Annwyl Breswylydd
Dyma fy nghylchlythyr olaf am 2015.
Mae 2015 wedi bod yn flwyddyn o benderfyniadau pwysig a oedd yn effeithio ar bobl Sir Drefaldwyn. Yn eu plith roedd y newyddion gwych y bydd gwaith adeiladu’n dechrau ar Ffordd Osgoi’r Drenewydd fis nesaf, a chyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod yn cefnogi penderfyniad gwreiddiol Cyngor Sir Powys i wrthod ceisiadau’n ymwneud â Phrosiect Cysylltu Canolbarth Cymru.
Mae’n siŵr y bydd y flwyddyn nesaf yr un modd anodd gyda’r adolygiad o wasanaethau’r GIG yn Swydd Amwythig ac ad-drefnu ysgolion uwchradd yng ngogledd Powys.
O ran gofal iechyd, sef testun y rhan fwyaf o’ch llythyron ataf, fy mlaenoriaeth fydd ymgyrchu dros gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbytai Bronglais ac Amwythig a galw am welliannau i’r cyfleusterau iechyd sydd gennym ni yma yn Sir Drefaldwyn.
Efallai y cofiwch i mi ymgyrchu’n frwd dros gael gwasanaeth band eang a ffonau symudol gwell. A ninnau ar drothwy 2016, byddaf yn parhau i roi pwysau ar BT, gweithredwyr y rhwydwaith symudol a’r Llywodraeth i sicrhau nad yw ardaloedd gwledig y canolbarth yn cael eu gadael ar ôl wrth i fand eang cyflym iawn a gwasanaeth symudol cyflym gael ei gyflwyno.
Yn ôl yr arfer, os oes gennych chi unrhyw sylwadau am gynnwys fy nghylchlythyr neu os ydych chi angen fy help mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â mi drwy’r e-bost, [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
I gloi, hoffwn ddymuno Nadolig dedwydd a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Cofion gorau
Russell
Iechyd
Gwasanaethau’r GIG – Swydd Amwythig
Wrth i ni aros am ganlyniad y rhaglen NHS Future Fit, a fydd yn cyflwyno’i chasgliadau ar newid y model cyfredol o ofal iechyd yn Swydd Amwythig erbyn gwanwyn 2017, mae meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn pryderu y bydd pwysau cynyddol ar wasanaethau fel adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, gofal critigol a meysydd arbenigol eraill dros y deunaw mis nesaf, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf.
Rwy’n poeni’n arbennig am yr awgrym mai un mesur a allai gael ei roi ar waith ar unwaith yw bod un o ddwy adran Damweiniau ac Achosion Brys Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford yn cael ei chau dros nos am gyfnod dros dro oherwydd prinder staff. Mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu hasesu i ganfod sefyllfaoedd a allai “droi’r fantol” mewn Adran Achosion Brys, sy’n golygu na ellid cadw’r gwasanaeth fel ag y mae ar hyn o bryd.
Byddaf yn gofyn am sicrwydd gan Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford fod digon o staff i sicrhau bod y ddwy adran Damweiniau ac Achosion Brys, y naill yn y Princess Royal Hospital yn Telford a’r llall yn y Royal Shrewsbury Hospital, yn aros ar agor 24 awr y dydd i ymdrin â salwch acíwt ac anafiadau.
Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi adroddiad yn argymell cadw gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Dyma fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin ac rwy’n falch fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrando o’r diwedd ar bryderon ymgyrchwyr, staff clinigol ac aelodau’r cyhoedd a oedd yn gwrthwynebu’r cynlluniau. Mae’r ansicrwydd ynghylch dyfodol y gwasanaethau hyn wedi achosi cryn straen i staff, menywod beichiog a’u teuluoedd ac rwy’n falch fod y mater wedi’i ddatrys bellach.
