Annwyl breswylydd,
Dyma’r newyddion diweddaraf am faterion amrywiol. Rydw i’n edrych ymlaen at gael mynd i wahanol ddigwyddiadau a sioeau sir ledled Sir Drefaldwyn yn ystod yr haf. Rydw i wedi creu rhestr o’r sioeau a byddaf i’n ymweld â nhw ar ddiwedd y cylchlythyr hwn.
Rydw i’n edrych ymlaen hefyd at fynd i Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf. Yn y Sioe, byddaf i’n cwrdd â sefydliadau amrywiol, gan gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant ffermio a Phil Hogan, Comisiynydd Amaethyddiaeth Ewrop, i drafod y polisi amaethyddol Ewropeaidd. Rydw i’n edrych ymlaen at yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod rhwng 1 ac 8 Awst hefyd.
Trafnidiaeth
Goleuadau traffig camlas ger Aber-miwl
Rydw i’n falch iawn bod y goleuadau traffig rhwng Aber-miwl a Garthmyl wedi mynd o’r diwedd yn sgil cwblhau’r gwaith atgyweirio. Ar ôl i’r gwaith gychwyn, cafodd yr atgyweiriadau eu cwblhau’n eithaf cyflym, ond ddylai hi ddim fod wedi cymryd 4 mis i’r gwaith gael ei gychwyn.
Codais y mater hwn gydag Edwina Hart AC, y Gweinidog Trafnidiaeth, sawl gwaith i geisio cyflymu’r gwaith atgyweirio a oedd yn hollbwysig cyn gwyliau’r haf. Yn yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod yn trafod hyn gyda Glandŵr Cymru (perchennog y gamlas), Cyngor Sir Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am faterion amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r gamlas. Roeddwn i, fel eraill sy’n defnyddio’r ffordd hon yn rheolaidd, yn rhwystredig iawn o weld y diffyg brys ynghylch cyflawni’r gwaith.
System Unffordd y Trallwng
Mynegwyd mwy o bryderon mewn cyfarfod cyhoeddus ar 22 Mehefin am y system unffordd yn y Trallwng. Mae Edwina Hart AC, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi cytuno i’m cais i ddod i’r Trallwng i drafod pryderon cynrychiolwyr lleol am ddiogelwch cerddwyr a’r newidiadau arfaethedig i wella’r system bresennol. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi ar y mater.
Ffordd Osgoi’r Drenewydd
Ychydig wythnosau’n ôl, siaradais yn yr ymchwiliad cyhoeddus i Ffordd Osgoi’r Drenewydd o blaid y llwybr dewisol. Bydd yr ymchwiliad yn dod i ben yr wythnos nesaf. Rhagwelid y bydd hi’n fis neu ddau cyn i’r Arolygydd adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru a chontractwyr (yn dibynnu ar ganlyniadau’r Ymchwiliad Cyhoeddus) yn awyddus i ddechrau ar y gwaith adeiladau yn ddiweddarach eleni.
Ad-drefnu Ysgolion
Mae sawl un wedi mynegi pryderon ynglŷn ag adolygiad Cyngor Sir Powys o addysg uwchradd yng ngogledd Powys. Mae’r adolygiad wedi’i rannu’n ddwy ran: diben rhan 1 yw pennu a oes angen ysgol neu ysgolion uwchradd Cymraeg yn Sir Drefaldwyn ai peidio; a bydd rhan 2 yn gwneud argymhellion am drefniant addysg uwchradd yn Sir Drefaldwyn yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, mae chwe ysgol uwchradd yn Sir Drefaldwyn ac mae’r Cyngor o’r farn bod pob un ohonyn nhw’n cael trafferth cynnig pob elfen o’r cwricwlwm gyda’r adnoddau sydd ar gael. Dywed Cyngor Sir Powys nad yw parhau i ddarparu addysg uwchradd ar ei ffurf bresennol yn bosibl yn Sir Drefaldwyn.
Mae’r Cyngor wedi penodi sefydliad o’r enw Sbectrwm i ymgynghori ag ysgolion uwchradd a rhieni ledled Sir Drefaldwyn. Mae’r digwyddiadau ymgynghori hyn wedi’u cynnal. Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol mewn digwyddiad ymgynghori, gallwch rannu eich barn drwy e-bostio [email protected]
Dyma’r opsiynau amrywiol sy’n cael eu trafod:
-
Ysgolion 3-18
-
Ysgolion 3-16
-
Uno sawl chweched dosbarth
-
Darpariaeth Gymraeg
-
Adeiladau canolfannau addysg newydd
-
Cau rhai ysgolion uwchradd
-
Sefydlu ffederasiwn o ysgolion uwchradd yn yr ardal.
