Newyddion diweddaraf misol Russell George AC am ei waith yn Sir Drefaldwyn a’r Cynulliad Annwyl breswylydd, Roedd yn fraint cael fy ailethol yn Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn. A fyddech cystal â chlicio yma am ganlyniadau’r etholiad yn llawn. Yn naturiol, rydw i’n ddiolchgar i’r rhai sydd wedi pleidleisio drosta i ac wedi ymddiried ynof i sefyll dros fuddiannau Sir Drefaldwyn yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ac i’r rhai na phleidleisiodd drosof, gallaf eich sicrhau y byddaf yn gwneud fy ngorau i gynrychioli pawb yn Sir Drefaldwyn hyd eithaf fy ngallu. Yn y Canolbarth, mae gennym ddau Aelod Cynulliad rhanbarthol newydd gyda Neil Hamilton (UKIP) ac Eluned Morgan (Llafur) yn ymuno â Simon Thomas (Plaid Cymru) a Joyce Watson (Llafur). Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio â holl Aelodau Cynulliad y Canolbarth er mwyn sefyll dros fuddiannau Sir Drefaldwyn yn y Cynulliad. Mae yna waith pwysig i’w wneud ym Mae Caerdydd a gobeithiaf y bydd pob Aelod o’r Cynulliad sy’n cynrychioli ein hardal mor ymroddedig ag ydw i i weithio’n galed dros bobl Sir Drefaldwyn a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Yn bersonol, fy mwriad yw datblygu’r blaenoriaethau a osodais yn ystod ymgyrch yr etholiad - gan sicrhau’r canlyniad gorau posibl ar gyfer gofal iechyd lleol, ymgyrchu ar y cyd dros y gwasanaeth hanfodol a phwysig hwn gyda’n Haelod Seneddol, Glyn Davies; cynorthwyo a grymuso ein hysgolion; cefnogi busnesau Sir Drefaldwyn; cefnogi ein diwydiant ffermio; ymgyrchu dros ragor o fuddsoddiad a chyllid teg ar gyfer ein sir; ymgyrchu am welliannau pellach i drafnidiaeth er mwyn i’r Canolbarth ddal i symud; a phwyso am fynediad cyffredinol i fand eang a signal ffôn symudol dibynadwy. Edrychaf ymlaen at eich cynrychioli dros y pum mlynedd nesaf a chofiwch fod croeso i chi gysylltu â’m swyddfa os ydych yn credu y gallaf fod o gymorth. Mae fy swyddfeydd yn 13 Parker’s Lane, y Drenewydd a 20 Stryd Fawr, y Trallwng. Fy rhif ffôn yw 01686 610887 a gallwch gysylltu â mi drwy e-bost [email protected] Cofion gorau, Russell George Aelod Cynulliad Cenedlaethol dros Sir Drefaldwyn Ysgol Uwchradd Llanfyllin Mae rhieni a Chyfeillion Ysgol Uwchradd Llanfyllin wedi cysylltu â mi yn gofyn am gyngor ar y posibilrwydd o herio penderfyniad Cyngor Sir Powys i wahardd yr ysgol rhag darparu cyllid ar gyfer trafnidiaeth ysgol o’i chyllid dirprwyedig. Mae yna gryn bryder y bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar lawer o deuluoedd o fis Medi. Bydd rhai teuluoedd, sydd â mwy na dau o blant yn yr ysgol, yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle gallen nhw orfod dod o hyd i £2000 yn ychwanegol y flwyddyn i dalu am drafnidiaeth ysgol os bydd y plant yn parhau gyda’u haddysg yn Llanfyllin. O ganlyniad, gall rhieni gael eu gorfodi i symud eu plant o’r ysgol ar adeg bwysig yn addysg eu plant gyda rhai myfyrwyr yn astudio pynciau TGAU a Safon Uwch nad ydyn nhw ar gael mewn ysgolion eraill yn yr ardal. Rydw i’n ymwybodol hefyd y gallai hyn gael effaith niweidiol ar rai plant sydd ag anghenion addysg arbennig, ac mae yna bryder go iawn y bydd unrhyw newidiadau yn amharu ar y disgyblion hyn gan y byddan nhw hefyd yn colli