Cylchlythyr mis Tachwedd
Annwyl bawb,
Gweler isod y newyddion diweddaraf am y materion yr ydw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw dros y mis diwethaf. Os oes gennych chi unrhyw adborth, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bostio: [email protected] neu drwy ffonio 01686 610887.
Ffordd Osgoi y Drenewydd
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd yn symud ymlaen â’r dewis y mae’n ei ffafrio ar gyfer ffordd osgoi y Drenewydd, ac y gall gwaith adeiladu’r ffordd osgoi gychwyn bellach. Rwy’n deall y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn ystod y mis nesaf, ac y bydd y ffordd osgoi yn cael ei chwblhau erbyn diwedd 2017.
Traffig y Trallwng
Pythefnos yn ôl, roeddwn wrth fy modd yn cael croesawu Edwina Hart, AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru i ymweld â’r Trallwng i drafod y pryderon parhaus am ddiogelwch cerddwyr a’r newidiadau arfaethedig i gynllun y ffordd er mwyn gwella system un ffordd y dref.
Y llynedd, cynhaliwyd arolwg o bobl yn ardal y Trallwng, yn gofyn am eu barn ar system unffordd y dref. Ymddengys mai’r teimlad cyffredinol yw y byddai nifer o newidiadau yn helpu i wella llif y traffig yn y dref gan gynnwys y syniad o wneud Stryd Brook yn system ddwyffordd.
Roeddwn y falch bod y Gweinidog yn derbyn y syniad o wneud newidiadau ac mae wedi ymrwymo ei swyddogion i adolygu’r cynigion i wneud Stryd Brook yn system draffig ddwyffordd unwaith eto a hynny erbyn mis Rhagfyr 2016.
Addysg
Rwyf wedi derbyn copi o lythyr Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Powys at Sbectrwm, ei ymgynghorwyr allanol, a gynhaliodd ymarfer ymgynghori yn ddiweddar ar ddyfodol darpariaeth addysg uwchradd yng Ngogledd Powys.
Yn ystod y broses ymgynghori, cefais adroddiadau gan etholwyr pryderus ynglŷn â’r ffordd amhroffesiynol y cynhaliodd Sbectrwm rhai o’r sesiynau galw heibio. Yn ôl rhai rhieni pryderus, nid oeddynt yn gadael i rieni ofyn cwestiynau, mynegi eu safbwyntiau na chymryd rhan yn y cyfarfod.
Felly roeddwn yn bryderus o dderbyn copi o lythyr gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys, wedi’i gyfeirio at Reolwr Gyfarwyddwr Sbectrwm, lle’r oedd y Prif Weithredwr fel petai’n diystyru pryderon y rhieni am y broses ac yn ymddiheuro i Sbectrwm am iddyn nhw gael eu dal yn gyfrifol am fethiannau’r sefydliad yn y cyfarfod.
Mae yna nifer o gwestiynau y bydd angen i arweinwyr y Cyngor eu hateb, gan gynnwys pa dystiolaeth sydd gan y Prif Weithredwr i wneud yr awgrymiadau hyn, a pham mae’r Cyngor yn teimlo ei fod yn gorfod ymddiheuro i’w ymgynghorwyr. Gobeithio y bydd cyfle i mi godi’r mater hwn yn uniongyrchol â’r Prif Swyddog Gweithredol.
Iechyd
Recriwtio Meddygon Teulu
Mae’r broses o recriwtio a chadw meddygon teulu yn prysur droi’n argyfwng i’r GIG ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Nid yw un o bob tri o swyddi meddygon teulu dan hyfforddiant ledled y Deyrnas Unedig wedi’u llenwi ac yn ôl Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol mae dros 500 o feddygfeydd mewn perygl o gau, oherwydd bod cynifer o feddygon mor agos at oedran ymddeol, ac nad oes digon o feddygon iau i lenwi’r swyddi gwag.
Yn ddiweddar, cefais gyfarfod â meddygon teulu a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i drafod y mater o recriwtio meddygon teulu yn y Canolbarth.
Ar hyn o bryd mae yna bum meddygfa yn Sir Drefaldwyn yn ceisio recriwtio meddygon teulu. Gan fod nifer o feddygon teulu wedi ymddeol, mae sawl meddygfa yn gorfod gwneud newidiadau.
Er enghraifft, mae’r feddygfa yn y Drenewydd wedi bod yn ceisio recriwtio ers tair blynedd heb unrhyw lwyddiant. O ddydd Llun 2 Tachwedd, os ydych chi’n un o gleifion Meddygfa’r Drenewydd a‘ch bod yn teimlo eich bod angen gofal meddygol ar yr un diwrnod, bydd gwasanaeth brysbennu ShropDoc, a arweinir gan nyrsys, yn ymdrin â’ch galwad. Meddygon teulu yn y feddygfa oedd yn darparu’r gwasanaeth hwn yn flaenorol.
