Cylchlythyr Gorffennaf
Annwyl breswylydd,
Dyma fy newyddion misol diweddaraf am fy ngweithgareddau yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Sir Drefaldwyn.
Cofiwch, os gallaf eich helpu mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â mi ar [email protected] neu ar 01686 610887.
Cofion gorau,
Russell George
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Sir Drefaldwyn
Gwybodaeth Ddiweddaraf am Gynllun Parod at y Dyfodol y GIG
Byddwch yn cofio fis Tachwedd diwethaf i Fwrdd Rhaglen Parod at y Dyfodol y GIG argymell mai’r dewis gorau ar gyfer ymgynghori fyddai lleoli’r Ganolfan Frys a’r Ganolfan Menywod a Gofal Plant yn Amwythig. Fodd bynnag, nid oedd Cydbwyllgor Grwpiau Comisiynu Clinigol Swydd Amwythig, Telford a Wrekin yn cefnogi’r argymhelliad hwn, a phleidleisiodd chwech o aelodau Swydd Amwythig o blaid a phleidleisiodd chwech o aelodau Telford a Wrekin yn erbyn, gan arwain at anghytundeb. Yna comisiynwyd rhagor o waith gyda’r dasg o newid cylch gorchwyl y Cydbwyllgor er mwyn sicrhau y byddai pleidlais o anghytundeb yn llai tebygol; cynhaliwyd adolygiad annibynnol o’r broses gwneud penderfyniadau a arweiniodd at argymhelliad y llynedd; a chynhaliwyd Asesiad Integredig ychwanegol o’r Effaith mewn perthynas yn benodol â Gwasanaethau Menywod a Phlant.
Felly, mae’n rhaid cael o leiaf ddau 'adolygiad', ymgynghoriad cyhoeddus, cytundeb y Grwpiau Comisiynu Clinigol a chytundeb gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi’r £200 miliwn sydd ei angen i ariannu’r prosiect.
Rydw i a Glyn Davies AS yn teimlo ein bod angen mynd ati nawr i ddiwygio gwasanaethau brys yr ardal. Mae Glyn wedi ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Swydd Amwythig a Telford yn gofyn iddyn nhw roi dyddiad targed ar gyfer pob cam sy’n weddill o’r broses gyda’r nod o gael penderfyniad terfynol cyn diwedd 2017.
Mae trafodaeth arall ar y gweill felly mae’n bwysig bod pobl Powys yn barod i leisio’u barn.
Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Trawsffiniol
Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn cadeirio cyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Trawsffiniol a oedd yn trafod trefniadau gofal iechyd trawsffiniol Cymru a Lloegr. Yn y cyfarfod, mynegodd Cydffederasiwn GIG Cymru yr angen i sicrhau bod unrhyw bolisïau gwahanol yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd sy’n ei gwneud yn bosibl i barhau i symud cleifion ar draws ffin Cymru-Lloegr er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn triniaeth cydgysylltiedig yn y man mwyaf priodol o safbwynt clinigol.
Clywsom gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru hefyd am y rheolau gwahanol sy’n achosi problemau i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau y mae fferyllfeydd yn eu darparu ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, er enghraifft, y rheolau gwahanol yn ymwneud â phresgripsiynau electronig, trefniadau rhyddhau meddyginiaethau a threfniadau gwahanol ar gyfer achredu fferyllwyr.
Ffordd Osgoi y Drenewydd a Theithio Llesol
Mae un neu ddau o’r trigolion wedi rhannu syniadau arloesol er mwyn nodi agoriad swyddogol ffordd osgoi y Drenewydd. Credaf y byddai’n syniad gwych cynnal digwyddiad elusennol, fel rhedeg ar hyd Ffordd Osgoi y Drenewydd cyn iddi agor i’r cyhoedd. Rydw i wedi codi’r mater gyda Llywodraeth Cymru sydd i weld yn cefnogi’r syniad a gobeithio y bydd y contractwr yn ei weld yn gyfle da i nodi bod y prosiect wedi’i gwblhau o’r diwedd a datgan ei fod yn agored gan gasglu arian at achosion da lleol yr un pryd. Rydw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y digwyddiad fy hun gyda thrigolion eraill i fedyddio agoriad Ffordd Osgoi y Drenewydd, sy’n brosiect pwysig iawn i’r Drenewydd a rhanbarth ehangach y Canolbarth.
Gallai datblygiad y ffordd osgoi arwain at sefydlu llwybrau cerdded, rhedeg a beicio eraill yn yr ardal hefyd er mwyn gwneud y Drenewydd yn Dref Teithio Llesol. Yn sicr, mae hwn yn gyfle da i hyrwyddo gweithgarwch corfforol hefyd.
Yn ddiweddar, soniais am fy uchelgais i ddatblygu rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn y Drenewydd gyda’r Prif Weinidog wedi i Gyngor Sir Powys fethu yn eu cais am arian. Yr uchelgais yw gwella’r llwybrau cerdded a beicio rhwng yr orsaf rheilffordd, canol y dref a’r orsaf bysys yn ogystal â gwella’r llwybrau rhwng ysgolion a cholegau, tai a chanolfannau manwerthu yn ardal ddwyreiniol y dref.
Roeddwn yn falch o glywed y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd yn ystyried dyrannu rhywfaint o gyllid yn ystod y flwyddyn i gais teithio llesol Powys ar gyfer y Drenewydd a byddaf yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y prosiect uchelgeisiol hwn yn cael y cyllid angenrheidiol er mwyn gwneud y prosiect yn realiti.
