Annwyl breswylydd,
Gweler isod y wybodaeth ddiweddaraf am y materion sydd wedi cael fy sylw dros y mis diwethaf.
Yn fyr, hoffwn ddiolch i bawb sydd, yn garedig iawn, wedi cefnogi fy apêl i helpu teuluoedd sy’n ffoi o wledydd sy’n wynebu erchyllterau rhyfel. Cafwyd ymateb gwych a chychwynnodd un grŵp o Sir Drefaldwyn rai wythnosau yn ôl am y ffin rhwng Awstria a Hwngari i ddanfon y rhoddion.
Fel arfer, mae croeso i chi gysylltu â mi os hoffech ymateb i’r cylchlythyr neu os hoffech i mi helpu gydag unrhyw beth.
Iechyd
________________________________________
Gwasanaethau Iechyd yn Swydd Amwythig a’r Canolbarth
Mae bwrdd rhaglen Dyfodol Ffit y GIG wedi gohirio’r penderfyniad o enwi’r safle o ddewis ar gyfer canolfan argyfwng a gwasanaethau iechyd eraill. Penderfynodd y Bwrdd, a gafodd y gwaith o asesu amrywiaeth o sefyllfaoedd ar gyfer newid gofal argyfwng, gofal wedi’i gynllunio a gofal brys yn Swydd Amwythig a’r Canolbarth, y dylid gwneud mwy o waith manwl ar yr heriau ariannol a’r heriau o ran staff cyn y gellir ymgynghori ar y dewis cyntaf o ran dyfodol gwasanaethau GIG yn ein hardal.
Yn fy marn i, mae angen newidiadau i’n gwasanaethau iechyd, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod y dewisiadau cywir ar gyfer pobl y Canolbarth. Er y bydd asesiad manwl yn cael ei wneud cyn i unrhyw opsiwn dewisol yn cael ei gyflwyno, mae'n amlwg fod rhaid i benderfyniad cael ei wneud ar y cyfle cyntaf ar sut i fynd i'r afael â'r diffyg yn Ymddiriedolaeth Ysbyty Amwythig a Telford orau. Erbyn hyn mae ofnau na fydd ysbytai Swydd Amwythig yn gallu ymdopi â phwysau'r gaeaf sy'n amlwg yn bryder.
Mae newidiadau yn Swydd Amwythig yn digwydd i wella gwasanaethau gofal iechyd. Ond mae unrhyw ail-gyflunio dal i ddarparu rhywfaint o ansicrwydd. Mae pobl y Canolbarth am i wasanaethau gael eu cadw neu eu cryfhau a rhaid i wasanaethau gael eu newid mewn modd sy'n rhoi'r canlyniad gorau posibl i'r rhai ohonom yn Sir Drefaldwyn sy'n dibynnu ar wasanaethau ar draws y ffin.
Heddiw, rwyf wedi cwrdd â nifer o feddygon teulu Sir Drefaldwyn a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i drafod y ddarpariaeth gofal iechyd.
Yn ddiweddar, rydw i wedi cynnal fy arolwg iechyd fy hun hefyd, a gobeithio y bydd y canlyniadau yn helpu i gryfhau sefyllfa trigolion y Canolbarth pan fyddaf yn cyflwyno fy nghanfyddiadau. Rydw i wedi cael ymateb arbennig hyd yn hyn gyda thros 2000 o bobl yn ymateb, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r mater hwn i bobl Sir Drefaldwyn.
Mae’n bosibl llenwi’r holiadur o hyd yn www.russellgeorge.com/health
Addysg
________________________________________
Ad-drefnu Ysgolion Uwchradd
Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi penderfynu comisiynu adroddiad pellach er mwyn ymchwilio i waith ad-drefnu ysgolion uwchradd y sir yn y dyfodol. Felly, nawr bydd Adran Addysg y Cyngor Sir yn asesu achos busnes ar gyfer Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg a’r effaith ganlyniadol ar addysg gynradd iaith Gymraeg y sir cyn gwneud unrhyw benderfyniad. O ganlyniad, dywedir wrthym y bydd unrhyw benderfyniad ar ysgolion uwchradd y sir yn cael ei ohirio tan Gwanwyn 2016 o leiaf.
