Annwyl breswylydd,
Mae’r ffordd rydych chi’n cofrestru i bleidleisio wedi newid yn ddiweddar ac mae’n rhaid cyflwyno pob cais cofrestru newydd yn unigol. Mae gennym ni ddau etholiad pwysig ym mis Mai ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Rwyf wedi cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am gofrestru isod.
Yn fy marn i, ein gwasanaeth iechyd lleol a gwasanaethau’r GIG a ddefnyddiwn dros y ffin yw’r materion pwysicaf i drigolion y Canolbarth. Byddaf, felly, yn rhoi diweddariad pwrpasol ar y pwnc hwn dros yr wythnosau nesaf.
Dwi’n gobeithio y bydd y cylchlythyr hwn o ddiddordeb i chi. Rhowch wybod os oes gennych chi unrhyw faterion neu bryderon neu os hoffech gael cymorth gen i gydag unrhyw fater.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Trafnidiaeth
________________________________________
Ffordd Osgoi’r Drenewydd
Ar 7 Mawrth, dechreuodd y gwaith adeiladu ar Fforddi Osgoi hirddisgwyliedig y Drenewydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi fy hysbysu y bydd y gwaith yn cymryd dwy flynedd. Yn gynharach y mis hwn, ro’n i’n falch o weld y gwaith yn dechrau yn ardal Glandulas gyda pheiriannau’n symud i’r safle. Mae gwaith wedi dechrau ger Black Hall, Dolfor hefyd lle mae compownd gwaith wedi’i greu.
Gallwch fynd ar daith ryngweithiol ar hyd y ffordd osgoi drwy glicio’r ddolen isod - https://www.youtube.com/watch?v=x_o0NtpQzpY&feature=player_embedded
Pont Ddyfi
Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer i ddatrys y problemau llifogydd sy’n effeithio ar y bont bresennol dros afon Dyfi. Mae llifogydd lleol yn cau’r bont yn rheolaidd ac yn creu gwyriad sylweddol o hyd at 30 milltir ar y brif gefnffordd o’r gogledd i’r de ac o’r dwyrain i’r gorllewin. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi penodi Alun Griffiths Contractors i adeiladu pont newydd a chynllun ffyrdd sydd tua 480 metr i fyny’r afon o’r bont bresennol.
Dyma amserlen arfaethedig y cynllun:
Cyhoeddi gorchmynion drafft a datganiad amgylcheddol: haf 2016
Ymchwiliad lleol cyhoeddus (os oes angen): gaeaf 2016/2017
Dechrau adeiladu: gaeaf 2016/2017
Agor y ffordd: 2019
Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC, hefyd yn fy hysbysu bod ymyriadau byrdymor i fynd i’r afael â’r problemau mae’r llifogydd yn eu hachosi wedi’u cyflwyno ac yn cynnwys gwaith i wella effeithlonrwydd systemau draenio fel y gallant ymdopi â llifogydd.
Bydd y gwaith hefyd yn gweithredu fel arolwg ar gyfer gwelliannau pellach. Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau hefyd y bydd y cynllun newydd yn cael ei gynllunio mewn modd na fydd yn gwaethygu llifogydd ym Mharc Eco Dyfi a’r bont reilffordd.
Byddaf, wrth gwrs, yn dal i bwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun yn glynu at yr amserlen.
Cysylltedd Digidol
________________________________________
Cyhoeddwyd Adolygiad Strategol Ofcom o Gyfathrebu Digidol yn gynharach y mis hwn. Roedd yr adroddiad yn datgan beth mae pobl ledled Sir Drefaldwyn yn ei ddweud wrthyf byth a hefyd – bod cael cysylltiad dibynadwy ac effeithlon â’r rhyngrwyd yn hollbwysig.
Ar ôl ymgyrchu am well darpariaeth band eang a ffôn symudol i’r Canolbarth ers pum mlynedd fel Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gyfathrebu Digidol, rwy’n falch bod Ofcom wedi ymrwymo i wneud band eang fforddiadwy yn hawl gyffredinol i holl gartrefi a busnesau bach y DU.
Waeth a ydych chi’n cysylltu â theulu a ffrindiau, yn helpu plant i astudio gartref neu’n hysbysebu busnes lleol, mae cysylltedd digidol nawr yn hanfodol i’n bywydau bob dydd; ac ni ddylai darpariaeth fod yn loteri cod post.
