Annwyl breswylydd,
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r gwyliau haf. Er bod y Cynulliad wedi cael toriad dros yr haf, roedd mis Awst yr un mor brysur i mi ac rydw i’n falch o ddweud fy mod wedi cael mynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd ym Meifod, ac amrywiaeth o sioeau sirol ar hyd a lled Sir Drefaldwyn.
Roedd cael y cyfle i sgwrsio â chynifer ohonoch i gael eich barn ar y materion sy’n bwysig i chi yn brofiad gwerth chweil.
Rydw i wedi trefnu cyfarfod hefyd â Chyfarwyddwr y prosiect Cyflymu Cymru, project a gynhelir yn y Drenewydd yn ddiweddarach yr wythnos hon. Bydd yn gyfle i nifer o arweinwyr y gymuned holi BT ar y broses o gyflwyno band eang ffeibr yn Sir Drefaldwyn a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfod yn fy nghylchlythyr nesaf.
Yn y cyfamser, gweler isod y wybodaeth ddiweddaraf am y materion rydw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw dros yr haf ac, yn ôl yr arfer, mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych chi unrhyw adborth neu os hoffech i mi helpu gydag unrhyw beth.
Ynni Gwynt
Ymchwiliad Cyhoeddus y Canolbarth
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus a gafodd ei sbarduno yn dilyn gwrthwynebiad Cyngor Sir Powys i bum cais ar wahân am ffermydd ynni gwynt, yn ogystal â chais am linell uwchben.
Cafodd pob un o’r apeliadau yn erbyn gwrthwynebiadau Cyngor Sir Powys, ac eithrio un, eu gwrthod gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.
Rydw i’n gwbl ymwybodol o’r safbwyntiau gwahanol ar y mater hwn. Fel rhywun sydd wedi lobïo yn erbyn y prosiect cyswllt, rydw i, wrth gwrs, yn croesawu’r penderfyniad hwn. Mae’n fuddugoliaeth i ddemocratiaeth leol ac yn newyddion da i Sir Drefaldwyn. Ym mis Mehefin 2011, ychydig wythnosau wedi i mi gael fy ethol yn Aelod Cynulliad gennych, daeth miloedd o bobl o Sir Drefaldwyn i Fae Caerdydd i brotestio yn erbyn cynlluniau dinistriol Llywodraeth Cymru.
Rydw i a Glyn Davies AS yn ceisio cael cadarnhad gan y Grid Cenedlaethol y byddant yn tynnu eu cynigion ar gyfer y prosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru yn ôl.
Gan fy mod wedi bod yn weithgar iawn yn y mudiad protest i atal y prosiect cysylltiad, dylwn deimlo’n llawer hapusach nag ydw i. Ond rydw i’n teimlo’n rhwystredig bod miliynau lawer o bunnoedd wedi’u gwastraffu.
I ddarllen y penderfyniad yn llawn, ewch i wefan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn y ddolen ganlynol: https://itportal.decc.gov.uk/EIP/pages/projects/MidWalesPI.htm
Iechyd
Pan fyddaf yn siarad â phobl ar hyd a lled y Canolbarth, iechyd yw’r brif flaenoriaeth heb amheuaeth. Dros y mis diwethaf, cymerwyd cam mawr ymlaen yn y broses o drawsnewid gwasanaethau’r GIG yn Swydd Amwythig , ac mae yna bosibilrwydd y bydd gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorwyr yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn cael eu tynnu’n ôl.
Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam
Yn amlwg, mae llawer o breswylwyr yng Ngogledd Powys yn dibynnu ar wasanaethau mamolaeth Wrecsam Maelor felly mae’r posibilrwydd o israddio gwasanaethau mamolaeth yr ysbyty dan arweiniad ymgynghorwyr yr ysbyty a’u tynnu’n ôl yn fater sy’n peri cryn bryder. Rydw i wedi ysgrifennu at Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, i ofyn pa sylwadau y maen nhw wedi’u gwneud i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn sicrhau nad yw ansawdd y ddarpariaeth famolaeth yn Wrecsam Maelor yn cael ei pheryglu. Byddaf yn cyfarfod â Bwrdd Iechyd Powys hefyd i drafod hyn yn fanwl dros yr wythnosau nesaf.
Future Fit y GIG – Swydd Amwythig
Fis diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd “Future Fit y GIG”, y byddai datblygu safle maes glas newydd ar gyfer ysbyty Gofal Argyfwng yn rhy ddrud. Dyma’r grŵp sydd wedi cael y dasg o asesu amrywiaeth o sefyllfaoedd ar gyfer newid gofal argyfwng, gofal wedi’i gynllunio a gofal brys yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru er mwyn wynebu’r heriau clinigol i’r gwasanaethau y mae Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford yn eu darparu.
