Cylchlythyr mis Chwefror
Annwyl drigolion,
Wele fy nghylchlythyr misol isod.
Fel arfer, os ydych chi’n credu y gallwn fod o gymorth i chi, mae croeso i chi gysylltu â mi ar [email protected] neu 01686 610887.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Cenedlaethol Sir Drefaldwyn
Gweithredu ar gyfleusterau Ailgylchu
Yn dilyn cau Canolfan Ailgylchu Potters Yard ym Machynlleth ac ymgynghoriad Cyngor Sir Powys yn ystyried cau rhagor o ganolfannau ailgylchu yn y Drenewydd a/neu’r Trallwng, rhaid i ni gael sicrwydd y byddwn yn gallu defnyddio cyfleusterau ailgylchu heb i rai trigolion orfod teithio taith o 80 milltir, yno ac yn ôl, i ddefnyddio un o gyfleusterau ailgylchu Cyngor Sir Powys. Felly mae’n galonogol clywed bod Cabinet y Cyngor wedi penderfynu’n ddiweddar (7 Chwefror) i gadw’r canolfannau ailgylchu yn y Drenewydd a’r Trallwng ar agor am 12 mis o leiaf.
Er hynny, rwy’n pryderu am y tebygolrwydd yn yr hirdymor y bydd y safleoedd hyn ar agor am lai oriau ac efallai y bydd y cyngor yn edrych eto ar y posibilrwydd o gau rhagor o ganolfannau ailgylchu yng Ngogledd Powys flwyddyn nesaf. Mae pryderon difrifol y gallai hynny arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon a gostyngiad yng nghyfraddau ailgylchu’r ardal.
Yn fy marn i, dylid newid y gyfraith i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio canolfan ailgylchu o fewn pellter rhesymol i’w cartref ac felly roeddwn i’n falch fy mod i wedi cael fy newis mewn pleidlais gudd i drafod unrhyw bwnc o’m dewis ar lawr y Cynulliad wythnos neu ddwy yn ôl. Penderfynais drafod yr heriau ailgylchu sy’n wynebu busnesau a thrigolion yn y Canolbarth a gallwch ddarllen fy nghyfraniad i’r ddadl yma.
Rwyf hefyd yn annog pawb i ateb arolwg ar-lein byr am sydd ar gael yn https://www.russellgeorge.com/recycling-survey er mwyn cael dweud eu dweud.
Gallwch gael copi papur drwy ffonio fy swyddfa ar 01686 610887.
Amserlenni Casglu Sbwriel
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau hefyd na fydd yn cyhoeddi amserlen casglu sbwriel newydd oherwydd cost cynhyrchu pymtheg fersiwn wahanol o’r cylch tair wythnos. Felly ni fydd amserlenni newydd ar gael oni bai bod diwrnodau casglu’n newid yn y dyfodol. Rwy’n gwybod bod gwybodaeth am ddiwrnodau casglu ar gael ar wefan y cyngor, ond nid yw llawer o bobl yn gallu ymweld â’r wefan, a gan mai dim ond unwaith bob 3 wythnos mae ein sbwriel yn cael ei gasglu erbyn hyn, dylai’r cyngor fod yn gwneud pethau’n haws i drigolion. Yn fy marn i, dyw pobl ddim yn disgwyl dogfen sgleiniog - byddai taflen syml y gellid ei llungopïo a’u dosbarthu gan y gweithredwyr gwastraff wrth wneud eu casgliadau yn gwneud y tro. Rwyf wedi dweud hyn wrth yr awdurdodau lleol.
Y Cynllun Datblygu Lleol
Mae cabinet Cyngor Sir Powys wedi cymeradwyo ymateb y Cyngor i sylwadau’r cyhoedd ar ei Gynllun Datblygu Lleol. O ystyried y newidiadau ysgubol sydd wedi’u cynnig gan Gyngor Sir Powys, rwy’n credu y dylid rhoi cyfle i bob Cynghorydd drafod rhinweddau’r newidiadau mawr pellach hyn i Gynllun Datblygu Lleol Powys. Rwy’n poeni’n arw am natur o’r brig i lawr y newidiadau polisi sylweddol hyn sy’n deillio o Lywodraeth Cymru ynghylch datblygu ynni adnewyddadwy yn y sir, a waeth a ydych chi o blaid neu’n erbyn y newidiadau hyn, dylai ein cynrychiolwyr lleol fod wedi cael cyfle i ddweud eu dweud ar ein rhan ni yn hytrach na dim ond cael cymeradwyo’r hyn fydd yn fait accompli.
