Annwyl breswylydd,
Roedd y Cynulliad Cenedlaethol ar ei wyliau haf fis diwethaf ac mae wedi bod yn bleser gallu treulio mwy o amser yn Sir Drefaldwyn, yn cyfarfod llawer ohonoch chi yn y sioeau a’r digwyddiadau lleol amrywiol. Er gwaetha’r gwyliau, mae hi wedi bod yr un mor brysur arna i a nhîm.
Dyma’r newyddion diweddaraf am faterion amrywiol isod. Mae nifer o feysydd rydw i am ganolbwyntio’n benodol arnyn nhw’n fanylach yn y misoedd nesaf. Yn ystod y mis hwn byddaf yn canolbwyntio’n fanwl ar ddatblygiadau ffermydd gwynt. Yn y misoedd nesaf byddaf yn adrodd yn fanylach ar ddau faes pwysig: newidiadau i addysg yng Ngogledd Powys, ac ad-drefnu gwasanaethau iechyd ar gyfer y Canolbarth. Byddaf hefyd yn rhannu’r newyddion diweddaraf am ffordd osgoi’r Drenewydd.
Cofion gorau
Russell
Datblygiadau Ffermydd Gwynt a Chysylltu’r Canolbarth
Fel y gwyddoch, flwyddyn yn ôl (7 Medi 2015), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus cyfunol a sbardunwyd pan wrthododd Cyngor Sir Powys bum cais ar wahân am ffermydd gwynt, ynghyd â chais am linell uwchben. Yn fy marn i, roedd yn fuddugoliaeth i ddemocratiaeth pan wrthododd Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth y DU bob cais ond un.
Fodd bynnag, penderfynodd dau o’r datblygwyr (RWE a RES) o ddatblygiadau Carnedd Wen a Llanbrynmair ofyn am adolygiad barnwrol i’r broses o wneud penderfyniadau ar y ceisiadau ffermydd gwynt. Ystyriodd yr Ysgrifennydd Gwladol y sefyllfa a phenderfynodd mai’r ffordd orau ymlaen fyddai ‘diddymu’ y penderfyniadau a’u hailystyried.
Ar 6 Gorffennaf, ymatebodd Glyn Davies, ein AS, i wahoddiad i roi sylwadau ar yr ailbenderfyniadau hyn gan amlinellu ei wrthwynebiad i’r ddau ddatblygiad, ac rwy’n cytuno’n llwyr â’r sylwadau hyn. Yn ei lythyr i’r Ysgrifennydd Gwladol , mae’n amlinellu’r effaith gronnus y byddai’r datblygiadau hyn yn ei chael ar Sir Drefaldwyn a byddwn yn eich annog i gyd i ddarllen ei lythyr yn llawn yma.
Gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dod i’r un penderfyniad â’i ragflaenydd ar 7 Medi y llynedd ar ôl ystyried y mater yn briodol. Er nad oes amserlen statudol ar gyfer ailbenderfynu ar y ceisiadau hyn, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gobeithio gwneud hyn yn brydlon.
Nawr i droi ein sylw at nifer o ddatblygiadau ffermydd gwynt nad oedd yn rhan o’r Ymchwiliad Cyhoeddus.
Rhoddwyd caniatâd i ddatblygiad fferm wynt Tirgwynt yn ardal eisoes rai blynyddoedd yn ôl ac mae gan y datblygiad fynediad i’r Grid ar hyd llinellau pŵer presennol. Mae’n rhaid i’r fferm wynt fod yn cynhyrchu pŵer erbyn mis Ebrill 2017 os yw am dderbyn cymhorthdal cyhoeddus. Mae rhannau o’r tyrbin wedi bod yn cael eu cludo gydol yr haf ac wedi bod yn teithio drwy’r Trallwng, ac ymlaen drwy Gwmgolau a Chefn Coch i’r safle.
