Diweddariad misol Russell George AC am ei waith yn Sir Drefaldwyn a’r Cynulliad Cenedlaethol
Annwyl breswylydd,
Dyma fy niweddariad misol am fy ngwaith yn Sir Drefaldwyn a’r Cynulliad.
Y mis hwn, dechreuais fynd i’r afael â ’mhortffolio newydd fel Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr Economi a’r Seilwaith a chefais y fraint o ddechrau cadeirio pwyllgor dylanwadol y Cynulliad Cenedlaethol ar yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
Yn agosach at adref, bu datblygiadau sylweddol ar faterion gofal iechyd ac ad-drefnu gwasanaethau iechyd y Canolbarth, felly bydda i’n darparu rhagor o fanylion isod ynghyd â chrynodeb o’r materion eraill y bûm i’n gweithio arnynt.
Fel arfer, os gallaf fod o gymorth i chi mewn rhyw fodd, mae croeso i chi gysylltu â mi trwy ffonio 01686 610887 neu e-bostio [email protected]
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Gofal iechyd
Ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn Swydd Amwythig
Mae synnwyr cyffredin yn dweud y dylai gwasanaethau GIG gael eu darparu mor agos â phosibl i’r cartref.
Mae cryn dipyn o rwystredigaeth fod mynediad i ofal iechyd yn symud ymhellach o gymunedau lleol wrth i wasanaethau gael eu canoli mewn ardaloedd mwy poblog, sy’n golygu’n bod ni’n gorfod teithio’n bellach i gael darpariaeth iechyd o safon.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yng ngogledd Powys yn dibynnu’n fawr ar wasanaethau sydd cael eu darparu dros y ffin gan Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford. Fel un o drigolion y Canolbarth, mae yna bryder gwirioneddol bod gwasanaethau’n cael eu symud o ysbyty Royal Shrewsbury i Telford.
Mae pobl Maldwyn wedi dweud yn glir eu bod am weld gwasanaethau’n cael eu cadw a’u cryfhau yn Amwythig. Felly, er nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud yn swyddogol, roedd hi’n galonogol gweld adroddiad yn ‘datgelu’ bod yr asesiad anariannol, seiliedig ar dystiolaeth, yn awgrymu y dylid cadw’r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Royal Shrewsbury. Os bydd ‘Future Fit’, y sefydliad â’r cyfrifoldeb dros enwi’r safle a ffefrir ar gyfer gwasanaethau brys a gwasanaethau iechyd eraill, yn cadarnhau hynny, yna bydd synnwyr cyffredin yn ennill y dydd – gan fod Glyn Davies AS a minnau wedi datgan bob amser y dylai gofal brys i Swydd Amwythig a chanolbarth Cymru gael ei leoli yng nghanol y rhanbarth, sef Amwythig.
Yn anffodus, mae bwrdd rhaglen ‘Future Fit’ wedi oedi cyn gwneud argymhelliad ffurfiol oherwydd pryderon gyda’r broses benderfynu, ac mae pryderon digon haeddiannol am yr ansicrwydd a’r oedi parhaus sy’n gysylltiedig â’r broses o werthuso darpariaeth gwasanaethau iechyd yn Amwythig a Telford yn y dyfodol.
Rwy’n deall mai cam nesa’r broses benderfynu fydd cynnal gwerthusiad ariannol o’r dewisiadau gwahanol a gobeithio y bydd yr argymhellion yn mynd gerbron Bwrdd y Rhaglen Future Fit am ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng mis Rhagfyr eleni a mis Mawrth 2017. Byddaf yn annog pob un ohonoch i ymateb i’r ymgynghoriad pan gaiff ei gyhoeddi, cewch wybod sut i wneud hyn maes o law.
Rhaid i ddarparu gwasanaethau iechyd o’r radd flaenaf i bobl y Canolbarth fod yn brif flaenoriaeth. Byddaf yn parhau i ymgyrchu dros y canlyniad gorau posibl i drigolion Sir Drefaldwyn.
Ymgynghoriad ar ganolfannau dydd i bobl hŷn
Mae Cyngor Sir Powys wrthi’n ymgynghori ar opsiynau ar ddyfodol canolfannau dydd sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor, o’r enw ‘Gweithgareddau dydd i bobl hŷn’. Yn fy marn i, mae canolfannau dydd yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy ac fe ddylid eu cadw a’u cefnogi.
