlyn:
Gemma Owen – enillydd cystadleuaeth Aelod Ifanc Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru
Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfyllin – enillwyr cystadleuaeth adloniant Saesneg
Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Caereinion – enillwyr tarian perfformiad Technegol Gorau yn y gystadleuaeth Gymraeg; ac aelod o’u clwb Catherine Watkin – yn ennill gwobr yr Actores Orau.
Bydd Gemma yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth genedlaethol Aelod Ifanc Clwb Ffermwyr Ifanc ; a Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanfyllin yn mynd ymlaen i’r gystadleuaeth Adloniant Genedlaethol a gynhelir yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cenedlaethol Clwb y Ffermwyr Ifanc yn Torquay ym mis Ebrill.
Rwy’n siŵr yr hoffech ymuno â mi i longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai a gymerodd - diolch iddyn nhw, bu’n ŵyl lwyddiannus ar y naw.
Janos Arany – Rhyddfreiniwr Trefaldwyn
Yr wythnos ddiwethaf, cefais y cyfle i wneud datganiad byr yn y Cynulliad Cenedlaethol i dynnu sylw at wobr Rhyddfreiniwr Trefaldwyn a gyflwynwyd ar ôl ei farwolaeth i’r bardd o Hwngari, a ysgrifennodd The Bards of Wales yn 1857.
Mae The Bards of Wales yn gerdd y gellir ei hadrodd gan lawer iawn o bobl Hwngari, ond yng Nghymru does dim llawer o wybodaeth amdani. Ar ôl gwrthod ysgrifennu cerdd i ddathlu Ymerawdwr Awstria, Franz Joseph, yn dilyn chwyldro aflwyddiannus ym 1848 yn erbyn yr ymerawdwr, ysgrifennodd Arany The Bards of Wales sy’n adrodd stori chwedlonol am wrthryfel lle cafodd 500 o feirdd o Gymru eu lladd gan y Brenin Edward I yng Nghastell Maldwyn, a hwythau wedi gwrthod canu mawl i’w gorchfygwr.
Er bod cerdd Arany o’r 19eg ganrif yn dal i gael ei dysgu ym mhob ysgol yn Hwngari, dyw llawer iawn o bobl Sir Drefaldwyn erioed wedi clywed amdani.
Ddydd Iau diwethaf ym Mwdapest, cynhaliwyd seremoni arbennig i ddathlu bywyd Janos Arany a ddarlledwyd ar y teledu i nodi 200 mlwyddiant ei eni. Roedd Arlywydd Hwngari yn bresennol yn y seremoni, a chyflwynwyd anrhydedd Rhyddfreiniwr Trefaldwyn i’r bardd ar ôl ei farw gan Faer y dref.
Y Cymorthfeydd Nesaf
Rydw i’n cynnal cymorthfeydd yn fy swyddfeydd yn y Drenewydd a’r Trallwng bob dydd Gwener bron iawn, a byddaf yn yr ardaloedd canlynol ar y dyddiadau canlynol. Os hoffech gyfarfod â mi, mae croeso i chi gysylltu â mi ar 01686 610887 i drefnu apwyntiad. Byddaf yn cynnal cymorthfeydd yn yr ardaloedd canlynol hefyd dros yr wythnosau nesaf, cysylltwch â mi os hoffech drafod unrhyw fater.
Tal-y-bont – Dydd Gwener 24 Mawrth
Llanbrynmair – Dydd Sadwrn 25 Mawrth
Caersws – Dydd Sadwrn 1 Ebrill
Yr Ystog – Dydd Llun 3 Ebrill
Y Trallwng – Dydd Mawrth 11 Ebrill