Cylchlythyr mis Ebrill
Annwyl breswylydd,
Dyma’r newyddion misol diweddaraf am fy ngweithgareddau yn y Cynulliad Cenedlaethol a Sir Drefaldwyn.
Ar 4 Mai byddwn yn ethol ein set nesaf o gynghorwyr sir, tref a chymuned. Hoffwn eich annog i leisio eich barn drwy bleidleisio yn yr etholiadau lleol pwysig hyn. Bydd eu canlyniadau’n effeithio ar flaenoriaethau polisi Cyngor Sir Powys ac ar y cyfeiriad cyffredinol y bydd Cyngor Sir Powys yn mynd iddo dros y pum mlynedd nesaf. I gael mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn, ewch i:
http://www.powys.gov.uk/cy/etholiadau/gwybodaeth-am-etholiadau-sydd-ar-y-gorwel/
Yr un modd ag arfer, os teimlwch y gallaf helpu mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â mi yn [email protected] neu ar 01686 610887.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Cenedlaethol dros Sir Drefaldwyn
Cau canghennau NatWest yn y Trallwng a Machynlleth
Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus yn y Trallwng a mynychais gyfarfod ym Machynlleth, lle y cafwyd cefnogaeth unfrydol i’r alwad ar fanc NatWest i ailystyried eu penderfyniad i gau eu canghennau yn y ddwy dref, sydd i ddigwydd ar 27 Medi a 12 Hydref.
Roedd pawb yn y cyfarfodydd cyhoeddus yn unfrydol y dylem wneud popeth a allwn i newid penderfyniad NatWest i gau drysau eu cangen yn y Trallwng, barn a fynegais wrth reolwyr y banc.
Mae'n amlwg i mi nad yw trosglwyddo gwasanaethau bancio i swyddfa'r post a bancio symudol neu ar-lein yn cymryd lle cyfleusterau parhaol dros y cownter bob amser, yn enwedig i bobl sy'n oedrannus neu anabl.
Rwyf hefyd wedi dod â’r mater i sylw'r Prif Weinidog eto ac wedi adnewyddu fy ngalwadau am fodel bancio cymunedol newydd a fyddai'n cadw presenoldeb banciau ar y stryd fawr yn nhrefi Powys. Cydnabu'r Prif Weinidog y sefyllfa ddifrifol y mae cymunedau yn ei hwynebu wrth golli eu gwasanaethau bancio ac mae wedi cytuno i godi llais i hwyluso trafodaeth gyda'r banciau, y rheoleiddwyr a phartneriaid eraill i archwilio model bancio cymunedol newydd a fyddai'n golygu bod banciau’n rhannu adeiladau a gwasanaethau. Rwy’n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio’i dylanwad bellach er mwyn sicrhau bod atebion amgen digonol yn cael eu canfod.
Diwygio'r GIG yn Swydd Amwythig a’r gwasanaethau brys
Yn ddiweddar, ysgrifennodd ein Haelod Seneddol, Glyn Davies, dair erthygl newyddion gynhwysfawr iawn ar Ddiwygio'r GIG yn Swydd Amwythig, a materion eraill yn ymwneud ag Ysbytai Amwythig a Telford. Mae'r erthyglau i’w gweld yma:
http://glyn-davies.blogspot.co.uk/2017/04/avoidable-deaths-in-shrewsbury-and.html
Ar ôl holi’r Prif Weinidog yn gynharach y mis hwn a yw ei Lywodraeth wedi mynegi barn ynglŷn â ble y byddai orau ganddi weld gwasanaethau brys ar gyfer y Canolbarth yn cael eu lleoli, roeddwn yn falch fod Carwyn Jones wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi fy marn y dylai gwasanaethau brys barhau yn Amwythig.
Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i wneud unrhyw sylw cyhoeddus ar y dewis y mae’n ei ffafrio ar gyfer lleoli gwasanaethau brys sy'n gwasanaethu Swydd Amwythig a’r Canolbarth.
