Etholiad Cyffredinol 2015
Ddydd Iau (7 Mai), bydd pobl Sir Drefaldwyn yn ethol eu Haelod Seneddol nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r AS nesaf i gynorthwyo trigolion Sir Drefaldwyn ar lawer o faterion pwysig sy’n effeithio ar yr ardal. Yn naturiol, rwy’n mawr obeithio y bydd fy mherthynas waith agos â Glyn Davies yn gallu parhau.
Yn ystod gwyliau’r Pasg pan nad oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarfod, roeddwn wrth fy modd yn treulio amser yn cyfarfod pobl leol ar garreg y drws wrth ymgyrchu.
Bydd llawer o bobl eisoes wedi manteisio ar y cyfle i bleidleisio drwy’r post, ond i’r rhai ohonoch chi a fydd yn bwrw’ch pleidlais mewn gorsaf bleidleisio, cliciwch yma i weld ble mae’ch gorsaf bleidleisio.
Wrth reswm, er bod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol yn ei hanterth, mae fy ngwaith fel Aelod Cynulliad yn parhau. Dyma’r newyddion diweddaraf am y materion rwyf wedi bod yn gweithio arnynt dros yr wythnosau diwethaf.
Gofal iechyd yn Sir Drefaldwyn
Dadl ar Iechyd yn y Cynulliad Cenedlaethol
Noddais ddadl yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf ar yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yn y Canolbarth.
Yn ystod y ddadl, codais amrywiaeth o faterion gofal iechyd pwysig sy’n effeithio ar bobl y Canolbarth, gan gynnwys yr angen am Ganolfan Gofal Brys yn Sir Drefaldwyn ac Uned Mân Anafiadau 24 awr yn y Drenewydd; heriau darparu gwasanaethau gofal iechyd mewn cyd-destun trawsffiniol; a’r angen i lawdriniaethau dewisol ailgychwyn yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.
Rwy’n credu y dylai gwasanaethau’r GIG fod yn seiliedig ar ddull gweithredu sy’n defnyddio synnwyr cyffredin, ac y dylai gwasanaethau gael eu darparu yn nes at adref fel bod cleifion yn teimlo’n hyderus y bydd y GIG yno ar eu cyfer pan fyddant ei angen.
Rwyf hefyd yn credu bod angen i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ymateb yn gyflym i’r newidiadau sy’n digwydd yn Swydd Amwythig.
Roedd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cydnabod fy mhryderon ynglŷn â darparu gofal iechyd yn y Canolbarth. Nododd y Gweinidog ei fod yn fodlon cyfarfod â mi ac ymgyrchwyr iechyd lleol i drafod yr heriau iechyd yn y Canolbarth.
Mae trawsgrifiad llawn o’m dadl ar gael ar fy ngwefan.
Yr Economi Wledig – Band Eang a Bancio Cymunedol
Dadl ar yr Economi Wledig
Ddydd Mercher diwethaf roedd yn fraint i mi arwain dadl ar fesurau i gefnogi’r economi wledig yng Nghymru. Mae’n amlwg bod y sector amaethyddol yn wynebu heriau a’i bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gefnogi’r diwydiant. Roedd fy sylwadau’n canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaeth band eang Cyflymu Cymru ar hyn o bryd, ac ar yr achosion diweddar o fanciau’n cau yn Sir Drefaldwyn.
Band eang
Ar sail y broses bresennol o gyflwyno gwasanaeth band eang, mae’n amlwg bod prosiect Cyflymu Cymru BT yn gynllun uchelgeisiol iawn gan ei fod yn ceisio cyflwyno gwasanaeth band eang ffeibr ar gyflymder o 24 Mbit/s o leiaf i 96% o boblogaeth Cymru erbyn mis Mehefin 2016. Rwy’n croesawu’r uchelgais hon fel un sydd â’r potensial i adfywio economi’r Canolbarth. Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf mae llawer o drigolion wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon na fydd y gwasanaeth newydd yn cyrraedd ardaloedd gwledig Sir Drefaldwyn ac y bydd y bwlch digidol yn ehangu, gan adael busnesau yn Sir Drefaldwyn dan anfantais gystadleuol o gymharu â busnesau trefol. Rwy’n ymwybodol bod rhai sylwebyddion diwydiant hefyd yn credu na fydd prosiect Cyflymu Cymru yn cyrraedd ei darged uchelgeisiol.
Felly, yn ystod y ddadl, gofynnais i Lywodraeth Cymru a BT gyhoeddi amserlen fanwl ar gyfer cyflwyno gweddill y prosiect er mwyn egluro’r sefyllfa i drigolion a busnesau mewn ardaloedd gwledig nad ydynt wedi elwa ar uwchraddio gwasanaeth band eang eto.