Cymeradwywyd fferm wynt Garreg Lwyd ger ffin Sir Faesyfed/ Sir Drefaldwyn (nid oedd y datblygiad hwn ychwaith yn rhan o’r Ymchwiliad Cyhoeddus) gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai'r llynedd. Mae gan y prosiect ei fynediad ei hun i’r Grid eisoes, ac felly nid yw angen prosiect Cysylltiad y Canolbarth. Cyn i Lywodraeth Cymru gymeradwyo’r cais hwn, cyflwynais fy ngwrthwynebiad gan dynnu sylw at y problemau traffig difrifol y byddai’n ei achosi yn y Drenewydd a’r cyffiniau.
Bydd holl ddarnau’r tyrbinau’n cael eu cludo ar gyfer y datblygiad hwn yn fuan ac yn dechrau yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 12 Medi gyda’r holl ddarnau wedi’u cludo ar gyfer y gwaith adeiladu cychwynnol erbyn canol mis Rhagfyr. Bydd y llwythi anghyffredin hyn yn teithio ar hyn yr A483 ac yn teithio ar Heol Pool, dros gylchfan Heol Kerry ac i fyny Heol Llanidloes. Yna, bydd angen i’r llwythi anghyffredin deithio dan bont Nantoer ar yr A489. Mae’r bont benodol hon yn adnabyddus hefyd am achosi trafferthion i gerbydau mawr deithio oddi tani a rhwystro’r brif gefnffordd.
Mae’r Llwythi Anghyffredin yn cael eu cludo ar gerbydau nwyddau trwm sydd wedi’u cynllunio’n arbennig mewn confoi o hyd at dri darn, yn cael eu hebrwng gan gerbydau tywys gan gynnwys yr heddlu. Mae Heddlu Dyfed Powys wedi sefydlu ffrwd Twitter arbennig ar gyfer cludo cyflenwadau Llwyth Anghyffredin drwy ardal Dyfed Powys. Dilynwch @DPPAbnormalload i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Rwyf wedi bod yn bryderus hefyd am faterion diogelwch posibl yn gysylltiedig â’r encilfeydd dynodedig sydd wedi’u creu i ddarparu ar gyfer y tagfeydd anochel a fydd yn cael eu hachosi y tu ôl i’r cerbydau nwyddau trwm ac anghyffredin a fydd yn pasio drwy ardaloedd o Sir Drefaldwyn i gyflenwi darnau ar gyfer datblygiadau Garreg Lwyd a Thirgwynt ac ysgafnhau’r tagfeydd hyn.
Ysgrifennais at Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys i ofyn am sicrwydd bod yr Heddlu’n fodlon bod yr encilfeydd yn ddiogel, yn addas i’w diben ac y byddant yn cael eu defnyddio at y dibenion y bwriedir iddynt gael eu defnyddio. Mae Heddlu Dyfed Powys wedi fy sicrhau nad oes ganddynt unrhyw bryderon bellach ar ôl nodi nad oedd cyrbiau isel wedi’u gosod yn yr encilfeydd a fyddai’n galluogi i gerbydau modur yr Heddlu gael mynediad diogel iddynt ac nad oedd digon o fannau sefyll caled i alluogi i’r cerbydau modur gael eu gosod yn ddiogel yn y mannau priodol. Rwyf wedi cael fy hysbysu bod y materion hyn wedi’u hunioni gan y datblygwyr.
Fis diwethaf, gofynnais i Lywodraeth Cymru egluro pwy oedd yn gyfrifol am bennu’r amodau trafnidiaeth ar gyfer y ddwy fferm wynt. Mae gennyf bryderon o hyd bod Llywodraeth Cymru wedi methu rhoi amodau ar y datblygwyr i arolygu’r eiddo ar hyd y llwybr trafnidiaeth er gwaethaf pryderon trigolion lleol y gallai’r cerbydau anghyffredin achosi difrod i eiddo ar hyd yr A483. Felly, rwy’n rhyfeddu bod Gweinidogion Cymru wedi methu gosod amodau penodol ar y datblygwyr i arolygu eiddo ar y llwybr arfaethedig. Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd yr Amgylchedd Cabinet Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn.