Gan mai un o’r dewisiadau yw cau pob canolfan gyfredol (er bod yr ymgynghoriad yn awgrymu modelau gwasanaethau eraill hefyd), mae’r ymgynghoriad yn achosi pryder mawr ymhlith defnyddwyr canolfannau dydd a’u teuluoedd. Rwyf wedi ymweld â’r holl ganolfannau dydd ledled Sir Drefaldwyn ac rwy’n ymwybodol o’r manteision niferus i iechyd a lles pobl hŷn yn ein hardaloedd gwledig o fynychu canolfannau dydd.
Mae’r canolfannau dydd yn hollbwysig i’r rhai sy’n eu defnyddio trwy gael cyfle i gymdeithasu ochr yn ochr â’r holl wasanaethau eraill sydd ar gael; fel ymolchi, trin gwallt a chyfle i fwynhau pryd da o fwyd. Mae’r canolfannau’n cynnig seibiant haeddiannol i deuluoedd y defnyddwyr hefyd.
Gyda gwasanaeth mor allweddol i gynifer yn ein cymunedau, rwy’n siomedig iawn nad yw hi’n hawdd cael gafael ar yr ymgynghoriad hwn, a dyna pam rwy’n tynnu sylw ato yn y diweddariad hwn. Mae’n ymddangos mai dim ond ar-lein mae’r manylion ar gael yn bennaf, ac felly nid yw’n hygyrch na hwylus i’r union bobl a dargedir yn yr ymgynghoriad. Mae copïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd ac yn swyddfeydd y cyngor.
Hefyd, mae’n ymddangos bod yr ymgynghoriad wedi’i anelu at ddefnyddwyr a’u teuluoedd, yn hytrach na’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’n ymgynghoriad hir iawn, a byddwn yn annog pobl i beidio â theimlo gorfodaeth i ymateb mewn ffordd benodol. Gallwch gyflwyno’ch sylwadau yn eich fformat eich hun. Credaf fod Cyngor Sir Powys wedi cymryd cam gwag o ran ymgysylltu â’r cyhoedd ar y mater hwn.
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnal nifer o gyfarfodydd bach ar hyd a lled yr ardal. Yn anffodus, rwyf i a’ch cynrychiolwyr etholedig wedi’n heithrio rhag mynychu gan Gyngor Sir Powys. Wedi dweud hynny, maen nhw wedi cynnig fy nghyfarfod ar wahân. Da chi, cyfrannwch at yr ymgynghoriad – mae’n para tan 9 Tachwedd 2016.
Os nad oes gennych chi gyfrifiadur, gallwch gymryd rhan fel a ganlyn:
• Ffonio Cyngor Sir Powys ar 0845 602 7030 a gofyn am gopi papur o’r ymgynghoriad.
• Mynd i’r llyfrgell leol a gofyn am gopi yno.
• Mynegi barn ar bapur (heb orfod llenwi arolwg) a’i anfon i:
Ymgynghoriad Gweithgareddau Dydd, Y Tîm Cyfathrebu, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys. LD1 5LG
Os oes gennych chi gysylltiad â’r we, ewch i wefan y cyngor sir yn www.powys.gov.uk am fwy o fanylion am yr ‘Ymgynghoriad ar weithgareddau dydd i bobl hŷn’. Rhaid i’r holl ymatebion gyrraedd Cyngor Sir Powys erbyn 9 Tachwedd 2016 am 5 yr hwyr fan bellaf. Byddaf yn ymateb i’r ymgynghoriad gan bwysleisio’n gryf y dylai canolfannau dydd barhau yn ein cymunedau fel gwasanaeth hollbwysig i’n to hŷn a’u teuluoedd.
Cefnogi elusennau Breast Cancer Now, Macmillan a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint
Dros y mis diwethaf, cefais y pleser o gefnogi amryw o elusennau gofal iechyd. Yn gynharach yn y mis, cefais gwmni disgyblion Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn ar ymweliad â’r Senedd, i gefnogi ymgyrch ‘Wear it Pink’ Breast Cancer Now, sy’n galw ar bobl i godi arian ar gyfer ymchwil canser yr elusen sy’n achub bywydau. Hefyd, bûm yn cefnogi Cymorth Canser Macmillan fel rhan o’u hymgyrch “bore coffi mwya’r byd” ac yn cymryd rhan yn ymgyrch “gwrandewch ar eich ysgyfaint” Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint trwy gymryd rhan ym mhrawf anadl ar-lein yr elusen er mwyn codi ymwybyddiaeth o glefyd yr ysgyfaint a’r mesurau y gallwn ni gyd eu cymryd i wirio iechyd ein hysgyfaint.
