Annwyl breswylydd,
Etholiad Cyffredinol 2015
________________________________________
Ar 7 Mai, fe wnaeth pobl Sir Drefaldwyn ethol eu Haelod Seneddol. Hoffwn longyfarch Glyn Davies a gafodd ei ailethol fel ein Haelod Seneddol.
Edrychaf ymlaen at barhau â’n perthynas weithio glos er mwyn cynorthwyo preswylwyr Sir Drefaldwyn dros y flwyddyn nesaf tan Etholiad y Cynulliad ym mis Mai, a dyna pryd y byddaf i’n ceisio’ch cymeradwyaeth i barhau fel eich Aelod Cynulliad, swydd yr ydw i’n ei hystyried yn fraint.
Dros yr 11 mis nesaf, byddaf yn parhau i weithio’n galed ar ran yr holl breswylwyr yn Sir Drefaldwyn ar y materion sy’n bwysig i chi. Gweler isod gipolwg ar y materion rydw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw dros y mis diwethaf.
Band eang
________________________________________
Bythefnos yn ôl, cefais gyfarfod ag Ann Beynon, Cyfarwyddwr BT Cymru, ac Ed Hunt, Cyfarwyddwr y prosiect Cyflymu Cymru, ynglŷn â’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno band eang ffeibr i Sir Drefaldwyn a gweddill y Canolbarth.
Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar Gyfathrebu Digidol, mae gwella’r cysylltiad band eang wedi bod yn uchel ar fy agenda yn dilyn swmp sylweddol o ohebiaeth gan breswylwyr ar hyd a lled Sir Drefaldwyn.
Fe’m hysbyswyd gan BT bod tua thraean o’r eiddo (13,000) yn Sir Drefaldwyn eisoes yn gallu cael band eang cyflym ac roedd yn galonogol clywed bod cynnydd da yn cael ei wneud yn achos yr eiddo hynny sydd ar ôl.
Dywedodd BT hefyd ei fod yn parhau i fod yn ymrwymedig i nod penodol Llywodraeth Cymru o sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael (o leiaf 24 Mbit/s) i 96% o breswylfeydd yng Nghymru erbyn y Gwanwyn flwyddyn nesaf.
Rydw i wedi mynegi rhywfaint o bryder y bydd rhai preswylwyr gwledig yn cael eu gadael ar ôl ac na fyddai’r targed uchelgeisiol hwn yn cael ei gyrraedd, felly mae’n galonogol gwybod bod BT yn parhau i gredu eu bod ar y trywydd iawn.
Er hynny, byddaf yn parhau i ofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd y 45,000 o safleoedd ledled Cymru, a fydd yn colli allan ar y broses gyflwyno gychwynnol , yn gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y Canolbarth yn parhau mor gystadleuol â’i gymheiriaid trefol mewn economi sy’n fwyfwy dibynnol ar fand eang cyflym a chysylltiad ffôn symudol.
Byddaf hefyd yn chwilio am ffordd well o gael Llywodraeth Cymru a BT i gyfathrebu â phreswylwyr a fydd yn colli allan, a byddaf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhestr gynhwysfawr o breswylfeydd y maen nhw eisoes wedi’u nodi a fydd y tu allan i gwmpas proses gyflwyno gychwynnol Cyflymu Cymru.
Mae BT hefyd wedi derbyn fy ngwahoddiad i ymweld â Sir Drefaldwyn yn ddiweddarach eleni i gyfarfod arweinwyr amrywiol y gymuned.
Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect Cyflymu Cymru yn eich ardal chi a byddaf yn ceisio cael ateb gan BT.
Bil Cynllunio
________________________________________
Dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi arwain ar ddeddfwriaeth cynllunio arfaethedig Llywodraeth Cymru ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’r Bil newydd gyrraedd diwedd ei siwrne ddeddfwriaethol.