I gloi, mae Fferm Wynt Blaen y Glyn ger Llangurig, Llanidloes wedi’i chymeradwyo’n ddiweddar gan Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno nifer o wrthwynebiadau, gan gynnwys ar seiliau tirwedd a threftadaeth ddiwylliannol. Fodd bynnag, nid yw safbwynt yr Arolygydd yn rhoi llawer o ystyriaeth i effaith weledol y 6 tyrbin arfaethedig neu’r effaith ar dreftadaeth ddiwylliannol yr ardal, gan gredu y byddai’r effeithiau’n cael eu lliniaru gan fanteision amgylcheddol ac economaidd y cynllun, yn enwedig o ran cynhyrchu ynni gwynt.
Fodd bynnag, mae yna faterion heb eu datrys y byddaf yn eu codi yn y Cynulliad Cenedlaethol gyda’r Prif Weinidog. Mae datblygiad Blaen y Glyn y tu allan i’r ardaloedd a nodir ar gyfer gwynt ar y tir yng nghanllawiau TAN8 Llywodraeth Cymru - felly mae hwn yn rheswm arall i wrthod y cais yn fy marn i. Mae hefyd yn codi nifer o gwestiynau eraill am berthnasedd y canllawiau hyn.
Hefyd, dylid cofio wrth ystyried yr holl ddatblygiadau hyn bod Llywodraeth Geidwadol y DU, yn ei Maniffesto ar gyfer Etholiad 2015, wedi ymrwymo i gefnogi ffermydd gwynt ar y tir os oedd y bobl leol o’u plaid yn unig hefyd wedi ymrwymo i roi diwedd ar unrhyw gymorthdaliadau newydd ar gyfer ynni gwynt ar y tir. Felly, er bod caniatâd cynllunio wedi’i roi o bosibl yn achos Blaen y Glyn, efallai y bydd y datblygwyr yn ystyried y nad yw hi’n hyfyw bwrw â’r prosiect. Nodaf hefyd nad yw’r caniatâd i gymryd y pŵer o’r datblygiad i’r grid wedi’i drefnu, sy’n fater arall y bydd yn rhaid i’r datblygwyr ei ddatrys.
Gobeithio bod y newyddion diweddaraf estynedig hwn ar ynni gwynt wedi bod yn ddefnyddiol i chi ac mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu farn.
Addysg
Ysgol Uwchradd Llanfyllin
Yn y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Swyddfa Archwilio Cymru i drafod pryderon o ran cludiant o’r cartref i’r ysgol yn Llanfyllin ac rwyf wedi galw ar Gyngor Sir Powys i amlinellu sut y bydd yn ymateb i feirniadaeth sydd wedi’i chynnwys mewn adroddiad annibynnol, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Powys a Chorff Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Llanfyllin sy’n nodi cyfres o ddiffygion yn ymwneud â gweithdrefnau’r awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo fynd i’r afael â nhw. Rwyf wedi gofyn i Swyddfa Archwilio Cymru am y newyddion am y sefyllfa ddiweddaraf a byddaf yn adrodd yn ôl am hyn yn y dyfodol.
Cymorth i Fusnesau Bach
Cefnogi’r Stryd Fawr ym Mhowys
Wythnos neu ddwy yn ôl, yn rhinwedd fy swydd fel Ysgrifennydd yr Economi’r Cabinet yr Wrthblaid, galwais ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi stryd fawr ym Mhowys ar ôl i astudiaeth gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru ddatgelu bod cyfraddau siopau gwag wedi cynyddu, er bod ymweliadau â’r stryd fawr wedi cynyddu ledled Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno newidiadau i gefnogi busnesau bach yn Lloegr, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr un fath, gan fod busnesau yng Nghymru dan anfantais gystadleuol ar hyn o bryd. Gyda chyfraddau siopau gwag yn parhau i godi, mae’r rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei holl bwerau datganoledig sydd ar gael i wyrdroi’r duedd hon. Rydym angen mesurau newydd ac arloesol a fydd yn galluogi busnesau’r stryd fawr i gystadlu a pharhau’r berthnasol mewn cyfnod pan fo’r rhyngrwyd a chanolfannau siopa y tu allan i drefi yn fygythiadau sylweddol. Diwygio ardrethi busnes, symleiddio’r broses gynllunio, parcio am ddim; dyma rai o’r cynigion yr wyf wedi bod yn ymgyrchu drostynt am flynyddoedd i gefnogi busnesau bach ledled Sir Drefaldwyn.
