Cylchlythyr Gorffennaf
Diweddariad misol Russell George AC ar ei waith yn Sir Drefaldwyn ac yn y Cynulliad
Annwyl drigolion,
Mae’n anodd cofio adeg fwy ysgytwol yng ngwleidyddiaeth Prydain. Roedd refferendwm mis diwethaf yn foment dyngedfennol yn hanes Prydain ac Ewrop. Mae ein gwlad, a phobl Powys, wedi gwneud penderfyniad hanesyddol, gan bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi lleisio eu barn, ac mae’n rhaid i’r llywodraeth bresennol, a llywodraethau’r dyfodol, weithredu i gyflawni ewyllys y bobl.
Nawr ein bod ni’n gwybod canlyniad y refferendwm hwn, mae’n hollbwysig bod llywodraethau Cymru a’r DU yn mynd ati i sicrhau bod y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei chyflawni mewn ffordd mor ddi-dor â phosibl. Hefyd, mae gan ACau ddyletswydd i sicrhau bod pobl Cymru’n cael y trefniadau ariannu gorau posibl gan lywodraeth y DU. Rhaid i ni geisio diogelu swyddi, cael bargen dda i barhau i fasnachu gyda gwledydd eraill yr UE a dod i gytundeb ynglŷn â sut y byddwn yn darparu ein cyllid busnes a chymunedol pan fydd trefniadau presennol yr UE yn dod i ben.
Yn y Senedd, roeddwn i wrth fy modd yn cael fy ethol yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wythnos ddiwethaf. Mae hon yn rôl estynedig i mi a byddaf yn gallu craffu mwy ar bolisi’r Llywodraeth ar yr economi, trafnidiaeth, seilwaith digidol a sgiliau, ynghyd â gweithio ar lefel drawsbleidiol i sicrhau bod safbwyntiau pobl Cymru’n cael eu cynrychioli.
Fel arfer, byddaf yn parhau i gynrychioli pobl Sir Drefaldwyn hyd eithaf fy ngallu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’m swyddfa. Mae gen i swyddfeydd yn 13 Parker’s Lane, Y Drenewydd ac yn 20 Stryd Fawr, Y Trallwng. Fy rhif ffôn yw 01686 610887 neu gallwch chi anfon e-bost at [email protected] . Mae mwy o fanylion am eitemau newyddion diweddar a’r materion rwyf wedi bod yn gweithio arnyn nhw isod.
Cofion gorau,
Russell George
Yr Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn
Y Mis Hwn yn y Senedd
Mae fy rolau newydd fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, trafnidiaeth, diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth ac fel cadeirydd un o bwyllgorau allweddol y Cynulliad wedi fy ngalluogi i graffu’n fwy manwl ar weithredoedd Llywodraeth Cymru a chyflwyno buddiannau Sir Drefaldwyn a’r Canolbarth.
Dros y mis diwethaf, rwyf wedi codi sawl mater yn y Cynulliad sy’n effeithio ar Gymru a Sir Drefaldwyn. Yn fy rôl fel llefarydd y Ceidwadwyr ar chwaraeon, rwyf wedi cael y pleser o ganmol perfformiad ein bechgyn yn Ffrainc yn y Cynulliad, yn ogystal ag arwain trafodaeth ar sut y gall yr Ewros gyfrannu at wella iechyd y cyhoedd a chynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Cefais gyfle i godi sawl mater lleol hefyd. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd y Llywodraeth mewn perthynas â Ffordd Osgoi Llanymynech-Pant, hyrwyddo a diogelu’r diwydiant chwaraeon modur yng Nghymru, sefydlu uned trin canser symudol ar gyfer pobl mewn ardaloedd gwledig, a phryderon ynglŷn â mynediad at wasanaethau strôc yn cael ei symud ymhellach o boblogaeth y Canolbarth.
Mae fy areithiau yn y Senedd a’m cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet i’w gweld yma.
Chwaraeon Modur yng Nghymru
Rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am sicrwydd ynglŷn â dyfodol hirdymor ralïo mewn coedwigoedd, sydd dan fygythiad difrifol oherwydd y cynnydd mewn costau atgyweirio ffyrdd sy’n cael ei gynnig gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Byddai’r newidiadau arfaethedig hyn yn dyblu costau defnyddio a chynnal a chadw ffyrdd Cymru.
Fis diwethaf, codais y mater gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates AC, a gofynnais iddo a fyddai’n ymyrryd mewn trafodaethau parhaus i gytuno ar gontract newydd rhwng CNC a’r Gymdeithas Chwaraeon Modur. Cadarnhaodd Mr Skates y byddai’n rhan o’r trafodaethau gyda CNC ynglŷn â’r costau, a dywedodd ei fod yn ffyddiog y gellid dod i gyfaddawd sy’n dderbyniol i bawb.
Mae ralïo mewn coedwigoedd yn cyfrannu £15 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, gyda chwaraeon modur yn cyfrannu £3 biliwn y flwyddyn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy gan Mr Skates ynglŷn â’i drafodaethau gyda CNC, gan obeithio’n fawr y bydd yr ansicrwydd a’r gofid presennol yn y sector hwn yn dod i ben.