Mae’r cynigion ar gyfer darpariaeth addysg uwchradd Gogledd Powys yn y dyfodol o bwys mawr i rieni, disgyblion a chymunedau ar hyd a lled Powys. Yn fy marn i, mae’r ffordd y mae’r Cyngor Sir, a’i ymgynghorwyr, Sbectrwm, wedi cynnal y broses hon wedi bod yn sigo’r hyder sydd gennym yn y broses ac wedi achosi ansicrwydd i rieni a phlant. Mynegwyd rhywfaint o anfodlonrwydd yn y broses ymgynghori hefyd, ac mae hwn yn fater rydw i’n bwriadu ei godi gyda Chomisiynydd Plant Cymru. Rydw i’n mynd i holi am y £24,000 a gafodd ei wario ar ymgynghoriad allanol a gwerth am arian yr ymgynghoriad hwnnw.
Mae’n hanfodol bellach bod pawb sy’n ymwneud â’r mater yn cael digon o gyfle i gyfrannu’n llawn at y drafodaeth ar ddyfodol ein system addysg ym Mhowys. Yn fy marn i, dylai pob plentyn gael y dewis o gael ei addysgu mewn ysgol leol yn yr iaith o’i ddewis a, dros y misoedd nesaf, wrth i Gyngor Sir Powys ystyried ei achos busnes, byddaf yn pwyso arnyn nhw i sicrhau bod yr egwyddor hon yn cael blaenoriaeth a’u bod yn ystyried pethau eraill hefyd nid dim ond dilysrwydd ariannol darpariaeth ysgol uwchradd yn unig wrth ddod i benderfyniad.
Cymunedau
________________________________________
Cyllid teg ar gyfer Powys
Rai wythnosau yn ôl, cefais gyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth yn y Senedd yn galw am setliad cyllid teg i Bowys ar ôl sawl blwyddyn yn olynol o danariannu. Am 8 mlynedd yn olynol, o’r 22 o awdurdodau lleol, mae Cyngor Sir Powys wedi cael un o’r setliadau cyllid gwaethaf ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru.
Rydw i’n credu ers sawl blwyddyn y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r fformiwla y mae’n ei defnyddio i benderfynu faint mae pob cyngor yn ei gael. Mae yna ddiffyg sylfaenol yn y system gyfredol gan nad yw’n ystyried yn briodol yr heriau o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol dros ardaloedd gwledig eang yn y Canolbarth.
Cadarnhaodd seminar arbennig ar y gyllideb a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Powys fod y tanariannu ym Mhowys wedi gadael yr awdurdod yn wynebu diffyg o £27 miliwn mewn cyllid dros y tair blynedd nesaf a byddai cyllideb Powys yn £16 miliwn yn uwch petai’r sir wedi cael y swm cyfartalog ar gyfer Cymru.
Dros y naw mlynedd ddiwethaf, mae cyllid Powys wedi cynyddu 0.5% o gymharu â’r 9.8% ar gyfartaledd ar gyfer Cymru. Mae Caerdydd wedi cael cynnydd o 19% mewn cyllid yn ystod yr un cyfnod.
Bancio lleol
Gallaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am nifer o faterion yn ymwneud â gwasanaethau bancio yn lleol.
Yr wythnos ddiwethaf, cefais gyfarfod â Jonathan Brenchley, Pennaeth Cysylltiadau Corfforaethol, ynghyd â Maer Llanidloes, y Cynghorydd Phyl Davies a’r Cynghorydd Graham Jones, Cynghorydd Sir Blaen Hafren, er mwyn gofyn am sicrwydd y byddai Cangen Barclays Llanidloes yn aros ar agor.
