Cylchlythyr Mis Ebrill
Cylchlythyr misol Russell George AC am ei waith yn Sir Drefaldwyn a’r Cynulliad
Annwyl breswylydd,
Mae wedi bod yn anrhydedd i mi gynrychioli pobl Sir Drefaldwyn dros y pum mlynedd diwethaf.
Gyda dim ond mis i fynd cyn Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu rwyf wedi cynnwys tipyn o wybodaeth ddefnyddiol isod am newidiadau i’r drefn gofrestru pleidleiswyr.
Dwi’n gobeithio y bydd y cylchlythyr hwn o ddiddordeb i chi ac edrychaf ymlaen at gyfarfod llawer ohonoch dros y mis nesaf wrth i mi ymgyrchu i gael fy ailethol fel Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn.
Fel arfer, rhowch wybod os oes gennych chi unrhyw faterion neu bryderon neu os hoffech gael cymorth gen i gydag unrhyw fater. Cysylltwch â mi drwy e-bostio [email protected]
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Sicrhau Newid i’r Gymru Wledig
________________________________________
Mae byw a gweithio yn ardaloedd gwledig hardd y Canolbarth yn fraint fawr ond gall fod yn her fawr hefyd. Mae ein cymunedau gwledig yn wynebu problemau penodol y bydd rhaid i’r Llywodraeth nesaf fynd i’r afael â nhw ar frys er mwyn i’r cymunedau hynny allu goroesi ac, yn bwysicach, ffynnu. Gyda’r cymorth priodol, gallai’r Canolbarth fod yn bwerdy economaidd. Drwy rymuso’r broses o wneud penderfyniadau’n lleol, cefnogi gwasanaethau ac amwynderau cyhoeddus gwledig, darparu mynediad cyffredinol i fand eang cyflym iawn a signal ffonau symudol da a sicrhau bod ein diwydiant ffermio yn gystadleuol, gallwn adfywio ein cymunedau gwledig. Rwy’n obeithiol am ragolygon y Canolbarth ond mae’n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi ein cymunedau gwledig os ydyn nhw am symud o “oroesi yn unig” i ffynnu unwaith eto. Darllenwch erthygl lawn a ymddangosodd yn y cyfryngau yn ddiweddar yma.
Band eang
________________________________________
Yn ystod fy amser fel Aelod Cynulliad, un o’r materion sy’n ymddangos amlaf yn y llythyrau a dderbyniaf gan etholwyr yw darpariaeth band eang yn Sir Drefaldwyn. Yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gyfathrebu Digidol rwyf wedi gallu ymgyrchu am flaenoriaethu band eang yn y Canolbarth, i sicrhau bod trigolion a busnesau ledled Sir Drefaldwyn yn gallu manteisio ar fand eang ffeibr.
Cliciwch yma i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth band eang yn Sir Drefaldwyn.
Trafnidiaeth
________________________________________
Traffig y Trallwng
Ro’n i’n falch o groesawu Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Edwina Hart AC, oedd yn ymweld â’r Trallwng i drafod y pryderon parhaus am ddiogelwch cerddwyr a’r newidiadau arfaethedig i gynllun y ffyrdd er mwyn gwella system unffordd y dref. Ro’n i’n awyddus iawn i’r Gweinidog ddod i’r Trallwng i weld gyda’i llygaid ei hun pa mor fuddiol fyddai newidiadau i gynllun y ffyrdd. Dangosodd canlyniadau’r arolwg a gynhaliais y llynedd fod yna gonsensws o blaid cyflwyno nifer o newidiadau a fyddai’n golygu bod traffig yn llifo’n well drwy’r dref, yn cynnwys y syniad o droi Brook Street yn stryd ddwyffordd. Ro’n i’n falch iawn bod y Gweinidog yn cytuno â’r syniad o gyflwyno newidiadau ac ysgrifennodd ataf yn cadarnhau y bydd ei swyddogion yn ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer newid Brook Street o fod yn stryd traffig unffordd i fod yn stryd traffig dwyffordd.
Pont Caersws
Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb i fynd i’r afael â diogelwch cerddwyr a beicwyr sy’n croesi’r bont gul dros yr afon. Mae nifer o opsiynau dan ystyriaeth. Un opsiwn yw gosod goleuadau traffig parhaol ar y bont gyfredol. Fodd bynnag, nid dyma’r dewis mwyaf poblogaidd gennyf i na’r gymuned leol ac rwyf wedi gofyn i’r Gweinidog ystyried yr opsiwn sy’n cynnig pont droed annibynnol.
A44 Llangurig
Rwyf wedi ysgrifennu eto at y Gweinidog, Edwina Hart AC ac mae wedi cadarnhau bod y gwaith i drwsio’r rhwystr a ddifrodwyd ar fin dechrau ac y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn y gwanwyn eleni. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog na fydd gwaith yn cael ei wneud ar y rhan o’r ffordd sydd angen ei thrwsio hefyd nes i gyllid pellach gael ei gadarnhau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi’n trefnu cynlluniau ar gyfer cyllid yn 2016/17 a bydd gwelliannau i’r A44 yn y lleoliad hwn yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses hon.