Te Parti Ysblennydd - Marie Curie
Roeddwn yn falch o ymuno ag aelodau staff Marie Curie yn gynharach y mis hwn i gefnogi’r Te Parti Ysblennydd “Blooming Great Tea Party” a gynhaliwyd rhwng 23 - 25 Mehefin lle’r oedd pobl o bob cwr o Sir Drefaldwyn yn ymuno â ffrindiau, teulu neu gydweithwyr i gynnal te parti, sêl cacennau neu amser paned arbennig er mwyn codi arian at Marie Curie.
Yn Sir Drefaldwyn, mae gan Marie Curie tua wyth o nyrsys yn darparu gofal a chymorth fel arfer rhwng 10pm a 7am. Mae’r gwaith y mae Nyrsys Marie Curie yn ei wneud er mwyn cynorthwyo a gofalu am bobl sy’n byw gyda salwch terfynol yn arbennig iawn.
Yn bersonol, rydw i wedi addo y byddaf yn helpu i sicrhau bod unrhyw etholwyr sydd â salwch terfynol yn gwybod pa wasanaethau a budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw; ac i gydweithio â gwasanaethau’r GIG lleol er mwyn gwella mynediad i ofal lliniarol heb ei ail i’r rhai sydd ei angen.
Gwasanaethau trên uniongyrchol i Birmingham
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ynglŷn ag amserlennu gwasanaethau a gwasanaethau trên uniongyrchol i Birmingham fel rhan o Fasnachfraint Rheilffyrdd nesaf Cymru a’r Gororau a fydd yn dod i rym ym mis Hydref 2018.
Rydw i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai gwasanaethau uniongyrchol i Birmingham yn un o amodau’r fasnachfraint newydd ac y byddai’r teithiau presennol yn cael eu cadw yn enwedig gan fod yna bryderon wedi’u mynegi gan grwpiau yn cynrychioli teithwyr am y posibilrwydd o rannu’r gwasanaeth cyfredol rhwng Aberystwyth a Birmingham International, gyda threnau Lein y Cambrian yn gorffen eu taith yn Amwythig yn hytrach na Birmingham International, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Byddai hyn wedi peri anghyfleustra i nifer fawr o deithwyr a byddai wedi cael effaith negyddol ar economi’r Canolbarth felly rydw i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn i gadw gwasanaethau uniongyrchol rhwng Birmingham ac Aberystwyth.
Band eang Cyflym iawn
Er bod y prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella’r graddau y mae band eang ffibr ar gael ledled Cymru heb os, mae’r prosiect yn parhau i gael ei lethu gan broblemau cyfathrebu, sy’n golygu bod trigolion yn clywed un mis y bydd ganddyn nhw fynediad i fand eang ffibr erbyn dyddiad penodol, ond yn clywed rhai wythnosau’n ddiweddarach na fyddan nhw’n ei gael o gwbl. Mae hyn yn annerbyniol ac rydw i wedi gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru bod cynllun yr olynwyr, a fydd yn cychwyn ym mis Ionawr 2018, yn cynnwys rhwymedigaeth dan gontract i sicrhau gwelliant mewn cyfathrebiadau cyhoeddus.
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o bwyslais ar annog pobl i ymuno â’r cynllun a sicrhau bod cynlluniau talebau band eang, sydd ar gael i helpu trigolion a busnesau i barhau y tu allan i gwmpas y prosiect Cyflymu Cymru, yn ddigon hyblyg er mwyn sicrhau y gall pobl wneud dewis arall os na allan nhw fanteisio ar y cynllun.
Byddwn yn annog pawb i edrych ar fap rhyngweithiol o’r lleoliadau hynny a fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o’r cynllun olynwyr a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn dod i ben ar 13 Gorffennaf er mwyn sicrhau bod yr holl leoliadau y dylid eu cynnwys, wedi’u cynnwys yn y cynllun newydd fel nad oes neb yn Sir Drefaldwyn yn colli allan yn ddiangen.
Mae’r map rhyngweithiol ar gael yma - http://lle.gov.wales/map/ngaomr2017 - ac mae’r ymgynghorid cyhoeddus ar gael drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgynghoriadau/mynediad-i-fand-eang-y-…
Byddaf yn cynnal Uwch Gynhadledd Band Eang ar 17 Gorffennaf yn y Drenewydd lle bydd Julie James AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am raglen Cyflymu Cymru, a BT, yn rhoi diweddariad penodol i arweinwyr y gymuned ar ddatblygiad y gwaith o gyflwyno band eang ffibr yn Sir Drefaldwyn a’r camau nesaf er mwyn gwella’r cysylltiad i’r rhai sydd heb gael eu huwchraddio hyd yma. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar ganlyniad y cyfarfod hwn yn fy nghylchlythyr nesaf.
Cymorthfeydd
Byddaf yn cynnal cymorthfeydd fel y nodir isod.
Mae’r rhain drwy apwyntiad yn unig felly cysylltwch â’m swyddfa ar 01686 610887 os hoffech gyfarfod.
Os hoffech gyfarfod y tu allan i’r amseroedd hyn, mae croeso i chi gysylltu fel y gallwn drefnu dyddiad gwahanol.
- Dydd Gwener 7 Gorffennaf – 2pm – 4pm (Cymhorthfa Agored – nid oes angen apwyntiad)
- Dydd Llun 10 Gorffennaf – 5pm – 6pm – Gwesty Cain Valley