Nod cyffredinol y Bil oedd creu system gynllunio fwy cyson sy’n galluogi datblygiad ac sy’n gwella amgylcheddau adeiledig a naturiol. Fodd bynnag, yn fy marn i, yn hytrach na chael deddfwriaeth uchelgeisiol a radical a fyddai’n datganoli mwy o bŵer i gymunedau lleol a rhoi penderfyniadau yn nwylo pobl leol, yn anffodus dyw’r newidiadau i’r system gynllunio ddim yn datganoli pŵer yn briodol i gymunedau Cymru.
Yn fy marn i, mae pobl y Canolbarth eisoes yn teimlo eu bod yn bell o fwrlwm gwleidyddol Bae Caerdydd, lle caiff penderfyniadau eu gwneud ar eu rhan, yn aml heb unrhyw ystyriaeth i amgylchiadau lleol.
Er mwyn llwyddo, roedd rhaid i’r Bil hwn symleiddio’r broses gynllunio, a sicrhau bod y system gynllunio yn dod yn fwy democrataidd, gan rymuso pobl leol i wneud y penderfyniadau mawr a fydd yn effeithio ar eu bywydau. Yn anffodus, y gwrthwyneb sydd wedi digwydd gan fod y Bil yn canoli gormod o bŵer i Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Mae’r ddeddfwriaeth derfynol yn gymhleth heb fod angen, a bydd yn erydu atebolrwydd democrataidd. Yn y pen draw, ni allai’r Ceidwadwyr Cymreig gefnogi hyn.
Swyddfeydd Post Symudol
________________________________________
Yn ystod y mis diwethaf, bûm yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cynllun i ymestyn gwasanaethau Swyddfa’r Post symudol yn Sir Drefaldwyn.
Mae Swyddfa’r Post eisoes yn darparu gwasanaeth Swyddfa’r Post symudol mewn nifer o gymunedau gwledig. Er enghraifft, rydw i wedi bod mewn trafodaethau â chymunedau a swyddfa’r post cyn hyn mewn perthynas â darparu gwasanaethau yn Llanbrynmair, Castell Caereinion a Sarn.
Fodd bynnag, wedi i gyfres o Swyddfeydd Post gau, mae rhai cymunedau yn Sir Drefaldwyn yn parhau heb unrhyw wasanaeth Swyddfa’r Post.
Hoffwn weld y gwasanaeth allgymorth symudol yn cael ei ymestyn i gymunedau eraill yn Sir Drefaldwyn fel yn Abermiwl, Trefeglwys, Ffordun, a Thre’r-llai ac rydw i wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi Swyddfa’r Post yn ei hymdrechion i wneud hyn.
Er nad yw’n disodli gwasanaethau parhaol Swyddfa’r Post, ymddengys fod y fan allgymorth symudol yn rhoi dewis arall sy’n gallu cynorthwyo pobl leol gyda nifer o anghenion. Mae’n bwysig hefyd fod trafodaethau’n parhau er mwyn chwilio am ateb parhaol.
Byddaf yn cyfarfod Swyddfa’r Post cyn bo hir i drafod ymarferoldeb lleoliadau eraill a’r posibilrwydd o ymestyn ei gwasanaeth symudol.
Ffordd Osgoi y Drenewydd
________________________________________
Bydd gwaith adeiladu yn cychwyn yn ddiweddarach eleni a bydd y ffordd osgoi yn cael ei chwblhau erbyn diwedd 2017.
Cynhelir Ymchwiliad Cyhoeddus yn y Drenewydd yn ddiweddarach y mis hwn, ac rydw i wedi gofyn am gael annerch er mwyn cyflwyno’r safbwyntiau a wnaed i mi dros y blynyddoedd.
Gwasanaethau Trên bob awr o Aberystwyth i’r Amwythig
________________________________________
Ar 18 Mai, cychwynnodd y gwasanaethau bob awr cyntaf ar Reilffordd y Cambrian.
Rydw i’n croesawu’r newyddion hwn ac roeddwn wrth fy modd i ymuno â Chyngor Tref y Trallwng ar 18 Mai i gyfarch y trên cyntaf o’r Amwythig i’r Trallwng am 1.54pm. Hoffwn dalu teyrnged i’r holl grwpiau ac unigolion sydd wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i gael gwasanaethau bob awr ar y siwrne hon.
