Cylchlythyr Rhagfyr
Newyddion diweddaraf misol Russell George AC am ei waith yn Sir Drefaldwyn a’r Cynulliad
Annwyl breswylydd,
Mae’r Nadolig bellach ar ein gwarthaf, a chefais fwynhad mawr yn mynychu fy ngwasanaeth Carolau cyntaf am y flwyddyn ym Marchnad y Trallwng ddydd Sul; roedd yn achlysur gwych gyda dros 500 o bobl leol yn bresennol. Rwy’n edrych ymlaen at amryw o ymweliadau yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Dolig, gan gynnwys ymweld â nifer o Ganolfannau Dydd sy’n cynnig cefnogaeth enfawr i lawer o bobl ledled Sir Drefaldwyn.
Gweler isod fy niweddariad misol olaf ar gyfer 2016 sy’n adrodd ar y newyddion cadarnhaol ynghylch argymhelliad y bwrdd sy’n asesu’r ddarpariaeth iechyd yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru y dylai’r Ganolfan Gofal Damweiniau ac Achosion Brys gael ei lleoli yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig.
Hoffwn ddymuno pob bendith i chi dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Dyfodol gwasanaethau GIG sy'n gwasanaethu Canolbarth Cymru
________________________________________
Mae'r ddau gorff sy'n gyfrifol am arwain diwygio'r GIG sy'n gwasanaethu Sir Amwythig a Chanolbarth Cymru, Sir Amwythig a Grwpiau Comisiynu Clinigol Telford, wedi cyfarfod yr wythnos hon (dydd Llun 12 Rhagfyr) ond wedi methu â chytuno ar ffordd ymlaen pendant ar gyfer angen diwygio dybryd. Er gwaethaf cael argymhelliad clir oddi wrth fwrdd y rhaglen Parod at y Dyfodol a sefydlwyd yn benodol i ystyried y ffordd orau ymlaen, nid yw eu hargymhelliad wedi'i dderbyn ac mae bwrdd y rhaglen wedi cael cais i fynd i ffwrdd ac i wneud mwy o waith - ar ben y tair blynedd o ymgynghori a £ 2 filiwn sydd eisoes wedi cael ei wario.
Efallai eich bod wedi gweld dros y wythnosau diwethaf bod rhaglen Parod at y Dyfodol y GIG wedi cytuno ar argymhelliad ar ddyfodol gwasanaethau ysbyty i gleifion o Sir Amwythig, Telford a Wrekin a Chanolbarth Cymru. Er nad oedd hyn erioed penderfyniad terfynol, eu hargymhelliad oedd y dylai'r Ganolfan Gofal Brys Damweiniau ac Achosion Brys newydd gael eu lleoli yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig. Croesawyd y newyddion hyn ynghyd a llawer o rai eraill yn y wythnosau diwethaf.
Argymhellodd Aelodau bwrdd y rhaglen hefyd y dylai Canolfannau Gofal Brys cael eu lleoli yn y Brenhinol Amwythig ac yn Ysbyty Dywysoges Frenhinol yn Telford i leihau'r pwysau ar y Ganolfan Gofal mewn Argyfwng. Yr opsiwn a ffafrir, a gyflwynwyd gan y Bwrdd, byddai hefyd yn gweld Gwasanaethau Menywod a Phlant yn dychwelyd i Ysbyty Brenhinol Amwythig a byddai hefyd yn gweld y Brenhinol Amwythig yn gofalu am gleifion sydd angen gofal critigol ac achosion brys, yn ogystal â gwasanaethau strôc.
Bydd llawer ohonoch yn cofio’r ymgyrch cryf iawn yn 2010 a welodd nifer o neuaddau cymunedol yn orlawn mewn ymdrech i gadw’r gwasanaethau hollbwysig hyn yn yr Amwythig. Felly, mae'n arbennig o rwystredig a siom i glywed nad oedd argymhelliad bwrdd rhaglen Parod at y Dyfodol wedi cael ei dderbyn gan y ddau gorff a'i comisiynodd.
