Annwyl Breswylydd,
Rydw i’n cymryd rhan mewn sawl ymgyrch a mater cymunedol. Os ydych chi am dderbyn y newyddion diweddaraf am faterion nad ydyn nhw wedi’u crybwyll yng nghylchlythyr y mis, mae croeso i chi gysylltu â mi.
I wneud apwyntiad i’m gweld, cysylltwch â’m swyddfa ar 01686 610887, neu e-bostiwch [email protected]
Os ydych chi am dderbyn y newyddion diweddaraf yn Saesneg, mae croeso i chi roi gwybod i mi a byddaf yn trefnu i chi dderbyn copi yn yr iaith o’ch dewis.
Dymuniadau gorau
Russell
Russell George AC
Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn
Cae Clinic Poen: Ysbyty Gobowen
Mae cau’r clinig poen yn RJAH (Ysbyty Gobowen) wedi peri pryder i lawer o’r 400 o drigolion a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn y Canolbarth. Bu’r Gwasanaeth Rheoli Poen Cronig yn helpu pobl a oedd yn dioddef poen cronig hirdymor parhaus ac mae wedi bod yng Ngobowen am flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, yn sgil y newidiadau mewn cysylltiad â rhai pigiadau sydd wedi’u cyflwyno’n ddiweddar gan y corff sy’n darparu canllawiau cenedlaethol a chyngor ar wella iechyd a gofal cymdeithasol, rhoddwyd y gorau i’r gwasanaeth penodol hwn yng Ngobowen ar 31 Mawrth 2019.
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydw i wedi bod mewn cysylltiad â Phrif Swyddogion Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac ysbyty Gobowen. Mae rhai o’r manylion rydw i wedi’u cael am y rhai sydd angen triniaeth o hyd wedi bod yn amwys. Mae hyn wedi peri pryder ac yn fy nghyfarfod diweddaraf yr wythnos diwethaf gyda Carol Shillabeer, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, llwyddais i fynegi fy anfodlonrwydd parhaus a fy mhryderon a gofyn am ddiweddariad pellach ar y trefniadau newydd ar gyfer rheoli poen.
Bob tro y bydd achos newydd o atgyfeirio gan feddyg teulu, bydd pob claf newydd yn cael ei gyfeirio’n syth i’r Clinig Rheoli Poen ym Mronllys, ger Aberhonddu. Dylai’r holl gleifion presennol sydd wedi derbyn y triniaethau amrywiol yng Ngobowen fod wedi derbyn ymateb ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a RJAH. Os nad yw cleifion sydd wedi bod yn derbyn triniaeth reolaidd yng Ngobowen wedi derbyn unrhyw neges gan Fwrdd Iechyd Addysg Powys neu RJAH mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer eu triniaeth yn y dyfodol, yna cysylltwch â mi.
Rydw i wedi dweud wrth y Bwrdd Iechyd nad yw Bronllys ger Aberhonddu yn lleoliad addas ar gyfer cleifion o Sir Drefaldwyn a chytunodd Carol Shillabeer y byddai’n ystyried y posibilrwydd o agor clinig yn Sir Drefaldwyn ac y byddai’n chwilio am leoliad addas. Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i annog y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod clinig lleol yn cael ei gynnig a’i ddarparu yn Sir Drefaldwyn.
A ddylai carcharion gael pleidlais
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cefnogi’r egwyddor o roi pleidlais i garcharorion yng Nghymru yn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau lleol. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi denu cefnogaeth gan bleidiau eraill yn y Cynulliad hefyd.
Ymunais â chyd-Geidwadwyr Cymreig eraill wrth bleidleisio yn erbyn rhoi pleidlais i garcharorion mewn pleidlais yn y Cynulliad yn gynt eleni. Nid yw’r bleidlais a gynhaliwyd yn newid y gyfraith,
ond mae Llywodraeth Lafur Cymru yn pwyso a mesur a all carcharorion gymryd rhan mewn etholiadau, a bydd y mater yn dod yn ôl at y Cynulliad. Ni chrybwyllwyd rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio gan y pleidiau a oedd o blaid y cynnig hwn (Llafur, Plaid, Y Democratiaid Rhyddfrydol) yn eu maniffestos ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a dyw hi ddim yn ymddangos fel bod llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd i’r cynnig.
Datgelodd arolwg YouGov yn 2017 nad oedd mwyafrif y Prydeinwyr am weld unrhyw garcharorion yn cael y bleidlais, a bod cyfran uwch o’r rhai yng Nghymru a Chanolbarth Lloegr yn erbyn cynlluniau o’r fath, gyda 60% o’r rhai a holwyd yn gwrthwynebu.
