Cylchlythyr Mis Chwefror
Llythyr misol Russell George AC am ei waith yn Sir Drefaldwyn a’r Cynulliad
Annwyl breswylydd,
Dyma fy nghylchlythyr diweddaraf. Dwi’n gobeithio y gwnewch chi ei fwynhau.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn
Newidiadau i Drefniadau Cynllunio ar gyfer Prosiectau Ynni
Roedd un mater yn bwysicach i mi nag unrhyw un arall y mis yma – ymgais Llywodraeth Cymru i dynnu pwerau cynllunio oddi ar gynghorau lleol yn achos prosiectau ynni. Ysgrifennais erthygl am hyn yn ddiweddar. Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl gyfan.
________________________________________
Cyllid Llywodraeth Leol
Ddydd Mawrth wythnos yma, cafwyd pleidlais ar gyllideb ddrafft arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad, a chafodd sêl bendith y Cynulliad. Mae’r gyllideb yn cynnwys gostyngiad mawr yng nghyllid Cyngor Sir Powys. Roedd maint y gostyngiad ar gyfer Powys yn annheg iawn yn fy marn i. O’r 22 Cyngor Sir yng Nghymru, Powys fydd yn gweld y gostyngiad mwyaf. Ar y llaw arall, nid yw cyllid Cyngor Caerdydd wedi gostwng o gwbl i bob pwrpas. Pleidleisiais yn erbyn y gyllideb arfaethedig ddydd Mawrth, fel y gwnaeth pob un o Aelodau Cynulliad Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Does gan y Llywodraeth Lafur ddim mwyafrif yn y Cynulliad, ac er mwyn i’w chyllideb gael sêl bendith, mae’n rhaid iddi sicrhau cefnogaeth o leiaf un blaid arall. Ni wnaeth Aelodau Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn erbyn y gyllideb, felly pasiwyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur Cymru. Ysgrifennais at arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wythnos diwethaf i alw arni hi ac ACau eraill y Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio yn erbyn y gyllideb. Dyma ambell i ffaith am y setliad llywodraeth leol yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Ers 2012/13, mae siroedd gwledig Powys (-7.86%), Ceredigion (-4.97%), a Sir Fynwy (-4.33%) wedi wynebu toriadau difrifol; ar yr un pryd mae cynghorau trefol fel Casnewydd (+7.07%) a Chaerdydd (+3.16%) wedi gweld dyddiau gwell o lawer.
Fe wnes i hefyd gymryd rhan mewn trafodaeth yn y Cynulliad i dynnu sylw unwaith yn rhagor at sut bydd y setliad llywodraeth leol yn cosbi Powys yn fwy na siroedd eraill. Yn ystod y drafodaeth, galwais am newid radical i’r fformiwla sy’n cael ei defnyddio i ddyrannu cyllid llywodraeth leol yng Nghymru.
Yn fy marn i, dylai plentyn sy’n cael ei eni ym Machynlleth neu Drefaldwyn gael yr un cyfle i gael addysg wych â phlentyn sy’n cael ei eni yng Nghaerdydd. Dylai trigolion agored i niwed y Drenewydd allu cael yr un cymorth sydd ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn llywodraeth ar gyfer Cymru i gyd, ac nid Cymoedd y De yn unig.
I ddarllen fy nghyfraniad yn nhrafodaeth y Cynulliad, cliciwch yma.
________________________________________
Ffôn a Band Eang
Yr wythnos yma, cefais gyfarfod gydag Alwen Williams, Cyfarwyddwr newydd BT yng Nghymru, ar ôl cynnydd sydyn mewn cwynion gan drigolion am broblemau gyda’r gwasanaeth ffôn a band eang, gyda rhai trigolion yn gorfod aros mwy na deufis i gael cysylltiad ffôn. Gofynnais am y cyfarfod i ganfod pam yn union y mae’r cwynion am y gwasanaeth ffôn a band eang wedi cynyddu. Dwi’n gwerthfawrogi ein bod ni wedi cael tywydd anarferol o wlyb yn ddiweddar, a allai egluro’r oedi cyn datrys problemau. Fodd bynnag, roeddwn i’n awyddus i ddweud wrthi am enghreifftiau fy etholwyr wyneb yn wyneb.
Yr wythnos yma, cefais gyfarfod gyda Rheolwr Gyfarwyddwr BT Openreach, y sefydliad sy’n gyfrifol am y seilwaith telathrebu.
Daliwch i gysylltu â mi ynglŷn ag unrhyw broblemau gyda band eang a’r ffôn, fel y gallaf ddweud wrth uwch reolwyr BT amdanynt yn uniongyrchol.