ffrindiau a grwpiau cymorth. O ganlyniad, rydw i wedi ysgrifennu at Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg; Cyngor Sir Powys; a Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn cael eu safbwyntiau ar y mater. Ffordd Osgoi Llanymynech - Pant Yn gynharach yn y mis, ymunais i a Glyn Davies ein Haelod Seneddol ag Owen Paterson, AC Gogledd Swydd Amwythig ac Andrew Jones, AS, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, i bwyso o blaid datblygu Ffordd Osgoi Llanymynech-Pant. Ynghyd ag ymgyrchwyr lleol, fe wnaethom drafod yr angen i Lywodraeth y DU ddatblygu perthynas trawsffiniol agos â Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynllun. Rydw i’n falch bod Andrew Jones, y Gweinidog, wedi ymrwymo i gyfarfod â Ken Skates, AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, i drafod y mater a bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddatblygu cydweithrediad trawsffiniol agosach a fydd yn ei gwneud yn haws i wneud cynnydd hir ddisgwyliedig ar y mater anodd hwn i drigolion lleol ac ymwelwyr yn yr un modd. Mae’r ymgyrch leol dros gael ffordd osgoi wedi bod yn rhygnu mlaen ers degawdau ac mae’r diffyg cynnydd yn golygu tagfeydd cynyddol i drigolion, gan atal ymwelwyr rhag ymweld a gwario eu harian yn y Canolbarth, ac mae’n effeithio ar fusnesau lleol y Canolbarth sy’n dibynnu ar allforio eu nwyddau dros y ffin. Roedd y ffaith bod Gweinidog Llywodraeth y DU yn barod i wrando ac yn gwerthfawrogi’r angen am ffordd osgoi yn galonogol, ond gellir ond cytuno ar ateb tymor hir ond os yw Llywodraethau y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio ar y cynllun trawsffiniol hanfodol hwn. Byddaf yn parhau hefyd i gydweithio’n agos â Glyn Davies AS ac yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi’r ymgyrch. Chwaraeon Moduro yn y Canolbarth Rydw i wedi ysgrifennu at Carwyn Jones, y Prif Weinidog, i fynegi fy mhryder ynglŷn â dyblu’r costau ar gyfer cael mynediad i fforestydd Cymru ar gyfer chwaraeon moduro. Rydw i wedi gofyn iddo ymyrryd er mwyn diogelu dyfodol ralïo yn fforestydd y Canolbarth. Yn 2015, talodd Cymdeithas Chwaraeon Moduro £339,000 am ffyrdd graean mewn fforestydd yng Nghymru ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn honni bod costau cynnal a pharatoi ffyrdd yn 2015 yn £655,000 mewn gwirionedd. O ganlyniad, o ganol mis Mehefin, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gofyn am ad-daliad am y gost yn llawn, gan ddyblu’r costau i’r diwydiant moduro dros nos fwy neu lai, er gwaethaf y ffaith mai dim ond 0.7% o gynnydd i’w ffioedd y mae Lloegr a’r Alban wedi’u cynnig. Ymddengys bod dyblu’r ffioedd er mwyn sicrhau eu bod yn talu’n llawn am gostau’r atgyweirio yn dderbyniol ar yr wyneb ond yn fy marn i, mae’n methu â chydnabod y manteision economaidd ehangach a ddaw i economi’r Canolbarth yn sgil y digwyddiadau hyn. Mae Ralïo, fel y Wales Rally GB, a digwyddiadau chwaraeon moduro eraill yn dod â nifer fawr o ymwelwyr ac incwm amhrisiadwy i Sir Drefaldwyn, ac yn aml iawn y tu allan i’r prif gyfnodau twristiaeth. Felly, mae chwaraeon moduro o bwys economaidd hanfodol i’r ardal a bydd canlyniadau dyblu’r costau o atgyweirio ffyrdd yn ergyd andwyol i dwristiaeth ac economi’r Canolbarth