Ar hyn o bryd mae’r gangen ar agor bob dydd o’r wythnos rhwng 10am a 4pm ond o ddydd Llun 30 Tachwedd, bwriada Barclays leihau’r oriau agor i ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn unig.
Mae’n destun siom bod yr oriau agor yn cael eu lleihau, yn enwedig o gofio bod trigolion a busnesau'r dref eisoes wedi gweld canghennau HSBC a NatWest yn cau. Fodd bynnag, yn y cyfarfod, cadarnhaodd Barclays nad oedd ganddyn nhw unrhyw fwriad i gau’r gangen.
Bydd y banc ar agor rhwng 10am a 4pm ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener a phan fo Gŵyl Banc yn ystod yr wythnos, bydd y gangen ar agor ar ddydd Mawrth.
Hefyd, mae NatWest, yn ddiweddar, wedi cadarnhau'r amseroedd ar gyfer eu gwasanaeth banc symudol a gynhelir bob dydd Llun yn y lleoliadau canlynol: -
Trefaldwyn - y tu allan i neuadd y dref – 10.30yb - 11:20yb
Llanidloes - Maes Parcio Spar – 12.30yp – 1.30yp
Llanfair Caereinion - Maes Parcio Llew Du – 2.30yp – 3.15yp
Y Celfyddydau
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal cymhorthfa cyngor cyllido yn yr Oriel Davies, y Drenewydd ar ddydd Gwener, Hydref 23ain.
Mae Cyngor y Celfyddydau yn gobeithio y gall helpu gynyddu’r maint o fuddsoddiad celfyddydau yng Ngogledd Powys felly os ydych chi'n artist neu sefydliad sydd â cynnig prosiect neu os hoffech archebu un i un sesiwn gyda chynghorydd gan Gyngor y Celfyddydau, cysylltwch â nhw ar 0845 8734 900 neu e-bostiwch [email protected]
Telecoms
________________________________________
Band eang
Fis diwethaf, roeddwn yn cadeirio cyfarfod yn Nghwesty’r Elephant & Castle yn y Drenewydd i drafod datblygiad Cyflymu Cymru. Roedd arweinwyr y gymuned o ardaloedd heb ffeibr yn bresennol hefyd, yn ogystal â chynrychiolwyr o grwpiau busnes lleol.
Mae’r rhan fwyaf o’r llythyrau rydw i’n eu cael yn dal i fod gan drigolion a busnesau sy’n teimlo’n rhwystredig ac sy’n gofyn am fwy o eglurder gan BT ynglŷn â phryd y byddan nhw’n cael mynediad at fand eang ffeibr.
Roedd y cyfarfod yn gynhyrchiol ac roedd yn galonogol clywed bod y prosiect ar y trywydd iawn gyda 53% o safleoedd yn Sir Drefaldwyn eisoes yn cael band eang ffeibr. Ond yn amlwg, mae angen parhau i roi pwysau arnyn nhw.
Fy rôl i yw craffu ar Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu targed o ran darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 96% o safleoedd yng Nghymru erbyn Gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Oherwydd natur wledig Sir Drefaldwyn, rydw i’n bryderus y gall cyfran uchel o’r 4% sy’n weddill fod yn Sir Drefaldwyn, ac rydw i’n awyddus i sicrhau nad yw’r safleoedd hyn yn cael eu hanghofio. Os na all pobl fanteisio ar y prosiect, hoffwn iddyn nhw gael gwybod cyn gynted â phosibl fel y gellir ymchwilio i ymarferoldeb atebion eraill fel band eang diwifr, lloeren a symudol.
O ganlyniad i rai o’r pryderon a fynegwyd yn y cyfarfod am y ffordd y mae BT yn cyfathrebu â thrigolion, mae BT wedi cytuno i wneud gwelliannau i’w wefan a darparu mwy o fanylion i ddefnyddwyr ar y graddau y rhagwelir y bydd y gwasanaeth gwell ar gael.
