Annwyl breswylydd,
Dyma grynodeb o rai o'r materion yr ydw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw dros yr wythnosau diwethaf.
Mae croeso i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen at ffrindiau a chydweithwyr a allai fod â diddordeb yn unrhyw un o'r pynciau sydd wedi'u cynnwys yn fy newyddion diweddaraf.
Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw adborth a da chi, rhowch wybod os oes modd i fi eich helpu mewn unrhyw ffordd neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Prosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru
Gohirio penderfyniad ar Ymchwiliad i Fferm Wynt y Canolbarth
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y bydd penderfyniad ar yr Ymchwiliad i Gyfres o Ffermydd Gwynt y Canolbarth (Powys) yn cael ei ohirio tan ddechrau'r Senedd nesaf. Mae angen ystyried y penderfyniad hwn yn ofalus, a'm hamcan oedd sicrhau nad yw'n cael ei ruthro mewn unrhyw ffordd. Felly, rydw i'n hapus gyda'r cyhoeddiad hwn. Yn ystod yr ymchwiliad, casglwyd tystiolaeth gydol 2014 mewn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus. Roedd yn canolbwyntio ar ffermydd gwynt Llanbadarn Fynydd, Llaithddu, Llandinam, Llanbrynmair, a Carnedd Wen. Dywedodd yr Adran Ynni bod angen ystyried yn ofalus faterion polisïau cynllunio ac ynni y ceisiadau yn dilyn argymhellion yr Arolygydd Cynllunio a gyflwynwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ar 8 Rhagfyr.
Mae'r cyhoeddiad llawn ar gael yn https://www.gov.uk/consents-and-planning-applications-for-national-energy-infrastructure-projects
Trafodaethau'r Cynulliad ar Weithgareddau'r Grid Cenedlaethol
Codais y mater yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod trafodaeth fer ddydd Mercher. I grynhoi, cefais gyfle i ailadrodd rhywfaint o'r hyn yr ydw i'n ei gredu ers tro byd bod graddfa datblygiad arfaethedig y ffermydd gwynt ym Mhowys yn annerbyniol. Tynnais sylw hefyd at y ffordd gywilyddus y mae'r Grid Cenedlaethol wedi ymddwyn wrth ymwneud â'r cyhoedd mewn perthynas â'r prosiect hwn ac rydw i wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymuno â mi i ailgyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol y dylid gwahardd y prosiect ar y sail nad oes yr un fferm wynt wedi'i chymeradwyo hyd yn hyn i'w chysylltu â'r grid cenedlaethol.
Amaethyddiaeth
Cymunedau Gwledig
Ddiwedd mis diwethaf, cymerais ran mewn sesiwn ar bwysigrwydd cymunedau gwledig yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig. Yn gryno, roeddwn yn galw am i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i orfodi atebion trefol ar gefn gwlad Cymru, heb ystyried yn llawn yr her o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol mewn ardaloedd gwledig eang. Cefais gyfle hefyd i alw am lais penodol ar fwrdd Cabinet Llywodraeth Cymru gyda phwyslais unigryw ar ffermio a chymunedau gwledig
Clybiau Ffermwyr Ifanc
Roeddwn i'n siomedig i glywed fod cyllid y mudiad Ffermwyr Ifanc yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Sefydliadau Gwirfoddol Ieuenctid Cenedlaethol yn dod i ben. Bydd colli'r grantiau hyn yn niweidiol iawn i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru sy'n hynod o bwysig. Gofynnais am i'r penderfyniad gael ei ailystyried ac rydw i'n falch y bydd y gweinidog yn cydweithio â'r sefydliad o leiaf ar y ffordd ymlaen. Mae'n gwbl hanfodol nawr nad yw'r rhaglenni addysgol pwysig y mae'r Clybiau Ffermwyr Ifanc yng Nghymru yn eu cynnal yn wynebu'r fwyell. Mewn cyfnod y dylen ni fod yn ymestyn allan at bobl ifanc mewn cymunedau gwledig, dylid sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu a chefnogi sefydliad y Ffermwyr Ifanc. Byddaf yn parhau i fynd ar drywydd y mater hwn gyda Gweinidogion Cymru.
