Annwyl Drigolion,
Blwyddyn Newydd Dda.
Dyma gopi o’m cylchlythyr misol diweddaraf. Fel arfer, mae pob croeso i chi gysylltu â mi os gallaf fod o unrhyw gymorth, neu os oes gennych unrhyw adborth.
Yn gywir
Russell
Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn
Iechyd
Rwyf wedi cyhoeddi gwybodaeth newydd am faterion Iechyd ar ôl cynnal arolwg iechyd yn ddiweddar. Cafwyd ymateb ardderchog i’r arolwg, gyda mwy na 2500 o drigolion yn lleisio eu barn. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ddiweddaraf am faterion fel amseroedd aros, triniaeth canser, mynediad lleol i wasanaethau ac apwyntiadau gyda meddygon teulu.
Addysg
Absenoldeb yn ystod Tymhorau Ysgol
Fis diwethaf, gofynnais i Gyngor Sir Powys adolygu ei agwedd at absenoldeb yn ystod tymhorau ysgol ar ôl canfod nad yw’r awdurdod lleol yn gweithredu yn unol ag ysbryd y gyfraith o bosibl.
Mae’n ymddangos bod cryn dipyn o ddryswch mewn awdurdodau lleol ledled Cymru ynglŷn â’r sefyllfa gyfreithiol ar y mater hwn, gyda llawer o awdurdodau, gan gynnwys Powys, yn hysbysu ysgolion a rhieni mai dim ond mewn amgylchiadau “eithriadol” neu “arbennig” y gellir ystyried cais am absenoldeb yn ystod tymor ysgol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ar absenoldeb yn ystod y tymor, ond dydw i ddim yn credu bod Cyngor Sir Powys yn dilyn y canllawiau. Mae’r ddeddfwriaeth berthnasol yn rhoi’r disgresiwn i benaethiaid ganiatáu hyd at 10 diwrnod o absenoldeb bob blwyddyn ysgol at ddibenion gwyliau teulu yn ystod y tymor. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir awdurdodi mwy na 10 diwrnod.
Rwyf wedi clywed am ysgolion lleol ym Mhowys sydd wedi ysgrifennu at rieni yn bygwth eu dirwyo am fynd â’u plant o’r ysgol yn ystod y tymor ar gyfer gwyliau teulu. Mae’r ysgolion hyn yn nodi mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir caniatáu unrhyw absenoldeb o gwbl – ond dydy’r canllawiau ddim yn dweud hynny.
Ar ôl codi’r mater hwn gyda’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, mae’n dda gen i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Wasanaeth Lles Addysg Cyngor Sir Powys i gadarnhau yn ddiamwys bod “amgylchiadau eithriadol” ond yn berthnasol i geisiadau am absenoldeb am fwy na deg diwrnod.
Rwy’n credu y dylai penaethiaid unigol gael hawl i ddefnyddio eu disgresiwn wrth awdurdodi gwyliau teulu yn ystod y tymor.
Gall amser penodedig gyda’r teulu fod llawn cyn bwysiced i fagwraeth plentyn â’i addysg ffurfiol, ac ni ddylid diystyru gwyliau teulu yn awtomatig fel gwastraffu amser dysgu.
Cysylltiad Canolbarth Cymru ac Ynni Gwynt
Ar ôl derbyn hawliadau gan RWE ac RES sy’n herio penderfyniadau’r Ysgrifennydd Gwladol ar geisiadau ffermydd gwynt Carnedd Wen a Llanbrynmair, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu dirymu’r ddau benderfyniad cynllunio. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn mynd ati i roi proses ar waith i ailbenderfynu ar ddau gais y ffermydd gwynt. Er nad oes unrhyw amserlen statudol ar gyfer ailbenderfynu ar geisiadau, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio gwneud hyn mewn modd amserol.