Gofal Lliniarol
Ddiwedd mis Tachwedd, cefais y pleser o ymuno â thîm Marie Curie yn y Senedd i gefnogi ymgyrch yr elusen i sicrhau bod pawb yn gallu cael gofal lliniarol pan fyddan nhw ei angen. Hefyd, es i ddigwyddiad yn ddiweddar yng Ngwesty’r Royal Oak yn y Trallwng i ddathlu ymdrechion grŵp codi arian Marie Curie y dref sydd wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol iawn – maen nhw wedi llwyddo i godi dros £200,000 ers sefydlu’r grŵp yn 2011.
Yn Sir Drefaldwyn, mae gan Marie Curie tua wyth nyrs yn rhoi gofal a chymorth, rhwng 10pm a 7am fel arfer. Mae gwaith nyrsys Marie Curie i ofalu am a chynorthwyo pobl sy’n byw â salwch angheuol yn eithriadol yng ngwir ystyr y gair.
Cyngor Sir Powys – Setliad cyllido annheg
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi ei setliad llywodraeth leol drafft ar gyfer 2016-17, ac mae’n gryn ergyd i Bowys. Am naw mlynedd yn olynol, mae Cyngor Sir Powys wedi cael un o’r setliadau cyllido llywodraeth leol gwaethaf gan Lywodraeth Cymru o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Yn 2016-17, o ganlyniad i ostyngiad o 4.1% yn y gyllideb, y mwyaf yng Nghymru, bydd rhaid i Powys ganfod gwerth miliynau o arbedion ychwanegol. Mae’r gostyngiad hwn yn golygu, at ei gilydd, fod cyllideb y cyngor wedi gostwng 13%, bron i £22 miliwn, yn y tair blynedd diwethaf.
Rwyf wedi bod o’r farn ers blynyddoedd bod angen mynd ati ar fyrder i ailystyried y fformiwla sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo sut caiff arian ei ddyrannu. O dan y system bresennol, mae cynghorau yn ardaloedd trefol y de yn cael setliadau ariannol gwell o lawer. Ar y llaw arall, mae’r cynghorau mwyaf gwledig fel Powys ymhlith y rhai sy’n cael y setliadau arian parod gwaethaf. Mae siâr Powys o’r arian wedi gostwng 4.1% ond dim ond 0.1% y mae’n rhaid i Gaerdydd ei arbed.
Rydym ni ym Mhowys yn haeddu gwell o lawer a rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r setliad ariannol annheg hwn. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddiwygio’r fformiwla sy’n cael ei defnyddio i benderfynu faint o arian y bydd pob cyngor yn ei gael. Mae’r system fel ag y mae yn wallus gan nad yw hi’n ystyried pa mor anodd yw darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol dros ardaloedd eang o gefn gwlad yn y canolbarth.
Fel AC sy’n cynrychioli’r ardal hon, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y setliad annheg hwn. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau eraill sy’n cynrychioli’n hardal yn gwneud yr un fath.
Os hoffech chi arwyddo fy neiseb i ddiwygio’r fformiwla cyllid llywodraeth leol, ewch i’m gwefan - www.russellgeorge.com/fair-funding
Casglu sbwriel bob tair wythnos
Ers 2 Tachwedd, mae sbwriel yn cael ei gasglu bob tair wythnos yn y sir. Dwi ddim wedi cael fy argyhoeddi hyd yma y bydd hyn yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd mawr. Rwy’n credu bod dechrau casglu sbwriel bob pythefnos yn hytrach na phob wythnos wedi llwyddo i annog pobl i ailgylchu gwastraff. Er hynny, dwi ddim yn siŵr a fydd dechrau casglu sbwriel bob tair wythnos yn annog trigolion i ailgylchu mwy nag y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd, a dwi ddim yn gweld sut bydd yn creu rhagor o arbedion effeithlonrwydd sylweddol.
Yn hytrach, rwy’n amau y bydd hyn yn arwain at fwy o bentyrrau o fagiau sbwriel du ar ein strydoedd a chynnydd mewn troseddau amgylcheddol fel tipio anghyfreithlon – ymddygiad gwrthgymdeithasol y bydd rhaid i awdurdodau lleol wario cryn dipyn o arian yn ei ddatrys, sy’n golygu y bydd unrhyw fanteision newid i gasglu sbwriel bod tair wythnos yn mynd yn ofer beth bynnag.