Dros y blynyddoedd, mae pobl Sir Drefaldwyn wedi datgan yn glir eu bod am i wasanaethau gael eu cadw a'u cryfhau yn yr Amwythig ac er fy mod yn falch fod y bwrdd yn cytuno gyda'r asesiad hwn, nid ydym yn ymddangos i fod yn agosach i ddod i gasgliad yn dilyn y penderfyniad nos Lun gan y Grwpiau Comisiynu.
Ni fydd yr ymgynghoriad yr ydym yn ei ddisgwyl yn y Flwyddyn Newydd bellach yn digwydd. Cewch fod yn sicr y bydd Glyn Davies AS a minnau'n parhau i ddadl y dylai gofal brys sy'n gwasanaethu Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru yn cael eu lleoli yng nghanol y rhanbarth yn yr Amwythig. Byddaf wrth gwrs yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi pan fydd ar gael.
Gofal Iechyd Trawsffiniol
_______________________________________
Yr wythnos diwethaf, bûm yn rhan o ddadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar ofal iechyd trawsffiniol, mater sy’n parhau’n cael llawer iawn o sylw yn y post rwy’n ei dderbyn. Dyna’n rhannol pam rydw i wedi sefydlu Grŵp Trawsbleidiol yn ddiweddar ar faterion trawsffiniol i geisio dysgu mwy am y gwahaniaeth polisi o boptu’r ffin sy’n datblygu’n broblem ar gyfer gweinyddwyr a chlinigwyr ac yn effeithio ar ofal cleifion. Mae Cymru a Lloegr yn rhannu ffin y gellir ei chroesi’n ddidrafferth ac mae gofal iechyd trawsffiniol yn parhau’n broblem anferthol, gyda chleifion o Sir Drefaldwyn yn teithio i Loegr yn rheolaidd i gael triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Amwythig, Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford ac Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yn Gobowen.
Yn anffodus, mae’r gwahaniaethau mewn polisi yng Nghymru a Lloegr yn cael effaith uniongyrchol ar fynediad at ofal, a chysondeb ac ansawdd gofal i gleifion nad yw’r protocol comisiynu yn 2013 wedi mynd i’r afael ag ef yn llawn. O ganlyniad, mae llawer o bobl yn fy etholaeth yn dioddef yn sgil y loteri cod post o safbwynt amseroedd aros, penderfyniadau ariannu a blaenoriaethau gwahanol o ran triniaeth. Mae hyn yn golygu bod cleifion Canolbarth Cymru yn aml yn disgyn rhwng y craciau gweinyddol wrth gael mynediad at ofal.
Fel mae Cydffederasiwn GIG Cymru wedi dweud, mae angen mwy o ymgysylltu â dinasyddion o boptu’r ffin er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddatganoli a’r gwahaniaethau yn y driniaeth sydd ar gael ac amseroedd aros gan nad yw llawer o gleifion ar y naill ochr a’r llall i’r ffin yn ymwybodol o’r potensial bod yna wahaniaeth rhwng gwasanaethau iechyd nac oblygiadau ehangach posibl cofrestru gyda meddyg teulu ar y naill ochr neu’r llall i’r ffin.
Yn olaf, dylid rhoi mwy o ystyriaeth i faterion ffiniol wrth lunio polisi. Daeth ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y llynedd i Ofal Iechyd Trawsffiniol i’r casgliad bod yn rhaid i ddarparwyr gofal iechyd yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru gynnal cysylltiadau agosach er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn y driniaeth sydd ei angen arnynt ym mha bynnag wlad maen nhw’n byw. Dylai polisïau gael eu llunio “yn annibynnol ar y ffin” er mwyn darparu cysondeb o ran gofal iechyd a bydd hynny’n un o flaenoriaethau cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol newydd rwy’n Gadeirydd arno.
Byddwn yn croesawu sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi camau ar waith i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a phartïon eraill sydd â diddordeb er mwyn sicrhau bod argymhellion diweddar yn cael eu gweithredu.