Ar y cyfan, er fy mod yn cydnabod bod angen diwygiadau, ac yn cydnabod bod newid yn debygol o arwain at well gwasanaethau gofal iechyd mewn rhai achosion, mae unrhyw ad-drefnu yn parhau i greu rhywfaint o ansicrwydd.
Pan gefais gyfarfod fis diwethaf â Mark Drakeford AS, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, ynghyd â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a chynrychiolwyr lleol eraill ym Meifod, manteisiais ar y cyfle i drafod safle’r Gweinidog ar y diwygiadau sylweddol sy’n digwydd yn GIG Swydd Amwythig.
Nodais yn glir ei bod yn hanfodol i Lywodraeth Cymru gyfleu ei barn ar ddyfodol gofal argyfwng a brys yn Sir Amwythig yn gwbl glir.
Fis nesaf, byddaf yn cynnal cyfarfod â nifer o feddygon teulu sy’n gweithio yn Sir Drefaldwyn, a’r prif bwynt trafod fydd y cynigion ar gyfer newid.
Arolwg Iechyd Sir Drefaldwyn
Rydw i wedi cael ymateb gwerth chweil hyd yn hyn, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r mater hwn i bobl Sir Drefaldwyn. Mae’r arolwg ar gael ar fy ngwefan – www.russellgeorge.com/health - felly os nad ydych chi wedi ei gwblhau eto, mae croeso i chi wneud hynny a chofiwch roi gwybod i’ch teulu a’ch ffrindiau.
Addysg
Ad-drefnu Addysg Uwchradd
Mae’r mater o ad-drefnu ysgolion uwchradd ym Mhowys o bwys mawr a gallai fod â goblygiadau sylweddol i rieni, disgyblion a chymunedau ledled Powys. Felly mae’n hanfodol bod rhieni yn cael digon o gyfle i gymryd rhan lawn yn y broses. Felly roeddwn yn bryderus iawn o glywed adroddiadau rhieni ar y ffordd y cynhaliwyd rhai o’r sesiynau ymgynghori ar gyfer yr adolygiad i addysg uwchradd.
Derbyniais nifer o gwynion am y ffordd amhroffesiynol y cynhaliwyd y sesiynau hyn ac roedd rhai o’r rhieni yn teimlo’n anesmwyth a ddim yn gallu gofyn cwestiynau, mynegi eu safbwyntiau na chymryd rhan yn y cyfarfodydd.
Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol ac rydw i wedi cyflwyno sylwadau i Gyngor Sir Powys er mwyn sicrhau bod yr adolygiad pwysig hwn yn cael ei gynnal mewn dull agored a thryloyw.
Mae’r ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn a disgwylir i’r argymhellion gael eu cyflwyno i gabinet Cyngor Sir Powys cyn bo hir. Byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i amddiffyn ein hysgolion uwchradd er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn yn ein cymuned y dewis o gael ei addysgu mewn ysgol leol yn yr iaith o’i ddewis.
Byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn fy nghylchlythyr nesaf.
Trafnidiaeth
Ffordd Osgoi'r Drenewydd
Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus yn y Drenewydd dros yr haf mewn perthynas â Ffordd Osgoi y Drenewydd. Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl adroddiad yr Arolygydd ar ei ganfyddiadau.
Mae Llywodraeth Cymru a’r contractwyr yn disgwyl cychwyn ar y gwaith adeiladu yn ddiweddarach eleni.
Pont ar Ddyfi
Rydw i’n croesawu’r datblygiadau i welliannau’r A487 ger Pont ar Ddyfi. Rydw i wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda’r prosiect hwn ers sawl blwyddyn, ac felly rydw i’n falch y bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen o’r diwedd, gan wella diogelwch ac amseroedd teithio ar y brif ffordd hon o’r Gogledd i’r De.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu gychwyn y flwyddyn nesaf.
Materion Gwledig
Amddiffyn Cymru Wledig
Mae byw a gweithio yn ein cymunedau gwledig prydferth yn anrhydedd ac yn her. Mewn ymdrech i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu cymunedau gwledig, fe wnes i lansio dogfen fanwl yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, yn ymwneud yn bennaf â grymuso cymunedau gwledig.
Cymunedau
Barclays - Llanidloes
Yn ddiweddar, mae Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Barclays wedi cytuno i gyfarfod â mi i drafod penderfyniad y banc i newid yr oriau agor yn ei gangen yn Llanidloes o ddiwedd mis Tachwedd.