Gwasanaethau Iechyd yn Sir Drefaldwyn
Ar 15 Mehefin, pwysais ar Lywodraeth Cymru yn y Senedd i sefydlu gwasanaeth trin canser symudol i drin cleifion canser mewn ardaloedd gwledig yn eu cymunedau lleol. Byddai hyn yn galluogi bod unigolion sy’n dioddef o ganser yn cael eu trin yn agosach at eu cartrefi.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i fwy nag un o bob pump o bobl Cymru aros mwy nag 8 wythnos i gael diagnosis. Mae angen gwneud newidiadau mawr i’r ffordd rydym yn darparu gofal canser critigol. Yn fy marn i, byddai creu Gwasanaeth Trin Canser Symudol yn lleihau amseroedd teithio yn sylweddol ar gyfer cleifion sy’n mynd i glinigau ac sy’n derbyn cemotherapi, a dylai Llywodraeth Cymru ystyried gwasanaeth o’r fath yn ffordd o weddnewid gofal cleifion canser yn ardaloedd gwledig y Canolbarth.
Yn gynharach yn y mis, gofynnais i’r Prif Weinidog am y camau roedd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i wella mynediad at wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn. Yn benodol, gofynnais am golli mynediad at driniaeth strôc arbenigol yn Ysbyty Brenhinol Amwythig a’r penderfyniad i symud gwasanaethau i Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford. Hefyd, gofynnais a oedd Llywodraeth Cymru yn trafod â Llywodraeth y DU ynglŷn â pharhau â’r gwasanaethau hanfodol hyn ar gyfer cleifion strôc yn y Canolbarth. Yn anffodus, ni roddodd y Prif Weinidog unrhyw sicrwydd yn ei ateb i’r cwestiynau hyn.
Cefais gyfle hefyd i ofyn i’r Prif Weinidog am y materion pwysig sy’n deillio o ddirywiad meddygfeydd teulu ym Mhowys, gan ofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i feddygfeydd teulu er mwyn ysgogi recriwtio yn ardaloedd gwledig y Canolbarth. Yn ôl y Prif Weinidog, yn 2015-16 mae chwe phartner newydd ac 11 o feddygon teulu newydd wedi dechrau gweithio ym Mhowys.
Newidiadau i wasanaeth Swyddfa Post Symudol Tregynon
Efallai eich bod yn ymwybodol fy mod i eisoes wedi codi pryderon ynglŷn â swyddfeydd post yn cau. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â swyddfa'r post ers sawl blwyddyn ynghylch gwasanaeth gwael ac annibynadwyedd yn y gorffennol a’r angen i gynyddu nifer yr ymweliadau â phentrefi eraill. Er nad wyf yn gwbl fodlon â’r amserlen newydd, gan fod rhai ardaloedd bellach yn cael llai fyth o ymweliadau, rwy’n falch bod nifer y pentrefi sy’n cael eu gwasanaethu wedi cynyddu. Roeddwn i’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol i mi gynnwys yr amserlen ddiweddaraf isod:
Aber-miwl Dydd Llun (14:30 – 15:30) Dydd Iau (14:30 – 15:30)
Cemaes Dydd Mawrth (10:15 – 11:00) Dydd Gwener (10:15 – 11:00)
Cwmlline Dydd Mawrth (09:15 – 10:00) Dydd Gwener (09:15 – 10:00)
Ffordun Dydd Llun (11:15 – 12:00) Dydd Iau (11:15 – 12:00)
Tre’r-llai Dydd Llun (10:15 – 11:00) Dydd Iau (10:15 – 11:00)
Trefeglwys Dydd Mawrth (14:00 – 14:45) Dydd Gwener (14:00 – 14:45)
Llanbrynmair Dydd Mawrth (11:30 – 12:30) Dydd Gwener (11:30 – 12:30)
Castell Caereinion Dydd Llun (09:00 – 10:00) Dydd Iau (09:00 – 10:00)
Sarn Dydd Llun (13:15 – 14:15) Dydd Iau (13:15 – 14:15)
Torri Glaswellt a Chynnal a Chadw Tir ym Mhowys
Rwyf wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Chyngor Sir Powys ynghylch gwaith cynnal a chadw tir gwael yr haf hwn. Mae’n annerbyniol bod glaswellt wedi bod yn gordyfu ledled y sir. Yn ogystal ag edrych yn flêr, mae’n gallu bod yn beryglus i yrwyr, cerddwyr a defnyddwyr y ffyrdd eraill.
Yn fy marn i, mae Cyngor Sir Powys wedi lleihau nifer y toriadau glaswellt dros y blynyddoedd i bwynt sy’n annerbyniol, ac rwyf wedi gofyn iddyn nhw adolygu’r polisi i sicrhau bod glaswellt yn cael ei dorri i lefelau boddhaol.
