Annwyl breswylydd
Dylai cartrefi yn Sir Drefaldwyn fod wedi derbyn calendr yn y post yr wythnos hon yn rhestru dyddiadau fy nghymorthfeydd gydol y flwyddyn. Os nad ydych chi wedi derbyn copi, byddwn yn falch o anfon un atoch. Mae croeso i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen at ffrindiau a chydweithwyr a da chi, rhowch wybod os oes modd i fi eich helpu mewn unrhyw ffordd.
Trafnidiaeth
Y diweddaraf ar Bont ar Ddyfi - Yn gynharach yn y mis, derbyniais lythyr gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC. Bu’r Gweinidog yn amlinellu cynnydd cynlluniau hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer pont newydd, ar ôl penodi asiant cyflogwr. Rydym yn obeithiol y bydd y gwaith adeiladu yn gallu dechrau erbyn diwedd y flwyddyn.
Pont Caersws - Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau wrtha’i ei bod wedi penodi cwmni i wneud gwaith ar opsiynau manwl i ddatrys y problemau o groesi’n ddiogel ar y bont. Os hoffech chi wybodaeth bellach, cysylltwch â mi.
Ffordd osgoi Llanymynech / Pant - Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu ataf yn dweud ei bod wedi cysylltu â Llywodraeth y DU i ailagor trafodaethau ar y cynllun osgoi arfaethedig. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau bod cyfres o gyfarfodydd wedi’u trefnu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gydweithio a bwrw’r gwaith hwn yn ei flaen.
Ffordd Osgoi’r Drenewydd – Mae’r gwaith i ddechrau eleni a bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2017. Yn gynharach yr wythnos hon, ces gyfarfod â swyddogion Cyngor Sir Powys i drafod yr opsiynau ar gyfer yr A483 drwy’r Drenewydd ac i drafod pa opsiynau y dylid eu hystyried ar gyfer newid cynllun y ffordd unwaith y bydd y ffordd osgoi wedi ei chwblhau. Cytunwyd y byddai’r cyhoedd yn gallu cyflwyno eu safbwyntiau ar y mater hwn. Cewch fwy o wybodaeth gen i unwaith y bydd y broses wedi’i phenderfynu.
Gwasanaethau Trên - Roeddwn i’n falch fod y Gweinidog wedi derbyn fy ngwahoddiad i ymweld â Sir Drefaldwyn ddoe i gwrdd â mi a grŵp gweithredu Gorsaf Carno. Yn ogystal â thrafod yr orsaf newydd arfaethedig, buom hefyd yn trafod y gwasanaeth trên bob awr sydd i ddechrau ym mis Mai. Bydd grŵp gweithredu Gorsaf Carno yn cynnal sesiwn galw i mewn yng Nghanolfan Gymuned Carno fory rhwng 11am a 6pm. Byddaf yno rhwng 11am a 12pm, a bydd Glyn Davies AS yno rhwng 3pm a 4pm. Mae croeso i chi alw heibio os hoffech gefnogi’r ymgyrch leol hon neu drafod materion ehangach am y gwasanaethau trên gyda mi.
Iechyd
Amseroedd Ymateb y Gwasanaethau Ambiwlans - Mae amseroedd aros y gwasanaethau ambiwlans ar gyfer galwadau brys Categori A sy’n bygwth bywyd, wedi cyrraedd eu lefel isaf erioed ym Mhowys ac mae targedau Llywodraeth Cymru wedi’u colli bob mis ers dechrau cadw cofnodion, dair blynedd yn ôl. Ym mis Rhagfyr 2014, gwelwyd perfformiad Powys yn syrthio i 51.6%. Rwy’n cefnogi’r alwad am ymchwiliad byr, brys i Wasanaethau Ambiwlans Cymru er mwyn nodi’n gyflym y rhesymau am y fath berfformiad echrydus ac er mwyn argymell atebion a fydd yn sicrhau bod y targedau amseroedd ymateb yn cael eu bodloni, fel bod gan gleifion a staff hyder yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Dyfodol Gofal Brys yn y Canolbarth - Mae Bwrdd Rhaglen Dyfodol Ffit y GIG yn ddiweddar wedi cyhoeddi rhestr fer o chwe dewis ar gyfer newid y gwasanaethau gofal brys, wedi’i gynllunio ac argyfwng yn Swydd Amwythig a’r Canolbarth. Am restr o wahanol senarios, ewch i wefan Future Fit. Yr hyn sy’n gwbl hanfodol i bobl Sir Drefaldwyn yw union leoliad y Ganolfan Frys newydd, ac yn ôl y disgwyl, mae yna dri dewis yn parhau ar restr fer y Ganolfan Frys newydd: Canolfan Frys newydd yn Ysbyty’r Royal yn Amwythig; yn y Princess Royal yn Telford; neu mewn safle cwbl newydd. Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i a Glyn Davies AS gyfarfod â Chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Powys i drafod y sefyllfa o safbwynt cleifion Sir Drefaldwyn. Mae Glyn a minnau o’r farn y dylid clustnodi un o’r ysbytai presennol yn y Drenewydd neu’r Trallwng a rhoi’r cyfarpar iddynt fod yn Ganolfan Ofal Brys. Dyw’r ymgynghori ffurfiol a’r penderfyniadau terfynol ddim yn debygol o ddigwydd tan ddiwedd 2015. Fe wna’i roi’r newyddion diweddaraf i chi maes o law.