Ar hyn o bryd mae’r gangen ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm ond o ddydd Llun 30 Tachwedd, mae Barclays yn bwriadu gostwng ei oriau agor i Ddydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener yn unig.
Roeddwn yn siomedig nad oedd y banc yn teimlo y gallent drafod y mater gyda mi cyn gwneud y cyhoeddiad. Byddai unrhyw ostyngiad i’r oriau agor yng nghangen Barclays yn Llanidloes yn cael effaith niweidiol ar breswylwyr a busnesau yn y dref sydd eisoes wedi gweld canghennau HSBC a Natwest yn cau.
Dyma ergyd fawr arall i Lanidloes a byddaf yn cyfarfod â rheolwyr y banc yn ddiweddarach y mis hwn er mwyn gofyn am sicrwydd darpariaeth barhaus.
Cefnogi ein Stryd Fawr
Credaf y dylai Cyngor Sir Powys gyflwyno system parcio fwy hyblyg er mwyn annog siopwyr i fynd i i ardaloedd canol tref y sir.
Rydw i am weld bwrlwm yn y stryd fawr, busnesau lleol yn ffynnu a phawb yn ymwneud yn gadarnhaol yn y gymuned. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni feddwl am ffyrdd y gall busnesau lleol y stryd fawr gystadlu a pharhau’n berthnasol yn y 21ain Ganrif.
Mae angen i’r stryd fawr gystadlu â thwf y siopau ar-lein a chanolfannau siopa ar gyrion y trefi sy’n fygythiad sylweddol i’r stryd fawr fel rydym ni’n gyfarwydd â hi.
Felly mae angen i ni fod yn llawer mwy arloesol yn ein ffordd o feddwl os ydym am atal y dirywiad i ardaloedd canol tref.
Parcio am ddim, diwygio ardrethi busnes a chynllunio symlach – dyma ddim ond rhai o’r cynigion ychwanegol rydw i’n credu fydd yn cefnogi busnesau bach ledled Sir Drefaldwyn.
Eiriolwyr Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus
Roeddwn yn falch o gwrdd â’r gwirfoddolwyr ymroddgar sy’n helpu i gadw Sir Drefaldwyn yn lân a thaclus.
Mae’n newyddion ardderchog bod gan Sir Drefaldwyn hanner cant o Eiriolwyr Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus. Dyma’r nifer uchaf y tu allan i Gaerdydd ac mae hyn yn destun dathlu!
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn eu hamgylchedd lleol i wirfoddoli yn eu cymuned gan y gall fod yn brofiad gwerth chweil a rhoi cryn foddhad. Cysylltwch â Sue Newham drwy e-bostio [email protected] os hoffech ragor o wybodaeth.
Bobl yn ffoi o wledydd sydd yng nghanol cythrwfl rhyfel
Gwelwyd mewnlifiad enfawr o bobl yn ffoi o wledydd sydd yng nghanol cythrwfl rhyfel. Ar hyn o bryd, rydw i’n cefnogi tîm lleol sy’n gyrru dau gerbyd mawr i ffin Awstria/Hwngari i ddosbarthu cymorth. Os ydych chi’n teimlo y gallech chi gefnogi drwy ddarparu unrhyw un o’r eitemau isod, a fyddech cystal â dod â nhw i fy swyddfa yn y Drenewydd neu’r Trallwng cyn 25 Medi:
Pethau ymolchi – past dannedd, sebon, cewynnau
Bwyd – bwyd babi, bwyd nad yw’n ddarfodus
Meddyginiaeth plant - Calpol, Sudocrem
Dillad - eitemau sy’n dal dŵr, bŵts, dillad plant ac oedolion, (wedi’u golchi ac yn barod i’w hanfon)
Amrywiol (hen eitemau) – Pebyll, sachau cysgu, blancedi
Cymorthfeydd
Cofiwch gysylltu â’m swyddfa ar 01686 610887 i wneud apwyntiad yn un o’r cymorthfeydd cyngor canlynol.
Yn ogystal â dyddiadau’r cymorthfeydd isod, gallwch ffonio fy swyddfa hefyd i wneud apwyntiad yn fy swyddfa yn y Drenewydd neu’r Trallwng.
• Dydd Llun 21 Medi: 10am – 12pm – Marchnad Da Byw y Trallwng
• Dydd Llun 28 Medi: 10am – 12pm – Y Drenewydd - 13 Parker’s Lane
• Dydd Gwener 2 Hydref: 12.30pm – 1.30pm - Llanidloes
• Dydd Sadwrn 10 Hydref : 10am – 12pm - Crew Green & Bausley
• Dydd Sadwrn 24 Hydref: 10am – 12pm – Four Crosses