Fodd bynnag, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch fod y Prif Weinidog wedi cefnogi fy ngalwadau i a Glyn Davies am gadw a chryfhau’r gwasanaethau GIG yn Amwythig.
Rwyf wedi dadlau erioed mai synnwyr cyffredin yw lleoli gofal brys sy'n gwasanaethu Swydd Amwythig a’r Canolbarth yng nghanol yr ardal yn Amwythig, ond hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi osgoi’r cyfle i ychwanegu ei phwysau sylweddol at fy ngalwadau i’r perwyl hwn.
Ym mis Chwefror, cytunodd penaethiaid y GIG yn Swydd Amwythig a’r Canolbarth i gomisiynu gwaith pellach ar yr argymhellion gan fwrdd y rhaglen Future Fit. Bydd adroddiad annibynnol yn cael ei lunio gan arbenigwyr iechyd yn awr i adolygu'r gwaith a wnaed hyd yn hyn ar ddatblygu opsiynau hirdymor ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn Swydd Amwythig a’r Canolbarth.
Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref
Mae polisi newydd Cyngor Sir Powys sy'n gosod gwaharddiad cyffredinol ar faniau bach rhag mynd i ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn hurt ac yn dangos diffyg synnwyr cyffredin.
Mae rhai trigolion wedi cysylltu â mi i ddweud mai faniau bach yw eu hunig ddull o deithio, ond mae'r cyngor wedi dweud yn y bôn nad eu problem nhw yw hi ac nad ydynt yn barod i "wanhau’r" polisi i ganiatáu i drigolion fynd i ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref i gael gwared ar eu gwastraff anfasnachol.
Prin ein bod yn iawn gwahaniaethu yn erbyn trigolion am eu bod yn berchen ar fan fach at ddefnydd personol a hoffwn weld y polisi annoeth hwn yn cael ei wrthdroi, polisi sy’n gwneud i bobl feddwl tybed pam y maent yn talu eu treth gyngor os na chant wneud defnydd o’r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y cyngor.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r llu o bobl sydd wedi cwblhau fy arolwg ailgylchu, ac oherwydd lefel y diddordeb yn y mater, rwyf wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ei gwblhau, a byddaf yn cyflwyno adroddiad ar y canlyniadau yn e-newyddion y mis nesaf.
Ysgolion gwledig yn methu addysgu'r cwricwlwm llawn
Yn y misoedd diwethaf, cysylltodd ychydig o ysgolion cynradd gwledig yng Ngogledd Powys â mi yn mynegi rhwystredigaeth am na allant addysgu'r cwricwlwm llawn oherwydd diffyg band eang cyflym iawn. Mae hyn yn rhoi disgyblion ysgolion cynradd y Canolbarth dan anfantais, gan fy ysgogi i ddwyn y mater i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Ar hyn o bryd mae 23 o ysgolion ar draws Cymru sy’n methu cael band eang digonol o hyd i'w galluogi i addysgu disgyblion gan ddefnyddio’r adnodd dysgu digidol Hwb ac roeddwn yn falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi £5 miliwn ychwanegol i sicrhau bod y seilwaith yn cael ei uwchraddio, ac y bydd pob ysgol yn gallu cael band eang cyflym iawn er mwyn iddynt allu dysgu’r cwricwlwm llawn gan ddefnyddio'r holl adnoddau y mae ysgolion mewn ardaloedd trefol yn eu mwynhau ar hyn o bryd.