Cyngor Sir Powys yn methu ymateb i gwynion ffurfiol
Rwyf wedi fy siomi bod cais Rhyddid Gwybodaeth am fanylion faint o drigolion oedd heb gael ymateb gan Gyngor Sir Powys i’w gohebiaeth wedi dangos bod yr awdurdod lleol heb ymateb i nifer o gwynion ffurfiol gan drigolion. Mae hyn yn cefnu’n llwyr ar gyfrifoldeb yr awdurdod tuag y trigolion a defnyddwyr gwasanaethau hynny sy’n talu eu treth gyngor yn ddeddfol ac yn disgwyl i’r awdurdod ymdrin â’u cwyn, ymchwilio iddo ac yna ymateb yn amserol. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’n rhaid i mi ysgrifennu at y cyngor i dynnu sylw at y ffaith nad yw cannoedd o bobl yn cael ymatebion pan fyddant yn codi materion gyda’r cyngor. Dim ond cyfran fach o’r rhain sy’n gwneud cwynion ffurfiol a dydyn nhw ddim yn cael ymatebion hyd yn oed wedyn. Dyw hi ddim yn gofyn llawer i’r cyngor fod yn gwrtais a rhoi gwybod i bobl y bydd yna oedi. Dydy hyn ddim yn dderbyniol ac rwyf wedi codi’r mater gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac mae wedi cytuno i gysylltu â Chyngor Sir Powys i weld a oes angen cymorth arno i gydymffurfio â’i weithdrefnau cwyno ei hun!
Llifogydd Llanrhaeadr
Dioddefodd rhwng 30 a 40 eiddo yn Llanrhaeadr ym Mochnant lifogydd ar ôl i’r brif bibell sy’n cario dŵr o Lyn Efyrnwy i Groesoswallt ac ymlaen i Lerpwl fyrstio.
Nid dyma’r tro cyntaf i Lanrhaeadr ym Mochnant ddioddef llifogydd a chefais gyfle i godi’r mater hwn yn y Cynulliad gyda Llywodraeth Cymru, gan alw arni i ymyrryd a rhoi pwysau ar United Utilities i uwchraddio ei seilwaith sy’n heneiddio ac sy’n amlwg yn anaddas i’r diben erbyn hyn.
Roedd hi’n 63 blynedd i’r diwrnod ers y tro diwethaf i lifogydd greu llanast yn y pentref ac mae’n ymddangos mai ychydig iawn o waith sydd wedi’i wneud yn y blynyddoedd diwethaf i wella’r seilwaith, gydag adroddiadau o graciau’n ymddangos mewn pibellau yn rheolaidd, yn aml dros dir fferm.
Er mai cyfrifoldeb United Utilities yn bennaf yw uwchraddio rhannau o’i seilwaith, rhai ohonynt yn dyddio o oes Fictoria, mae’n hanfodol hefyd fod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei pholisi ynghylch rheoli’r perygl o lifogydd ac yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod cwmnïau cyfleustodau ledled Cymru yn mynd ati i fuddsoddi yn eu seilwaith a lleihau’r perygl o lifogydd. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i drigolion nad yw eu cartrefi a’u busnesau o dan fygythiad uniongyrchol o ddigwyddiad dinistriol arall fel hyn.
