Medi 2019
Annwyl Breswylydd,
Dyma fy nghylchlythyr diweddaraf, gan obeithio eich bod chi wedi cael haf da.
Mae mis Awst wedi bod yn fis prysur i mi, a dwi wedi bod yn crwydro o gwmpas amryw o sioeau a digwyddiadau lleol. Fe welwch chi lun ohona’i isod gyda Georgia ac Isabelle yn sioe Cegidfa. Roeddwn yn falch hefyd o fynd i sioeau yn Nolfor, Trefeglwys, Llanfyllin, Trefaldwyn, Carno, Aberriw a Llanbrynmair ond yn siomedig bod yn rhaid canslo Sioe Llangurig oherwydd gwyntoedd cryfion.
Fel bob amser, os hoffech gysylltu â mi neu gwrdd â mi i drafod unrhyw fater neu bryder yn fwy manwl, mae croeso i chi gysylltu â mi naill ai trwy ffonio fy swyddfa ar 01686 610887 neu trwy anfon e-bost ataf: [email protected]
Mae'r cylchlythyr hwn ar gael hefyd yn Saesneg, felly os byddai'n well gennych ei dderbyn yn Saesneg, cysylltwch â mi.
Pob dymuniad da.
Russell
Russell George AC
Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn
Newyddion diweddaraf y GIG yn Future Fit
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgynghori, byddwch yn ymwybodol bod cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo yn gynharach eleni (29 Ionawr 2019) i drawsnewid gwasanaethau ysbyty ar gyfer yr hanner miliwn o breswylwyr yn y Canolbarth, Swydd Amwythig a Telford.
Fodd bynnag, mae Cyngor Telford wedi herio'r broses o wneud y penderfyniadau a'r argymhellion. Mae wedi cyfeirio'r mater yn ffurfiol i Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU sydd wedi gofyn i banel annibynnol ymchwilio i'r mater ymhellach cyn gwneud penderfyniad.
O dan y cynlluniau cychwynnol, bydd Ysbyty Brenhinol Amwythig yn dod yn ganolfan Gofal Brys newydd a bydd Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol Telford yn dod yn ganolfan Gofal wedi'i Gynllunio gyda chanolfan Gofal Brys 24 awr yn y ddau ysbyty.
Rwy'n croesawu'r penderfyniad cychwynnol a ddaw ar ôl blynyddoedd lawer o drafod gan fwrdd rhaglen o'r enw Future Fit. Bu’r Bwrdd yn ystyried canlyniad ac adborth ymgynghoriad cyhoeddus, asesiadau effaith ar y gwahanol opsiynau a chanfyddiadau adolygiad annibynnol.
Byddai hyn yn gadarnhaol i ni yn y Canolbarth, oherwydd nid yn unig y byddwn ni'n gweld gofal iechyd brys sy’n achub bywydau wedi'i leoli yn Amwythig, gyda'r buddsoddiad mawr a ddaw yn ei sgîl, ond byddwn hefyd yn gweld y gwasanaeth cleifion mewnol dan arweiniad meddygon ymgynghorol ar gyfer menywod a phlant yn dychwelyd i Amwythig.
Fodd bynnag, byddai'r newid yn golygu y byddai rhywfaint o ofal iechyd wedi'i gynllunio a gofal iechyd dewisol yn cael ei ddarparu yn Telford. Felly, yn ystod y broses hon, mynegais hefyd farn yn fy ymateb i’r ymgynghoriad ei bod yn hanfodol ochr yn ochr â'r ad-drefnu gwasanaethau arfaethedig yn Swydd Amwythig, bod gofal yn cael ei ddarparu’n lleol yn ein hysbytai cymuned lleol yn Llanidloes, Y Drenewydd, Y Trallwng a Machynlleth, i osgoi'r angen i deithio allan o'r sir i weld ymgynghorydd. Byddaf yn awyddus i ddeall sut bydd Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gyflawni hyn wrth symud ymlaen.
Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd Gwladol Iechyd Llywodraeth y DU yn cadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol, a fydd yn caniatáu i waith adeiladu ddechrau ar safle Amwythig ar gyfer Canolfan Frys newydd.
Newyddion yr Heddlu - Teledu Cylch Cyfyng y Drenewydd a Gweithgarwch Llinellau Cyffuriau
Codais gyfres o faterion gyda Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i mi am deledu cylch cyfyng y Drenewydd a gweithgaredd Llinellau Cyffuriau.
Mae nifer o gamerâu teledu cylch cyfyng wedi'u gosod yn y Drenewydd, ac mae'r system bellach ar waith. Rhoddais wybod iddo am y pryderon oedd gen i am leoliadau pellach y credaf fod angen rhoi sylw iddyn nhw.
O ran gweithgarwch Llinellau Cyffuriau, mae mynd i'r afael â Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi dod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer plismona ym Mhowys. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i fynd i'r afael ac i chwalu rhai o'r gangiau hyn drwy weithrediadau. Roeddwn yn falch o'r cynnydd a adroddwyd i mi, ond yn amlwg mae gwaith eto i'w wneud. Mae gweithrediadau cyfredol wedi arwain at garcharu dros ddeugain o bobl gyda llawer mwy o ddefnyddwyr lefel is yn cael cynnig ymyriadau cymorth gyda'r nod o'u tywys i ffwrdd o fyd troseddu trwy raglenni trin cyffuriau effeithiol.
Gofynnais i Dafydd Llywelyn ddod i gyfarfod gyda mi yn lleol, gydag arweinwyr allweddol lleol yn ein hardal i drafod gweithrediadau pellach.
Gofynnais i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru Ken Skates am i gynlluniau manwl ar gyfer cylchfan ger croesfan Moat Lane yng Nghaersws gael eu dwyn ymlaen er mwyn datrys tagfeydd a diogelwch ar y ffordd yn y mannau cyfyng hyn.
Buddsoddi yn rhywdwaith trafnidiaeth Sir Drefaldwyn
Yn dilyn agoriad llwyddiannus Ffordd Osgoi'r Drenewydd yn gynharach eleni, mae angen cynnydd bellach ar nifer o brosiectau seilwaith ffyrdd eraill – gyda rhai ohonynt wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer.
Gyda Ffordd Osgoi'r Drenewydd bellach ar waith, mae ganddi botensial i drawsnewid yr economi mewn trefi fel y Drenewydd, Llanidloes a Machynlleth. Mae wedi datrys trafferthion tagfeydd traffig lleol ac mae eisoes yn helpu i hybu twristiaeth ac economi ehangach y Canolbarth.
Fodd bynnag, mae angen rhoi sylw nawr i brosiectau trafnidiaeth eraill sydd eu hangen yn ddirfawr ledled y sir ac rwy’n gobeithio ein bod bellach yn gweld cynnydd ar Bont Ddyfi newydd ym Machynlleth ar ôl tipyn o arafwch hyd yn hyn.
Credaf yn gryf hefyd fod angen cynllun gwella ffyrdd sylweddol arnom nawr i wella'r ffordd rhwng y Trallwng ac Amwythig. Mae'r oedi hir i'r gwaith trwsio ar Bont Cefn ar yr A458 ger Trewern yn dangos yn glir pa mor bwysig yw cael seilwaith ffyrdd da ar un o'r priffyrdd mwyaf sy'n cysylltu Cymru a Lloegr, fel ag y mae'r angen am gynnydd ar ffordd osgoi Pant-Llanymynech.
Dwi hefyd wedi cael trafodaethau am nifer o gynlluniau cymharol fach, a nifer o brosiectau y gellid eu dwyn ymlaen yn gyflym i helpu llif traffig a phryderon diogelwch mewn nifer o fannau cyfyng allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys y potensial ar gyfer cylchfan wrth groesfan Moat Lane ger Caersws ac am ddeuoli rhannau o'r ffordd ger Llangurig a Llanidloes. Mae cael seilwaith da yn allweddol i hyrwyddo twf ein heconomi leol.