Iechyd
Cynhadledd Gofal Iechyd y Canolbarth
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal cynhadledd ddoe (dydd Iau 12 Mawrth) ym Mharc Cefn Lea, Dolfor, a oedd yn dwyn ynghyd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd gyda'r nod o fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn Astudiaeth Iechyd y Canolbarth a drefnwyd gan Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru y llynedd. Er bod gennyf ymrwymiadau cyfarfod yn y Cynulliad yn y bore, roeddwn yn falch fy mod yn gallu bod yn bresennol yn y sesiwn brynhawn ac roedd Glyn Davies, ein AS, yn bresennol hefyd.
Bu Astudiaeth Gofal Iechyd y Canolbarth yn treulio naw mis yn gwrando ar safbwyntiau cleifion, y cyhoedd a staff lleol y GIG ar hyd a lled y Canolbarth, yn adolygu cynlluniau byrddau iechyd lleol, ac yn ystyried arferion da ym maes gofal iechyd gwledig ym mhob cwr o'r byd. Mae adroddiad yr astudiaeth ar gael yn: http://wihsc.southwales.ac.uk/midwaleshealthstudy/
Llawdriniaethau dewisol ym Mronglais
Yn gynharach yr wythnos hon, yn ystod cwestiynau'r Cynulliad, gofynnais i Lywodraeth Cymru ymyrryd er mwyn sicrhau bod llawdriniaethau dewisol yn parhau heb unrhyw oedi yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth ar ôl i nifer o etholwyr gysylltu â mi i ddweud bod llawdriniaethau dewisol yn cael eu canslo oherwydd "pwysau'r gaeaf" fel y'i gelwir.
Mae dau o etholwyr wedi cysylltu â mi i ddweud bod eu llawdriniaethau nhw wedi'u canslo deirgwaith a'u bod yn dal i aros. Mae hyn yn gwbl annerbyniol Rydw i wedi gofyn i Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda egluro'r sefyllfa ym Mronglais.
Addysg
Addysg Uwchradd
Yn ddiweddar, derbyniodd Cabinet Cyngor Sir Powys adroddiad a oedd yn awgrymu cau nifer o ysgolion uwchradd a dosbarthiadau chweched dosbarth ym Mhowys. Bydd y cyngor yn cyflwyno rhagor o fanylion a chynigion penodol yngl?n â pha ysgolion unigol y maen nhw'n cynnig eu cau yn y dyfodol agos. Er fy mod yn deall y pwysau ariannol sydd ar y cyngor, y mater pwysicaf yw dyfodol addysg ein plant.
Un o'r prif resymau y mae'r Cyngor yn cynnig y newid, yw o ganlyniad uniongyrchol i'r diffyg cyllid digonol i lywodraeth leol. Mae llawer o etholwyr a rhieni yn ddig iawn bod ysgolion dros y ffin yn Lloegr yn cael eu cyllido'n well nag ysgolion yng Nghymru. Mae'r arian a bennir i ysgolion ym Mhowys yn fater i Lywodraeth Cymru.
Yr wythnos hon yn ystod y cwestiynau wythnosol, codais y pryderon hyn yn y Cynulliad gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones AC a Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Fe wadodd Mr Andrews fod fformiwla cyllid llywodraeth leol yn annheg er gwaethaf y ffaith y bydd Powys, o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, unwaith eto yn cael un o'r toriadau mwyaf yn eu cyllid y flwyddyn nesaf.
Yn amlwg, mae'n anodd gwneud sylwadau pellach tan y gwyddom beth fydd cabinet Cyngor Powys yn ei gynnig, ond mae Glyn Davies AS a finnau yn credu ei bod yn hollbwysig nad oes unrhyw un o'r chwe ysgol Uwchradd bwysig yn Sir Drefaldwyn yn cau, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gwarchod rhag cael eu cau.
NPTC Newtown
Mae pryderon mawr ynghylch y gostyngiad yn y cyllid i'r coleg; yr wyf wedi cyfarfod yn ddiweddar â Phennaeth y safle. Mae hwn yn fater byddaf yn diweddaru yn fwy manwl yn fy ngylchlythyr nesaf mewn ychydig o wythnosau. Os oes unrhyw staff neu fyfyrwyr am gael eu diweddaru ar y mater hwn, anfonwch e-bost ataf yn uniongyrchol. [email protected]
Absenoldebau yn ystod y tymor
Fis diwethaf, tynnais sylw at y dryswch a'r amwysedd sy'n bodoli yngl?n ag absenoldebau yn ystod y tymor.
Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod gan benaethiaid yr hyblygrwydd i ganiatáu absenoldeb yn ystod y tymor. Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Powys yn cynghori penaethiaid yn gryf i beidio â chaniatáu amser i ffwrdd.
Gall amser teuluol pwrpasol fod yr un mor bwysig i fagwraeth person ifanc â'i addysg ffurfiol ac ni ddylid diystyru gwyliau teuluol bob tro fel rhywbeth nad yw'n addysgol. Penaethiaid sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu beth yw'r gorau i'w disgyblion a gallan nhw gydweithio â rhieni fesul cais. Mae'n rhaid mynd i'r afael â'r dryswch hwn i rieni ac athrawon. Byddaf yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r mater gyda Gweinidogion a Chyngor Sir Powys.
Trafnidiaeth
System Un Ffordd y Trallwng
Y llynedd, trefnais arolwg a oedd yn dangos mai cymysg oedd barn trigolion lleol y Trallwng yngl?n â'r cynllun un ffordd. Hoffai mwyafrif bach weld y system un ffordd yn cael ei wrthdroi. Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau erbyn hyn bod Adroddiad Craffu cychwynnol ar y system un ffordd wedi dod i'r casgliad nad oedd modd cyfiawnhau newidiadau sylweddol i'r system un ffordd.
Er gwaethaf y safbwynt hwn gan y Cyngor, mae rhai addasiadau arfaethedig yn cael eu hystyried er mwyn helpu i wella llif y traffig yn y dref. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud rhannau o Hall Street ar gyfer cerddwyr yn unig ac eithrio pan fo cerbydau nwyddau yn llwytho a dadlwytho, ac adolygu gwaharddiadau disgwyl a llwytho ar y stryd. Dydw i ddim yn un o'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau uniongyrchol yn y broses hon, ond byddaf yn parhau i gyflwyno'r safbwyntiau a'r syniadau sy'n cael eu cyflwyno i mi i Gyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru.
Atgyweirio Rhwystrau Diogelwch Camlas Maldwyn
Rydw i wedi cwestiynu Llywodraeth Cymru yn ddiweddar am yr oedi i'r gwaith o atgyweirio rhwystrau diogelwch Camlas Maldwyn rhwng Garthmyl ac Aber-miwl ym mis Ionawr. Er fy mod yn gwerthfawrogi bod yna nifer o ffactorau yn effeithio ar y gwaith atgyweirio, dydw i ddim yn fodlon ei fod wedi cymryd dros 6 wythnos ers y ddamwain i drwsio'r rhwystrau a symud y goleuadau traffig dros dro ar y A483 rhwng y Drenewydd a'r Trallwng. Rydw i wedi trafod y mater gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth, ac wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i'w hatgyweirio heb ragor o oedi. Rydw i'n bwriadu codi'r mater ymhellach ar lawr y Cynulliad yr wythnos nesaf, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ddarparu amserlen ar gyfer eu hatgyweirio ar frys.
Llifogydd
Adolygiad o Lifogydd yng Nghronfeydd Clywedog ac Efyrnwy
Y llynedd, deuthum â nifer o bobl ynghyd a oedd â diddordeb i drafod y pryderon yngl?n â llifogydd a rhyddhau d?r o Gronfeydd Clywedog ac Efyrnwy. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi symud ymlaen i drefnu cyfarfod yn y Drenewydd a gynhaliwyd y mis diwethaf wedi i mi alw am y newyddion diweddaraf ar y datblygiadau. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys nifer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yn flaenorol gyda phryderon am lifogydd mewn perthynas ag afonydd Efyrnwy a Chlywedog.
Roedd yr ymgynghorwyr a oedd yn gwneud yr adolygiad yn bresennol i ddarparu manylion am ddatblygiad yr adolygiad a bydd y wybodaeth a ddarparodd y trigolion yn cael ei chynnwys yn yr adolygiad fel senarios er mwyn dadansoddi'r posibiliadau ar gyfer rhyddhau d?r a lefelau cronfeydd argaeau Clywedog ac Efyrnwy yn y dyfodol. Bydd fersiwn derfynol yr adroddiad drafft ar gael erbyn diwedd y mis. Mae 'Gr?p Trafod Lleol' wedi'i sefydlu. Mae croeso i chi gysylltu â mi os ydych chi am fod yn rhan o'r 'Gr?p Trafod Lleol' ar gyfer mynegi pryderon am lifogydd sy'n gysylltiedig ag afonydd Clywedog ac Efyrnwy.