Gwasanaethau’r Cyngor a Chyllid
Addysg Uwchradd ac ôl-16 ym Mhowys - Rwyf o’r farn y dylai cabinet Cyngor Sir Powys roi sicrwydd ynglŷn ag addysg uwchradd yn y Sir ar ôl iddynt dderbyn adroddiad a oedd yn awgrymu cau nifer o ysgolion uwchradd a dosbarthiadau chwech ym Mhowys. Bydd adroddiad llawn ar gynigion penodol ar gyfer ysgolion unigol yn cael ei gyflwyno gerbron Cynghorwyr i’w ystyried ym mis Mawrth. Mae hyn yn bryder i rieni, disgyblion ac athrawon. Er fy mod yn deall y pwysau ariannol sydd ar y cyngor, yr hyn sydd bwysicaf yw addysg ein plant. Credaf fod angen i’r cyngor flaenoriaethu a buddsoddi mewn addysg.
Cyllido’r Cyngor - Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i gyfrannu at ddadl yn y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ailwampio fformiwla cyllido llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod Powys yn cael chwarae teg. Mae’r setliad ariannol yn arbennig o anodd i awdurdodau gwledig fel Cyngor Sir Powys, a wynebodd un o’r toriadau mwyaf y llynedd a’r cynnig yw bod yr un peth yn digwydd eto eleni. Mae hynny’n golygu ein bod ni nawr yn gweld yr awdurdod lleol ym Mhowys yn ystyried cau ysgolion uwchradd, yn dilyn blynyddoedd o docio ar wasanaethau lleol eraill. Mae hynny’n amlwg yn annerbyniol. Rhaid clustnodi arian i awdurdodau lleol yn deg, gan gymryd i ystyriaeth yr her o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol mewn ardaloedd gwledig eang fel y Canolbarth. Os ydych am weld fy nghyfraniadau yn y Cynulliad yn llawn, ewch i’m gwefan.
Band eang
Prosiect Cyflymu Cymru - Mae prosiect Cyflymu Cymru wedi bod yn gwneud cynnydd da yn cyflwyno band eang cyflym iawn i Sir Drefaldwyn dros yr wyth mis diwethaf. Mae band eang ffibr ar gael ar hyn o bryd i tua un rhan o dair o’r 30,000 safle yn Sir Drefaldwyn gyda gwaith pellach i gyflwyno band eang cyflym iawn i fwy o ardaloedd gwledig yn yr arfaeth. Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn cysylltu â BT ar ran trigolion lleol a hoffai gael mwy o wybodaeth am eu hamgylchiadau penodol nhw. Cysylltwch â mi os hoffech unrhyw wybodaeth bellach.
Amaethyddiaeth
Ymgyrchu dros Glybiau Ffermwyr Ifanc - Yn ddiweddar, yr wyf wedi cael sgwrs gyda Nia, i drafod yr ymgyrch i’w cefnogi yng Nghymru. Yn gynharach yn y mis, fe wnes i ymrwymo i gefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru sy’n wynebu toriadau mawr yn eu cyllid gan Lywodraeth Cymru. Credaf y dylai’r Llywodraeth ailystyried y penderfyniad i dorri ar yr arian y mae’r Clybiau yn ei dderbyn drwy arian grant gan y Cynllun Grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol. Heb y cyllid hwn, bydd y Clybiau’n ei chael hi’n anodd cefnogi a chynorthwyo pobl ifanc mewn cymunedau amaeth fel sy’n digwydd ar hyn o bryd a bydd yn bygwth mudiad sydd wedi ac yn dal i chware rhan bwysig yng nghalon ein cymunedau gwledig.