Newid i dirweddau Canolbarth Cymru un annerbyniol
Mae gwarchod tirwedd y Canolbarth wedi bod yn bwysig i mi ers cyn cof ac yn fy marn i, mae cynigion mewn ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn gwbl annerbyniol.
Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn gynllun datblygu newydd a fydd yn gosod cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru rhwng 2020 a 2040. Mae'n gosod strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru trwy'r system gynllunio.
Mae'r fframwaith drafft a gyhoeddwyd y mis diwethaf yn cynnwys cynigion yn nodi y dylid cyfeirio datblygiadau gwynt ar raddfa fawr tuag ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer ynni gwynt ac ynni solar. Mae dros ddwsin o ardaloedd wedi'u nodi ledled Cymru.
Yn ôl y ddogfen, bydd rhagdybiaeth o blaid datblygiadau gwynt ar y tir ar raddfa fawr yn yr ardaloedd hyn a chydnabyddiaeth bod rhaid newid y dirwedd.
Hefyd, nododd adolygiad strategol o dirwedd ac effaith weledol mai'r Ardaloedd Blaenoriaeth ar gyfer Ynni Gwynt ac Ynni Solar oedd y lleoliadau mwyaf addas i ymdopi â newid i’w tirwedd. Felly, derbynnir bod angen newid y dirwedd yn yr ardaloedd hyn.
Fel llawer ohonoch, dwi’n angerddol am warchod ein hamgylchedd. Mae'r stori newyddion isod yn trafod digwyddiad arall dwi’n ymwneud ag ef o ran ymdrechion i sicrhau amgylchedd mwy gwyrdd yn lleol.
Credaf fod pobl y Canolbarth yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â newid hinsawdd trwy leihau allyriadau, ac mae angen i ni fuddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy, a sicrhau bod gennym fasged gymysg o wahanol fathau o atebion ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, o’m safbwynt i, mae'n ymddangos fel petai Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i anwybyddu barn pobl y Canolbarth.
Mae pobl leol wedi gweld nifer o ymdrechion i ddinistrio ardaloedd mawr o gefn gwlad hardd Powys gyda seilwaith peilonau ar raddfa fawr, a does gen i ddim unrhyw amheuaeth y bydd pobl leol yn ymgyrchu eto i atal unrhyw fath o gynigion dinistriol rhag gweld golau dydd.
Yn fy mhrofiad i, ni fydd y cymunedau yr effeithir arnyn nhw’n eistedd yn ôl heb frwydro ac yn derbyn honiad o’r brig i’r bôn Llywodraeth Cymru bod rhaid derbyn "newid yn y dirwedd".
Mae'r Fframwaith Drafft hwn yn cynnwys cynigion a allai ddinistrio rhannau helaeth o Bowys. Dwi’n pryderu nad yw'r cynigion presennol yn cynnwys unrhyw fanylion ynghylch sut byddai'r ynni a gynhyrchir wedyn yn cael ei gysylltu â'r Grid Cenedlaethol. Byddwn yn annog cymunedau i fynegi eu barn yn groch ac yn groyw cyn i'r ymgynghoriad gau ar 1 Tachwedd.
Mae Ymgynghoriad y Fframwaith Drafft Cenedlaethol i'w weld yma
Bydd sesiynau galw heibio hefyd fel y gall preswylwyr drafod y Fframwaith Drafft Cenedlaethol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd sesiwn yn cael ei chynnal yn Llyfrgell y Drenewydd ar 17 Medi (2pm - 7.30pm).
Byd glanach, gwyrddach
Ngwesty'r Elephant & Castle, lle bydd cyfle i ystyried sut gallem neu sut dylem ni newid ac addasu ein ffordd o fyw i wneud gwahaniaeth go iawn ac ymarferol i warchod ein hamgylchedd.
Mae materion amgylcheddol yn aml yn cael eu cyflwyno fel ymchwil academaidd neu ymgyrchoedd gwleidyddol ond sut rydyn ni'n cymhwyso'r wyddoniaeth i'n bywydau a'n swyddi bob dydd, weithiau o dan amgylchiadau cymhleth a heriol?