Rheoli Gwastraff
Casglu Gwastraff Cartrefi
Dangosodd gwybodaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y ffioedd a godir am gasglu gwastraff cartrefi fod gan Bowys un o’r ffioedd uchaf am gasglu gwastraff cartrefi swmpus ledled Cymru gyfan. Rwyf wedi crybwyll y mater wrth Gyngor Sir Powys gan fy mod yn bryderus y gallai cyfraddau uwch arwain at gynnydd pellach mewn tipio anghyfreithlon ym Mhowys.
Mae llawer o bryder hefyd wedi bod am y newidiadau i gasgliadau ailgylchu. Pryder penodol yw casglu gwastraff plastig pan nad yw trigolion yn didoli’r cynhyrchion plastig ‘meddal’ a ‘chaled’. Cefais gyfarfod â’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol ac uwch swyddogion yng Nghyngor Sir Powys yn gynharach yn yr haf i amlinellu llawer o’ch rhwystredigaethau, gan gynnwys fy rhai fy hun, pan wrthododd gweithredwyr gasglu cynwysyddion llawn o blastig ailgylchu. Er i’r cyngor egluro nad oeddynt yn gallu ailgylchu cynhyrchion plastig ‘meddal’, mynegais fod y ffordd eu bod yn cyfathrebu ac yn gwneud y newidiadau hyn yn wael. Mae dolen i gwestiynau cyffredin a rhagor o wybodaeth am ailgylchu ym Mhowys yma.
Diwylliant a Thwristiaeth
Canolfan Dreftadaeth ar gyfer y Canolbarth
Prosiect newydd cyffrous yw Canolfan Dreftadaeth ar gyfer y Canolbarth (HH4MW) sydd â’r potensial i fod yn atyniad ymwelwyr pwysig i’r Canolbarth. Ei nod yw creu hunaniaeth brand ar gyfer y Canolbarth, drwy ddefnyddio technoleg ddigidol a hyrwyddo ein diwylliant, gan gynnwys rhoi teyrnged i’r diwygiwr cymdeithasol eiconig, Robert Owen, sy’n enwog i’r ardal. Rwyf ar ben fy nigon yn cael y cyfle i gefnogi prosiect mor gyffrous sydd â’r potensial i ddarparu cyfle rhagorol i arddangos treftadaeth ddiwylliannol y Canolbarth a dod â chymunedau’r Canolbarth at ei gilydd. Ym mis Gorffennaf, roeddwn i’n falch o allu hyrwyddo gweledigaeth ac uchelgeisiau’r prosiect arloesol hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol a chefais ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar y cyfleoedd cyllid sydd ar gael i’r prosiect. Ar adeg pan mae mwy na 400,000 o ymwelwyr yn teithio drwy Sir Drefaldwyn ar y ffordd i bentrefi glan môr y Gorllewin, bydd HH4MW yn gaffaeliad rhagorol i’r atyniadau ymwelwyr sydd gan Sir Drefaldwyn i’w cynnig.
Telathrebu
Band Eang
Ar ôl ambell gais am ddiweddariadau gan drigolion ledled Sir Drefaldwyn, credais y byddai’n syniad da rhestru’r amserlenni bras presennol ar gyfer cyflwyno band eang ffeibr. Noder bod y cymunedau a restrir isod yn cyfeirio at y rhanbarthau ehangach o gwmpas yr ardaloedd hyn. Bydd gan rai trefi a phentrefi yn ardaloedd y cyfnewidfeydd hyn eisoes fynediad i fand eang ffeibr ac i’r rhai mewn ardaloedd gwledig iawn, efallai y bydd y gwasanaeth fydd ar gael yn cael ei effeithio gan ffactorau fel hyd eich llinell neu’r pellter o’r gyfnewidfa/cabinet. Am ragor o wybodaeth am eich amgylchiadau unigol, ewch i’r gwiriwr gwasanaethau sydd ar gael. Fel arall, cysylltwch os ydych chi am i mi holi CyflymuCymru ar eich rhan.