os yw trefnwyr y digwyddiad yn cael eu gorfodi i dorri’r cysylltiad â Chymru. Gofal Iechyd Brys Mae Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford wedi cynhyrchu Achos Amlinellol Strategol ar gyfer ei Raglen Gwasanaethau Cynaliadwy (SOC), sy’n disgrifio atebion posibl i heriau darpariaeth mewn damweiniau ac achosion brys a gofal critigol yn y Canolbarth, Swydd Amwythig a Telford a Din Gwrygon (Wrekin). Mae SOC yn cynnig un Ganolfan Argyfwng gyda staff a chyfarpar llawn - naill ai yn Ysbyty Brenhinol Amwythig neu Ysbyty’r Dywysoges yn Telford - gyda Chanolfan Triniaeth Ddiagnostig ar safle amgen yr ysbyty gyda chymorth Canolfannau Gofal Brys yn safleoedd ysbytai Telford ac Amwythig. Rydw i’n deall nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ynglŷn â lleoliad y Ganolfan Argyfwng a’r Ganolfan Ddiagnosteg a Thriniaeth petaent yn cael eu cymeradwyo. Amseroedd Ymateb Ambiwlans Mae’r data diweddaraf ar gyfer Cerbydau Ambiwlans mewn Argyfwng wedi datgelu bod canran y cerbydau sy’n cyrraedd argyfwng ym Mhowys mewn 8 munud wedi gostwng yn ddramatig o 66.1% ym mis Mawrth i 56.1% ym mis Ebrill. Er gwaethaf gwaith caled parhaus gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac aelodau staff y gwasanaeth ambiwlans, mae’r dirywiad sydyn yn amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans i alwadau ym Mhowys lle mae bywyd yn y fantol yn destun pryder. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod canlyniadau perfformiad gwael y gwasanaeth ambiwlans, yn enwedig ar gefn gwlad Cymru, a gwneud mwy i sicrhau bod y cleifion sydd â’u bywyd yn y fantol yn cael gwasanaeth cyson o ansawdd uchel ble bynnag maen nhw’n byw. Nid yw loteri cod post fel hyn yn ddigon da ac mae’n amlwg bod angen buddsoddi yn ein gwasanaeth ambiwlans a’i foderneiddio er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn addas i’r diben. Camlas Maldwyn Cynhelir Fforwm Camlas Maldwyn ddydd Llun 27 Mehefin am 2.30 pm yng Ngwesty’r Elephant and Castle yn y Drenewydd. Bydd yn gyfle i ddysgu mwy am y gamlas a’r cynlluniau ar gyfer ei dyfodol. Mae’r Fforwm yn gyfarfod cyhoeddus, ac yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith o adnewyddu a datblygu Camlas Maldwyn. Mae dros £1 miliwn eisoes wedi’i buddsoddi er mwyn trawsnewid adran 14 milltir o’r llwybr tynnu rhwng y Drenewydd a’r Trallwng. Fel rhywun sydd wedi cefnogi’r gamlas ers amser maith, rydw i’n credu bod gan ddyfrffyrdd botensial enfawr i drawsnewid llefydd a meithrin cymunedau. Mae gwaith rhagorol y gwirfoddolwyr ymroddedig wedi fy ysbrydoli yn ogystal â’r berthynas waith agos sy’n bodoli rhwng y gwahanol sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod y gamlas yn parhau’n berthnasol i bobl heddiw, gan alluogi pobl i fod yn fwy egnïol, i fod yn ymwybodol o’u hanes a mwynhau’r amgylchedd. Mae’n amser cyffrous i Gamlas Maldwyn ac edrychaf ymlaen at fod yn rhan o ddatblygiadau a phrosiectau yn y dyfodol. Cymorthfeydd Cynghori sydd ar y gweill Gweler isod fanylion fy nghymorthfeydd cynghori nesaf. Os hoffech wneud apwyntiad, mae croeso i chi ffonio fy swyddfa ar 01686 610887 neu e-bostiwch [email protected] • 17 Mehefin 2016 – 12pm – 2pm – y Drenewydd • 18 Mehefin 2016 – 09.30am – 11.30am - Ffordun