Cylchlythyr mis Tachwedd
Diweddariad misol Russell George AC am ei waith yn Sir Drefaldwyn a’r Cynulliad Cenedlaethol
Annwyl breswylydd,
Mae’n bwysig i mi fy mod yn cadw mewn cysylltiad â chi, a’ch bod yn ymwybodol o’r materion rwy’n gweithio arnyn nhw yn Sir Drefaldwyn ac yn y Senedd.
Roeddwn i’n falch iawn o gael mynychu digwyddiadau i gefnogi Dementia Friendly Newtown a Dementia Friendly Welshpool yn ystod yr wythnosau diwethaf a gweld gwaith da gwirfoddolwyr yn y ddwy ardal.
Gobeithio bydd y cylchlythyr hwn yn ddefnyddiol i chi. Cysylltwch â mi unrhyw bryd ar 01686 610887 neu e-bost [email protected]
Cofion gorau
Russell George
Aelod Cynulliad Cenedlaethol Sir Drefaldwyn
Ffordd Osgoi’r Drenewydd
________________________________________
Rwy’n falch o allu rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am y gwaith ar Ffordd Osgoi’r Drenewydd sy’n mynd rhagddo’n dda. Mae’n dasg enfawr a fydd yn fuddiol tu hwnt i economi’r Canolbarth. Y sail resymegol gyffredinol ar gyfer y rhaglen waith yw y bydd pob strwythur ar hyd y ffordd osgoi yn dechrau’r flwyddyn nesaf a bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn canol 2018. Caiff y gwrthgloddiau eu cwblhau i raddau helaeth i’r gorllewin o Heol Dolfor ac i’r dwyrain o Heol Kerry hyd at y rheilffordd yn 2017. Bydd gweddill y gwrthgloddiau yng nghanol cynllun ac ar y pen dwyreiniol yn cael eu cwblhau yn 2018 ar ôl adeiladu’r pontydd.
Mae’r gwaith ar ben gorllewinol y cynllun ger Glandulas yn mynd rhagddo’n dda a dylai gael ei gwblhau erbyn canol 2018 a gobeithir cwblhau’r bont sy’n cysylltu’r parciau gwyliau erbyn gwanwyn 2017 a dylai hyn helpu i leihau unrhyw aflonyddwch i breswylwyr y parc.
Mae’r gwaith cloddio sydd wedi dechrau’n ddiweddar ar Ffordd Dolfor Uchaf ar gyfer y drosbont ar Ffordd Dolfor Uchaf a’r nad yw cwblhau’r strwythur hwn yr haf nesaf.
Mae’r gwaith ar y brif bont ar draws Cwm Dolfor i fod i ddechrau ym mis Chwefror, a’i orffen erbyn gwanwyn 2018. Bydd hyn galluogi i’r gwaith ar y gwrthgloddiau a’r ffordd i’r dwyrain o’r bont gael eu cwblhau.
Yn olaf, er i’r gwaith adeiladu ddechrau tua 8 mis yn ôl, rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i’m cais am ddigwyddiad “torri tywarchen” ffurfiol i ddathlu adeiladu’r ffordd osgoi.
Pont Dyfi
________________________________________
Mae Llywodraeth Cymru wedi’m hysbysu eu bod yn dal i fwrw ’mlaen â’r gwaith o ddatblygu’r Bont Dyfi newydd a bydd mewn sefyllfa i gyhoeddi Gorchmynion Statudol drafft a Datganiad Amgylcheddol cyn diwedd y flwyddyn. Ar ôl eu cyhoeddi, bydd preswylwyr yn gallu mynegi eu barn ar y cynigion a bydd y sylwadau’n helpu Llywodraeth Cymru i benderfynu sut y dylid datblygu’r cynllun ac a fydd angen ymchwiliad cyhoeddus ai peidio.
Croesfan Talerddig
________________________________________
Bydd digwyddiad galw heibio yn cael ei gynnal gan Network Rail Cymru yng Nghanolfan Gymunedol Carno ar 23 Tachwedd rhwng 3yp a 7yh.
Nod y sesiwn yw rhoi cyfle i drafod y cynllun a ddatblygwyd ar y cyd â Chyngor Sir Powys, i alluogi cau 5 croesfannau gweithiol a 3 croesfannau llwybr troed ar Reilffordd y Cambrian yn ardal Talerddig.
Mae Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd wedi ei gwneud yn glir eu bod yn disgwyl i Network Rail i gau croesfannau lefel lle bynnag ymarferol bosibl oherwydd y nifer o farwolaethau ac anafiadau ar y llinell.