Mae’n ymddangos hefyd nad yw’r contractwr a oedd yn llwyddiannus yn ei gais i gyflawni’r gwaith ar ran y cyngor wedi bod yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract hwnnw. Mae yna gwestiynau clir ynglŷn â gallu’r contractwr i gyflawni’r gwaith a pham y gwnaeth y cyngor ei benodi yn y lle cyntaf. Byddaf yn trafod y mater gyda’r Cynghorydd Brunt, Aelod y Cabinet dros Briffyrdd a’r Amgylchedd yng Nghyngor Sir Powys.
Cynnydd Band Eang Cyflym Iawn
Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod â Chyfarwyddwr Rhaglen Cyflymu Cymru ar gyfer Grŵp BT, ac ers hynny mae wedi anfon e-bost ataf yn amlinellu cynnydd y cynllun cyflwyno band eang yn Sir Drefaldwyn. Ar hyn o bryd, mae dros hanner y cartrefi a’r busnesau yn Sir Drefaldwyn yn gallu manteisio ar wasanaeth band eang cyflym iawn. Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu i 90% erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Efallai eich bod yn ymwybodol o’m rhwystredigaeth yn y gorffennol a’r ffaith fy mod i wedi codi materion yn ymwneud ag arafwch cyflwyno’r gwasanaeth yn ardaloedd gwledig Cymru. Yn ogystal, mae gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu rhwydweithiau ffeibr yn y rhan fwyaf o gymunedau yn Sir Drefaldwyn rhwng nawr a haf 2017. Mae’r cymunedau a’r amcangyfrifon o bryd y bydd y rhwydwaith ffeibr yn cael ei gyflwyno wedi’u rhestru isod. Noder bod y cymunedau a restrir isod yn cyfeirio at y rhanbarthau ehangach yn yr ardaloedd hyn. Mae rhai trefi, er enghraifft, y Drenewydd, yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn barod.
Aber-miwl – hydref 16
Caersws – hydref 16
Carno – gwanwyn 17
Castell Caereinion – haf/hydref 16
Cemmaes Road – gaeaf 16/17
Yr Ystog – gaeaf 16/17
Ffordun – hydref 16
Cegidfa – hydref 16
Ceri – gaeaf 16/17
Llanbrynmair – hydref 16 - gwanwyn 17
Llanfyllin – gwanwyn 17
Llanidloes – haf/hydref 16
Llanrhaeadr – gaeaf 16/17
Llansantffraid – hydref 16 a gwanwyn 17
Llansilin – hydref 16
Llanymynech – hydref 16
Machynlleth – haf 16
Meifod – gaeaf 16/17
Trefaldwyn – hydref 16
Y Drenewydd – haf 16 a gwanwyn 17
Pennant – hydref 16
Trefeglwys – gaeaf 16/17
Tregynon – hydref 16
I weld a yw ffeibr eisoes ar gael i chi, cliciwch yma. Os yw band eang ffeibr ar gael yn eich ardal, bydd angen i chi archebu gwasanaeth ffeibr gan y darparwr gwasanaeth rhyngrwyd o’ch dewis. Bydd y canllaw hwn gan Lywodraeth Cymru yn eich helpu chi drwy’r broses. Os na allwch chi gael mynediad at fand eang ffeibr yn eich ardal ar hyn o bryd, cofiwch wirio’r wefan yn rheolaidd.
Os na allwch chi fanteisio ar ffeibr fel rhan o raglen Cyflymu Cymru, mae gennych chi opsiynau eraill i’w hystyried. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu cynllun o’r enw Allwedd Band Eang Cymru, sy’n agored i fusnesau ac unigolion ac sy’n gallu cynnwys cyfraniad o hyd at £800 tuag at ddatrysiad arall. Mae’r manylion ar gael yma, a byddwn i’n hapus i weithio gydag unrhyw grŵp cymunedol a hoffai ystyried ei opsiynau.
Yn olaf, mae BT yn barod i fuddsoddi ar y cyd â chymuned i ddarparu gwasanaeth band eang ffeibr. Gall cymunedau gofrestru eu diddordeb yma.
Cymorthfeydd
Cymorthfeydd cyngor sydd ar y gweill:
Machynlleth Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf (10:00 – 12:00)
Y Drenewydd Dydd Gwener 29 Gorffennaf (10.00 – 1.00)
Dolfor Dydd Sadwrn 6 Awst (1.00 – 2.30)
Trefeglwys Dydd Sadwrn 6 Awst (3.00 – 4.30)
Cegidfa Dydd Iau 11 Awst (1.00 – 3.00)
Y Trallwng Dydd Iau 11 Awst (11.00 – 12.30)
Llanfyllin Dydd Sadwrn 13 Awst (1.00 – 3.00)
Carno Dydd Sadwrn 20 Awst (3.30 – 5.00)
Trefaldwyn Dydd Sadwrn 20 Awst (1.00 -3.00)
Am wybodaeth bellach ac os hoffech wneud apwyntiad, ffoniwch y swyddfa ar 01686 610887 neu e-bostiwch [email protected]