Ym Machynlleth, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cydweithio’n agos â’r feddygfa er mwyn mynd ati i recriwtio staff priodol gan gynnwys meddygon teulu er mwyn cynnal meddygfa ddiogel sy’n gweithredu’n llawn. Fodd bynnag, os oes gennych chi unrhyw bryderon neu os hoffech godi unrhyw faterion, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Mae’r prinder o feddygon teulu yn genedlaethol, ynghyd â’r heriau lleol o recriwtio meddygon teulu yn y Canolbarth, yn amlwg yn fater llawer ehangach y mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fynd i’r afael ag ef. O’m rhan i, rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn hyrwyddo swyddi gwag ar gyfer meddygon teulu yn y Canolbarth ar ei gwefan i ategu ymdrechion cyfredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Deintyddion
Yn ddiweddar, cefais gyfarfod â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sydd wedi fy sicrhau bod yna gynlluniau ar y gweill i barhau â gwasanaeth deintyddol y GIG yn Llanfyllin a bod cynlluniau ar y gweill i gael deintydd newydd ar gyfer Meddygfa Ddeintyddol Machynlleth erbyn y flwyddyn newydd fan bellaf.
Os ydych chi’n cael trafferth cofrestru â deintydd y GIG, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Signal Ffonau Symudol
Ers i mi roi sylw i’r mater o ddiffyg signal ffonau symudol yn fy nghylchlythyr ym mis Hydref, rwyf wedi cael llythyrau a negeseuon e-bost di-ri yn cwyno am ddirywiad y signal.
O ganlyniad, rwyf wedi galw ar weithredwyr ffonau symudol, yn enwedig EE, i fynd i’r afael â phroblem signal ffonau symudol yng Ngogledd Powys ar unwaith.
Mewn ymateb i’r cwynion niferus a gefais mewn perthynas â’r anawsterau y mae cwsmeriaid EE yn y canolbarth wedi’u cael, yn enwedig yn ardaloedd y Drenewydd a Llanfyllin, rwyf hefyd wedi cysylltu ag Ofcom, y rheoleiddiwr telathrebu, er mwyn tynnu sylw at y problemau y mae’r trigolion wedi’u cael.
Deallaf y gellir priodoli’r problemau diweddar i waith EE yn parhau i ddatgomisiynu mastiau ffonau symudol yn dilyn cytundeb rhwng EE a Three i rannu mastiau, a’r gwaith o adleoli’r seilwaith i gefnogi 4G.
Mae Ofcom yn fy hysbysu bod EE yn bwriadu cymryd camau i leddfu’r problemau diweddar yn y Drenewydd drwy ddarparu capasiti ychwanegol ac mae’n ystyried y posibilrwydd o ail-gomisiynu mast.
Ddydd Gwener, byddaf yn galw cyfarfod o weithredwyr ffonau symudol ar gyfer cynrychiolwyr y gymuned i drafod ffyrdd o wella’r signal yn Sir Drefaldwyn. Credaf ei bod yn bwysig i ddod â gweithredwyr y rhwydwaith i’r Canolbarth fel y gallan nhw glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr y gymuned am y trafferthion o ddydd i ddydd y mae trigolion yn eu cael wrth geisio gwneud un alwad ffôn syml neu anfon neges destun.
Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi ynglŷn â’r cyfarfod hwn yn fy nghylchlythyr ym mis Rhagfyr, ond yn y cyfamser, os ydych chi’n parhau i gael problemau gyda signal ffôn symudol neu os yw eich gwasanaeth wedi dirywio, hoffwn glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bost: [email protected] neu drwy ffonio: 01686 610887 i roi gwybod am unrhyw broblemau.
Cymorthfeydd galw heibio ar Ddydd Sadwrn
Ar hyn o bryd rwy’n cynnig gwahanol fath o gymhorthfa cynghori. Fe fyddaf i a’m tîm yn yr ardaloedd hyn rhwng 10.30am a 12.30pm ar y dyddiadau canlynol yn siarad â phobl ar garreg y drws am y materion sy’n effeithio arnyn nhw. Edrychaf ymlaen at siarad â chi yn fuan ond os hoffech wneud apwyntiad penodol mae croeso i chi gysylltu â mi ar 01686 610887.
14/11/15 – Arddlîn
21/11/15 – Ceri
28/11/15 – Cegidfa
05/12/15 – Y Trallwng
12/12/15 – Meifod