Os hoffech fwy o wybodaeth am eich amgylchiadau penodol, byddwn yn eich annog i fynd i wefan Cyflymu Cymru yn www.superfast-cymru.com neu mae croeso i chi gysylltu â mi a byddaf yn gwneud ymholiadau ar eich rhan.
Signal Ffonau Symudol
Ar ôl cyfres faith o gwynion gan drigolion am y dirywiad i signal ffonau symudol, rydw i wedi galw ar weithredwyr ffonau symudol i ymdrechu ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion yn ymwneud â signal ffonau symudol yn Sir Drefaldwyn. O ganlyniad, byddaf yn galw cyfarfod o weithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol fis nesaf, er mwyn i gynrychiolwyr y gymuned drafod ffyrdd y gellir gwella signal yn y Canolbarth.
Credaf ei bod yn bwysig i weithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol ddod ynghyd yn y Canolbarth er mwyn iddyn nhw glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr y gymuned pa anawsterau y mae trigolion yn eu cael o ddydd i ddydd wrth geisio gwneud galwad ffôn syml neu anfon neges destun. Mae EE, Three a Vodafone wedi cytuno i fynychu ond dydw i ddim wedi clywed gan O2 hyd yn hyn.
Yn y blynyddoedd diweddar, rydyn ni wedi clywed llawer am lansio gwasanaethau 4G newydd a chytundebau newydd i rannu rhwydweithiau rhwng y gweithredwyr sydd i fod wedi gwella’r signal a’r cyflymder, ond y gwir yw bod y signal mewn rhai ardaloedd gwledig wedi gwaethygu.
Os ydych chi’n cael problemau parhaus gyda signal neu os yw’r gwasanaeth wedi dirywio, hoffwn glywed gennych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bost [email protected] neu ffoniwch 01686 610887 i adrodd unrhyw broblemau.
Trafnidiaeth
________________________________________
Yn ddiweddar, rydw i wedi codi mater diogelwch ar y ffyrdd gyda’r Prif Weinidog yn dilyn adroddiad y Road Safety Foundation a adroddodd mai’r A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth; yr A458 rhwng y Trallwng; a’r A483 rhwng Llanymddyfri a’r Drenewydd yw rhai o’r ffyrdd peryclaf ym Mhrydain.
Dros nifer o flynyddoedd, rydw i wedi codi mater diogelwch ar y ffyrdd ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau i rwydwaith y ffyrdd ar hyd a lled y Canolbarth.
Mae Christopher Salmon, Heddlu Dyfed Powys a’r Comisiynydd Troseddu, eisoes wedi arwain y gwaith o leihau nifer y marwolaethau beiciau modur ar ffyrdd y canolbarth drwy brosiectau sy’n ceisio gwella ymddygiad modurwyr. Felly roeddwn yn falch bod y Prif Weinidog wedi ymrwymo i wella diogelwch ar y ffyrdd yn y Canolbarth drwy raglenni sy’n darparu hyfforddiant ychwanegol i feicwyr modur a grwpiau eraill risg uchel sy’n defnyddio’r ffyrdd; gosod mwy o arwyddion; a gwneud pobl yn fwy ymwybodol o rai o’r peryglon o yrru yn y Canolbarth.
Cymorthfeydd
________________________________________
Byddaf yn yr ardaloedd canlynol dros yr wythnosau nesaf, felly cofiwch gysylltu â mi os hoffech gyfarfod i godi unrhyw fater. Gallwch ffonio fy swyddfa ar 01686 610887 i wneud apwyntiad yn fy swyddfa yn y Drenewydd neu'r Trallwng.
Dydd Sadwrn 24 Hydref – Y Drenewydd, 10.30am – 12.30pm
Dydd Sadwrn 31 Hydref – Tregynon, 10.30am – 12.30pm
Dydd Gwener 6 Tachwedd - Morrisons y Drenewydd - 5pm - 7pm
Dydd Sadwrn 7 Tachwedd – Aberriw – 10.30am – 12.30pm
Dydd Sadwrn 14 Tachwedd – Yr Arddlin – 10.30am – 12.30pm