Cynllun Datblygu Lleol Powys - Ynni Adnewyddadwy
________________________________________
Rydw i wedi gwrthwynebu’n ffurfiol ymyrraeth Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLl) Cyngor Sir Powys. Mae fy ymateb llawn ar gael yma.
Mae natur brig i lawr y diwygiadau polisi diweddar a’r pwerau ychwanegol sylweddol y mae Gweinidogion Cymru yn eu cadw ar eu cyfer eu hunain, yn enwedig mewn perthynas â datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach, nid yn unig yn tanseilio democratiaeth leol ac yn effeithio’n andwyol ar ymgysylltu â’r gymuned, ond yn tanseilio hygrededd y broses gynllunio gyfan yn ddifrifol.
Mae hyn mewn cyferbyniad uniongyrchol â’r ymagwedd a gymerwyd gan Lywodraeth y DU lle mae agenda o frogarwch yn cael ei fabwysiadu a bydd hefyd yn golygu bod Powys ac awdurdodau cyfagos yn Lloegr yn gwbl groes i’w gilydd o safbwynt cynlluniau o’r fath lle y gwelir effaith trawsffiniol.
Rwy’n credu i’r carn y dylid ymdrechu i sicrhau bod penderfyniadau cynllunio pwysig yn cael eu gwneud yn agos at y bobl y maent yn effeithio arnynt. Mae’r ymyriadau diweddar hyn gan Lywodraeth Cymru, yn adlewyrchu eu hawydd i ganoli pwerau pwysig cynrychiolwyr etholedig ymhellach, a thrwy hynny atal llais pobl leol ac yn bwysicaf oll erydu egwyddorion democratiaeth leol.
Ysgolion Cynradd Y Trallwng
________________________________________
Mae pob ysgol gynradd yn y Trallwng yn cau gydag ysgol cyfrwng Saesneg newydd ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cymryd eu lle. Bydd yr ysgol cyfrwng Saesneg yn cael ei lleoli yn Ysgol Uwchradd y Trallwng a bydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg yn cael ei lleoli yn Ysgol Maesydre. Er fy mod yn sylweddoli y bydd rhywfaint o amharodrwydd i weld yr ysgolion presennol yn cau, mae angen i amodau addysg wella, ac roeddwn i’n cefnogi’r cynigion i’r carn.
Ysgolion Dwyieithog Gwledig
________________________________________
Er gwaethaf ymdrechion a gwaith caled athrawon a llywodraethwyr mewn ysgolion gwledig dwy ffrwd ar draws Powys, mae llawer ohonynt dan bwysau i wneud arbedion er mwyn ateb yr her sydd wedi ei osod gan Gyngor Sir Powys iddynt gadw o fewn eu cyllidebau. Mewn llawer o achosion, gallai hyn arwain at gyfuno ffrydiau babanod Cymraeg a Saesneg am ran o’r dydd, a allai beryglu statws dwyieithog yr ysgolion.
Yn ddiweddar, codais y mater hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am addysg Gymraeg, Alun Davies, ac roeddwn yn falch ei fod yn pwysleisio pwysigrwydd tegwch o ran sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad cyfartal at addysg Gymraeg a Saesneg. Mae’n hanfodol bod Cyngor Sir Powys yn mabwysiadu’r egwyddor hon wrth gyflwyno cynigion ar gyfer darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog yn y Sir.
Rwy’n cymeradwyo gwaith fy nghyd-Aelod, y Cyng. Aled Davies, sydd wedi bod yn ymgyrchu i sicrhau na ddylai ceisio sicrhau cyllideb gytbwys fod ar draul safonau addysgol ac y dylai’r fformiwla ariannu ddarparu cyllid ac adnoddau digonol i gynnal ysgolion dwyieithog bach gwledig. Os na ddarperir mwy o adnoddau, yr ofn yw y bydd addysg plant mewn llefydd fel Llanrhaeadr ym Mochnant a Llanfyllin yn cael ei niweidio a bydd darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei pheryglu ymhellach.