Mae nifer o bryderon difrifol wedi’u rhannu â mi am y broses ymgynghori a sut yr aeth Sbectrwm ati i gynnal yr ymgynghoriad. Rydw i wedi trafod y pryderon gyda Chyngor Sir Powys. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y broses ymgynghori, neu os ydych chi’n gwybod am bobl eraill sydd â phryderon, cysylltwch â mi – [email protected]
Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu i amddiffyn ein hysgolion uwchradd a’r cymunedau y mae’r ysgolion yn ganolog iddyn nhw.
Prosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru
Yn ddiweddar, gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ddatganiad ar ddyfodol ynni gwynt ar y tir. Mae’n amlwg bellach nad yw’n debygol iawn y bydd datblygiad gwynt ar y tir sylweddol yn mynd rhagddo yn y Canolbarth ar ôl i’r Llywodraeth Geidwadol newydd fabwysiadu safbwynt polisi newydd a fydd yn rhoi diwedd ar gymorthdaliadau cyhoeddus ar gyfer gwynt ar y tir.
Newidiadau i Wasanaethau Bysiau
Yn dilyn ymgynghoriad Trafnidiaeth Gyhoeddus Cyngor Sir Powys, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi gyda phryderon am nifer o lwybrau trafnidiaeth. Cytunais i gefnogi ymgyrchwyr, a dydd Llun (cyn cyfarfod cabinet Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth), trefnais i ddeisebwyr gyflwyno’u deiseb i’r Cynghorydd Barry Thomas, Arweinydd Cyngor Sir Powys. Mae nifer o wasanaethau bysiau yng ngogledd Powys sy’n amlwg yn hollbwysig i gymunedau ac rwyf o’r farn y dylid eu cadw.
Llawdriniaethau Dewisol ym Mronglais
Yn gynharach yn y mis, galwais am ddiweddariad brys gan Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd, am ddileu llawdriniaethau dewisol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Mae gan drigolion bob rheswm i golli amynedd ac mae rhai wedi cysylltu â mi i ddweud bod eu llawdriniaethau wedi’u dileu am resymau anghlinigol deirgwaith yn olynol ar fyr-rybudd.
Mae’n destun pryder parhaus i mi fod penderfyniadau am ddileu gweithdrefnau dewisol cleifion mewnol yn cael eu gwneud gan weinyddwyr yn hytrach na chlinigwyr ac nid wyf yn hyderus bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddatrys y sefyllfa hon.
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Rydw i’n edrych ymlaen at yr Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn cael ei chynnal ym Meifod rhwng 1 ac 8 Awst. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Dyddiadau Cymorthfeydd
Byddaf yn y digwyddiadau a’r sioeau canlynol yn ystod yr haf.
Yn ogystal â’r cymorthfeydd ar y dyddiadau isod, gallwch ffonio fy swyddfa i drefnu apwyntiad yn fy swyddfa yn y Drenewydd neu’r Trallwng.
-
Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf – Carnifal Machynlleth, Y Plas – 12pm – 2pm
-
Dydd Sadwrn 1 Awst – Sioe Trefeglwys – 4pm – 6pm
-
Dydd Sul 2 Awst – Diwrnod Hwyl yr Ystog, Siop Harry Tuffins – 12pm – 2pm
-
Dydd Sadwrn 8 Awst – Sioe Llangurig – 3pm – 5pm
-
Dydd Iau 13 Awst – Sioe Cegidfa – 12pm – 2pm
-
Dydd Sadwrn 15 Awst – Sioe Llanfyllin – 12pm – 2pm
-
Dydd Sadwrn 15 Awst – Sioe Carno – 3pm – 5pm
-
Dydd Sadwrn 22 Awst – Sioe Aberriw – 12pm – 2pm
-
Dydd Llun 31 Awst – Sioe Llanbrynmair – 12pm – 2pm
-
Dydd Llun 31 Awst – Sioe Castell Caereinion – 3pm – 5pm