Aber-miwl – hydref 16
Caersws – hydref 16
Carno – gwanwyn 17
Castell Caereinion – haf/hydref 16
Glantwymyn – gaeaf 16/17
Yr Ystog - gaeaf 16/17
Ffordun – hydref 16
Guilsfield – hydref 16
Ceri – gaeaf 16/17
Llanbrynmair - hydref 16 i wanwyn 17
Llanfyllin – gwanwyn 17
Llanidloes – haf/hydref 16
Llanrhaeadr – gaeaf 16/17
Llansantffraid – hydref 16 i wanwyn 17
Llansilin – hydref 16
Llanymynech – hydref 16
Machynlleth – haf 16
Meifod – gaeaf 16/17
Trefaldwyn – hydref 16
Y Drenewydd – y rhan fwyaf o ardaloedd wedi’u gwneud, yr ardaloedd sydd ar ôl – gwanwyn 17
Pennant – hydref 16
Trefeglwys – gaeaf 16/17
Tregynon – hydref 16
Mae BT wedi rhoi gwybod i mi hefyd am brawf y mae Openreach yn ei gynnal a allai helpu cefn gwlad Cymru yn y dyfodol. Cymuned anghysbell Gogledd Tolsta ar Ynys Lewis yw un o’r lleoedd cyntaf yn y DU i brofi technoleg newydd sy’n cynyddu cyflymder band eang ffeibr dros linellau ffôn hir. Mae technoleg ‘Long Reach VDSL’ Openreach yn cynnal prawf cysyniad ar yr ynys i ganfod ffyrdd newydd ac arloesol o wella cysylltedd cefn gwlad. Rwy’n deall bod y canlyniadau cychwynnol yn galonogol, gyda’r rhan fwyaf o aelwydydd yn gweld eu band eang ffeibr yn cyflymu’n sylweddol. Pe bai’r dechnoleg yn cael ei defnyddio mewn ardaloedd gwledig ledled Powys, byddai ganddi’r potensial i wella cyflymderau band eang mewn cannoedd o gartrefi a busnesau - yn enwedig y rhai sydd wedi’u cysylltu â llinellau hir rhwng 2.5km a 3.5km i ffwrdd o’r cabinet gwyrdd agosaf. Da yw gweld y datblygiad newydd hwn mewn technoleg yn cael ei ddefnyddio mewn cymuned wledig am y tro cyntaf.
Tai
Rhentu Doeth Cymru
Mae’n ofynnol bellach yn ôl y gyfraith i landlordiaid sector preifat gofrestru, ac mae’n ofynnol i asiantaethau gosod a landlordiaid rheoli i dderbyn hyfforddiant a chael trwydded gan Rhentu Doeth Cymru i erbyn 23 Tachwedd 2016. O’r dyddiad hwn, gall unrhyw un nad yw wedi cydymffurfio â’r gyfraith dderbyn cosb benodol, neu orfod mynd i’r llys neu gael eu dirwyo.
Roeddwn i’n gwrthwynebu’r ddeddfwriaeth newydd hon ar y sail bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwrando ar y sector tai ac wedi methu rhoi grym i denantiaid bregus. Mae perygl i Rhentu Doeth Cymru gosbi landlordiaid da a chynyddu rhent i denantiaid wrth i landlordiaid chwilio am ffordd o gael rhywun arall i ysgwyddo’r costau. Er ei bod yn hollbwysig targedu landlordiaid gwael a chael gwared arnynt, mae’n rhaid osgoi rhwystro pobl rhag defnyddio tŷ eto drwy’r sector rhentu preifat. Mae sefydliadau landlordiaid uchel eu parch wedi cynnig dro ar ôl tro i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cynllun a fydd yn cymell cyflenwad cartrefi o safon i’w rhentu, targedu landlordiaid gwael a rhoi llais i denantiaid. Fodd bynnag, dewisodd Llywodraeth Cymru eu hanwybyddu, gan osgoi atebion a allai fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Fodd bynnag, mae tîm Tai Sector Preifat Cyngor Sir Powys wedi’u cymeradwyo i ddarparu hyfforddiant landlordiaid Rhentu Doeth Cymru.