Newyddion arall
Camlas Maldwyn - Rai wythnosau yn ôl, fe wnes i a Glyn Davies gyfarfod a sawl grŵp cymunedol yn Neuadd y Dref y Trallwng i drafod cynlluniau yn y dyfodol i adfer y gamlas 200 oed sy’n rhedeg 33 milltir o Gamlas Llangollen i’r Drenewydd drwy’r Trallwng a Llanymynech. Eleni, bydd prosiect a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi gwirfoddolwyr i adfer rhan sy’n sych ar hyn o bryd ym Mhont Pryce. Dros flynyddoedd lawer, mae sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Heulwen, Cyfeillion Camlas Maldwyn a Phartneriaeth Camlas Maldwyn wedi gwneud llawer iawn o waith ac wedi codi arian, a rhaid eu canmol. Rydym ni’n awyddus i chwarae ein rhan er mwyn gwneud yn siŵr bod y rhwystrau hyn yn cael ei dileu fel bod modd i’r gamlas wireddu ei huchelgais o gysylltu â Chamlas y Shropshire Union. Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ar y gamlas, ewch i wefan “Making Waves”.
Coeden y Flwyddyn Ewrop - Rwyf i, a’n AS Glyn Davies, wedi bod yn cefnogi Coeden Unig enwog Llanfyllin, sydd wedi’i henwebu’n Goeden y Flwyddyn Ewrop ar ôl ennill gwobr Coeden y Flwyddyn Cymru'r llynedd. Mae’r binwydden yn dirnod enwog yn Sir Drefaldwyn ac wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywyd y gymuned ers dros 200 years. Gallwch bleidleisio am Goeden y Flwyddyn rhwng y 1af a’r 28ain o Chwefror 2015. Da chi, ewch ati i bleidleisio.
Cyhoeddwr y Dref, Trefaldwyn - Ac i gloi, yn ddiweddar ces gyfle i gefnogi Sue Blower, Cyhoeddwr y Dref Trefaldwyn, sydd wedi ei gwahodd i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Cyhoeddwyr Tref y Byd yn Seland Newydd ym mis Medi. Ar ôl holi’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews AC, ynglŷn â pha gefnogaeth allai fod ar gael ar gyfer taith Sue, yn enwedig gan ei bod nid yn unig yn cynrychioli Sir Drefaldwyn ond Cymru gyfan, mae Leighton Andrews wedi ymrwymo i ymchwilio i’r mater ymhellach. Rwy’n siŵr y byddwch am ymuno â mi i ddymuno’n dda i Sue yn y gystadleuaeth ym mis Medi - rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed sut hwyl gafodd hi.
Cymorthfeydd
Rwyf wedi cyhoeddi rhestr lawn o’m cymorthfeydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gallwch weld rhestr lawn ar fy ngwefan. Dyma’r dyddiadau hyd yma:
• Dydd Sadwrn 14 Chwefror – Carno – Canolfan Gymunedol – 11am – 12pm
• Dydd Gwener 20 Chwefror – Y Drenewydd – Siop Morrison’s – 5pm – 7pm
• Dydd Sadwrn 21 Chwefror – Trefeglwys – Canolfan Gymunedol – 12pm – 2pm
• Dydd Sadwrn 7 Mawrth – Y Trallwng – Siop Morrison’s – 9am – 11am
• Dydd Gwener 13 Mawrth – Llanidloes – Ffoniwch i gael gwybod y lleoliad – 11am – 12pm
• Dydd Sadwrn 14 Mawrth – Llansanffraid – Gwesty’r Lion – 10am – 11pm
• Dydd Iau 19 Mawrth – Caersws – Ffoniwch i gael gwybod y lleoliad – 10am – 11am
• Dydd Sadwrn 28 Mawrth – Meifod – Canolfan Gymunedol 11am – 12am
Rwy’n cynnal cymorthfeydd yn amlach yn fy swyddfeydd yn y Drenewydd a’r Trallwng. Cysylltwch â’m swyddfa etholaethol ar 01686 610887 i drefnu apwyntiad neu os hoffech drafod mater gyda mi.