Yn anffodus, mae’r loteri cod post hwn yn amlwg, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig o Sir Drefaldwyn a thrwy agor rhwydweithiau cebl a chaniatáu cystadleuaeth gellir cymryd camau breision i fynd i’r afael ag arwahanrwydd gwledig a darparu cysylltedd hanfodol i bob rhan o Gymru.
I’r rhai sy’n ystyried ffyrdd o wella cyflymder eu band eang ac sydd y tu allan i gwmpas rhaglen cyflwyno band eang ffibr Cyflymu Cymru, mae yna opsiynau eraill heblaw band eang sefydlog.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymorth i gymunedau ar ffurf dau gynllun cymorth grant, sef grant Allwedd Band Eang Cymru a’r Cynllun Taleb Gwibgyswllt.
Mae gallu cael gafael ar gyllid canolog yn galluogi cyflenwyr rhwydwaith eraill i ddefnyddio dulliau darparu gwahanol. Dull arall nodweddiadol yw darparu gwasanaethau band eang drwy dechnoleg ddiwifr. Ar ôl cadarnhau bod galw mewn cymuned, gellir sefydlu cysylltedd microdon i rwydwaith sy’n bodoli’n barod gyda chostau darparu wedi’u talu drwy gyllid grant.
Fel arall, os nad oes cysylltiad â rhwydwaith sy’n bodoli’n barod, gall y darparwr amgen ddarparu ffibr gradd busnes i leoliad canolog yn y gymuned gan sefydlu rhwydwaith cymunedol newydd. Bydd mynediad y gymuned i’r rhwydwaith ffibr yn ddiwifr.
Gall costau darparu ffibr i un defnyddiwr fod yn uchel iawn ac atal pobl rhag mynd am y dewis hwn. Ond wrth i gymuned rannu’r gost gall band eang cyflym iawn ddod yn realiti. Mae nifer o ddarparwyr ar gael ac os hoffech ragor o wybodaeth, rhowch wybod i mi.
Ffermio
________________________________________
Rwyf wedi cael fy siomi’n ddirfawr gan y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi trafod taliadau i ffermwyr o dan gynllun y taliad sylfaenol (BPS).
Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi derbyn llawer o gwynion gan ffermwyr sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn am nad ydynt wedi derbyn llythyrau yn amlinellu amserlen ar gyfer taliadau BPS.
Mae’r ansicrwydd parhaus wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant amaethyddol cyfan ac wedi ei gwneud hi’n amhosibl i ffermwyr a chyflenwyr gynllunio’n ariannol.
Er gwaethaf fy ngalwadau niferus am gamau gweithredu gan y gweinidog i ddarparu eglurder i ffermwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi cadw ffermwyr yn y niwl am y rhesymau dros yr oedi neu pryd y byddant yn derbyn eu taliadau.
Mae Llywodraeth Cymru nawr wedi cadarnhau bod Taliadau Gwledig Cymru yn “disgwyl y bydd yr holl hawliadau ac eithrio’r hawliadau mwyaf cymhleth wedi cael eu talu erbyn diwedd y mis hwn”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrthyf os na fydd busnes ffermio cymwys wedi derbyn ei randaliad BPS erbyn diwedd y mis hwn, y bydd yn derbyn llythyr personol ddechrau mis Ebrill yn egluro pam nad yw wedi cael ei dalu, gan roi manylion unrhyw broblemau sy’n aros i gael eu datrys.
Byddaf yn cadw llygad barcud ar y llywodraeth i sicrhau ei bod yn cyflawni’r ymrwymiadau hyn.
Codais nifer o faterion sy’n berthnasol i’n cymuned ffermio yn sesiwn graffu fisol y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans AC.
Newidiadau i brosiectau cynllunio ar gyfer ynni
________________________________________
O 1 Mawrth, cafodd Cynghorau Lloegr y pŵer i benderfynu ar raglenni gwynt ar y tir - waeth beth fo’u maint. Yn y cyfamser, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n syth i ganoli’r pŵer hwn yng Nghymru.
O ganlyniad, dim ond rhaglenni gwynt ar y tir sy’n llai na 10 megawat mewn maint a fydd yn cael eu penderfynu yn lleol yng Nghymru. Credaf fod hyn wedi creu gwahaniaeth mawr rhwng awdurdod awdurdodau cynllunio lleol Cymru a Lloegr - gyda’r perygl o osgoi dymuniadau pobl leol wrth benderfynu ar gymwysiadau gwynt ar y tir.