Ymgynghori ar Ddyfodol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ym Mhowys
________________________________________
Rwyf wedi derbyn pentwr o lythyrau a negeseuon e-bost gan breswylwyr sy’n poeni am yr ymgynghoriad a gynhelir ar hyn o bryd gan Gyngor Sir Powys sy’n ymwneud â gwastraff cartref, sy’n cyflwyno nifer o gynigion i dorri costau a allai arwain at gau rhagor o ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn y Drenewydd neu’r Trallwng.
Rwyf wedi codi’r mater yn ddiweddar gyda Mark Drakeford AC, y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Lywodraeth Leol, i fynegi fy mhryderon am y posibilrwydd o gau mwy o ganolfannau ailgylchu ym Mhowys.
O ganlyniad i gau Canolfan Ailgylchu Potters Yard ym Machynlleth, mae disgwyl yn barod i rai o breswylwyr Sir Drefaldwyn deithio hyd at 30 milltir i’r ganolfan ailgylchu agosaf.
Credaf fod angen diwygio Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, sy’n nodi bod gan awdurdodau lleol rwymedigaeth statudol i ddarparu o leiaf un cyfleuster i breswylwyr lle gallant gael gwared ar eu gwastraff cartref, i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi. Daeth Deddf yr Amgylchedd i rym cyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. Ym Mhowys, oherwydd y ffordd y mae’r Ddeddf wedi’i geirio, dim ond un cyfleuster fyddai ei angen ledled y sir i fodloni’r rhwymedigaeth statudol. Er nad yw Cyngor Powys yn cynnig mynd mor bell â hyn ar hyn o bryd, mae’n amlwg bod angen diweddaru’r ddeddfwriaeth hon.
Mae pryder difrifol hefyd y gallai cau safle yn y Drenewydd neu’r Trallwng arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon a gostyngiad yn y cyfraddau ailgylchu yn yr ardal.
Byddwn yn annog preswylwyr i ymateb i’r ymgynghoriad drwy’r arolwg ar wefan Cyngor Sir Powys erbyn 30 Tachwedd. Mae’r arolwg ar gael yma. Cofiwch, wrth ymateb i ymgynghoriadau, nid oes yn rhaid i chi gwblhau’r arolwg, gallwch anfon llythyr neu neges e-bost i fynegi’ch barn hefyd.
Ymgynghoriad Canolfannau Dydd ar gyfer Pobl Hŷn
________________________________________
Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad ar Ganolfannau Dydd ar gyfer Pobl Hyn. Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig a’u cyflenwi yn y canolfannau dydd yn hollbwysig i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth a’u teuluoedd ar sawl lefel. Darllenwch fy ymateb llawn i’r ymgynghoriad yma.
Cefnogi Digwyddiadau Pwysig
________________________________________
Yn gynharach yn y mis, roeddwn i’n falch o allu tynnu sylw at lwyddiant parhaus Sioe Awyr y Trallwng sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed fis Mehefin nesaf. Dylai’r Sioe Awyr, a gynhelir bellach er cof am y diweddar Bob Jones, dderbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu’r digwyddiad a denu mwy o ymwelwyr i’r Canolbarth. Mae’r digwyddiad yn prysur droi’n ddigwyddiad pwysig iawn yn Sir Drefaldwyn, ac mae eisoes wedi croesawu’r Red Arrows, tîm arddangos parasiwtiau RAF Falcons, Hediad Coffa Brwydr Prydain ac awyren Typhoon. Roeddwn yn falch bod y Prif Weinidog, ar ôl i mi ei holi, wedi cadarnhau ei fod yn ymwybodol o’r cynnig am gyllid grant sydd wedi’i gyflwyno gan y trefnwyr ac y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cysylltu â nhw maes o law.
Band Eang a Ffonau Symudol
________________________________________
Yr wythnos ddiwethaf, arweiniais drafodaeth yn y Cynulliad yn annog Llywodraeth Cymru i anrhydeddu ei haddewid i ddarparu band eang i bawb. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn galw’n gyson am gyflwyno band eang cyflymder uchel a gwell signal ffonau symudol ledled y Canolbarth.