Gwasanaeth ffonau symudol
________________________________________
Yn fy nghylchlythyr fis diwethaf, adroddais y byddai EE mewn sefyllfa i gwblhau gwelliannau ar eu mastiau ffôn symudol a dechrau darparu gwell gwasanaethau 2G, 3G a 4G yn ardal y Drenewydd a fyddai’n cael eu rhoi ar waith ddiwedd mis Tachwedd. Rwy’n falch o ddweud bod hyn bellach wedi digwydd ac y dylai pobl ardal y Drenewydd nawr fod yn mwynhau gwell gwasanaethau ar rwydwaith EE. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod gwelliannau i wasanaethau wedi bod yn araf yn digwydd mewn rhannau eraill o Sir Drefaldwyn felly rwy’n parhau i bwyso ar y gweithredwyr a Llywodraeth Cymru. Os oes gennych bryderon neu gwestiynau penodol am eich ardal, rhowch wybod i mi a byddwn yn hapus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Cynigion y Comisiwn Ffiniau - Sir Drefaldwyn
________________________________________
Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn Ffiniau yn adolygu ffiniau etholaethau seneddol ledled y DU cyn Etholiad Cyffredinol 2020. Mae ein AS, Glyn Davies, wedi cyhoeddi crynodeb defnyddiol o’r caman sydd wedi arwain at y sefyllfa bresennol ar ei flog yma – http://glyn-davies.blogspot.co.uk/2016/10/the-fight-to-save-montgomerys…;
Yng nghynigion drafft y Comisiwn Ffiniau (yma) gwelir gostyngiad o 40 sedd i ddim ond 29 o seddi yng Nghymru (sy’n adlewyrchu gor-gynrychiolaeth hanesyddol). Fodd bynnag, o ganlyniad, bydd etholaeth seneddol hanesyddol Sir Drefaldwyn yn diflannu o dan y cynigion hyn.
Rwy’n credu bod yn rhaid rhoi llawer mwy o bwyslais ar bellter, daearyddiaeth a nodweddion diwylliannol tebyg er mwyn hyrwyddo cynrychiolaeth effeithiol mewn ardaloedd gwledig. Mae cymdeithas leol fy mhlaid wedi cyflwyno cynnig amgen ar gyfer Canolbarth Cymru sy’n creu etholaeth ar gyfer y Canolbarth ac yn cadw Sir Drefaldwyn yn gyfan. Disgwylir i benderfyniad terfynol gael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yn senedd San Steffan yn Hydref 2018.
Pont Caersws
________________________________________
Yn ddiweddar, estynnais wahoddiad i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates AC, ymweld â Chaersws a chwrdd â thrigolion lleol ac ymgyrchwyr o Grŵp Gweithredu Pont Caersws. Roeddwn am iddo weld â’i lygaid ei hun y perygl i gerddwyr dros y bont ac i glywed am wrthwynebiad y gymuned i’r opsiwn a ffefrir, sef system goleuadau traffig a ystyrir yn anymarferol ac a allai achosi tagfeydd traffig. Cafwyd cyfarfod adeiladol.
Ar hyn o bryd, mae’r bont yn gul a phrin bod digon o le i ddau gar basio gyda gofal. Mae adroddiadau di-ri o ddrychau car yn cael eu difrodi ac yn sicr does dim digon o le i gar a lori neu fws basio. Mae’n rhaid i drigolion hefyd gerdded dros y bont i fynd i’r cae chwarae a’r cae pêl-droed ac mae hyn yn amlwg yn achosi perygl annerbyniol i gerddwyr.