Mae’r AC lleol, Glyn Davies, wedi egluro’r sefyllfa bresennol yn ddiweddar, ac roeddwn yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol ailadrodd yr hyn a ddywedodd Glyn yma – ac rwy’n cyd-fynd â’i sylwadau yn llwyr:-
“Roedd y ddau ddatblygiad hyn yn rhan o ymchwiliad cyhoeddus cysylltiedig i bum fferm wynt (a llinell bŵer 132kv) a gynhaliwyd dros 9 mis yn 2013-14, ac a wrthodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 7 Medi 2015. Gwrthodwyd y cynigion ar gyfer Carnedd Wen a Llanbrynmair (ac eraill).
Penderfynodd y datblygwyr ofyn am Adolygiad Barnwrol o’r broses ac mae’r penderfyniadau hyn yn deillio o’r adolygiad hwnnw. Aeth yr Ysgrifennydd Gwladol ati i ystyried y sefyllfa, gan benderfynu mai’r ffordd orau ymlaen oedd dileu’r penderfyniadau a’u hailystyried. Cytunodd â’r Uchel Lys y dylai hyn ddigwydd ar 16 Rhagfyr.
Dylid ymdrin â phenderfyniadau dadleuol o’r fath yn fanwl ac mor dryloyw â phosibl.
Rwy’n derbyn bod yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried y ddau gais yn llawn. Ar ôl rhoi sylw dyledus i’r mater, rwy’n gobeithio y bydd hi’n gwneud yr un penderfyniad ag y gwnaeth ar 7 Medi.”
Bancio Cymunedol
Ychydig cyn y Nadolig, mynychodd Glyn Davies AC, y Cynghorydd Peter Lewis (Cynghorydd Sir Llanfyllin), y Cynghorydd Ann Williams (Maer Llanfyllin) a minnau gyfarfod â rheolwyr banc yr HSBC i geisio eu perswadio i ailystyried eu penderfyniad i gau eu canghennau yn Llanfyllin a Llanfair Caereinion o ddydd Gwener 12 Chwefror ymlaen.
Yn ystod y cyfarfod ag uwch reolwyr HSBC, cyflwynais ganlyniadau fy arolwg diweddar o drigolion, sy’n dangos bod cefnogaeth ysgubol ar gyfer cadw’r ddwy gangen ar agor.
Fodd bynnag, er gwaethaf ein cais iddynt ailystyried, nid oeddent yn fodlon newid eu penderfyniad a chadw’r canghennau hyn ar agor.
Yn hytrach, fe’n hysbyswyd y bydd cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i’w cyfrifon yn Swyddfa’r Post leol yn Llanfyllin a Llanfair Caereinion. Mae’n dda gen i glywed bod Swyddfa’r Post wedi cadarnhau y bydd cwsmeriaid busnes HSBC, yn ogystal â chwsmeriaid unigol, yn gallu cwblhau trafodion bancio yn Swyddfa’r Post. Bydd hyn yn hanfodol i fusnesau gwledig bach a fyddai’n gorfod teithio i drefi mawr fel y Trallwng ar gyfer trafodion bancio heb y gwasanaeth hwn.
Rwy’n gobeithio y bydd y datganiad hwn gan Swyddfa’r Post yn arwain at gynnydd ar fodel newydd o ‘fancio cymunedol’ i ddiogelu cymunedau gwledig rhag cau rhagor o fanciau. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, mae cau’r ddau fanc yn golled enfawr i’r ddwy gymuned.
Mae Sandy George, rheolwr cangen y Trallwng o fanc yr HSBC, wedi dweud bod croeso i gwsmeriaid ei ffonio’n uniongyrchol os oes ganddynt unrhyw gwestiynau. Ei rhif ffôn yw 03455 846 022.
Trafnidiaeth – Y rheilffordd
Gorsaf Carno
Yn gynharach yn y mis, roedd yn dda gen i dderbyn llythyr gan Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, yn cadarnhau ei bod wedi gofyn i’w swyddogion, Arriva Trains Cymru a Network Rail fynd ati i ddadansoddi ymhellach ddichonoldeb ailagor gorsaf drenau Carno, 53 o flynyddoedd ar ôl iddi gau. Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen, a hoffwn dalu teyrnged i Grŵp Gweithredu Gorsaf Carno, sydd wedi ymgyrchu mor galed dros flynyddoedd lawer i gyrraedd y pwynt hwn. Mae Mrs Hart wedi gofyn am gwblhau’r adolygiad erbyn mis Chwefror, a gobeithio y bydd gennyf ragor o newyddion cadarnhaol yn y dyfodol agos.