________________________________________
Symudol
Dwi wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â gweithredwyr symudol am y gwelliannau maen nhw’n bwriadu eu gwneud i’r signal yn Sir Drefaldwyn.
Mae’n bosib y byddwch yn cofio i mi gynnal cyfarfod yn y Drenewydd ym mis Tachwedd y llynedd gyda’r pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol (EE, O2, Vodafone a Three) i drafod problemau gyda’r signal symudol. Yn y cyfarfod, fe wnaeth EE ymrwymiad y byddai pob rhan o’r Drenewydd yn cael gwasanaeth 4G yn ystod mis Ionawr 2016 a fyddai hefyd yn helpu i wella’r problemau presennol gyda chapasiti.
Dwi wedi gofyn i EE yn ddiweddar am y diweddaraf ar yr ymrwymiad hwn oherwydd Dwi’n siomedig nad ydyn nhw wedi cwblhau’r gwaith hwn i’r amserlen wreiddiol a roddwyd.
Rwy wedi sylwi ar welliant mewn rhai rhannau o’r Drenewydd, sydd i’w groesawu, ond dwi wedi dweud wrthyn nhw nad ydw i’n fodlon. Mae EE wedi fy sicrhau eu bod yn bwriadu darparu capasiti ychwanegol yn fuan. Maen nhw’n dweud wrthyf eu bod wrthi’n gwneud gwaith uwchraddio technegol cymhleth a phrofi’r offer cyn y gellir cyflwyno’r capasiti ychwanegol hwn. Byddaf yn cadw mewn cysylltiad ag EE ac yn dod â’r diweddaraf i chi.
Yn achos rhannau eraill o Sir Drefaldwyn, mae EE yn bwriadu gwella’r signal yn ardaloedd Llanfyllin, Llanwddyn ac Aber-miwl eleni.
Mae pob gweithredwr wedi dweud hefyd fod angen newid y fframwaith cynllunio i wella’r berthynas rhwng tirfeddianwyr a darparwyr gwasanaethau cyfathrebu o ran codi mastiau newydd i roi signal i ardaloedd sydd â signal gwael neu ddim signal o gwbl ar hyn o bryd. Dwi wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ofyn pa gynlluniau sydd ganddynt mewn golwg i ddiwygio’r Cod Cyfathrebiadau Electronig a’r Fframwaith Datblygu a Ganiateir. Fodd bynnag, uwchlaw bob dim, rhaid i unrhyw benderfyniadau cynllunio gael caniatâd diamwys y gymuned leol.
Yn olaf, mae OpenSignal wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod newydd lansio ap symudol i fonitro’ch signal yn awtomatig ble bynnag ewch chi, fel bod y data rydych chi’n ei gasglu yn gallu adlewyrchu profiadau defnyddwyr. Mae’r ap yn rhoi ystadegau ar yr amser rydych chi’n ei dreulio heb signal neu â signal 2G, 3G neu 4G. Maen nhw’n fy sicrhau bod pob data’n cael ei gasglu’n ddienw ac os hoffech chi ddefnyddio’r ap fel ein bod ni’n gallu cael darlun manylach o’r gwahaniaethau mewn cyflymder a signal mewn rhannau gwahanol o Sir Drefaldwyn, ewch i: <http://opensignal.com/>
________________________________________
Trafnidiaeth
Ffordd Osgoi’r Drenewydd
Yr wythnos yma, dwi wedi trafod y diweddaraf ar Ffordd Osgoi’r Drenewydd gydag Edwina Hart AC, y Gweinidog Trafnidiaeth. Mae dechrau’r gwaith adeiladu ffisegol wedi cael ei ohirio am ychydig, ond mae llawer o waith paratoi ar droed, ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ei hun ddechrau yn yr wythnosau nesaf. Bydd byrddau adeiladu’n cael eu gosod ar hyd y llwybr a bydd depo gwaith ger Black Hall, Heol Dolfor. Dwi wedi bod yn siarad â’r contractwyr, Alun Griffiths, ac wedi trafod yr angen iddyn nhw ddefnyddio busnesau lleol ac maen nhw wedi cadarnhau mai dyma yw eu bwriad. Dwi’n gobeithio cael manylion diwrnod agored yn fuan.