Llanymynech / Pant
Rwy’n parhau i lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r ffordd osgoi. Highways England yw’r prif awdurdod ar gyfer cynllun y ffordd osgoi ac mae’n rhaid i swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru weithio gyda nhw i fwrw ymlaen â’r cynllun. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar sut i fwrw ymlaen â’r cynllun trawsffiniol hwn.
Prosiectau traffig eraill
Rwyf wedi cefnogi llawer o brosiectau trafnidiaeth eraill hefyd. Nid yw’n bosibl eu rhestru i gyd, ond cysylltwch â mi os oes gennych bryderon penodol neu os ydych gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw brosiectau.
Cyflwynais y newyddion diweddaraf am Ffordd Osgoi’r Drenewydd ddechrau fis diwethaf, a gallwch ei ddarllen yma
Prosiectau Trafnidiaeth Lleol - Cyllid
Rwy’n croesawu’r buddsoddiad newydd mewn prosiectau trafnidiaeth lleol ym Mhowys ar ôl ymgyrchu am welliannau i gysylltiadau trafnidiaeth ledled Sir Drefaldwyn yn ystod fy amser fel Aelod Cynulliad.
Ar ôl cefnogi cais Cyngor Sir Powys am gyllid grant ro’n i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £883,000 ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth ym Mhowys.
Rwy’n arbennig o falch y bydd prosiectau a gynlluniwyd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn dwyn ffrwyth. Mae pawb yn gwybod pa mor beryglus yw rhai o ffyrdd y Canolbarth. Felly, rwy’n croesawu unrhyw fesurau a fydd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd ac rwy’n falch o weld bod gwelliannau ar hyd yr A495 o Meifod i ffin Sir Powys, gwelliannau i gyffyrdd a chroesfannau i gerddwyr ar y B4568 yn y Drenewydd a llwybrau cerdded/beicio newydd yn Llanfyllin i gyd wedi derbyn cyllid.
Byddaf yn parhau i ymgyrchu dros y gwelliannau trafnidiaeth sy’n hanfodol i sicrhau bod economi’r Canolbarth yn ffynnu.
Mae manylion y grantiau a ddyfarnwyd i Powys isod.
Cronfa Trafnidiaeth Lleol
£420,000 ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau aros ar hyd llwybr TrawsCymru T4 (Y Drenewydd i Gaerdydd.
Grantiau Cyfalaf Diogelwch Ffyrdd
£125,000 ar gyfer pecyn o fesurau i wella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau damweiniau ar hyd yr A495 o Feifod i ffin y sir.
£11,000 ar gyfer astudiaeth o sut i wella cyffyrdd a chroesfannau i gerddwyr ar gyffordd Back Lane / Y Stryd Fawr y B4568 yn y Drenewydd.
£63,000 ar gyfer gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd i’r B4560 rhwng Ffordd Fynydd Llangydir a ffin y sir.
Addysg a Hyfforddiant Diogelwch Ffyrdd
£117,400
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau
£62,000 ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau cerdded a beicio yn Ysgol Maesydderwen, Ystradgynlais.
£84,500 ar gyfer cysylltiadau cerdded a beicio newydd yn Llanfyllin.
Cymorth i Fusnesau Bach
________________________________________
Mae busnesau bach ym Mhowys mewn perygl o fod ar ei hôl hi oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd i gynnig cymorth ychwanegol. Yn Lloegr, mae’r Canghellor wedi cyhoeddi na fydd yn rhaid i 600,000 o fusnesau dalu ardrethi busnes o gwbl, yn sgil diwygiadau a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU. Credaf fod yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru gynnig cymorth tebyg i fusnesau bach yng Nghymru drwy ddiddymu ardrethi i fusnesau bach gyda gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a darparu cymorth sy’n lleihau’n raddol, i rai â gwerth hyd at £15,000.
Toiledau Cyhoeddus
________________________________________
Mae colli toiledau cyhoeddus mewn cymunedau gwledig yn rhywbeth sy’n destun pryder i lawer o bobl yn Sir Drefaldwyn, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â diwydiant twristiaeth llwyddiannus. Mae ymarferoldeb ariannol parhaus darparu toiledau cyhoeddus yn destun pryder ac rwyf wedi annog Llywodraeth Cymru i edrych ar fesurau a fyddai’n atal cau’r cyfleusterau cyhoeddus pwysig hyn.
Cofrestru Pleidleiswyr
________________________________________
Mae’r ffordd rydych chi’n cofrestru i bleidleisio wedi newid yn ddiweddar ac mae’n rhaid cyflwyno pob cais cofrestru newydd yn unigol.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd roi ei enw, cyfeiriad a chyfeiriad blaenorol, cenedligrwydd, dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol.
Cyn belled bod y manylion uchod wrth law, nid yw’r broses yn cymryd mwy na 5 munud. I gofrestru, ewch i www.gov.uk/register-to-vote
Os nad ydych yn siŵr a ydych ar y gofrestr etholiadol ai peidio cysylltwch ag adran Etholiadau Cyngor Sir Powys:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01597 826202