Annwyl drigolyn,
Rwyf wedi cynnwys nifer o bynciau isod i roi manylion y materion rwyf wedi bod ynghlwm â nhw’n ddiweddar i chi a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ambell i bwnc.
Fis Gorffennaf yn y Senedd, roedd rhai o’r materion a godais yn cynnwys galw ar y Llywodraeth i gael gwared ar newidiadau biwrocrataidd penodol sy’n faich ar fusnesau fferm, gwella mynediad at wasanaethau gwella o strôc yn y Canolbarth, a chau nifer anghymesur o ysgolion ym Mhowys. Gallwch weld fy areithiau yn y Senedd a’m cwestiynau i aelodau Ysgrifennydd y Cabinet yma.
Roedd hi’n bleser cael cyfle i gyfarfod â nifer o gynhyrchwyr bwyd lleol yn y Sioe Fawr eleni. Mae’r sioe yn gyfle heb ei ail i flasu peth o’r cynnyrch gorau o Gymru a gwerthfawrogi cyfraniadau clodwiw cynhyrchwyr lleol yn y Canolbarth i’n cymunedau a’n gwlad.
Mae’r Cynulliad yn cymryd hoe dros yr haf, ac mae hyn yn gyfle i mi dreulio mwy o amser yn Sir Drefaldwyn. Byddaf yn mwynhau ymweld â sioeau lleol a chael cyfle i sgwrsio gyda llawer ohonoch yn ystod y cyfnod hwn.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod y Cynulliad Cenedlaethol dros Sir Drefaldwyn
Gwasanaethau Iechyd
Mae rhaglen Future Fit y GIG yn canolbwyntio ar wasanaethau gofal iechyd i bobl sy’n byw yn y Canolbarth, Sir Amwythig, Telford a Wrekin. I gael y wybodaeth ddiweddaraf ewch i http://nhsfuturefit.org/ . Byddwn yn eich annog i wylio’r fideo byr ar dudalen flaen y wefan hefyd.
Signal Ffonau Symudol
Yn y Sioe Fawr es i gyfarfod y corff rheoleiddio (OFCOM) ar gyfer y diwydiant ffonau symudol, digwyddiad oedd yn cael ei gynnal gan Undeb Amaethwyr Cymru. Daeth cynrychiolydd o bob un o’r pedwar cwmni ffonau symudol mawr: O2; EE; Three a Vodafone i’r cyfarfod a oedd yn canolbwyntio ar y problemau sy’n bodoli o hyd gyda signal ffonau symudol yng nghefn gwlad Cymru. Holais y cynrychiolwyr pam nad oedd y cynlluniau i ddarparu signal gwell yn y Canolbarth, yn cynnwys gwasanaeth 4G mewn trefi mwy, wedi cael eu gwireddu yn gynharach eleni yn ôl y bwriad. Ar ôl rhoi pwysau arno am ateb, dywedodd cynrychiolydd EE mai problemau technegol oedd yn gyfrifol am yr oedi. Fodd bynnag, mae’r broblem wedi’i datrys bellach a chafwyd sicrwydd gan EE y bydd gwasanaeth 4G yn dechrau cael ei gyflwyno yn y Canolbarth erbyn diwedd y flwyddyn. Cafwyd addewidion tebyg gan y darparwyr eraill, ond heb amserlen benodol.
Cyflwyno Band Eang yn Sir Drefaldwyn
Fis diwethaf fe wnes i gyfarfod â swyddogion BT i drafod cyflwyno band eang cyflym iawn yn Sir Drefaldwyn. Sir Drefaldwyn sydd ag un o’r lefelau gwaethaf o fynediad at fand eang cyflym iawn yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae 59% o gartrefi yn y sir yn gallu cael band eang cyflym iawn. Mae hyn yn is o lawer na chyfartaledd Cymru, sef 87%. Mae pobl yn dibynnu fwyfwy ar fand eang yn eu bywyd bob dydd ac mae’r cyfraddau hygyrchedd isel hyn yn Sir Drefaldwyn yn cael effaith negyddol tu hwnt ar ein heconomi wledig a’n ffordd o fyw. Wedi dweud hynny, roedd y cyfarfod gyda BT yn galonogol iawn.
Ymgyrch Ymwybyddiaeth o Groesfannau Rheilffordd
Fis diwethaf bues i’n cefnogi ymgyrch National Rail i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar groesfannau rheilffordd. Mae’r ymgyrch yn targedu’r rheini sy’n defnyddio croesfannau rheilffordd yn aml, yn cynnwys pobl ifanc, cymudwyr, beicwyr, cerddwyr a ffermwyr. Yng Nghymru a’r gororau mae 1,100 o groesfannau rheilffordd, ac yn y flwyddyn ddiwethaf, yng Nghymru’n unig, bu 275 o ddigwyddiadau ar groesfannau rheilffordd. Yn aml iawn, mae’r digwyddiadau hyn yn hollol ddiangen. Rwy’n croesawu’r ymgyrch yma’n fawr iawn ac yn annog pawb i fod yn ofalus ac yn wyliadwrus wrth ddefnyddio croesfannau rheilffordd.
Problemau traffig yng nghyffiniau’r Drenewydd yn sgil fferm wynt
Gallai’r Drenewydd weld problemau traffig difrifol fis nesaf wrth i gydrannau gael eu cludo i fferm wynt Garreg Lwyd yn Sir Faesyfed. Cynhaliwyd treialon ar y ffyrdd dan sylw ar 5 Awst i baratoi ar gyfer cludo’r tyrbinau, gyda’r gwaith yn dechrau ar 12 Medi. Bydd y llwythi anghyffredin yn teithio ar hyd yr A483, ar hyd Ffordd y Trallwng, dros gylchfan Ffordd Ceri, ac ar hyd Ffordd Llanidloes. Yna bydd rhaid iddyn nhw deithio o dan bont Nantoer ar yr A489. Rwy’n mawr obeithio na fydd gormod o anghyfleustra, ond fy marn i ers cryn amser, barn rwyf wedi’i mynegi’n ffurfiol wrth y bobl berthnasol sy’n gwneud penderfyniadau dros y tair blynedd diwethaf, yw y bydd y gwaith cludo yn achosi problemau annerbyniol. Ni ddylai’r cais fod wedi cael caniatâd yn fy marn i.
Enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2017
Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant wedi agor. Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r gwobrau gael eu cynnal ac maen nhw’n gyfle i ni gydnabod a dathlu pobl o bob cefndir yng Nghymru. Os ydych chi’n gwybod am bobl neu grwpiau yn Sir Drefaldwyn sy’n haeddu clod cenedlaethol, cliciwch yma i fynd i’r ffurflen enwebu ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 21 Hydref 2016 am hanner nos.
Cymorthfeydd
Cymorthfeydd y dyfodol:
Machynlleth Dydd Iau 18 Awst (10:00 – 12:00)
Carno Dydd Sadwrn 20 Awst (15:30 – 17:00)
Trefaldwyn Dydd Sadwrn 20 August (13:00 – 15:00)
Llansantffraid Dydd Llun 22 Awst (16:00 – 18:00)
Aberriw Dydd Sadwrn 27 Awst (13:00 – 15:00)
Llanbrynmair Dydd Llun 29 Awst (13:00 – 15:00)
Rwy’n cynnal cymhorthfeydd yn fy swyddfa yn y Drenewydd bron bob dydd Gwener. Os hoffech wneud apwyntiad, ffoniwch fy swyddfa ar 01686 610887 neu e-bostiwch [email protected]