Band Eang a Symudol
Ffocws pwysig i mi ym mis Ionawr oedd yr Ymchwiliad i Signal Band Eang a Symudol gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol, pwyllgor rwy’n cael y fraint o’i gadeirio. Rydym ni wedi clywed gan y rheoleiddiwr, Ofcom, pob un o weithredwyr y rhwydwaith symudol ac, yn ddiweddar, rydym ni wedi clywed gan y Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y gwaith uwchraddio band eang Cyflymu Cymru a BT. Mae’n bryder mawr o hyd nad yw llawer o gymunedau gwledig ar draws Sir Drefaldwyn wed cael eu cynnwys yn y gwaith uwchraddio band eang ffibr hyd yma neu, yn y man lleiaf, maen nhw yng nghefn y ciw i gael band eang cyflym neu signal ffôn symudol gwell. Fy mwriad yw y bydd argymhellion y Pwyllgor yn adlewyrchu’r pryderon hyn ac yn anfon neges glir i Lywodraeth Cymru bod rhaid iddi neilltuo mwy o amser, ymdrech ac adnoddau i sicrhau bod gan Bowys seilwaith delathrebu addas i gefnogi economi’r canolbarth yn yr 21ain ganrif. P’un ai i gysylltu â theulu a ffrindiau, helpu plant i astudio gartref, neu sbarduno twf busnesau lleol, mae cysylltedd digidol yn hanfodol i’n bywydau bob dydd erbyn hyn ac ni all y Canolbarth fforddio gael ei gadael ar ôl lle mae mynediad at fand eang ffibr a chysylltedd symudol y genhedlaeth nesaf yn y cwestiwn.
Cysylltiadau Trafnidiaeth Trawsffiniol Gwell
Fis diwethaf, cefais y pleser hefyd o Gadeirio cyfarfod cyntaf Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar Faterion Trawsffiniol. Mi fuon ni’n trafod yr heriau o ran sut mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a gwahanol asiantaethau yn ymdrin â blaenoriaethau polisi trawsffiniol gwahanol yn achos cysylltedd trafnidiaeth, boed ar y rheilffordd neu ar y ffordd. Cafwyd cyfarfod llwyddiannus a oedd yn fforwm i ddwyn ynghyd yr holl bartïon â buddiant ac rwy’n gobeithio y gall y Grŵp Trawsbleidiol barhau i gyfrannu at well canlyniadau i bobl y Canolbarth ym mhob maes polisi. Bydd y cyfarfod nesaf yn canolbwyntio ar ofal iechyd trawsffiniol, mater pwysig tu hwnt wrth i ni drafod diwygio gwasanaethau’r GIG yn Swydd Amwythig a’r Canolbarth. Rwy’n credu i’r carn bod rhaid cadw a chryfhau gwasanaethau yn Amwythig, sy’n lleoliad canolog i wasanaethu anghenion gofal iechyd y rhanbarth ehangach a byddaf yn ymgyrchu’n frwd i sicrhau bod y cynnig hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd cyfarfod arall y grŵp hwn yn y Gwanwyn hefyd yn ystyried cyflwyno’r cynllun taliad sylfaenol i ffermwyr sydd â thir o boptu’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Undeb Credyd Cambrian – Y Drenewydd
Ychydig wythnosau yn ôl, cefais gyfarfod ag Undeb Credyd Cambrian i drafod ffyrdd o wneud yr Undeb Credyd yn fwy cyfarwydd ac adnabyddus ledled Powys a’r Gogledd. Undeb Credyd Cambrian yw’r Undeb Credyd mwyaf yng Nghymru. Sefydliad dielw ydyw felly mae’n dibynnu ar gefnogaeth ei aelodau yn defnyddio eu hamrywiaeth eang o wasanaethau cynilion a benthyciadau. Ar ddydd San Ffolant eleni, mae Undeb Credyd Cambrian yn lansio ymgyrch “Share The Love”, a fydd yn cael ei gynnal ar dudalen Facebook yr Undeb ddydd Mawrth 14 Chwefror. I baratoi at hynny, maen nhw’n gofyn i’w haelodau ddweud wrthyn nhw pam maen nhw’n caru eu Hundeb Credyd. Felly, os hoffech chi gymryd rhan, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth am yr Undeb Credyd, ewch i’r wefan: www.cambriancu.com neu edrychwch ar dudalen Facebook “Cambrian Credit Union”.