Mae’r llwybr wedi cael ei gadarnhau, a bydd yn dechrau ar ochr Llanidloes o Barc Gwyliau Glandulas, gyda chylchfan yn cysylltu’r ffordd osgoi â’r ffordd bresennol i’r dref, ar hyd cefn Parc Menter Mochdre. Yna bydd y ffordd osgoi yn dod at gylchfan arall ar gyfer ffordd Dolfor, a fydd yn cysylltu’n ôl â’r dref. Bydd trosffordd dros y ffordd Dolfor bresennol ac yna bydd yn mynd tuag at ochr dde’r dref, gyda chylchfan arall yng nghyffordd ffordd Ceri, a fydd yn cysylltu’r ffordd Ceri bresennol a phwynt mynediad arall i’r dref. Yna bydd yn mynd y tu ôl i Ystad Ddiwydiannol Vastre ac Ystad Ddiwydiannol Dyffryn gyda phont dros y rheilffordd; bydd yn ymuno â’r Ffordd Pool bresennol heibio adeilad y Bwrdd Gwlân (Cynhyrchwyr Gwlân Cymru), gyda chylchfan a fydd yn cysylltu â phwynt mynediad arall i’r dref o ochr y Trallwng.
________________________________________
Traffig – Tirgwynt a Garreg Llwyd
Yn gynharach yn y mis, ysgrifennais at Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, yn tynnu sylw at y problemau traffig posib a allai godi yn y Drenewydd adeg adeiladu ffermydd gwynt Tirgwynt a Garreg Llwyd.
Yn fy marn i, mae’n hollbwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ddarnau mawr o’r tyrbinau gael eu symud ar adegau prysur, yn enwedig o ystyried bod problemau traffig difrifol yn y Drenewydd a’r cyffiniau eisoes, a byddan nhw’n parhau nes cwblhau ffordd osgoi’r Drenewydd. Dwi’n pryderu na ddylai’r cyhoedd, yn cynnwys ymwelwyr, wynebu mwy o anghyfleustra nag sydd raid wrth fynd a dod.
Dwi wedi cael cadarnhad gan y Prif Weinidog a’r Gweinidog Trafnidiaeth bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda datblygwyr i sicrhau bod y gwaith yn amharu cyn lleied â phosib ar draffig ond Dwi’n amau hynny’n fawr a byddaf yn parhau i gadw llygad barcud ar y cynlluniau symud.
________________________________________
Rheilffyrdd
Mae grwpiau sy’n cynrychioli teithwyr wedi mynegi pryder am y posibilrwydd o rannu’r gwasanaeth presennol rhwng Aberystwyth a gorsaf Birmingham International, gyda threnau ar reilffordd Cambrian yn dod i ddiwedd eu taith yn yr Amwythig yn hytrach na Birmingham International, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Fis diwethaf, pwysais ar y Prif Weinidog i gyflwyno sylwadau cryf i Weithgor Cyfunol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n ystyried y gwasanaethau a fydd yn cael eu gweithredu gan y Fasnachfraint Cymru a’r Gororau newydd ar ôl mis Hydref 2018. Dwi wedi trafod y mater gydag Alun Cairns AS, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, i geisio cael ymrwymiad gan Lywodraeth y DU y bydd yn parhau â gwasanaeth uniongyrchol rhwng Birmingham ac Aberystwyth.
Dwi’n obeithiol y bydd y canlyniad yn un cadarnhaol, ond byddaf, wrth reswm, yn parhau i gyflwyno sylwadau ar y mater hwn a byddaf yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau.
________________________________________
Amaethyddiaeth
Y Taliad Sengl
Mae wedi bod yn fis anodd iawn i ffermwyr sy’n dal i aros am y taliad sengl. Mae taliadau hwyr yn cael effaith ddifrifol ar lif arian parod ac mae’n taro’r gadwyn gyflenwi amaethyddol gyfan.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ysgrifennu at bob ffermwr a oedd heb gael y taliad erbyn diwedd mis Ionawr, ond y sefyllfa heddiw yw nad yw llawer o ffermwyr ddim callach o hyd ynglŷn â phryd y gallan nhw ddisgwyl y taliad a’r rhesymau penodol pam nad ydyn nhw wedi cael eu talu.
Dwi wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o adnoddau i Daliadau Gwledig Cymru fel y gall brosesu taliadau cyn gynted â phosib a mynd ati ar frys i ddweud wrth ffermwyr pryd fydd gweddill y taliadau’n cael eu gwneud er mwyn lleddfu’r gofid diangen hwn ar ddiwydiant ffermio sydd eisoes o dan bwysau.
Gallaf eich sicrhau y byddaf yn parhau i godi’r mater hwn gyda’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd bob cyfle posib ond cofiwch gysylltu â mi os oes gennych chi amgylchiadau penodol yr hoffech eu trafod gyda mi.
________________________________________
Busnes
Menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yw Taith Hyb ‘Exporting is GREAT’. Bydd yn dod i Barc Cefn Lea yn Nolfor, y Drenewydd, ar 24 Chwefror 2016 rhwng 10am a 2pm.