Cau ysgolion gwledig
Mae data oddi ar y Gofrestr Ysgolion yn dangos bod Powys wedi cau 26 o ysgolion ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999. Mae gormod o ysgolion da wedi cau eu drysau oherwydd polisïau Llywodraethau olynol, a'n hardaloedd gwledig sydd wedi cael eu taro galetaf. Y mae hyn nid yn unig wedi achosi gofid ac aflonyddwch i ddisgyblion, rhieni ac athrawon, ond mae wedi niweidio economi’r Gymru wledig hefyd. Gan fod gennym bellach Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sy'n cynrychioli rhan o Bowys, gobeithio y gwelwn y duedd hon yn cael ei gwrthdroi, tuedd sydd wedi golygu bod ysgolion da yn cau eu drysau. Ni ddylai unrhyw ysgol dda sy'n gallu cyflwyno'r cwricwlwm cenedlaethol gael ei gorfodi i gau heb gytundeb rhieni, athrawon a llywodraethwyr. Mae ysgolion yn ganolbwynt hollbwysig o ran cydlyniant cymunedol mewn ardaloedd gwledig. Pan fydd ysgol yn cau, nid y disgyblion yn unig sy'n cael eu heffeithio, ond rhieni, athrawon a busnesau lleol hefyd.
Cymorth ôl-UE i ffermwyr y Canolbarth
Y testun pryder mwyaf o bell ffordd i’r sector ffermio yw dyfodol cymorthdaliadau, ac yn benodol, sut y caiff y cyllid ei ddosbarthu i ffermwyr Cymru wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid rhoi camau ar waith i leddfu pryderon ffermwyr y Canolbarth yn dilyn Brexit ac rwyf wedi galw am sicrwydd y bydd taliadau fferm yn cael eu clustnodi ar lefel y DU ac aros y tu allan i broses arferol y gyllideb. Heb glustnodi'r cyllid pwysig hwn, byddai’n rhaid i arian ar gyfer amaethyddiaeth yn y Canolbarth gystadlu â gwasanaethau cyhoeddus eraill fel GIG Cymru ac ysgolion. Byddai hyn yn drychinebus i economi’r Canolbarth.
Galwadau am Fargen Twf i’r Canolbarth
Rwy’n credu bod yn rhaid i’r Canolbarth fanteisio ar y cyfleoedd economaidd a ddaw yn sgil Brexit a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Ar ôl y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd a'r ansicrwydd a’r heriau anochel sy'n gysylltiedig â'r canlyniad, mae Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn mynd i roi diogelwch a sicrwydd i fusnesau yn y Canolbarth i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn ogystal â sylfaen gadarn ar gyfer gwella safonau byw.
Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf i ymateb gyda'i Strategaeth Economaidd hirdymor ei hun a fyddai'n ategu’r ymdrech uchelgeisiol hon gan Lywodraeth y DU i ail-gydbwyso economi'r DU.
Mae'r Strategaeth Ddiwydiannol yn rhoi pwyslais mawr ar fynd i'r afael â'r gwahaniaethau rhanbarthol o ran ffyniant economaidd a'r prinder sgiliau sydd yng Nghymru, a byddai hynny, o’i wneud yn llwyddiannus, yn sbarduno cynnydd mewn cynhyrchiant a symudedd cymdeithasol yn y Canolbarth.
Er mwyn gwneud hyn, rwyf wedi dadlau y dylid ystyried datganoli ysgogiadau economaidd i’r Canolbarth yn awr drwy sefydlu Bargen Twf Canolbarth Cymru i hybu buddsoddiad yn ein hardal. Mae'r sector Bwyd a Diod yn arbennig yn un lle mae’r Canolbarth yn chwarae rhan flaenllaw ac mae'n amlwg fod yna gyfleoedd mewn marchnadoedd twf megis Tsieina y mae angen inni fanteisio arnynt.
Mae yna Fargen Twf Gogledd Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd a Bargen Ddinesig Bae Abertawe felly nid oes unrhyw reswm yn y byd pam na ddylem gael Bargen Twf Canolbarth Cymru er mwyn ein galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd buddsoddi ac allforio sy'n deillio o Brexit i hybu cysylltiadau masnachu â phartneriaid eraill o bob cwr o'r byd.