Cynhelir hyfforddiant ar gyfer landlordiaid mewn mannau ledled Sir Drefaldwyn ym mis Medi a mis Hydref, rhwng 9.00am a 4.30pm yn y lleoliadau canlynol:
· Dydd Mawrth, 20 Medi - Swyddfeydd y Parc, y Drenewydd
· Dydd Mawrth, 27 Medi - Swyddfeydd y Parc, y Drenewydd
· Dydd Mawrth, 4 Hydref – Neuadd Maldwyn, y Trallwng
· Dydd Mawrth, 11 Hydref - Swyddfeydd y Parc, y Drenewydd
Mae’r cwrs yn costio £65 ac mae’n rhaid derbyn taliad i gadarnhau eich archeb. Gellir talu dros y ffôn drwy gysylltu â Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Powys ar 01597 827464. Am ragor o wybodaeth am yr hyfforddiant hwn cysylltwch â Peter Tagg, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Tai’r Sector Preifat yn [email protected] Am ragor o wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru, ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/ neu ffoniwch 03000 133344.
Cymorthfeydd Cynghori
Cymorthfeydd cynghori sydd ar y gweill:
· Dydd Llun, 19 Medi – y Drenewydd
· Dydd Gwener, 23 Medi – y Trallwng
· Dydd Gwener, 7 Hydref – y Drenewydd
· Dydd Sadwrn, 22 Hydref - Llanidloes
Os ydych chi am wneud apwyntiad, ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887 neu e-bostiwch [email protected]
Cyngor ar Bopeth
O ddechrau mis Mehefin 2016, cynyddodd gwasanaethau derbynfa canolfan gwasanaethau galwadau Cyngor ar Bopeth yn y Drenewydd eu horiau a bydd ar agor rhwng 10am a 3pm ar ddydd Iau ar gyfer cleientiaid galw heibio. Gellir cysylltu â Chyngor ar Bopeth ar 0345 601 8421 neu ewch i’w gwefan yn www.powyscitizenadvice.org.uk . Dilynwch nhw ar Twitter - @PowysCAB
Rhifau Ffôn a Dolenni defnyddiol
Heddlu, Ambiwlans a Thân – 999
Heddlu os nad yw’n Argyfwng – 101
Cyngor Sir Powys – 01597 826000
Severn Trent Water – 0800 7834444
Argyfwng Trydan – 0800 0015400
Argyfwng Nwy – 0800 111999
Ymholiadau’r GIG – 0845 46 47
Iechyd Meddwl Powys – 01686 628300
ShropDoc – 08444 068888
Samariaid – 08457 909090
Cyngor ar Bopeth – 0845 6018421
Age Cymru – 01686 623707
Roeddwn i’n meddwl y byddai hefyd yn ddefnyddiol cynnwys y dolenni canlynol er mwyn i chi allu rhoi gwybod am broblemau amrywiol a chael gweld beth sy’n digwydd yn eich ardal leol.
Rhoi gwybod am, gweld neu drafod problemau lleol yn eich ardal - https://www.fixmystreet.com/
Ffyrdd, trafnidiaeth a pharcio
Rhybuddion a chyngor am lifogydd
Rhoi gwybod am broblem gyda pherthi, coed neu ymylon ffyrdd
Rhoi gwybod am oleuadau traffig neu oleuadau stryd sydd ddim yn gweithio
Treth y Cyngor busnes ac ardrethi
Am ragor o wybodaeth am hyn a materion lleol, ewch i wefan Cyngor Sir Powys.