Cylchlythyr Ebrill
Annwyl breswylydd,
Rydym yng nghanol ymgyrch etholiad cyffredinol ar gyfer etholiadau senedd y DU. Cynhelir etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru y flwyddyn nesaf. Dylech fod wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio dros y dyddiau diwethaf, os nad ydych, mae yna amser i gofrestru o hyd.
Y mis hwn, rwyf wedi cynnwys materion yr ydw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw dros y mis diwethaf ar ran trigolion Sir Drefaldwyn ac yn fy rôl fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig.
Etholiad Cyffredinol 2015
Cynhelir yr Etholiad Cyffredinol ddydd Iau 7 Mai ac ni allwch bleidleisio oni bai bod eich enw ar y Gofrestr Etholwyr. Dydd Llun 20 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru i bleidleisio.
Cofrestrwch i bleidleisio gan ddefnyddio gwefan y Comisiwn Etholiadol neu os yw’n well gennych chi gwblhau cais ar bapur, cysylltwch â’r Gwasanaethau Etholiadol:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01597 826717
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Etholiadol
Neuadd y Sir Powys
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Amaethyddiaeth
Llaeth
Ar 1 Ebrill cafodd y cwotâu llaeth yr EU eu diddymu. Mae’r diwydiant llaeth wedi mynd trwy gyfnod cythryblus yn ddiweddar ac yn yr hirdymor dylai’r penderfyniad i ddileu’r cwotâu llaeth roi cyfle i ffermwyr llaeth Cymru allu cystadlu ar lefel ryngwladol a manteisio ar farchnadoedd newydd yn Asia ac Affrica. Mae hyn yn newyddion da ond yr her fydd sicrhau nad oes gormod o gynhyrchwyr yn y farchnad, gan gynyddu natur anwadal prisiau ymhellach i ffermwyr llaeth sydd eisoes dan bwysau.
Mae’n rhaid canolbwyntio ar sefydlogi’r farchnad a sicrhau bod ffermwyr yn gallu trafod yn deg â manwerthwyr a phroseswyr. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfraniad allweddol i’w wneud o ran cefnogi’r diwydiant i hybu marchnata, i feithrin cysylltiadau allforio ac i gynyddu’r gallu i brosesu.
Er y bydd rhai yn pryderu am ddiddymu’r cwotâu hyn i gychwyn, os yw’r diwydiant yn ei gyfanrwydd yn gweithredu’n gyfrifol ac mewn partneriaeth, gallai cyfleoedd am swyddi a thwf mawr eu hangen ddeillio o hyn.
TB Buchol
Yr wythnos ddiwethaf, roedd Glyn Davies a minnau yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU, Liz Truss, i’r Canolbarth. Buom yn ymweld â Court Calmore, fferm laeth a chig eidion ger Trefaldwyn, i drafod mesurau i fynd i’r afael â TB buchol. Yn fy marn i, TB buchol yw un o’r bygythiadau mwyaf i’n diwydiannau cig eidion a llaeth, gan beryglu diogelwch ein bwyd a rhoi ein ffermwyr o dan bwysau eithriadol.
Bancio
Cau HSBC ym Machynlleth
Roeddwn yn siomedig o glywed y cyhoeddiad bod HSBC yn bwriadu cau ei gangen ym Machynlleth. Y banc hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres hir o ganghennau i gau yn Sir Drefaldwyn yn dilyn cau canghennau Llanidloes, Llanfair Caereinion a Threfaldwyn.
Mae cau'r holl ganghennau hyn yn ergyd sylweddol i ganol trefi’r sir ac yn cael effaith andwyol ar drigolion a busnesau sy’n dibynnu ar wasanaethau bancio ‘dros y cownter’.
Busnesau bach, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn y sector manwerthu, sefydliadau’r trydydd sector a thrigolion hŷn neu anabl yw’r rhai sydd o dan yr anfantais fwyaf yn sgil cau canghennau banciau’r stryd fawr.
Er bod yna symudiad anochel wedi bod at fancio ar-lein, i lawer o bobl, nid yw bancio ar-lein neu fancio mewn cangen symudol yn ddarpariaeth ddigonol i gymryd lle’r cyfleusterau ‘dros y cownter’ parhaol.
Dyma’r amser i bawb sydd â buddiant yn hyn ddod at ei gilydd i ystyried model arloesol newydd o fancio cymunedol a fydd yn gweld banciau yn rhannu adeiladau a gwasanaethau i sicrhau eu bod yn parhau i wasanaethu eu cwsmeriaid yn ardaloedd gwledig y Canolbarth.
Dros yr wythnosau nesaf byddaf yn ailadrodd galwadau blaenorol ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol drwy weithio gyda’r banciau, Swyddfa’r Post, a rheoleiddwyr i ystyried ffyrdd o wella trefniadau asiantaeth rhwng y banciau a sicrhau bod gwasanaethau ‘dros y cownter’ yn parhau i fod yn hyfyw yn ardaloedd gwledig y Canolbarth.
Iechyd
Iechyd Trawsffiniol
Mae Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Tŷ’r Cyffredin newydd gyhoeddi adroddiad ar wella trefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar feysydd allweddol, yn cynnwys y ddarpariaeth iechyd trawsffiniol gyfredol; cyllid a chomisiynu; problemau trawsffiniol; amseroedd aros, ac ymgysylltu a chomisiynu trawsffiniol.