Brecwast llwyddiannus i ffermwyr Sir Drefaldwyn
Mae ffermwyr Sir Drefaldwyn newydd agor eu ceginau i bwysleisio pwysigrwydd yr economi wledig ac i hyrwyddo eu cynnyrch brecwast Cymreig blasus. Cynhaliwyd dau frecwast fel rhan o’r ymgyrch brecwast tŷ fferm Cymru gyfan, a chefais y pleser o fynychu un ohonyn nhw. Cynhaliwyd y brecwast cyntaf yn Nhrewythen dan ofal teulu Roche Davies. Cynhaliwyd brecwast arall, yr un es i iddo, gan Gadeirydd UAC Sir Drefaldwyn, Mark Williams, a’i wraig Helen ym Mhen y Derw yn Ffordun. Roedd hi’n dda cael trafod materion sy’n effeithio ar y diwydiant amaethyddol o amgylch y bwrdd brecwast, a dathlu bwydydd lleol fel y Selsig a’r Cig Moch gan gwmni arobryn Neuadd Fach Baconry yn Llandinam. Mae heriau sylweddol yn wynebu’r diwydiant, ac mae digwyddiadau fel hyn sy’n gyfle i ffermwyr a gwleidyddion drafod yn anffurfiol yn hollbwysig.
Teyrnged yn y Senedd i’r enwog David Pugh, cyn Faer y Drenewydd
Ychydig wythnosau yn ôl, cefais gyfle i nodi bywyd David Pugh, cyn Faer y Drenewydd a hanesydd lleol amlwg, a fu farw ym mis Ionawr ar ôl salwch byr. Bu David yn Faer y Drenewydd rhwng 1994 a 1996 ac ef oedd hanesydd lleol mwyaf blaenllaw’r Drenewydd am ddegawdau lawer. Gwnaeth gyfraniad enfawr at sefydlu Grŵp Hanes y Drenewydd ym 1995 a’i gylchlythyr ‘The Newtonian’, ac mae’r ddau’n parhau i ffynnu hyd heddiw. Helpodd i sefydlu Grŵp Hanes y Drenewydd hefyd, gan dderbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2013. Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Ddinesig Y Drenewydd a’r Cylch, yn gyfarwyddwr Cymdeithas Adfywio Cymunedol Sir Drefaldwyn ac yn aelod o bwyllgor y Powysland Club hanesyddol hefyd. Roedd yn ymddiriedolwr Band Arian y Drenewydd ac roedd ganddo swydd yn Amgueddfa Robert Owen. I wylio fy nheyrnged 90 eiliad, dilynwch y ddolen hon: https://www.youtube.com/watch?v=P9lgFmq9WAQ
Cefnogaeth ar gyfer yr Ymgyrch Revive & Thrive
Ym mis Ionawr, rhoddais fy nghefnogaeth i’r Ymgyrch Revive & Thrive Local Legends sy’n galw ar drefi a phentrefi ledled Powys i gydnabod y bobl hynny sy’n gwneud gwaith da yn eu cymuned a’u henwebu yn yr Ymgyrch Revive & Thrive Local Legends. Mae’r ymgyrch genedlaethol hon, sy’n cael ei harwain gan gwmni adfywio Revive & Thrive yn Sir Drefaldwyn, yn ceisio tynnu sylw at y rheini sy’n frwdfrydig am eu bröydd ac am ffyniant eu cymuned yn y dyfodol. I wybod mwy, ewch i’r adran Local Legend ar y wefan www.reviveandthrive.co.uk
Cymorthfeydd Carreg Drws
Rwy’n cynnal cymorthfeydd yn fy swyddfeydd yn y Drenewydd a’r Trallwng ar ddydd Gwener gan amlaf a byddaf yn ymweld â’r ardaloedd isod ar y dyddiadau isod hefyd. Os hoffech gael cyfarfod, ffoniwch 01686 610887 i wneud apwyntiad.
Dydd Sadwrn 11 Chwefror – Ffordun
Dydd Gwener 17 Chwefror – Trefaldwyn
Dydd Sadwrn 18 Chwefror – Penegoes
Dydd Sadwrn 18 Chwefror – Machynlleth
Dydd Mercher 22 Chwefror – Llanidloes
Dydd Iau 23 Chwefror – Afda, Cefn Coch
Dydd Gwener 24 Chwefror - Llangynog, Penybont Fawr, Llanwddyn
Dydd Iau 2 Mawrth – Llanymynech
Dydd Sadwrn 4 Mawrth – Trefeglwys
Dydd Sadwrn 11 Mawrth – Ceri