Mae hyn, ynghyd â phenderfyniad anffodus Cyngor Sir Powys i gau Canolfan Ailgylchu Potters ym Machynlleth yn gynharach eleni, wedi arwain at bryder dealladwy ymysg trigolion y bydd tipio anghyfreithlon yn cynyddu a chyfraddau ailgylchu yn lleihau, gan fod y ganolfan ailgylchu agosaf 30 milltir i ffwrdd yn y Drenewydd neu’r Trallwng bellach.
Cliciwch yma i weld newidiadau i’r amserlen casglu gwastraff dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Cliciwch yma i weld calendr 2016 ar gyfer casglu biniau ar olwynion.
Telathrebu
Ffonau symudol
Fis diwethaf, cadeiriais gyfarfod yng Ngwesty’r Elephant & Castle yn y Drenewydd i drafod y signal ffonau symudol yn Sir Drefaldwyn. Roeddwn i’n ddiolchgar bod cynrychiolwyr o’r pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol (EE, Vodafone, O2 a Three) yn ogystal ag Ofcom, corff rheoleiddio’r diwydiant, wedi cytuno i’m cais i ddod i’r cyfarfod i egluro beth maen nhw’n ei wneud i wella’r signal ffonau symudol yn yr ardal.
Ar ôl ateb cwestiynau gan arweinwyr cymunedau o bob cwr o’r sir, gyda rhai ohonynt yn dweud bod y signal yn eu hardal wedi gwaethygu yn ddiweddar, fe wnaeth y gweithredwyr i gyd ddatgan eu bwriad i wella profiad defnyddwyr ffonau symudol yn yr ardal drwy gynyddu’r capasiti ar eu rhwydweithiau.
Bydd gwasanaethau symudol 4G cyflym ar gael mewn rhai rhannau o Sir Drefaldwyn yn fuan. Er enghraifft, dywedodd EE y byddai pob rhan o’r Drenewydd yn cael 4G ym mis Ionawr. Byddaf yn atgoffa’r cwmni o’r ymrwymiad hwn yn flwyddyn newydd.
Roeddwn i’n falch hefyd fod rhai o’r gweithredwyr wedi cydnabod, o leiaf, y gwasanaeth cwsmeriaid gwael y mae llawer o gwsmeriaid yn y canolbarth wedi’i brofi, ac roedd hi’n hollol amlwg i’r gweithredwyr bod angen iddyn nhw wneud gwelliannau mawr i’r ffordd y bydd problemau signal yn y dyfodol yn cael eu hegluro i’w cwsmeriaid yn brydlon ac yn effeithlon fel bod pawb yn gwybod beth sy’n digwydd pan fydd problemau.
Roeddwn i’n falch hefyd fod Ofcom wedi amlinellu rôl y corff, a chadarnhau y byddent yn gosod cosbau ariannol, lle bo’n briodol, os na fyddai gwelliannau’n cael eu gwneud.
Wythnos diwethaf, cefais gyfle hefyd i godi’r mater gyda Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Yn y cyfarfod yn y Drenewydd, dywedodd pob un o weithredwyr y rhwydwaith symudol, er mwyn gallu cyflwyno’r seilwaith symudol angenrheidiol ar draws ardaloedd gwledig y canolbarth er mwyn gwella’r signal, bod yn rhaid iddyn nhw gael caniatâd awdurdodau cynllunio lleol i wneud hynny, yn amodol ar gydsyniad lleol. Rwyf wedi galw ar y Prif Weinidog i asesu a oes angen newid y fframwaith cynllunio i gynyddu’r datblygiad a ganiateir i uchder o 25m a chaniatáu ychwanegu 5m at uchder mastiau mewn ardaloedd heb eu gwarchod. Yn ôl gweithredwyr y rhwydwaith, byddai’r ddau newid hwn yn gwella signal ffonau symudol yn sylweddol.