Band eang
Yn ddiweddar, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnig “cysylltedd band eang cyflym, dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru” fel rhan o Raglen Lywodraethu 2016-2021. Yn anffodus, nid yw’r Rhaglen Lywodraethu hon yn cynnwys unrhyw dargedau cyflawni, nac unrhyw fanylion o ran pryd, ble a sut mae’n bwriadu cyflawni’r amcanion clodwiw hyn o hyrwyddo cysylltedd digidol a mynediad cyffredinol i fand eang cyflym a dibynadwy. Mae bylchau o hyd o ran darpariaeth ddigidol yng nghefn gwlad Powys, a’r ffaith amdani yw nad oes gan 50 y cant o eiddo yn y Gymru wledig fynediad i fand eang cyflym iawn.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd gwerthusiad terfynol o raglen Cyflymu Cymru a oedd yn nodi pryderon sylweddol, gan gynnwys problemau o ran diffyg gwybodaeth hanesyddol a blaengar i’r cyhoedd gydag amserlen ar gyfer cyflwyno band eang cyflym iawn. Mae hyn yn rhwystredig i gannoedd o drigolion lleol sydd wedi cysylltu â mi ar fater uwchraddio band eang dros y blynyddoedd diwethaf, a byddaf yn dal i bwyso ar Lywodraeth Cymru wrth i’r rhaglen dynnu at ei therfyn.
Ffôn symudol– Y Trallwng a’r cyffiniau
Mae llawer o drigolion yr ardal wedi cysylltu â mi i gwyno am y dirywiad yn signal ffôn symudol EE yn ardal y Trallwng. EE yw fy narparwr i, ac rwyf wedi cael problemau wrth weithio yn yr ardal hon.
Mae coed wedi gordyfu yn blocio’r cysylltiad â mast Cefn Digoll. Cyn torri coed felly, rhaid cael caniatâd gan y tirfeddianwyr, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys heb sôn am Ganiatâd Heneb Cofrestredig gan Cadw a thrwydded cwympo coed gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rwyf wedi gweithio gyda’r holl sefydliadau dan sylw er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud fel bo’r angen. Os dyma yw achos y broblem, yna unwaith mae’r gwaith wedi’i gwblhau, dylai’r gwasanaeth fod wedi’i adfer. Rwy’n gwybod bod EE wedi cymryd camau i gynyddu uchder eu cyfarpar ar y mast er mwyn lleddfu’r problemau. Rwyf wedi annog yr holl sefydliadau i gydweithio’n agos â’i gilydd er mwyn datrys y broblem o golli signal, a sicrhau yr un pryd fod unrhyw waith sy’n cael ei wneud ar y coetir yn cael ei wneud mor ofalus â phosibl.
Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau pellach gan unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan hyn, ac yn barod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy e-bost.
Trafnidiaeth - Rheilffyrdd
Yn ddiweddar, cefais gyfle i holi Llywodraeth Cymru am ganslo gwasanaethau trenau ar Lein y Cambrian gydol yr haf, lle cafodd cymudwyr eu gadael ar y platfform heb fawr o rybudd (os o gwbl) na heb unrhyw wybodaeth gyhoeddus neu wasanaeth bws yn lle’r gwasanaeth trên. Mae hyn yn annerbyniol, ac rwy’n falch i mi gael cyfle i godi’r pwnc gyda Ken Skates AC, Ysgrifennydd Trafnidiaeth y Cabinet. Rwy’n falch fod Ken Skates wedi cadarnhau iddo gyfarfod â chwmni Trenau Arriva Cymru i fynegi ei anfodlonrwydd â’r gwasanaethau annigonol a gafodd cymudwyr Sir Drefaldwyn dros yr haf. Hefyd, dywedodd y byddai’n sicrhau bod y fasnachfraint rheilffyrdd i’w dyfarnu yn y dyfodol agos yn bodloni gofynion teithwyr y Canolbarth sy’n dibynnu ar lein y Cambrian ar gyfer eu hanghenion teithio bob dydd.