Ers tro byd, rydw i wedi cefnogi ymgyrch y gymuned am bont droed ar wahân yng Nghaersws a fyddai’n ei gwneud hi’n ddiogel i gerddwyr ei chroesi. Felly, roeddwn yn falch, wedi iddo weld peryglon croesi’r bont â’i lygaid ei hun, bod y Gweinidog yn cytuno’n llwyr fod yn rhaid gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Mynegais fy marn na fyddai goleuadau traffig yn dderbyniol yn y fan hon, ac roeddwn yn falch bod y Gweinidog wedi cytuno i gysylltu â Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch strwythur y bont er mwyn penderfynu pa sgôp strwythurol oedd yna o bosib i ychwanegu llwybr i gerddwyr at y bont bresennol.
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus - Cynghorau Tref a Chymuned
________________________________________
Yn ddiweddar, cefais gyfle i godi mater y dryswch sy’n bodoli’n aml pan mae cynghorau tref a chymuned yn awyddus i ymgymryd â darparu gwasanaethau a fu gynt yn cael eu darparu gan y Cyngor Sir. O dan adran benodol o’r Ddeddf Llywodraeth Leol, mae darpariaeth i ganiatáu i gyngor cymuned neu dref wario swm cyfyngedig at ddibenion nad oes ganddo unrhyw bŵer neu ddyletswydd benodol arall yn eu cylch, a fydd yn dod â budd uniongyrchol i’w ardal neu unrhyw ran ohoni.
Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg bod angen eglurder ar frys ar yr amgylchiadau lle y gall cynghorau tref a chymuned gymryd rheolaeth dros asedau a gwasanaethau lleol pwysig sy’n amlwg er budd y cyhoedd.
Er enghraifft, yn ddiweddar, codais achos Cyngor Tref Llanfair Caereinion sy’n awyddus i ymgymryd â’r gwaith o redeg Llyfrgell y Dref, gan gymryd yr awenau oddi ar y Cyngor Sir mewn ymdrech i’w achub rhag cau. Er gwaethaf parodrwydd Cyngor y Dref i fuddsoddi yn yr ased cyhoeddus pwysig, cawsant gyngor cyfreithiol yn dweud bod Cyngor y Dref wedi ei wahardd rhag buddsoddi yn y llyfrgell oherwydd darpariaethau o dan Adran 137 y Ddeddf. Fodd bynnag, mae’r awdurdod lleol, Cyngor Sir Powys, wedi derbyn cyngor cyfreithiol i’r gwrthwyneb ac erbyn hyn mae dryswch ynghylch sut i weithredu Adran 137 mewn perthynas â gallu Cynghorau Tref a Chymuned i reoli asedau a gwasanaethau.
Mae yna ofn y bydd Llyfrgell Llanfair Caereinion yn cau heb ymyrraeth Cyngor y Dref a byddai’n drueni os caniateir i hyn ddigwydd am eu bod yn cael eu rhwystro gan fiwrocratiaeth. Mae Cyngor y Dref yn barod i gymryd rheolaeth dros y llyfrgell ond mae yna amwysedd a dryswch o ran dehongli’r sefyllfa gyfreithiol a fyddai’n eu galluogi i wneud hynny.
Does dim amheuaeth y bydd cynghorau tref a chymunedol eraill mewn sefyllfa amwys debyg felly roeddwn yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am roi sylw i’r mater hwn ac rwy’n croesawu ei fwriad i gyflwyno cynigion fel rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Llywodraeth Leol a fydd yn gwneud y gyfraith yn fwy clir mewn perthynas â phŵer a galluoedd cynghorau tref a chymuned i ymgymryd â gwasanaethau ac asedau.
Yn y cyfamser, rwy’n gobeithio y bydd Cyngor y Dref a Chyngor Sir Powys yn gallu dod i gytundeb a fydd yn diogelu dyfodol llyfrgell Llanfair Caereinion.
Ardrethi Busnes
________________________________________
Fis diwethaf, bûm yn arwain dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau economaidd sydd ar gael iddi i eithrio busnesau bach rhag gorfod talu ardrethi busnes yn llwyr.
Mae ardrethi busnes wedi eu datganoli i Gymru ers mis Ebrill 2015, ac eto nid yw Llywodraeth Cymru wedi dewis rhoi cynllun cymorth parhaol ar waith.