Rwy’n falch fod y Prif Weinidog wedi cytuno i edrych ar y mater a byddaf yn mynd ati i geisio trefnu cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru a gweithredwyr y rhwydwaith er mwyn ceisio sicrhau gwelliannau mawr eu hangen yn y signal ffonau symudol yn y canolbarth.
Band eang
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad newydd gyhoeddi adroddiad ar brosiect Cyflymu Cymru. Mae’r Pwyllgor wedi ymuno â mi i alw ar BT i wella’r ffordd y mae’n cyfleu amserlen y gwaith uwchraddio band eang i’r cyhoedd. Mae’r Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion sy’n amrywio o sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud i’r ffordd y mae manteision band eang cyflym iawn yn cael eu hesbonio, a sicrhau na fydd ymestyn y prosiect yn arwain at ragor o oedi ar gyfer adeiladau a oedd wedi’u cynnwys yn y contract gwreiddiol.
Rwy’n cytuno i’r carn ag asesiad y Pwyllgor bod angen gwneud rhagor o waith i esbonio pryd yn union y bydd pobl yn cael gwasanaeth gwell a rhoi gwybodaeth ddiamwys i’r trigolion a’r busnesau hynny na fyddan nhw’n cael gwasanaeth gwell fel y gallan nhw wneud trefniadau eraill.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gael yma
Cymunedau
Bancio yn y Gymuned
Cyhoeddodd HSBC yn ddiweddar eu bod yn bwriadu cau canghennau yn Llanfyllin a Llanfair Caereinion ar 12 Chwefror 2016, gyda’r banc yn honni nad yw’r ddwy gangen yn talu ffordd nac yn denu digon o gwsmeriaid i gyfiawnhau agor eu drysau bellach.
Mae cau’r banciau HSBC yn Llanfyllin a Llanfair Caereinion yn ergyd fawr i’r ddwy dref a byddaf yn cyfarfod â Chyfarwyddwr Rhanbarthol HSBC a Glyn Davies, ein AS, i weld a oes gobaith gwrthdroi’r penderfyniad.
Mae’n hanfodol i HSBC ei gwneud hi’n flaenoriaeth trafod trefniadau newydd gyda’r henoed ymhlith eu cwsmeriaid, a lleihau effaith y penderfyniad hwn gymaint â phosibl os yw’r banc yn penderfynu cau’r canghennau.
Mae cau banciau yn ardaloedd gwledig y canolbarth yn cael effaith andwyol ar ein trefi, ac mae cael banciau yn hollbwysig i sicrhau bod y stryd fawr yn ffynnu; nid yn unig ar gyfer cwsmeriaid fel ni ond yn arbennig ar gyfer busnesau lleol sydd angen gwasanaeth cownter bob dydd.
Mae cau banciau lleol yn achosi’r anfantais fwyaf i fusnesau bach, yn enwedig siopau, elusennau a thrigolion mewn oed neu anabl, ac nid yw bancio ar-lein neu ganghennau symudol bob amser yn ddigon i gymryd lle cyfleusterau “cownter” parhaol.
Amaethyddiaeth
Cynllun y Taliad Sylfaenol
Mae’n debyg bod nifer o gamgymeriadau yn y taliadau a wnaed i ffermwyr fel rhan o gynllun y taliad sylfaenol. Mae undebau ffermwyr wedi gofyn i mi atgoffa ffermwyr i fwrw golwg fanwl ar eu datganiad taliad sylfaenol drwy system ar-lein Taliadau Gwledig Cymru er mwyn gofalu bod popeth yn ei le.
Byddaf yn cyfarfod â swyddogion yr FUW a’r NFU yn Sir Drefaldwyn dros yr wythnosau nesaf.
Dolenni defnyddiol
Er mwyn i chi allu cael y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd, graeanu yn y gaeaf, tagfeydd traffig ac ysgolion sydd ar gau, dyma’r dolenni perthnasol i chi:
Rhybuddion a Chyngor am Lifogydd
Tagfeydd traffig a gwaith ffordd sydd wedi'i gynllunio