Bydd chwe chyflwynydd yn cynrychioli ystod o swyddi cyffredin ym meysydd iechyd a meddygaeth, addysg, amaethyddiaeth, swyddi gofal a swyddi manwerthu. Rwy'n gobeithio y bydd eu tystiolaeth yn cyflwyno profiadau o lygad y ffynnon ac yn ffurfio apêl am help a sgwrs adeiladol yn hytrach na chynnig safbwyntiau barn neu gasgliadau anochel.
Bydd ail hanner y noson yn agor y drafodaeth i'r gynulleidfa, ac edrychaf ymlaen at sesiwn taflu syniadau wych a chyfle i feddwl yn greadigol mewn ymateb i sefyllfaoedd y cyflwynwyr.
Os oes gennych chi gefndir yn unrhyw un o'r sectorau uchod neu os oes gennych unrhyw fater arall yr hoffech i ni ei ystyried ac y credwch sy’n berthnasol, dewch i rannu eich gwybodaeth. Os ydych chi am wrando a dysgu mwy yn unig, mae croeso i chi ddod hefyd. Bydd cyfle i ni barhau i ymgysylltu tu hwnt i'r cyfarfod yn ysgrifen chi am siarad yn gyhoeddus neu os nad ydych chi'n cael cyfle, bydd mwy o gyfleoedd i gyfrannu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dull cymunedol o wella ein hamgylchedd; os hoffech gwrdd ag eraill ar draws amrywiaeth o sectorau a dysgu mwy am eu heriau, mae croeso mawr i chi. Rhowch wybod i mi os hoffech chi fod yn bresennol.
Trafnidiaeth Cymru - Gwasanaethau Rheilffordd Llinell y Cambrian
Rydym wedi gweld lefel annerbyniol o wasanaeth ar Linell y Cambrian dros y misoedd diwethaf. Ym mis Awst, roeddwn yn falch o gwrdd â Chymdeithas Teithwyr Rheilffordd Amwythig Aberystwyth (SARPA), sef grŵp o ddefnyddwyr rheilffordd brwd sy'n ymgyrchu dros amryw o faterion, o amseroedd ac amlder trenau i gynnal a chadw gorsafoedd.
Fe wnes i gyfarfod â nhw, ddim yn unig yn fy rôl fel Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn, ond fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar waith craffu'r pwyllgor ar fasnachfraint rheilffordd newydd Cymru a'r Gororau a enillodd KeolisAmey, ac sy’n dwyn yr enw brand Trafnidiaeth Cymru. Fe wnes i eu hannog i rannu unrhyw bryderon a oedd ganddyn nhw gyda mi ac os oes gan unrhyw breswylwyr faterion i'w codi am wasanaeth rheilffordd Llinell y Cambrian, cysylltwch â mi da chi.
Yn ddiweddar, gofynnais am fanylion y trenau a gafodd eu canslo neu eu gohirio ar Linell y Cambrian rhwng 14 Hydref 2018 a 18 Gorffennaf 2019. Cafodd 3.4% o'r gwasanaethau eu canslo ac roedd 73.5% o wasanaethau wedi cyrraedd ar amser ym mhob gorsaf.
Yn ystod y misoedd diweddar, rydym wedi gweld trenau wedi'u canslo, trenau’n hwyr, diffyg staff, problemau signalau, trenau byr (dau gerbyd yn lle pedwar), gwybodaeth wael neu wybodaeth o safon isel i deithwyr pan fydd trafferthion yn codi yn ogystal â gorlenwi.
Pan roddwyd y fasnachfraint yng ngofal Trafnidiaeth Cymru y llynedd, cafwyd addewidion o newid, nad ydym yn anffodus wedi eu gweld i'r graddau y byddem wedi eu disgwyl. Byddaf yn cyfarfod ag uwch swyddogion o Trafnidiaeth Cymru fis nesaf i drafod y materion hyn ymhellach, ac i ofyn iddynt roi'r newyddion diweddaraf i mi ar eu cynlluniau ar gyfer tywydd yr hydref.
Dywed Trafnidiaeth Cymru wrthym fod Llinell y Cambrian yn unigryw i'w chymharu â gweddill y llwybr. Er mwyn i'r trenau deithio ar hyd Llinell y Cambrian, mae'n ofynnol i'r fflyd gael System Rheoli Traffig Rheilffordd Ewropeaidd sy'n dibynnu ar y pecyn yn y trên yn cyfathrebu â signalau ac offer ar y cledrau.
O ganlyniad, yn ôl Trafnidiaeth Cymru mae hyn yn cyfyngu ar y fflyd a all deithio ar hyd Llinell y Cambrian ar hyn o bryd, ac felly pan fydd unrhyw fethiannau i drenau neu niferoedd uchel o deithwyr (yn arbennig yn ystod misoedd yr haf), mae’r opsiynau’n brin ar gyfer gwasanaethau yn eu lle, sy’n gallu arwain at oedi am gyfnod hirach neu at drenau’n cael eu canslo.
Mae fflyd newydd o drenau yn cael eu hadeiladu'n benodol ar gyfer Llinell y Cambrian a fydd yn cael eu cyflwyno o 2022. Bydd y trenau hyn yn darparu mwy o le i deithwyr ond byddant hefyd yn teithio'n gyflymach, gan alluogi gwasanaethau i gadw at eu hamserlen yn fwy dibynadwy.
Fodd bynnag, tan hynny, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu amlder y gwasanaethau i un trên yr awr gydol y dydd ac i wneud gwelliannau i gyfleusterau yng ngorsaf Machynlleth yn 2021.
"Monty" Y Gwalch
Ar ddechrau'r mis, cefais y pleser o ailymweld â Phrosiect Gweilch Dyfi, prosiect o fri rhyngwladol sy'n un o brif brosiectau cadwraeth, ymgysylltu ac ymchwil gweilch y byd. Fe wnes i ymweld unwaith eto â "Monty", sy'n disgrifio ei hun yn wylaidd fel "y Gwalch enwocaf a mwyaf poblogaidd yn y byd, fwy na thebyg".
Mae ganddo gymeriad hamddenol braf a phrin mae’n cynhyrfu, felly mae hi bob amser yn bleser ymweld â Monty. Pryd bynnag y byddaf yn ymweld, mae ymroddiad y tîm sy'n rhedeg un o brosiectau blaenllaw Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn bob amser yn creu argraff.
Ers 2008, mae niferoedd yr ymwelwyr wedi cynyddu o tua 2,000 y flwyddyn i tua 40,000 erbyn heddiw ac mae miliynau yn fwy o gwmpas y byd yn edrych ar y gweilch ar y ffrwd byw ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Caewyd Prosiect Gweilch Dyfi ar 30 Awst er mwyn dechrau'r gwaith ar y Ganolfan Bywyd Gwyllt Dyfi newydd ac edrychaf ymlaen at ddychwelyd i'r ganolfan newydd pan fydd yn agor y flwyddyn nesaf.
Y llynedd, llwyddodd yr Ymddiriedolaeth yn ei chais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu canolfan ymwelwyr newydd sbon yng Nghors Dyfi a fydd yn dod â’r holl gyfleusterau - y toiledau, y caffi a'r ardaloedd eistedd, sgriniau gweilch a dehongli, y siop a'r ardaloedd gwirfoddoli - i gyd o dan yr un to fel rhan o Ganolfan Bywyd Gwyllt Dyfi, a fydd yn agor yn 2020.
Heb os, bydd y ganolfan newydd yn gaffaeliad gwych i'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, a bydd yn cyfrannu ymhellach at record yr Ymddiriedolaeth o annog pobl o bob oed i ddysgu mwy am yr adar prin anhygoel hyn, am fioamrywiaeth ac am warchod natur; gan gefnogi'r diwydiant twristiaeth ehangach a rhoi hwb i'r economi leol.