Annwyl breswylydd,
Dyma fy niweddariad misol ar fy ngweithgareddau yn y Cynulliad ac yn Sir Drefaldwyn.
Am y rhan fwyaf o fis Ebrill, mae’r Cynulliad wedi bod ar doriad y Pasg, felly rwyf wedi mwynhau cael bod yn ôl yn Sir Drefaldwyn am gyfnod estynedig, gan gyfarfod â phobl a sefydliadau lleol.
Fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi ethol ein cynghorwyr sir, tref a chymuned nesaf. Hoffwn ddymuno pob lwc i’r rhai a etholwyd wrth iddyn nhw ddechrau ar eu pum mlynedd yn y swydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw. Hoffwn ddiolch hefyd i’r ymgeiswyr a roddodd o’u hamser i sefyll yn yr etholiadau ledled y sir.
Unwaith eto, os ydych chi’n credu y gallaf helpu mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â mi trwy anfon e-bost at [email protected] neu drwy ffonio 01686 610887.
Dymuniadau gorau, Russell George
Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn
Ffordd Osgoi y Drenewydd – Y diweddaraf
Gyda’r gwaith adeiladu wedi hen gychwyn, hoffwn roi’r newyddion diweddaraf i chi am hynt a helynt ffordd osgoi y Drenewydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i mi yn ddiweddar bod y gwaith ar y trywydd iawn ac y dylai gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Mae cynnydd da wedi’i wneud ym Mharc Carafanau Glandulas; mae pont yn y lleoliad hwn bron yn barod ac mae’r gwaith atal llifogydd, pyllau ac argloddiau wedi’i gwblhau.
Mae dwy o’r pedair tanffordd yn ardal Mochdre bron wedi’u cwblhau ac mae gwaith wedi cychwyn ar bont ar Lôn Mochdre a phont arall a fydd yn codi Ffordd Dolfor Uchaf dros y ffordd osgoi newydd.
Yn ogystal, mae gwaith wedi’i wneud ar yr argloddiau a’r pyllau ar Ffordd Ceri yn barod ar gyfer y gylchfan newydd a fydd yn cael ei hadeiladu. Bydd y gwaith am weddill y flwyddyn yn cynnwys adeiladu rhai o’r pontydd allweddol, ac rwy’n deall bod y gwaith ar y ffordd osgoi yn mynd rhagddo’n dda.
Mae gan ‘Griffiths’, y contractwyr, swyddfeydd a chyfleusterau gweithredol yn swyddfeydd y safle ar Ffordd Dolfor. Mae’r swyddfeydd hyn ar agor i’r cyhoedd, ac mae croeso i bobl leol alw heibio’r dderbynfa gydag unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw am y gwaith.
Rwy’n ymwybodol iawn bod tirfeddianwyr a pherchnogion tai yn cael eu heffeithio gan y gwaith adeiladu. Fe fues i mewn cyfarfod yn gynharach y mis hwn gyda thirfeddianwyr a pherchnogion tai sy’n cael eu heffeithio, ynghyd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a staff adeiladu Griffiths. Rwy’n teimlo bod y cyfarfod wedi bod yn fuddiol gyda’r tirfeddianwyr sy’n cael eu heffeithio yn cael cyfle i godi amryw o bryderon cyffredinol gyda Llywodraeth Cymru a staff y contractwr. Mae pob math o faterion yn tarfu ar bobl leol, gan gynnwys amseroedd gweithio, sŵn a materion yn ymwneud â chyfathrebu gweithgareddau. Gwnaeth swyddogion amryw o ymrwymiadau yn y cyfarfod.
Mae sawl rhan o Ffordd Dolfor Ganol, Ffordd Dolfor Uchaf a Lôn Mochdre wedi gorfod cau. I gael mwy o wybodaeth am y rhain, ffoniwch Gyngor Sir Powys ar 0845 602 7035 neu dilynwch y ddolen isod: http://www.powys.gov.uk/en/roads-transport-and-parking/traffic-delays-p…;
Yn ogystal, rwyf wedi codi’r mater o ddefnyddio mesurau rheoli traffig wrth gludo cyfarpar ar draws Ffordd Ceri yn enwedig. Rwyf wedi gofyn iddyn nhw ystyried yr oriau brig i bobl sy’n teithio i’r gwaith ac oddi yno ac osgoi defnyddio goleuadau traffig yn ystod yr amseroedd hyn.
Codais hefyd y mater o is-gontractwyr yn cludo llwythi mawr o gerrig o chwarel Carno ar gyfer y ffordd osgoi. Rwyf wedi gofyn am i’r llwythi hyn gael eu gorchuddio’n iawn i osgoi’r posibilrwydd o’r cerrig hyn yn disgyn ar y ffordd neu’n gwneud difrod i gerbydau eraill.
