Annwyl drigolyn,
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael toriad yn ystod mis Awst felly rwyf wedi cael mwy o amser i fynd i ddigwyddiadau lleol ac wedi mwynhau hynny. Bûm mewn nifer o sioeau cymunedol, fel sioe Aberriw lle cefais gyfle i drafod materion gydag aelodau Cyngor Iechyd Cymuned Powys. Yn y llun isod rwy’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth ‘Ready Steady Cook’ sioe Dolfor, ac rwy’n falch o ddweud mai fi enillodd!
Mae e-newyddion y mis hwn yn canolbwyntio ar bedwar prif fater - diweddariad ailgylchu ar amseroedd agor newydd, gwasanaethau iechyd, Ffordd Osgoi'r Drenewydd a diogelwch rheilffyrdd, ond cofiwch gysylltu â mi os ydych am gael rhagor o wybodaeth neu os gallaf eich helpu gydag unrhyw fater arall. E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01686 610887.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Ailgylchu
Rwy’n falch fod safleoedd gwastraff ac ailgylchu Potters yn y Drenewydd a’r Trallwng wedi ailagor am bum diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn dilyn ymateb anhygoel i fy arolwg ailgylchu diweddar a ddangosodd nad oedd y cyhoedd yn cefnogi cynlluniau blaenorol Cyngor Sir Powys i leihau amseroedd agor i dri diwrnod yr wythnos.
Rwy’n falch fod cabinet newydd y Cyngor wedi gwrando ar bryderon a gwyrdroi’r penderfyniad – buddugoliaeth i synnwyr cyffredin!
Wrth gwrs, mae yna feysydd eraill sy’n destun pryder o ran gwasanaethau ailgylchu ac mae angen mynd i’r afael â’r rhain. Mae’r materion hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i mi.
Dyma’r amseroedd agor newydd:
Y Drenewydd
Llun - 9am i 5pm
Mawrth - 9am i 5pm
Mercher - 9am i 5pm
Sadwrn - 10am i 4pm
Sul - 10am i 4pm
Y Trallwng
Mercher - 9am i 5pm
Iau - 9am i 5pm
Gwener - 9am i 5pm
Sadwrn - 10am i 4pm
Sul - 10am i 4pm
Gwelliannau i Wasanaethau Iechyd Sir Drefaldwyn
Roedd hi’n bleser ymweld â Chanolfan Geni newydd y Drenewydd yn ddiweddar i gyfarfod Rosie, y babi cyntaf i gael ei geni yn y ganolfan newydd yn Ysbyty’r Drenewydd.
Mae’r Ganolfan Geni, sydd â phwll geni newydd sbon ac Uned Asesu Dydd, yn un o’r gwelliannau sydd wedi digwydd yn Ysbyty’r Drenewydd dros y misoedd diwethaf.
Yn wir, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Vaughan Gething AC, yn ymweld â’r Drenewydd yn ddiweddar hefyd i weld y gwelliannau i’r gwasanaethau drosto’i hun, gan gyfarfod staff o’r tîm Trin Dementia yn y Cartref a Gwasanaethau Niwro Cymunedol a gweld y cyfleusterau pelydr-x ac uwchsain newydd a ariannwyd drwy roddion gan Gynghrair Cyfeillion Ysbyty’r Drenewydd.
Ym Machynlleth, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dweud eu bod yn edrych ar ad-drefnu’r ffordd o ddarparu gwasanaethau iechyd a llesiant yn y gymuned. Bydd y prosiect yn cynnwys adnewyddu tu blaen yr ysbyty i ddarparu gwasanaeth amlddisgyblaeth i ardal Machynlleth. Fodd bynnag, mae’r prosiect yn dibynnu ar gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ac maent yn aros am ateb.
Ac yn Llanidloes, mae’r Bwrdd Iechyd wedi sefydlu’r cysyniad o ddarparu ystafelloedd gofal lliniarol fel un o’i flaenoriaethau. Bydd yr ystafelloedd yn darparu dewis a chymorth “cartref oddi cartref” ychwanegol i gleifion sy’n dod i ddiwedd eu hoes, a’u teuluoedd. Mae Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Llanidloes yn rhan fawr o’r prosiect a byddant yn cefnogi’r cynllun yn ariannol.