Etholiad Cyffredinol 2015
Mae Eich Pleidlais Chi'n Cyfri
Cynhelir Etholiad Cyffredinol y DU ddydd Iau 7 Mai ac ni allwch bleidleisio oni bai bod eich enw ar y Gofrestr Etholwyr.
Os ydych chi wedi symud t? yn ddiweddar neu os yw eich manylion wedi newid, mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyngor Sir Powys.
Cofrestrwch i bleidleisio gan ddefnyddio gwefan y Comisiwn Etholiadol neu os yw'n well gennych chi gwblhau cais ar bapur, cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01597 826717
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Etholiadol
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Dydd Llun 20 Ebrill yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru i bleidleisio.
Ac yn olaf….
Llongyfarchiadau Sam!
Roeddwn yn falch o gael y cyfle i godi ymwybyddiaeth o Apêl Argyfwng Ebola y Groes Goch Brydeinig yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yr wythnos hon.
Mae Samuel Lauder, swyddog Iechyd yr Amgylchedd o'r Drenewydd, sydd fel arfer yn gweithio i Gyngor Sir Powys, wedi dychwelyd o Sierra Leone yn ddiweddar lle'r oedd yn rhan o dîm y Groes Goch Brydeinig a oedd yn helpu i fynd i'r afael â'r achosion o Ebola.
Trefnwyd i Sam fynd ar genhadaeth pedair wythnos fel cynrychiolydd iechyd ar gyfer Atal a Rheoli Heintiau i Ganolfan Trin Ebola Sefydliad Cenedlaethol y Groes Goch yn Kenema.
Rydw i'n falch bod Sam wedi cynrychioli Powys drwy gymryd rhan yn y prosiect, a gweithio law yn llaw â staff cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn cael gwared ar y clefyd dinistriol hwn o Orllewin Affrica. Pan godwyd y mater hwn, rydw i'n falch fod Jane Hutt AC, y Gweinidog Busnes, wedi ymuno â mi i longyfarch Sam!
Cymorthfeydd
Rwyf wedi cyhoeddi rhestr lawn o gymorthfeydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gallwch weld rhestr lawn ar fy ngwefan. Dyma'r dyddiadau nesaf. A fyddech cystal â ffonio fy swyddfa i wneud apwyntiad
o Dydd Sadwrn 14 Mawrth - Llansanffraid - The Lion Hotel - 10am - 11am
o Dydd Iau 19 Mawrth - Caersws - Ffoniwch i gael gwybod y lleoliad - 10am - 11am
o Dydd Gwener 20 Mawrth - y Drenewydd - 13 Parker's Lane - 10am - 12pm
o Dydd Llun 23 Mawrth - Bluebell Inn, Yr Ystog - 1pm - 2pm
o Dydd Sadwrn 28 Mawrth - Meifod - Canolfan Cymunedol - 11am - 12pm
o Dydd Mercher 1 Ebrill - Y Trallwng - Swyddfa'r Ceidwadwyr - 11am- 12pm
o Dydd Mercher 1 Ebrill - Llanidloes - Llyfrgell - 1.30pm - 3.30pm
o Dydd Mercher 8 Ebrill - Llandinam - Ffoniwch i gael gwybod y lleoliad - 10am - 11am
o Dydd Mercher 15 Ebrill - Llangynog - The New Inn - 10am - 11am
o Dydd Sadwrn 18 Ebrill - Ceri - Ffoniwch i gael gwybod y lleoliad - 10am - 11am
Rydw i'n cynnal cymorthfeydd yn amlach yn fy swyddfeydd yn y Drenewydd a'r Trallwng. Cysylltwch â'm swyddfa etholaethol ar 01686 610887 i wneud apwyntiad neu os hoffech drafod mater gyda mi.
Rhifau Ffôn Defnyddiol
Heddlu, Ambiwlans a Thân - 999
Heddlu - Heb fod yn Argyfwng - 101
Cyngor Sir Powys - 01597 826000
Severn Trent Water - 0800 7834444
Argyfyngau Trydan - 0800 0015400
Argyfyngau Nwy - 0800 111999
Ymholiadau'r GIG - 0845 46 47
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Powys - 01686 628300
ShropDoc - 08444 068888
Samariaid - 08457 909090
Cyngor ar Bopeth - 0845 6018421
Age Cymru - 01686 623707