Bydd yr Hyb yn rhoi cyfle i fusnesau lleol gyfarfod ag arbenigwyr i drafod cyfleoedd busnes rhyngwladol, cael cyngor ar eu marchnadoedd targed mewn cyfres o gyfarfodydd un i un a seminarau - beth bynnag fo’u maint neu eu sector.
Dwi’n hynod falch y bydd busnesau lleol yn Sir Drefaldwyn yn cael cyfle i gyfarfod ag arbenigwyr busnes rhyngwladol yn y sioe deithiol a byddwn yn annog pob busnes sy’n ystyried ehangu i fanteisio ar y digwyddiad am ddim hwn.
Gallwch gael gwybodaeth gyffredinol am Sioe Deithiol yr Hyb Allforio yma
Mae gwybodaeth fanylach am y gweithgareddau a sut i gadw lle yn y digwyddiadau yng Nghymru ar gael yma
________________________________________
Ymweliadau lleol
Un o’r pethau gorau am fy ngwaith fel Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn yw cael ymweld â busnesau, ysgolion a sefydliadau cymunedol lleol.
Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn i’n falch iawn o’r cyfle i ymweld ag Ysgol Uwchradd Llanidloes gyda Glyn Davies AS i annog myfyrwyr i gymryd mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Da o beth yw gweld pobl iau yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, a hoffwn annog mwy ar hyn wrth i ni nesáu at etholiadau pwysig y Cynulliad ym mis Mai.
Ddydd Gwener diwethaf, cefais y pleser o fynychu noson agored yn Llanerfyl a oedd yn gyfle i grefftwyr lleol ddangos eu doniau, ac roedd hi’n wych cael clywed mwy am waith Menter Berllan, sef hyb menter. Cafwyd noson ddifyr a chyfle i gael sgyrsiau buddiol gyda pherchnogion busnesau lleol.
Pleser hefyd oedd cael ymweld â’r gerddi cymunedol ym Machynlleth yn ddiweddar. Mae’r gerddi dan ofal tîm bach ond gweithgar o wirfoddolwyr ac maen nhw’n ceisio helpu pobl â phroblemau iechyd.
________________________________________
Cofrestru Etholwyr
Gan barhau â’r testun o ennyn diddordeb pobl mewn gwleidyddiaeth, cynhaliwyd Bite the Ballot wythnos diwethaf, sef ymgyrch genedlaethol i annog pobl i gofrestru i bleidleisio os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes. Gyda bron i 10 miliwn o bobl heb eu cynnwys ar y Gofrestr Bleidleisio yn y DU, mae’n bwysig bod rhagor o bobl, yn enwedig pobl ifanc, sef y rhai lleiaf tebygol o ymwneud â’r broses wleidyddol, yn cofrestru i bleidleisio fel y gallan nhw ddefnyddio’u llais mewn dim ond 82 diwrnod pan fyddwn ni’n bwrw’n pleidlais i ethol ein Haelodau Cynulliad. I gael manylion llawn yr ymgyrch, ewch i www.nvrd.co.uk
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn dod i’r Trallwng
________________________________________
Bydd trigolion y Trallwng yn cael cyfle i gwrdd â Christopher Salmon, ein Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ddydd Iau 17 Mawrth. Mae’n awyddus i gwrdd â phobl leol fel bod y cyhoedd yn cael dylanwad uniongyrchol ar ein system cyfiawnder troseddol a sut mae’n esblygu. I wneud apwyntiad, ffoniwch Swyddfa’r Comisiynydd ar 01267 226440 neu llenwch y ffurflen syml ar y dudalen we hon – http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/events/2016/03/17/welshpool-your-voice-day/ I wybod mwy am Heddlu Dyfed Powys, ewch i: http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk
Cymorthfeydd
________________________________________
Dwi’n cynnal cymorthfeydd rheolaidd yn fy swyddfa yn y Drenewydd a byddaf hefyd yn ymweld â’r ardaloedd canlynol yn y dyfodol agos. I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud apwyntiad i drafod unrhyw broblem neu bryder gyda mi, ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887.
-
13 Chwefror – Y Trallwng a Chastell Caereinion
-
19 Chwefror – Y Drenewydd, Llanwddyn a Llangynog
-
20 Chwefror – Caersws a Threfeglwys
-
27 Chwefror – Llanfyllin a Llansantffraid
-
4 Mawrth – Y Trallwng a Chegidfa
-
5 Mawrth – Yr Ystog, Sarn ac Isatyn
-
12 Mawrth – Llanymynech, Four Crosses, Arddlin a Chei’r Trallwng
-
18 Mawrth – Machynlleth, Llanbrynmair, Carno, Clatter a Thalerddig
-
19 Mawrth – Llanidloes, Llangurig, Y Fan a Llandinam
-
26 Mawrth – Y Trallwng, Ffordun a Threberfedd