TB gwartheg
Un o’r llythyrau mwyaf dirdynnol a gefais y mis hwn oedd un gan deulu amaethyddol a bwysleisiodd yr effaith bersonol ac ariannol ofidus mae TB gwartheg yn ei chael ar deuluoedd fferm mewn cymunedau gwledig ar hyd a lled Sir Drefaldwyn. Cefais gyfle i ddarllen y llythyr hwn yn llawn yn Siambr y Cynulliad, yn ystod dadl ar effeithiau TB gwartheg - a does dim ffordd fwy grymus o gyfleu effeithiau’r clefyd dinistriol hwn na thrwy ddefnyddio geiriau’r rhai a effeithiwyd. Yn fy marn i, mae’n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n cymryd camau brys i fabwysiadu rhaglen gynhwysfawr, wyddonol o ddileu TB gwartheg, gan gydnabod na fydd rheolaeth lem ar wartheg a bioddiogelwch ychwanegol yn ddigon i ddileu’r clefyd. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gydweithio’n agos â ffermwyr, undebau amaethyddol, gwyddonwyr a chymunedau gwledig er mwyn datblygu strategaeth gynhwysfawr a fydd yn rhoi terfyn ar TB gwartheg unwaith ac am byth.
Sadwrn Busnesau Bach
Bob blwyddyn, rwy’n cefnogi Sadwrn Busnesau Bach, ymgyrch ddielw sy’n tynnu sylw at fusnesau bach llwyddiannus ac yn annog y DU i’w cefnogi. Cynhelir Sadwrn Busnesau Bach ar 3 Rhagfyr eleni, a byddaf yn teithio ar hyd a lled Sir Drefaldwyn yn ymweld â busnesau bach cyn y diwrnod mawr. Anogaf bob un ohonoch i gefnogi’ch stryd fawr a busnesau bach ar lawr gwlad.
Twristiaeth y Canolbarth
Yn gynharach y mis hwn, holais y Prif Weinidog am y ffaith nad yw’r un ddime goch o’r £8.3 miliwn sy’n cael ei wario gan Croeso Cymru, yn cael ei wario ar hyrwyddo’r Canolbarth fel cyrchfan benodol.
Mae gan y Canolbarth lond gwlad o bethau i’w cynnig, o lwybr yr arfordir, trefi marchnad hardd a mynyddoedd ysblennydd. Mae ganddi gefn gwlad y byddai rhanbarthau eraill o Brydain yn crefu amdano, a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn brolio gogoniannau’r Canolbarth i’r eithaf.
Mae twristiaeth yn sbardun allweddol i ddatblygiad economaidd a chreu swyddi, ac mae’n amlwg nad yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo i sicrhau’r amodau cywir ar gyfer twf yn y sector pwysig hwn ar gyfer economi’r Canolbarth.
Felly, hoffwn weld y diwydiant yn llywio’r gwaith o hyrwyddo cynigion twristiaeth unigryw’r Canolbarth. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ystyried tynnu Croeso Cymru o reolaeth y Llywodraeth, cyflwyno dull o fynd i’r afael â’r economi ymwelwyr dan law’r diwydiant er mwyn i’n diwydiant twristiaeth allu cyflawni o’i orau.
Arddangosfa – Cyhoeddwr Tref Trefaldwyn
Yn ddiweddar, cefais y fraint o lansio arddangosiad o baentiad o Sue Blower, Cyhoeddwr Trefaldwyn, gan artist dawnus lleol o’r enw Daniel Yeomans, yn y Cynulliad Cenedlaethol. Gallwch weld y paentiad mewn lle amlwg iawn yn Oriel y Senedd gydol fis Hydref. Yn y digwyddiad lansio, a fynychwyd gan rai o drigolion Trefaldwyn, cawsom gyhoeddiad arbennig iawn gan Sue a’i chlychau, yn disgrifio’r grefft o beintio gan Daniel. Mae Sue yn llysgennad arbennig i Drefaldwyn, ac roedd hi’n bleser cefnogi arlunydd dawnus lleol a rhoi llwyfan i waith celf gwreiddiol o Sir Drefaldwyn.
Cyngor Canolbarth Cymru
Mae Cyngor Canolbarth Cymru, Machynlleth, yn cynnig gwasanaeth galw heibio bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10:30 a 14:00, sy’n rhoi cyngor i bobl y Canolbarth. Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan www.advicemidwales.org.uk a’r cyfeiriad a’r rhif ffôn yw:
Cyngor Canolbarth Cymru
Y Ganolfan Ofal
Forge Road
Machynlleth
Powys
SY20 8EQ
01654 700192
Cymorthfeydd
Dyma ddyddiadau’r cymorthfeydd nesaf:
• Dydd Llun 19 Medi – Y Drenewydd
• Dydd Gwener 23 Medi – Y Trallwng
• Dydd Gwener 7 Hydref – Y Drenewydd
• Dydd Sadwrn 22 Hydref – Llanidloes
I drefnu apwyntiad, ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887 neu e-bostiwch [email protected]