Yn ystod fy nghyfraniad, dangosais glip fideo o berchnogion busnesau bach o bob rhan o Gymru sydd wedi cyfrannu at fideo ar sut mae eu busnesau wedi cael eu heffeithio’n andwyol gan faich ardrethi busnes.
Mae un o’r perchnogion busnesau bach hyn, Megan Lawley o Jazz Clothing yn y Drenewydd, yn wynebu cynnydd sylweddol yn ei hardrethi busnes o fis Ebrill y flwyddyn nesaf a soniodd y byddai hi o bosibl yn gorfod symud i Swydd Amwythig lle y byddai hi’n gallu cael rhyddhad llwyr o’i hardrethi busnes. Wrth ymweld â busnes yn y Trallwng ddydd Sadwrn diwethaf, codwyd pryderon eraill gyda mi.
Roeddwn yn falch o allu codi achos penodol Megan i ddangos annhegwch yr ardreth lem hon sydd wedi golygu bod rhai busnesau wedi symud dros y ffin neu wedi gorfodi perchnogion busnesau bach eraill i fenthyg arian oddi wrth eu teuluoedd i gadw eu hunain eu pen uwchben y dŵr.
Mae angen diwygiadau sylfaenol er mwyn creu system sy’n lleihau’r pwysau ar fanwerthwyr a busnesau bach ledled Cymru i’w galluogi i ail-fuddsoddi, creu swyddi ac ehangu.
Cynllun Pwyntiau Trydan i Gerbydau Trydan
________________________________________
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi agor cynllun grant ar gyfer pwyntiau trydan yn y cartref ac yn y gweithle ar gyfer cerbydau trydan. Mae'r ddau yn gymwys i Gymru a gall rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn i'w gweld ar y ddolen hon
https://www.gov.uk/government/collections/government-grants-for-low-emi…
Pen-blwydd John Roberts, Telynor Cymru, yn 200
________________________________________
Fis diwethaf, bu dathliadau i nodi 200 mlynedd ers geni un o gerddorion enwocaf Canolbarth Cymru, John Roberts, Telynor Cymru ac roeddwn yn falch o allu nodi ei ddaucanmlwyddiant yn y Senedd . I gofio am ei fywyd a’i waith, cafwyd deuddydd o berfformiadau, sgyrsiau a digwyddiadau yn olrhain ei hanes a sut y daeth yntau a’i deulu, a oedd yn byw yn y Drenewydd, yn un o ddoniau cerddorol mwyaf adnabyddus Cymru yn eu dydd.
Roedd y dathliadau yn rhan o Ŵyl Gregynog a gynhaliwyd yn Neuadd Gregynog. Yn fab i fam Romani a thad o ogledd Cymru, bu Roberts yn byw yn Stryd Frolic yn y Drenewydd am ran helaeth o’i fywyd a gwyddom ei fod wedi perfformio yn Neuadd Gregynog yn ystod canol y 19eg ganrif. Bu yntau a’i deulu’n perfformio yng Ngwesty’r Bear yn y Drenewydd a buont hefyd yn canu naw telyn deires gerbron y Frenhines Fictoria pan ddaeth hithau ar ymweliad â gogledd Cymru. Ym 1848, enillodd gystadleuaeth telyn y byd yn y Fenni, yn ogystal â’r wobr am ganu’r delyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yr un flwyddyn. Rhoddodd Roberts y Drenewydd yn gadarn ar y map cerddorol ac mae’n parhau’n ffigwr arwyddocaol yn niwylliant Cymru.
Cymorthfeydd
________________________________________
Os hoffech wneud apwyntiad, ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887 neu anfonwch e-bost at [email protected]
Byddaf hefyd yn cynhyrchu Calendr 2017 gyda holl ddyddiadau’r cymorthfeydd sydd i ddod. Mae croeso i chi gysylltu â mi os hoffech dderbyn calendr drwy’r post.