Rwyf wedi dwyn y materion hyn i sylw Gweinidogion Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn ystod y mis diwethaf, a Greg Clark AS, Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Mesurau diogelwch ffyrdd ar yr A470
Cefais gyfle hefyd i drafod y problemau diogelwch ffyrdd sy’n parhau ar yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach gyda Llywodraeth Cymru. Mae'r ardal yn dioddef o ganlyniad i achosion cyson o gerbydau nwyddau trwm yn gadael y ffordd lle nad oes rhwystr neu gwrbyn, ac ar ôl tynnu sylw at hyn yn y Senedd, rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i ymweld â'r safle gyda mi i weld y problemau sy'n wynebu modurwyr drosto’i hun. Yn fy marn i, un ffactor yn unig sy'n cyfrannu at beri i gerbydau adael y ffordd yw cyflymder, felly mae'n hanfodol gwneud asesiad llawn i ganfod pa welliannau eraill sydd eu hangen i gynllun y ffordd i sicrhau bod y rhan hon o'r A470 yn addas i’r diben ac yn ddiogel i fodurwyr.
Torri gwair
Rydym bellach yn y tymor 'tyfu gwair' unwaith eto ac rwyf wedi trafod y mater gyda Chyngor Sir Powys i gael sicrwydd y bydd y flwyddyn hon yn gweld gwelliant yn y gwasanaeth torri gwair a ddarperir gan Gyngor Sir Powys ar ôl y sefyllfa annerbyniol llynedd pan gafwyd dwsinau o gwynion gan drigolion ynglŷn â hyd y glaswellt a oedd yn rhoi argraff o esgeulustod i drigolion ac ymwelwyr â'r ardal.
Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn
Rwy'n falch o allu cefnogi ymgyrch Bowel Cancer UK i annog mwy o bobl i wneud prawf sgrinio canser y coluddyn fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn. Canser y Coluddyn yw’r canser sy’n lladd y nifer mwyaf ond un yng Nghymru ond mae modd ei drin a’i wella, yn enwedig os gwneir diagnosis yn gynnar. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, hanner y rhai sy'n cael prawf sy’n ei gwblhau ac mae miloedd o bobl yn colli cyfle i ganfod canser y coluddyn yn gynnar pan fo’n haws i'w drin.
Byddwn yn annog pobl sy'n cael prawf sgrinio'r coluddyn drwy’r post i'w ddefnyddio. Cymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio canser y coluddyn yw'r ffordd orau o gael diagnosis yn gynnar. Os ydych dros 60 oed, gwnewch y prawf pan fyddwch yn ei gael drwy’r post. Os ydych yn iau, dywedwch wrth y bobl dros 60 oed yn eich bywyd i wneud y prawf. Mae diagnosis cynnar yn gallu achub bywydau. Ewch i wefan Bowel Cancer UK am ragor o wybodaeth: bowelcanceruk.org.uk.
Canllawiau Cymorth Cyntaf am ddim
Ar hyn o bryd mae St John Cymru yn cynnig canllawiau poced am ddim ar gymorth cyntaf i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae'r llyfrynnau maint cerdyn credyd hyn yn cynnwys yr holl gyngor cymorth cyntaf y byddwch ei angen i ymdrin â phump o argyfyngau meddygol cyffredin yn cynnwys tagu, gwaedu, llosgiadau, trawiad ar y galon a beth i'w wneud os nad yw claf yn ymateb. Er na all dim gymryd lle hyfforddiant cymorth cyntaf ymarferol, gallai'r canllawiau bach hyn olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw os oes argyfwng, gan roi hyder i'r defnyddiwr fynd ati i ddefnyddio technegau achub bywyd. I gael eich canllaw am ddim, ewch i: stjohnwales.co.uk/first-aid-advice/freeguides/
Cymorthfeydd sydd i ddod
Rwy'n cynnal cymorthfeydd yn fy swyddfeydd yn y Drenewydd a'r Trallwng bron bob dydd Gwener a byddaf yn yr ardaloedd canlynol ar y dyddiadau canlynol hefyd. Os hoffech gyfarfod â mi, ffoniwch 01686 610887 i wneud apwyntiad.
Llandinam - Dydd Sadwrn 22 Ebrill
Machynlleth - Dydd Gwener 12 Mai
Y Trallwng - Dydd Sadwrn 13 Mai