Rydw i’n parhau’n daer yn erbyn ymestyn hawliau pleidleisio carcharorion ymhellach. Rwy’n credu bod y trefniadau presennol, sy’n ymestyn i’r rhai ar remand a heb eu heuogfarnu eto, a’r rhai sy’n gwneud eu dedfryd yn y gymuned, yn briodol. Ni ddylai fod unrhyw newidiadau i’r trefniadau hyn heb i’r cyhoedd gael dweud eu dweud drwy gymeradwyo newid o’r fath fel ymrwymiad maniffesto. Mae’n siomedig iawn bod ymdrechion wedi bod i gyflwyno hyn heb ymgynghori gyntaf â threthdalwyr a dinasyddion Cymru sy’n cadw at y gyfraith.
Ddydd Sadwrn diwethaf lansiais fy ymgynghoriad fy hun i geisio gweld beth oedd barn y cyhoedd. Diolch o galon i wirfoddolwyr lleol a helpodd i fynd ag arolygon o gwmpas y Trallwng ddydd Sadwrn.
Yn fy marn i, mae hawliau a chyfrifoldebau yn mynd law yn llaw, ac mae peidio â phleidleisio yn un o’r pethau sy’n digwydd os ydych chi yn y carchar, gan adlewyrchu penderfyniad y gymuned nad yw’r person dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses benderfynu cymuned.
Mae rhai ACau yn dweud eu bod am wella hawliau dynol carcharorion, ond yn hytrach nag ymestyn yr hawl i bleidleisio i bob carcharor, credaf y dylen ni roi blaenoriaeth i hawliau dynol y dioddefwyr.
Rhyddhau dŵr yn Llyn Efyrnwy a Llyn Clywedog
Rydw i wedi codi mater lefelau afon uchel yn ddiweddar a’r llifogydd i lawr yr afon o Lyn Clywedog a Llyn Efyrnwy gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i gael sicrwydd i gymunedau a thrigolion sydd wedi dioddef yr effeithiau.
Mae’r lefelau afon uchel diweddar yn nalgylchoedd afonydd Hafren ac Efyrnwy wedi arwain at yr argaeau yn gorlifo mewn glaw trwm, ar ôl cyfnodau maith o dywydd sych.
Sefydlodd Cyfoeth Naturiol Cymru grŵp cysylltu flynyddoedd yn ôl sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn. Rwyf wedi gofyn am gael mynychu un o’u cyfarfodydd yn y dyfodol.
Y gwaith ar ôl gorffen Ffordd Osgoi’r Drenewydd
Nawr fod y ffordd osgoi ar agor i draffig, roeddwn i’n meddwl y byddai’n amser da i roi’r diweddaraf i chi o ran ‘israddio’r’ ffordd drwy’r Drenewydd a gwaith cysylltiedig arall.
Y ffordd osgoi newydd yw’r brif gefnffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdani ac mae’r A483 ac A489 drwy’r Drenewydd bellach yn rhan o gyfrifoldeb Cyngor Sir Powys.
Mae gwaith atgyweirio ar y gweill gan Gyngor Sir Powys ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’w gyllido fel rhan o’r broses o’r Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb am y ffyrdd hyn. Hefyd, mae cwmnïau cyfleustodau yn aros i uwchraddio a chyflawni gwaith adnewyddu yn y Drenewydd a’r cyffiniau, ond roedd y gwaith hwn wedi’i atal tan i’r ffordd osgoi agor er mwyn osgoi tagfeydd traffig pellach drwy’r dref.
Bydd ardaloedd eraill o gwmpas y dref yn cael eu hadolygu, gan gynnwys rhai systemau goleuadau traffig a chyfleusterau cerddwyr. Bydd yn rhaid dod o hyd i gyllid ar gyfer unrhyw newidiadau fydd eu hangen yn sgil yr adolygiad hwn.
Mae addasiadau cychwynnol eisoes wedi’u gwneud i’r systemau goleuadau traffig a bydd angen rhoi amser i lif y traffig setlo dros y misoedd nesaf wrth i ni arbrofi a sefydlu llwybrau newydd oddi ar y ffordd osgoi ac o gwmpas y dref. Byddwn yn monitro hyn yn barhaus a bydd mân newidiadau pellach yn cael eu gwneud ar ôl i ni sefydlu’r patrymau gyrru newydd.
Mae gwaith yn cael ei wneud o hyd ar hyd y ffordd osgoi, gan gynnwys ffensio ffiniau’r priffyrdd, tirlunio a phlannu mewn lleoliadau amrywiol a chwblhau’r gwaith yng nghylchfan Dolfor a ffordd gysylltu Stad Mochdre. Byddwn yn cynnal gwerthusiad o’r ffordd osgoi y flwyddyn nesaf, 12 mis ar ôl ei hagor. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw amcanion y cynllun wedi’u bodloni, fel gwella diogelwch, ysgafnhau’r traffig drwy’r Drenewydd, gwella ansawdd aer a manteision y ffordd osgoi i’r dref a’r gymuned ehangach.