Rwy’n gredwr cryf ei bod yn hanfodol gwneud penderfyniadau yn agosach at y bobl y mae’r penderfyniadau’n effeithio arnynt, nid ymhellach i ffwrdd. Mae’n rhaid i ni symud pŵer o'r llywodraeth ganolog, dod â thryloywder i ganol y broses benderfyniadau leol, ac adfer hyder y cyhoedd. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd yn groes i hyn yn fy marn i.
Bancio Cymunedol
________________________________________
Fis diwethaf, siaradais yn y Cynulliad o blaid cynnig trawsbleidiol a oedd yn gresynu at nifer y banciau sydd wedi cau yng Nghymru, ac a oedd yn galw ar y banciau i ystyried effaith hyn ar unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach cyn gwneud penderfyniadau terfynol am gau banciau.
Mae 130 o ganghennau banciau wedi cau yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Erbyn diwedd mis Ebrill eleni, bydd HBSC wedi cau 51 o’i 131 o ganghennau, NatWest wedi cau 52, Barclays 18 a Lloyds saith.
Ym Mhowys, mae HSBC newydd gau dwy gangen yn Llanfyllin a Llanfair Caereinion. Mae’r newyddion siomedig hwn yn dilyn cau nifer o ganghennau eraill yng ngogledd y sir.
Mae cau banciau yng nghefn gwlad y Canolbarth yn cael effaith ddinistriol ar ein pentrefi a’n trefi. Rwyf wedi derbyn cannoedd o ymatebion i’m hymgyrch ddiweddar i arbed canghennau HBSC yn Llanfyllin a Llanfair Caereinion, sy’n dangos pa mor bwysig yw cadw canghennau banciau lleol er mwyn i’r stryd fawr barhau i ffynnu; nid yn unig i gwsmeriaid cyffredin ond i fusnesau lleol yn arbennig sydd angen “gwasanaeth dros y cownter” bob dydd.
Rwy’n galw ar fanciau i ystyried ar frys beth yw canlyniadau cymdeithasol ac economaidd ehangach cau canghennau banciau, yn enwedig pan mai dyma’r unig fanc sydd ar ôl yn yr ardal.
Twristiaeth
________________________________________
Yn gynharach yn y mis, croesewais gronfa newydd arloesol i helpu busnesau twristiaeth bach a chanolig ym Mhowys i ehangu a thyfu.
Byddai’r gronfa bwrpasol, a fyddai’n cael ei threialu dros ddwy flynedd gyntaf Llywodraeth Geidwadol Cymru, yn cynnig cymorth hanfodol i fusnesau ac atyniadau twristiaeth ledled Cymru. Byddai hyn yn helpu i gynnal swyddi o safon uchel yn y diwydiant hwn sy’n tyfu ac sy’n hynod o bwysig i economi’r Canolbarth.
O dan y cynigion hyn gallai busnesau wneud cais am gyllid grant yn gyfnewid am ‘uwchsgilio’ gweithiwr cyfredol i helpu i hybu statws twristiaeth fel llwybr gyrfa. Byddai’r cynllun hefyd ar gael i gwmnïau sy’n recriwtio gweithwyr newydd yn barhaol - gan helpu ymdrechion i hyrwyddo atyniadau a chyrchfannau twristiaeth ledled Cymru.
Mae llawer o gwmnïau bach yn y diwydiant hefyd yn cwyno bod biliau TAW yn rhwystr i ddatblygu, a byddai’r grantiau hyn yn eu helpu i dalu biliau TAW yn ogystal ag annog swyddi newydd yn economi’r Canolbarth.
Yn amlwg, mae’r ymrwymiad uchod yn dibynnu ar ganlyniad etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Cofrestru pleidleiswyr
________________________________________
Mae’r ffordd rydych chi’n cofrestru i bleidleisio wedi newid yn ddiweddar ac mae’n rhaid cyflwyno pob cais cofrestru newydd yn unigol.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd roi ei enw, cyfeiriad a chyfeiriad blaenorol, cenedligrwydd, dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol.
Cyn belled eich bod yn gwybod y manylion uchod, nid yw’r broses yn cymryd mwy na 5 munud. I gofrestru, ewch i www.gov.uk/register-to-vote
Os nad ydych yn siŵr a ydych ar y gofrestr etholiadol ai peidio cysylltwch ag adran Etholiadau Cyngor Sir Powys:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01597 826202