Annwyl Breswylydd
Ar ddechrau 2015, bydd sylw'r holl bleidiau gwleidyddol yn troi at yr Etholiad Cyffredinol sydd ar y gorwel ar 7 Mai. Bydd yn ymgyrch hir ac mae'r wlad yn wynebu dewis o ddifrif - pa Lywodraeth y mae am ei chael a chyfeiriad ein taith dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r ffordd mae pobl yn cofrestru i bleidleisio hefyd yn newid. Efallai yr hoffech fynd i wefan GOV.UK i wneud yn siŵr eich bod yn medru lleisio’ch barn ar y 7fed o Fai.
Serch hynny, rwy'n benderfynol na fydd neb yn tynnu fy sylw oddi wrth fy ngwaith parhaus ar ran pobl Sir Drefaldwyn yn y Cynulliad Cenedlaethol. Bob mis, mae’r e-gylchlythyr hwn yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar bob math o wahanol faterion. Mae'n anodd rhoi sylw i bopeth, ond os oes rhywbeth yn eich poeni neu’ch bod am glywed y diweddaraf am rywbeth nad yw’n cael sylw yma, cysylltwch â mi.
Ffordd Osgoi y Drenewydd
Rwy'n falch iawn fod y gwaith adeiladu yn dechrau’n ddiweddarach eleni mae’n debyg. Codais fater amserlen y ffordd osgoi gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth yr wythnos diwethaf, a chadarnhaodd y byddai’r cynllun yn cael ei gwblhau erbyn 2017. Hwyrach y cynhelir ymchwiliad cyhoeddus os oes llawer o wrthwynebiadau yn dod i law. Felly, mae’n llawn mor bwysig cyflwyno llythyrau o gefnogaeth i'r cynllun a byddwn yn annog pobl i anfon llythyrau o gefnogaeth os ydych o blaid y ffordd osgoi. Byddai'n ddefnyddiol cynnwys manteision y ffordd osgoi a manteision gweld y cynllun yn mynd yn ei flaen eleni.
Mae angen anfon pob cefnogaeth a gwrthwynebiad erbyn dydd Gwener 30 Ionawr 2015 at:
Gareth Jones
Y Gangen Gorchmynion, Trafnidiaeth
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu anfonwch e-bost at [email protected]
Gallwch hefyd ddod â nhw draw i’m swyddfa os hoffech chi a gallaf eu hanfon ymlaen.
Cofiwch, os mai dim ond llythyrau o wrthwynebiad sy’n dod i law erbyn y dyddiad hwn, a bod llai o lythyron o gefnogaeth, yna gallai'r prosiect gael ei ohirio os bydd angen ymchwiliad cyhoeddus hir.
Amaethyddiaeth a’r Diwydiant Llaeth
Yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, rwyf hefyd yn falch o'r rôl bwysig sydd gen i yn cynrychioli Cymru wledig ac yn ymladd i gefnogi ein cymunedau ffermio.
Mae ffermwyr llaeth yn arbennig wedi wynebu amodau marchnad anodd ac rwyf wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i sicrhau bod pawb sydd â budd yn cefnogi'r diwydiant.
Mae'n destun cryn bryder bod y pris llaeth wrth gât y fferm wedi gostwng o 34 ceiniog y litr i ychydig dros 20 ceiniog y litr mewn cwta flwyddyn a bod rhai siopau’n gwerthu pedwar peint o laeth am lai na 90c!
Mae hyn yn ychwanegu pwysau mawr ar ffermwyr llaeth a chefais gyfle i godi'r mater hwn ar ymweliad â fferm laeth ym Meifod yr wythnos diwethaf - yno, ymunodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans AC, â mi i glywed am bryderon ffermwyr llaeth o lygad y ffynnon.
Credaf fod gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael iddi i adfer tegwch i brisiau cynhyrchu llaeth - neges y gwnes i ei chyfleu’n blwmp ac yn blaen i’r Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog yn fy nghyfraniadau yn Siambr y Cynulliad yn gynharach yn y mis.
Am ragor o wybodaeth am fy safbwyntiau ar sut y dylid cefnogi’r diwydiant llaeth, dilynwch y ddolen hon i’m herthygl ddiweddaraf a ymddangosodd.
Cododd Glyn Davies AS y mater gyda'r Prif Weinidog David Cameron yr wythnos hon. Gallwch wyliogwestiwn Glyn a'r PM ateb yma.
Gwasanaethau trên
Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu’n lleol, roeddwn yn falch fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC, wedi cytuno y dylid cael gwasanaeth bob awr yn ystod yr oriau brig ar Reilffordd y Cambrian o fis Mai. Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn bennaf rhwng 6.00am a 10.00am a rhwng 5:30pm a 9.30pm gyda gwasanaethau ychwanegol ar y Sul. I weld yr amserlen sydd wedi ei chynnig, cliciwch yma.
Rwyf hefyd yn falch fod yna wasanaeth trên newydd uniongyrchol gan Virgin o Amwythig i Lundain (Euston) ers diwedd y llynedd. Bydd y cyfuniad o'r gwasanaeth uniongyrchol hwn sy’n cael ei dreialu rhwng Amwythig ac Euston a gwasanaeth bob awr newydd o Aberystwyth i Amwythig yn trawsnewid y cysylltiadau rheilffordd ar gyfer Sir Drefaldwyn a bydd o fudd mawr i'r economi leol.
Mae ein AS, Glyn Davies, a minnau yn codi pryderon am y ffensys a diogelwch da byw wrth ymyl y trac.
Yn olaf, rwyf hefyd yn falch fod y posibilrwydd o ail-agor Gorsaf Reilffordd Carno wedi cael sylw yn y ddogfen ymgynghori ar Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Drafft 2015. Rwy’n gobeithio cyfarfod â'r Gweinidog cyn bo hir gydag ymgyrchwyr lleol o Garno i drafod y cynlluniau yn fwy manwl. Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drafft yn destun ymgynghoriad tan 11 Mawrth ac rwy’n annog cymaint o bobl â phosibl i ymateb. Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen yma.
Cymorthfeydd
Rwyf wedi cyhoeddi rhestr lawn o gymorthfeydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn ar fy ngwefan (LINK). Dyma’r cymorthfeydd sydd i’w cynnal ym mis Chwefror:
• Llanymynech – Dydd Sadwrn 7 Chwefror 10am-11am
• Canolfan Gymunedol Carno - Dydd Sadwrn 14 Chwefror 10am-11am
• Morrisons, Y Drenewydd - Dydd Gwener 20 Chwefror 5pm-7pm
• Canolfan Gymunedol Trefeglwys – Dydd Sadwrn 21 Chwefror 12pm-2pm
Cysylltwch â’m swyddfa etholaethol ar 01686 610887 i wneud apwyntiad neu i drafod unrhyw fater rydych am ei godi gyda mi.
Dymuniadau gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn