Annwyl Drigolion,
Y mis hwn rwyf wedi ysgrifennu erthygl i egluro’r sefyllfa yn ymwneud â chyllid Cyngor Sir Powys a’i benderfyniad i gynyddu’r dreth gyngor. Hefyd, rwy’n trafod fy ngwaith fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi a’r Seilwaith, gan gynnwys ein hymchwiliad diweddar i’r problemau ar y rheilffordd yn yr Hydref a’r broses o gyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru, er mwyn rhoi cipolwg i chi ar fy rôl arall yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ogystal â’m gwaith yn cynrychioli pobl Sir Drefaldwyn.
Hefyd, rwy’n cymryd rhan mewn llawer o ymgyrchoedd a materion cymunedol eraill, ac os hoffech chi dderbyn gwybodaeth am faterion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cylchlythyr hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy ffonio 01686 610887 neu e-bostio [email protected].
Rwy’n cynnal ‘cymorthfeydd stepen drws’ bob mis hefyd. Ddydd Sadwrn diwethaf, roedd yn bleser cynnal cymhorthfa yn Llanidloes, a hoffwn ddiolch i bawb a gwblhaodd fy arolwg. Ddydd Sadwrn 6 Ebrill bydd fy nhîm a mi yn y Trallwng.
Yn gywir
Russell Russell George AC
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Cyllid Llywodraeth Leol: Pam rydym yn “talu mwy ond yn derbyn llai"
Pam mae’r dreth gyngor yn cynyddu bob blwyddyn er ein bod yn cael llai o wasanaethau gan ein cyngor lleol?
Mae’n rhaid i Gyngor Sir Powys bennu cyllideb wedi’i mantoli bob blwyddyn, a chyllideb net flynyddol y Cyngor yw tua £250 miliwn bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys grant bloc gan Lywodraeth Cymru sy’n oddeutu 70% o’r cyfanswm, tra bod y gweddill yn dod o’r dreth gyngor. Felly, mae’n rhaid cofio mai dim ond rhyw draean o gyllid llywodraeth leol sy’n dod trwy gasglu treth gyngor. Mae’r gweddill yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae Powys wedi cael bargen wael dros y 10 mlynedd diwethaf. Mewn naw o’r deng mlynedd diwethaf mae Cyngor Powys wedi cael y setliad gwaethaf, neu’r setliad gwaethaf ar y cyd, o ran ei gyllideb. Rhwng 2010 a 2020, byddai Cyngor Powys wedi cymryd £100 miliwn allan o’i gyllideb – sefyllfa anghynaladwy sydd wedi cael effaith anorfod ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol hanfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn rhagor o gyllid gan Lywodraeth y DU, ond mae cyllid Cyngor Sir Powys gan Lywodraeth Cymru wedi lleihau. Felly, Llywodraeth Cymru sy’n bennaf gyfrifol am sefyllfa ariannol anodd Cyngor Sir Powys ar hyn o bryd. I ddarllen fy erthygl lawn ar pam rydym yn ‘talu mwy ond yn derbyn llai’ cliciwch yma.
Problemau ar y Rheilffordd
Yn ogystal â’m rôl fel Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn a Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi a’r Seilwaith, rwy’n Cadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol sy’n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol. Rwyf am rannu rhywfaint o wybodaeth am waith diweddar y Pwyllgor.
Yn ddiweddar, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y problemau ar y rheilffordd a effeithiodd ar lawer o deithwyr yn ystod yr Hydref.
Mae disgwyliadau pobl gan y cwmni rheilffordd newydd, Trafnidiaeth Cymru yn syml. Dywed Transport Focus, y corff gwarchod teithwyr, mai prif flaenoriaethau teithwyr ar gyfer rheilffordd newydd Cymru a'r Gororau yw cael sedd ar wasanaethau dibynadwy sy'n darparu gwerth da am arian.
Yn ôl ym mis Tachwedd, cawsom wybod mai’r ddau brif reswm am y problemau gyda gwasanaethau’r cwmni newydd oedd cyfuniad o Storm Callum a diffyg buddsoddi mewn fflyd trenau a oedd yn heneiddio.
Ymddengys fod y rhesymau’n fwy cymhleth na hynny, ac mae adroddiad y Pwyllgor wedi amlygu nifer o achosion ac atebion posibl.
Ein neges glir i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yw na all hyn ddigwydd eto. Mae’r broses o gasglu tystiolaeth am yholl achosion sylfaenol y problemau wedi cynnwys llawer o bwyntio bys. Mae hyn yn siomedig ac nid yw’n helpu neb.
Os yw teithwyr yn dioddef problemau tebyg yn y dyfodol, mae’r Pwyllgor yn creu bod yn rhaid iddynt dderbyn iawndal digonol. Mae amynedd teithwyr wedi’i brofi i’r eithaf. Mae penodi cwmni newydd o dan drefniadau masnachfraint llawer gwell yn gyfle gwirioneddol i wella safonau gwasanaethau a bodloni disgwyliadau cwsmeriaid. Mae’n rhaid rheoli’r disgwyliadau hyn yn ofalus yn y tymor byr gan fod pawb yn deall na fydd trenau newydd sbon yn cyrraedd am sbel eto.
Hefyd, mae adroddiad y Pwyllgor yn mynd i’r afael â rheoli risgiau a’r angen i ymateb yn hyblyg i newidiadau i’r galw am wasanaethau yn y dyfodol. Rwyf wedi annog Trafnidiaeth Cymru i wrando ar rybuddion arbenigwyr sy’n dweud y gallai darparu’r “gwasanaeth gyda’r gorau yn y byd” y mae cwsmeriaid yn ei haeddu yn ôl Trafnidiaeth Cymru ysgogi galw o’r newydd. Mae’n rhaid i’r cwmni a Llywodraeth Cymru fod yn barod i reoli’r galw hwn ymhen 5-10 mlynedd.
Byddaf yn parhau i gadw golwg ar gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i gynyddu lefelau capasiti a gwasanaethau ar reilffyrdd Cymru yn 2019 a thu hwnt. Dyna y mae teithwyr rheilffordd Cymru yn ei haeddu.
Gwefru Ceir Trydan
Yr wythnos hon, mae Pwyllgor yr Economi a’r Seilwaith wedi rhyddhau canfyddiadau cychwynnol ei ymchwiliad i gerbydau trydan, gan ddod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi dangos arweinyddiaeth araf wrth wella darpariaeth ceir trydan yng Nghymru.
Mae themâu ymchwiliad y Pwyllgor yn dangos y gallai Cymru gael budd aruthrol o gynnydd yn y defnydd o geir trydan, ond bod angen newidiadau sylweddol i’r seilwaith pŵer a ffyrdd presennol i sicrhau hyn. Gallai’r newidiadau hyn helpu i ddileu pryder darpar ddefnyddwyr ynglŷn â’u gallu i gwblhau taith lawn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £2 filiwn yn ddiweddar er mwyn gwella seilwaith mannau gwefru, ond roedd y Pwyllgor yn cwestiynu a yw hyn yn ddigon, gan ofyn beth mae Gweinidogion yn ei wneud i hyrwyddo buddsoddiad gan y sector preifat, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Wrth gyhoeddi ein canfyddiadau cychwynnol yn awr, mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn defnyddwyr a chyflenwyr cerbydau, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn er mwyn helpu i lywio’r adroddiad terfynol, gan gynnwys unrhyw argymhellion. Gall unrhyw un sydd am gyfrannu wneud hynny trwy sianel trafodaethau ar-lein a sefydlwyd ar gyfer yr ymchwiliad, neu drwy gael rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe’r Pwyllgoryma.
Hefyd, mae Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y maes hwn wedi cytuno i anfon uwch swyddog i gyfarfod arfaethedig sy’n cael ei drefnu gennyf ar gyfer cynrychiolwyr lleol yn y Canolbarth er mwyn trafod mannau gwefru cerbydau trydan. Os hoffech chi ddod i’r cyfarfod ac os ydych chi’n gynrychiolydd grŵp sydd am wybod mwy a rhannu ei safbwyntiau, cofiwch gysylltu â mi a byddaf yn sicrhau eich bod yn cael gwahoddiad i’r digwyddiad ym mis Mai.