Mae’r gwasanaethau trên ychwanegol yn rhedeg o Aberystwyth i’r Amwythig ac yn welliant hirddisgwyliedig i wasanaethau rheilffordd ar gyfer pobl y Canolbarth, gan ddarparu cyfleoedd ychwanegol i breswylwyr gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus allweddol yn ogystal â darparu gwasanaeth cymudo amlach i’r rhai sydd angen teithio i Aberystwyth, yr Amwythig neu i Birmingham. Bydd yn hwb i dwristiaeth yn yr ardal hefyd. Bydd y manteision yn trawsnewid y Canolbarth i breswylwyr, busnesau lleol ac ymwelwyr.
Dros y blynyddoedd, rydw i wedi pwyso’n gyson ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r mater hwn, gan ei bod yn amlwg bod cysylltiadau trafnidiaeth o ansawdd da o bwys economaidd sylweddol i’r canolbarth. Felly rydw i’n falch bod Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi ymateb yn gadarnhaol i’r ymgyrch ac mae wedi bod yn weithgar yn sicrhau bod y gwasanaeth bob awr hwn yn bosibl.
Mae’r amserlen newydd ar gael yma
Y Newyddion diweddaraf gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu – Christopher Salmon
________________________________________
Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn
Cyhoeddodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, y bydd Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn yn cael cymorth o £3,116 o drydydd cylch Cronfa’r Comisiynydd.
Roedd y drydedd cylch o gymorth gan Gronfa’r Comisiynydd yn cynnig grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer elusennau, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i ddatblygu syniadau a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar yr ardal y maen nhw’n ei gwasanaethu.
Mae Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn yn darparu lloches i ddynion a menywod sy’n dioddef cam-drin domestig. Bydd yr arian hwn yn cael ei wario ar newid yr hen eitemau a geir yn lloches y menywod, sydd wedi gwisgo neu dorri, gyda’r nod o annog menywod i aros yno.
Arolwg Rhwydwaith Troseddu Gwledig Cenedlaethol
Hoffwn i a Christopher Salmon eich annog i gymryd rhan yn yr arolwg troseddau cenedlaethol mwyaf erioed, sy’n ceisio ymchwilio i wir effaith troseddu ar gymunedau cefn gwlad.
Bydd yr arolwg, sy’n agored tan ddydd Mercher 24 Mehefin, yn caniatáu i chi rannu eich safbwyntiau gyda hyn, yn y pen draw, yn dylanwadu ar brosesau atal troseddu a phlismona cefn gwlad yn y dyfodol.
Dyw effaith lawn troseddu yng nghefn gwlad erioed wedi’i hasesu’n gywir o’r blaen, felly nod yr arolwg hwn, gyda chefnogaeth y Gynghrair Cefn Gwlad a’r Swyddfa Gartref, yw rhoi darlun o broblem gyffredin ond un sy’n cael ei chamddeall.
Mae’r arolwg ar gael drwy glicio yma
Cymorthfeydd
________________________________________
Rydw i wedi cyhoeddi rhestr lawn o gymorthfeydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae rhestr lawn ar gael ar fy ngwefan. Yn ystod y mis hwn, byddaf yn cynnal dau sesiwn galw heibio yn Morrisons yn y Drenewydd ac yn y Trallwng:
Dydd Gwener 5 Mehefin rhwng 5pm a 7pm – Morrisons, y Drenewydd
Dydd Gwener 19 Mehefin rhwng 5pm a 7pm – Morrisons, y Trallwng
Byddaf ym mlaen y siop ger y man talu a does dim angen apwyntiad arnoch chi.
Hefyd, os hoffech i mi gynnal cymhorthfa gyngor yn eich busnes neu yn eich digwyddiad cymunedol lleol, mae croeso i chi ofyn.
Gweler isod y dyddiadau ar gyfer fy nghymorthfeydd nesaf ym mis Mehefin. Cofiwch gysylltu â mi i wneud apwyntiad.
Dydd Sadwrn 6 Mehefin rhwng 10am a hanner dydd – Tregynon
Dydd Llun 20 Mehefin rhwng 10am a 11am – Treberfedd