Diogelwch ar y Rheilffordd
Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr Network Rail yn ddiweddar i drafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â diogelwch ar reilffordd y Cambrian yn dilyn pryderon cyson am ddiogelwch gan ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n symud eu da byw ar draws y rheilffordd.
Er fy mod yn croesawu’r ffaith fod gwasanaethau trên wedi dechrau bob awr rhwng Aberystwyth ac Amwythig, mae’r gwasanaethau ychwanegol wedi creu problemau diogelwch i ffermwyr sydd angen symud eu da byw ar draws y trac mewn cyfnod amser cyfyngedig.
Rwyf wedi codi’r mater hwn sawl gwaith â Network Rail dros y blynyddoedd diwethaf, ac maen nhw wedi cytuno i adolygu safonau cenedlaethol ffensys weiar bellach, gan sicrhau bod ffensys yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda. Maen nhw hefyd wedi cytuno i ystyried mater diogelwch da byw, a byddant yn ystyried pob croesfan yn unigol i weld a fyddai llociau cadw da byw yn opsiwn ymarferol, ar y cyd â thirfeddianwyr.
Hefyd, roedd Network Rail yn awyddus i gau cynifer o groesfannau rheilffordd â phosibl er mwyn gwella diogelwch a phrydlondeb trenau. Mae croeso i unrhyw ffermwr neu dirfeddiannwr gysylltu â mi yn uniongyrchol os hoffent gyfarfod â Network Rail.
Amaethyddiaeth
Randall Parker Foods
Bues i ac Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies AC, yn ymweld â Randall Parker Foods ger Llanidloes ym mis Rhagfyr. Buom hefyd yn cyfarfod â Hybu Cig Cymru, y corff sy’n gyfrifol am ddatblygu, hybu a marchnata cig coch o Gymru, er mwyn dysgu am y bartneriaeth gref y mae’r cwmni wedi’i meithrin â Hybu Cig Cymru i hybu a marchnata ei gynnyrch.
Mae Randall Parker Foods yn enghraifft ardderchog o fusnes mawr yn y Canolbarth sydd wedi buddsoddi swm sylweddol o arian yn y cwmni er mwyn gallu ehangu a darparu hyd yn oed mwy o werth i ffermwyr da byw Cymru.
Mae gwerthiant rhyngwladol cig oen a chig eidion o Gymru yn werth dros £200 miliwn i economi Cymru, ac mae’n hollbwysig ein bod yn diogelu’r diwydiant hanfodol hwn er budd Cymru gyfan.
Cymorthfeydd
Rwy’n cynnal cymorthfeydd rheolaidd yn fy swyddfa yn y Drenewydd, a byddaf yn cynnal rhai eraill yn yr ardaloedd canlynol yn y dyfodol agos. I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud apwyntiad i drafod unrhyw broblem neu bryder gyda mi, ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
· Dydd Sadwrn 23 Ionawr – Trefaldwyn a Cheri
· Dydd Gwener 29 Ionawr - Llanidloes
· Dydd Sadwrn 30 Ionawr – Machynlleth, Cemaes a Chomins Coch
· Dydd Gwener 5 Chwefror – Llangadfan, Llanerfyl a Llanfair Caereinion
· Dydd Sadwrn 13 Chwefror – Y Trallwng
· Dydd Sadwrn 12 Chwefror – Meifod, Pontrobert a Bwlch y Cibau
· Dydd Sadwrn 13 Chwefror – Castell Caereinion
Dolenni Defnyddiol
Ar gyfer y newyddion diweddaraf am lifogydd, graeanu yn y gaeaf, oedi i’r traffig a chau ysgolion, bydd y dolenni canlynol yn ddefnyddiol:
Graeanu yn y gaeaf
Rhybuddion a chyngor ar lifogydd
Oedi i'r traffig a gwaith ffordd wedi'i gynllunio
Cau Ysgolion