Er y dylid cydnabod bod prosiect Cyflymu Cymru yn sicr wedi gwella argaeledd band eang ffibr ledled Sir Drefaldwyn i lawer, gan sicrhau budd i breswylwyr a busnesau, rwy’n feirniadol iawn o fethiant Llywodraeth Cymru i anrhydeddu ei hymrwymiad i ddarparu mynediad i fand eang cyflym iawn i bawb erbyn 2015. Rydw i a llawer o bobl eraill wedi cael llond bol o ddisgwyl i welliannau ein cyrraedd. A hithau bellach yn 2016, rydym yn dal i fod yn bell i ffwrdd o gael mynediad i fand eang cenhedlaeth nesaf i bawb. Mae’r targedau wedi’u newid yn gyson, mae pobl wedi clywed esgusodion ac nid yw busnesau wedi gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae’n hanfodol nawr bod Llywodraeth Cymru’n cydweithio’n agos â’r rheoleiddiwr a gweithredwyr rhwydweithiau; yn ystyried diwygio system gynllunio fel sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr a’r Alban; ac yn rhoi cynllun gweithredu ffonau symudol ar waith sy’n mynd i’r afael â methiannau yn y farchnad - dyma rai o’r mesurau sydd wir angen i sicrhau cysylltedd digidol yr 21ain Ganrif fel sydd gan bobl yn y trefi a’r dinasoedd yn barod.
O’m rhan i, byddaf yn dal ati i ymgyrchu tan i’r rhaniad digidol ddiflannu ac roeddwn i’n falch iawn bod y Gweinidog wedi cytuno i ymuno a mi yn Sir Drefaldwyn i gyfarfod trigolion a busnesau sy’n dal i aros am fand eang ffibr, ac egluro wrth bob yn ein hardal beth mae hi a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i’n cynorthwyo.
Gallwch ddarllen fy nghyfraniad at y drafodaeth ac ymateb y Gweinidog ar fy ngwefan yma.
Ffonau Symudol – Y Drenewydd
________________________________________
Fis yn ôl trafodais broblemau gyda ffonau symudol; yn y Trallwng a Llanidloes, a byddwch yn ymwybodol fy mod wedi tynnu sylw at y diffyg signal ffonau symudol yn gyson yn ardaloedd gwledig Sir Drefaldwyn. Yn gynharach y mis yma, derbyniais ddiweddariad gan EE am y signal yn y Drenewydd a’r cyffiniau.
Efallai y byddwch yn cofio i mi gynnal cyfarfod â’r holl ddarparwyr rhwydwaith yn y Drenewydd fis Tachwedd y llynedd lle cadarnhaodd EE y byddai gan y Drenewydd signal 4G erbyn mis Chwefror 2016. Yn anffodus, methodd wneud hyn oherwydd problemau technegol a chefais gyfarfod arall â nhw ym mis Gorffennaf. Cadarnhawyd eu bod yn dal i geisio datrys y problemau technegol er mwyn darparu 4G ac i wella capasiti eu mastiau. Dywedodd EE eu bod yn eithaf hyderus y byddai’r gwaith hwn yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2016 ac maent wedi cadarnhau bellach y bydd gwell gwasanaethau 2G, 3G a 4G yn cael eu ar waith ddiwedd y mis (Tachwedd).
Cyllid y Loteri Genedlaethol i drechu tlodi ym Mhowys
________________________________________
O 1 Tachwedd ymlaen, gall grwpiau cymunedol yng nghefn gwlad Cymru wneud cais am grantiau rhwng £10,000 a £350,000 o raglen gyllid y Loteri Genedlaethol gwerth £13.5 miliwn sydd â’r nod o drechu tlodi mewn cymunedau gwledig gyda phoblogaeth o 10,000 neu lai. Nid yw’r mathau o weithgareddau y gellid eu cyllido’n cael eu nodi, ond byddai angen i geisiadau ddangos sut mae grwpiau’n gwneud unrhyw un o’r canlynol i fynd i’r afael â thlodi: gwella llesiant, codi dyheadau, gwella’r sgiliau sydd ar gael yn y gymuned neu helpu pobl i ymdopi ag amgylchiadau anodd. Galli hyn gynnwys themâu fel cyflogaeth ac incwm, trafnidiaeth a mynediad i wasanaethau, band eang gwael ac allgau digidol, tlodi tanwydd a thai a’r galw am wasanaethau lles a chyngor.
Am ragor o wybodaeth am y cyllid diweddaraf ac i wneud cais, ewch i https://www.biglotteryfund.org.uk/welsh/global-content/programmes/wales/rural-programme-community-grants
Byddai’n bleser cyfarfod a chynorthwyo grwpiau gyda’r broses ymgeisio.
Cymorthfeydd Cyngor
________________________________________
Dydd Gwener 25 Tachwedd – Y Drenewydd
Dydd Gwener 9 Rhagfyr - Llanidloes
Dydd Gwener 16 Rhagfyr – Y Trallwng
Dydd Gwener 16 Rhagfyr – Llanfyllin
Os ydych chi am wneud apwyntiad, ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887 neu e-bostiwch [email protected]