Yn olaf, datblygiad arall dros yr haf oedd y penderfyniad gan arweinwyr iechyd ar 10 Awst a fydd yn gweld symudiad tuag at ymgynghoriad cyhoeddus ar ddarpariaeth gwasanaethau ysbyty i bobl Sir Drefaldwyn yn y dyfodol.
Pan gaiff ei lansio, bydd yr ymgynghoriad yn gofyn i’r cyhoedd am eu barn ar yr opsiwn a ffafrir o gael safle Gofal Brys yn Ysbyty Brenhinol Amwythig a safle Gofal wedi’i Gynllunio yn Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol.
Mae Glyn Davies AS a minnau bob amser wedi dadlau ei bod hi’n gwneud synnwyr i leoli gofal brys sy’n gwasanaethu Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru yng nghanol y rhanbarth yn Amwythig ac mae’n braf gweld mai dyma’r opsiwn a ffafrir a fydd yn cael ei gynnig gerbron y cyhoedd yn y dyfodol agos.
Fodd bynnag, nid yw’r canlyniad hwn yn sicr o bell ffordd ac mae’n hollbwysig bod pobl y canolbarth yn cyfrannu ac yn dweud eu dweud pan fydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn dechrau yn ddiweddarach eleni.
Ffordd Osgoi’r Drenewydd
Mae’n braf gweld y gwaith ar Ffordd Osgoi’r Drenewydd yn dod yn ei flaen yn dda a’r newyddion cadarnhaol yw ei bod yn ymddangos y bydd yn barod erbyn diwedd 2018. Mae’n bryd dechrau gwaith paratoi er mwyn manteisio’n llawn ar y gwaith adeiladu, ac felly roeddwn i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd £200,000 o gyllid yn cael ei ddarparu i Gyngor Sir Powys yn ystod y flwyddyn i gefnogi Rhwydwaith Teithio Llesol y Drenewydd.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi Cyngor Sir Powys i wneud teithio llesol fel cerdded a beicio yn elfen annatod o benderfyniadau cynllunio ar gyfer trigolion y Drenewydd ac ymwelwyr â’r dref, fel y gall fanteisio ar gyfleoedd y bydd y ffordd osgoi newydd yn eu darparu i adfywio’r dref.
Rwy’n gobeithio hefyd y bydd agor Ffordd Osgoi’r Drenewydd yn gyfle i godi arian i elusen drwy ras redeg neu fath arall o ddigwyddiad. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru a’r contractwr yn agored i awgrym o’r fath a fydd yn gyfle da i nodi achlysur cwblhau’r prosiect a datgan bod y ffordd ar agor gan godi arian i achosion da lleol yr un pryd.
Diogelwch ar y Rheilffyrdd
Roeddwn i’n falch o gael ymuno â’r Cynghorwyr Diane Jones-Poston a Les George ar ymweliad i weld sut mae cynllun uwchraddio rheilffyrdd gwerth £7.5 miliwn Network Rail yn bwriadu gwella diogelwch rheilffyrdd y canolbarth.
Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu dau gilomedr o briffordd newydd a dwy bont ffordd dros reilffordd yn Ystrad Fawr a Rallt, fel bod modd cau wyth croesfan reilffordd wledig.
Yr hyn greodd argraff fawr arna i oedd y ffordd mae Network Rail a Chyngor Sir Powys yn cydweithio i gwblhau’r prosiect seilwaith mawr hwn heb darfu ar deithwyr sy’n teithio ar y trên drwy’r ardal.
Bydd cau’r croesfannau rheilffordd yn Nhalerddig yn helpu i leihau perygl, yn gwella diogelwch ac yn cefnogi’r economi leol. Ar ôl cwblhau’r gwaith bydd hi’n llawer mwy diogel a haws i bobl leol groesi’r rheilffordd a bydd yn sicrhau manteision sylweddol i’r economi amaeth-fusnes leol gan alluogi ffermwyr i fuddsoddi ymhellach mewn cyfarpar mwy modern ac effeithlon.
Rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd â Network Rail, ac os oes materion yr hoffech i mi eu codi gyda nhw, cysylltwch â mi.
Cymorthfeydd
Byddaf yn yr ardaloedd canlynol ar y dyddiadau hyn.
Ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887 os hoffech drefnu apwyntiad.
Y Drenewydd - Llun 18 Medi
Llanbrynmair – Sadwrn 23 Medi
Machynlleth – Llun 25 Medi
Llanidloes – Gwener 29 Medi
Trefaldwyn – Gwener 29 Medi
Y Trallwng – Llun 2 Hydref