Cynhaliodd y Pwyllgor ddau ddigwyddiad cyhoeddus yn y Drenewydd a Henffordd hefyd, a oedd yn rhoi cyfle i gleifion leisio eu barn a chyflwyno eu profiadau i’r ymchwiliad. Yn y Drenewydd, y prif bryderon oedd y pellter sy’n rhaid i gleifion o Sir Drefaldwyn ei deithio i gael triniaeth, a’r amseroedd aros hirach yng Nghymru o gymharu â Lloegr.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod rhaid i ddarparwyr gofal iechyd yng Nghymru a Lloegr, a Llywodraethau'r DU a Chymru, gydweithio’n agosach i sicrhau bod cleifion yn derbyn y driniaeth maent ei hangen waeth pa wlad maent yn byw ynddi.
Codais faterion iechyd trawsffiniol gyda’r Prif Weinidog yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddar.
Yn dilyn y Gynhadledd i drafod Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru a gynhaliwyd yn Cefn Lea Park ger y Drenewydd yn ddiweddar, cafwyd cytundeb ynghylch pwysigrwydd strategol Bronglais ond rhywfaint o bryder hefyd nad oedd fawr o sôn am faterion gofal iechyd trawsffiniol.
Rwyf wedi gofyn i’r Prif Weinidog sicrhau na fydd ffin artiffisial yn datblygu’n ddiarwybod rhwng dwyrain a gorllewin Sir Drefaldwyn a bod darpariaeth gofal iechyd y Canolbarth yn cael ei thrafod yn ei chyfanrwydd.
Byddaf yn cadw golwg fanwl ar ddatblygiadau ac yn codi’r mater yn ystod trafodaeth fer yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddarach yn y mis.
Byddaf yn rhoi gwybod am yr holl ddatblygiadau diweddaraf i chi yn e-gylchlythyrau’r dyfodol.
Addysg
Adolygiad Ysgolion
Rwy’n ochelgar wrth roi croeso i benderfyniad Cyngor Sir Powys i oedi’r adolygiad i addysg uwchradd cyfrwng Gymraeg a chau ysgolion uwchradd yn Sir Drefaldwyn. Ni fydd hyn yn cael ei ystyried tan fis Medi 2015.
Bydd yr adolygiad yn edrych ar y posibilrwydd o sefydlu o leiaf un ysgol uwchradd cyfrwng Gymraeg yn yr ardal, ac yn asesu pa mor ymarferol yw darpariaeth dwy ffrwd.
Mae hyn yn dilyn adolygiad a gomisiynodd y Cyngor gan Price Waterhouse i gynaliadwyedd ariannol ac addysgol ysgolion uwchradd Powys.
Mae Glyn Davies a minnau yn credu y byddai wedi bod yn annoeth rhuthro’r penderfyniad hwn heb asesu’n ofalus iawn beth yw’r goblygiadau ar addysg y plant ac ar y gymuned ehangach.
Nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl mai cau unrhyw un o ysgolion uwchradd Sir Drefaldwyn yw’r ffordd orau ymlaen.
Trafnidiaeth
Am drosolwg llawn o holl faterion trafnidiaeth Sir Drefaldwyn, yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Ffordd Osgoi’r Drenewydd, cliciwch yma i ddarllen fy Niweddariad Trafnidiaeth a anfonais ychydig wythnosau yn ôl.
Gweilch Dyfi
Testun gofid a thristwch oedd clywed bod rhywun neu rywrai wedi fandaleiddio rhannau o Brosiect Gweilch Dyfi. Roedd y troseddwyr wedi torri ffenestri a chyfarpar a ddefnyddir i ffrydio lluniau byw o’r Gweilch. Alla i ddim credu sut y gallai rhywun achosi miloedd o bunnoedd o ddifrod mewn canolfan bywyd gwyllt sy’n gwneud gwaith mor ardderchog.
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Sir Drefaldwyn sy’n croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol eleni ac fe’i cynhelir ym Meifod rhwng 1 ac 8 Awst. Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Powys wedi galw ar fusnesau â diddordeb i gysylltu i arddangos y gorau sy’n gan Sir Drefaldwyn i’w gynnig.
Bydd pabell fwyd, sef y Pantri, yn cael ei chodi ar y Maes ac mae busnesau lleol yn cael eu hannog i hyrwyddo eu cynhyrchion bwyd a gynhyrchir yn lleol.
Bydd busnesau bwyd yn gallu arddangos eu sgiliau hefyd drwy gynnal arddangosiadau o’u cynnyrch neu arddangosiadau coginio.
Rwy’n edrych ymlaen yn arw at yr Eisteddfod ym Meifod ym mis Awst. Bydd y digwyddiad o fudd mawr i’r economi yn y Canolbarth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Cymorthfeydd
Rwyf wedi cyhoeddi rhestr lawn o gymorthfeydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Gallwch weld rhestr lawn ar fy ngwefan. Gweler isod y dyddiadau ar gyfer mis Ebrill:
-
- Dydd Sadwrn 10 Ebrill –10am – 1pm – Llanidloes
-
- Dydd Sadwrn 11 Ebrill – 10am – 11am – Llanymynech
-
- Dydd Mercher 15 Ebrill – 10am – 1pm – Llangynog / Llanfyllin / Y Trallwng
-
- Dydd Sadwrn 18 Ebrill – 10am – 11am – Kerry
-
- Dydd Llun 20 Ebrill – 2pm – 4pm – Y Drenewydd
Byddaf yn cynnal “Cymhorthfa Carreg y Drws” yn y Drenewydd ddydd Sadwrn 18 Ebrill, os ydych am i mi alw yn eich cartref i drafod unrhyw fater, cysylltwch â mi.
Ffoniwch swyddfa’r etholaeth ar 01686 610887 i wneud apwyntiad neu os ydych am drafod unrhyw fater gyda mi.
Cofion gorau,
Russell George
Aelod Cynulliad Cenedlaethol Sir Drefaldwyn