Bancio
Wrth gyfeirio at y ffaith anffodus fod sawl banc wedi cau ar y stryd fawr yn Sir Drefaldwyn yn ddiweddar, gofynnais i Lywodraeth Cymru hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol gyda’r banciau, Swyddfa’r Post, a rheoleiddwyr er mwyn trafod sut y gallant rannu adeiladau a gwella cytundebau asiantaethau rhwng y banciau i sicrhau bod gwasanaethau “dros y cownter” yn parhau i fod yn hyfyw yn y Canolbarth.
Gall cau’r banciau hyn gael effaith niweidiol iawn ar ganol trefi Sir Drefaldwyn ac ar drigolion a busnesau sy’n dibynnu ar wasanaethau bancio “dros y cownter”.
Busnesau bach, yn enwedig y rhai sy’n ymgymryd â gweithgareddau manwerthu, sefydliadau’r trydydd sector a thrigolion hŷn neu anabl sy’n dioddef fwyaf wrth i ganghennau banciau’r stryd fawr gau. Nid yw bancio ar-lein neu fancio canghennau symudol yn disodli cyfleusterau “dros y cownter” parhaol yn ddigonol bob amser.
Rwy’n cydnabod bod banciau’r stryd fawr o dan bwysau oherwydd datblygiadau technolegol a ffactorau eraill. Dyna reswm arall pam y dylent ddod at ei gilydd i ystyried model arloesol newydd o fancio cymunedol a fydd yn arwain at rannu adeiladau a gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i wasanaethu eu cwsmeriaid yn ardaloedd gwledig y canolbarth.
Coleg y Drenewydd NPTC
Yr wythnos diwethaf, mynychais brotest yn y Senedd gan ddarlithwyr coleg, staff a myfyrwyr o sefydliadau addysg bellach ledled Cymru. Mae campws y Drenewydd Grŵp NPTC yn wynebu toriad 50% yn ei gyllideb addysg oedolion. Mae’r coleg, a fynychais fy hun am 5 mlynedd, yn rhoi cyfle i bobl leol ennill sgiliau ar gyfer y byd diwydiant drwy gynnig rhaglenni prentisiaethau sy’n arwain at swyddi amser llawn maes o law. Heb Sefydliadau Addysg Bellach fel NPTC, ni fyddai hyn yn bosibl, a byddai’n amddifadu dysgwyr o bont rhwng yr ysgol ac addysg uwch, yn ogystal â chyfle i oedolion ddatblygu eu sgiliau.
Rwy’n gwrthwynebu’r toriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gorfodi ar y sector Addysg Bellach. Oherwydd diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru, nid yw sefydliadau AB yn gallu cynllunio a blaenoriaethu mor effeithiol ag y byddent yn dymuno ei wneud, mae ansicrwydd ynglŷn â swyddi staff, ac mae’n golygu na fydd sefydliadau AB yn gallu darparu addysg o ansawdd i’w myfyrwyr.
Yn ogystal, mae arafwch Llywodraeth Cymru yn hysbysu colegau AB a fyddant yn derbyn eu cyfran o Gronfa Rhaglen Blaenoriaethau’r Sector yn golygu y gallai’r sector AB wynebu toriadau ychwanegol i’w gyllidebau. Byddai hyn yn cael effaith benodol ar ddarpariaeth ran-amser, sydd mor bwysig i’r rhai sy’n gweithio ac yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau.
Rwyf wedi cyfarfod â staff y coleg yn ddiweddar. Byddaf yn parhau i godi’r mater gyda’r Gweinidog fel mater o frys er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y mater ac edrych yn ofalus ar sut y mae wedi dyrannu’r gyllideb addysg.
Cymorthfeydd
Rwyf wedi cyhoeddi rhestr lawn o gymorthfeydd ar gyfer y flwyddyn sy’n dod. Mae’r rhestr lawn ar fy ngwefan. Dyma’r dyddiadau sydd ar y gweill ym mis Mai:
• Dydd Sadwrn 9 Mai – Hanner dydd – 2pm – Machynlleth, Y Plas
• Dydd Llun 11 Mai – 10am – Hanner dydd – Y Drenewydd, 13 Parker’s Lane
• Dydd Sadwrn 23 Mai – 11am – Hanner dydd – Llandysilio (lleoliad i’w gadarnhau)
Ffoniwch swyddfa fy etholaeth ar 01686 610887 i wneud apwyntiad neu i drafod unrhyw bwnc rydych chi am ei godi gyda mi.