Dylai’r rhai sy’n cael eu heffeithio gael eu trin â pharch yn ystod y gwaith adeiladu. Os hoffai unrhyw dirfeddiannwr gyfarfod â mi i drafod agwedd benodol, mae croeso i chi gysylltu â’m swyddfa.
Byddaf yn parhau i bwyso i sicrhau bod y gwaith adeiladu’n cael ei gyflawni’n brydlon dros y 18 mis nesaf ac nad yw’r gwaith yn tarfu gormod ar gymudwyr. Byddaf yn parhau hefyd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo canol tref y Drenewydd gyda mesurau megis arwyddion priodol a dulliau eraill. Rwyf wedi trafod materion gyda Chyngor Sir Powys gan mai nhw fydd yn gyfrifol am y ffordd bresennol drwy’r dref. Bydd cyfle iddyn nhw wneud gwelliannau a derbyn cymorth ariannol eu hunain gan y Llywodraeth i gyflawni’r gwaith. Mae trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru ar drosglwyddo’r gefnffordd. Pan fydd y trafodaethau hyn wedi datblygu ymhellach, maent wedi ymrwymo i gynnal ymarfer ymgynghori.
Etholiadau’r Cyngor
Yn gynharach yn y mis, cynhaliwyd etholiadau lleol i Gyngor Sir Powys a chynghorau tref a chymuned. Cliciwch yma i weld y canlyniadau ac i weld pwy yw’ch cynghorydd sir newydd.
Yn Sir Drefaldwyn, mae yna 15 Cynghorydd Annibynnol, 14 Ceidwadwr Cymreig, 3 Democrat Rhyddfrydol a 2 Plaid Cymru.
Ledled Powys, mae yna 30 Cynghorydd Annibynnol, 19 Ceidwadwr Cymreig, 13 Democrat Rhyddfrydol, 7 Llafur, 2 Plaid Cymru ac 1 Gwyrdd.
Ni chafwyd etholiad ar gyfer un sedd, felly bydd yr etholiad hwn yn cael ei gynnal cyn hir.
Arferai’r Cynghorwyr Annibynnol fod yn y mwyafrif ac roedd y Cyngor yn cael ei redeg fel cyngor Annibynnol. Nawr, nid oes gan unrhyw grŵp reolaeth gyffredinol, ac mae’r grwpiau wrthi’n trafod i weld pwy fydd yn arwain Cyngor Sir Powys.
Signal Ffonau Symudol – Y Drenewydd a Phenffordd-las
Rwy’n hynod falch y bydd O2 cyn hir yn lansio 4G yn y Drenewydd ac yn gwella ei rwydwaith 2G a 3G. Dechreuodd y gwaith ddydd Llun 17 Ebrill ac, yn amodol ar brofion llwyddiannus, bydd cwsmeriaid yn gallu manteisio ar y gwasanaeth newydd yn yr wythnosau dilynol. Yn ystod y gwaith, efallai y bydd cwsmeriaid O2 yn profi gwasanaeth ysbeidiol ar adegau.
Mae hyn yn newyddion da i gwsmeriaid O2 sy’n byw yn ardal y Drenewydd, ac mae’n hen bryd. Mae 18 mis ers i mi drefnu cyfarfod gyda’r holl weithredwyr ffonau symudol yn y Drenewydd, ac fe wnaethon nhw i gyd ymrwymo i hyn felly mae’n dda ein bod ni’n gweld cynnydd ar y mater o’r diwedd.
Fodd bynnag, does dim signal o gwbl mewn rhai cymunedau o hyd, heb sôn am signal 3G neu 4G, felly rhaid i ni barhau i bwyso i sicrhau bod gweithredwyr yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros wasanaethu’r ardaloedd hyn hefyd.
Felly, rwy’n hynod falch bod O2 wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu lansio ei wasanaeth 4G ym Mhenffordd-las, pentref gwledig lle nad oes unrhyw signal ffonau symudol dibynadwy o gwbl. Mae O2 yn paratoi i’r safle 4G newydd ym Mhenffordd-las gael ei roi ar waith ddiwedd y mis, cyhyd â bod BT yn cwblhau’r gwaith ar y cysylltiadau trawsyrru.
Cymorthfeydd
• Dydd Gwener 19 Mai – 10am – 1pm, 20 Stryd Fawr, Y Trallwng
• Dydd Gwener 26 Mai – 10am – 12pm, 13 Lôn Parker, Y Drenewydd
• Dydd Llun 5 Mehefin – 2pm – 4pm, 13 Lôn Parker, Y Drenewydd
• Dydd Gwener 16 Mehefin – 12pm – 2pm, 20 Stryd Fawr, Y Trallwng